Datganoli ‘gweithrediaeth’ (1998-2007)

Yn sgil refferendwm datganoli 1997, trosglwyddodd Llywodraeth y DU rhai swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i roi dechreuad i hunan-lywodraethu yng Nghymru. Roedd y Government of Wales Act 1998 (GOWA 1998) yn sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol fel corfforaeth corff unigol, gyda gweithrediaeth (Cabinet neu ‘Bwyllgor Gweithredol’ o Aelodau Cynulliad y dirprwywyd pwerau’r Cynulliad Cenedlaethol iddynt). Roedd y Cynulliad Cenedlaethol yn fath cyfyngedig o ddeddfwrfa. Roedd Aelodau Seneddol yn archwilio'r rhai hynny oedd wedi derbyn swyddogaethau a ddirprwywyd i'r Cynulliad Cenedlaethol. Roedd y Cynulliad Cenedlaethol hefyd yn fath cyfyngedig o ddeddfwrfa, gan y gallai wneud is-ddeddfwriaeth lle y galluogwyd ef i wneud hynny gan Ddeddfau Seneddol.

Cyfeirir at y cam datganoli hwn yn aml fel datganoli ‘gweithrediaeth’, oherwydd mai pwerau llywodraethol a arferai gael eu harfer gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru oedd y pwerau a drosglwyddwyd yn y lle cyntaf i’r Cynulliad Cenedlaethol, ac nid pwerau i basio deddfwriaeth sylfaenol a oedd yn parhau’n gyfrifoldeb egsliwsif i Senedd Prydain. Roedd y pwerau hyn wedi’u rhestru a’u trosglwyddo trwy gyfrwng Gorchmynion y Cyfrin Gyngor i’r Cynulliad Cenedlaethol. Cafodd y swyddogaethau hyn, ac eithrio’r swyddogaethau i lunio is-ddeddfwriaeth, eu dirprwyo wedyn gan y Cynulliad Cenedlaethol i’r Prif Weinidog (y cyfeiriwyd ato yn GOWA 1998 fel Ysgrifennydd Cyntaf) a chafodd llawer eu dirprwyo yn eu tro i Weinidogion unigol (Ysgrifenyddion y Cynulliad) a gweision sifil. Y swyddogaethau a drosglwyddwyd oedd y swyddogaethau a oedd yn rhan o’r 20 maes pwnc a restrwyd yn Atodlen 2 o GOWA 1998. Ni chafodd pob un o’r swyddogaethau a oedd yn rhan o’r 20 maes pwnc eu trosglwyddo, fodd bynnag (er enghraifft, cafodd y rhan fwyaf o’r swyddogaethau yn ymwneud ag ysgolion eu trosglwyddo ar wahân i gyflogau athrawon).

Roedd creu’r Cynulliad Cenedlaethol fel corff corfforaethol unigol o’r natur hwn yn ddryslyd, ac arweiniodd at ddiffyg dealltwriaeth gyhoeddus am y gwahaniaeth rhwng y weithrediaeth neu'r llywodraeth (h.y. y rhai hynny oedd yn gwneud y penderfyniadau) ar un llaw, a’r rhai sy’n craffu ar y llywodraeth ar y llaw arall. O ganlyniad, yn fuan wedi sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol, crëwyd rhaniad anffurfiol rhwng ‘Llywodraeth Cynulliad Cymru’ (Gweinidogion a gweision sifil wedi’u lleoli’n bennaf ym Mharc Cathays, Caerdydd, a swyddfeydd eraill ledled Cymru) ar un llaw, a Chynulliad Cenedlaethol Cymru (Aelodau Cynulliad a swyddogol ym Mae Caerdydd) ar y llaw arall.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn