Datganoli 'deddfwriaethol' (2007 - presennol)

Yn dilyn gweithrediad y Government of Wales Act 1998 (GOWA 1998), datblygodd consensws barn fod pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhy gyfyngedig a bod ei statws fel un corff corfforaethol. Roedd y Government of Wales Act 2006 (GOWA 2006) yn sefydlu Cynulliad Cenedlaethol a gyfansoddwyd o’r newydd fel deddfwrfa gyflawn, a gweithrediaeth ar wahân o’r enw ‘Llywodraeth Cynulliad Cymru’ a ailenwyd yn ddiweddarach yn ‘Llywodraeth Cymru’.

Yn fwy arwyddocaol, roedd GOWA 2006 yn rhoi’r grym i’r Cynulliad Cenedlaethol basio ei deddfwriaeth sylfaenol ei hun – ‘Mesur y Cynulliad’ dan system lle’r oedd cymhwysedd cyfyngedig yn cael ei drosglwyddo (naill ai gan Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol neu Ddeddf Seneddol) ar sail dameidiog – ac ers y refferendwm ar bwerau pellach yn 2011 ymlaen, ‘Deddf y Cynulliad’.

Mae’r graddau y mae gan y Cynulliad Cenedlaethol gymhwysedd i ddeddfu wedi’u diffinio yn adrannau 108 a 109 o, ac Atodlen 7 o GOWA 2006. Mae Rhan 1 o Atodlen 7 yn cyflwyno’r meysydd pwnc eang y gall y Cynulliad Cenedlaethol ddeddfu ynddynt, er eu bod yn destun eithriadau. Gellir cyflwyno rhagor o feysydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol o bryd i’w gilydd. Mae'r Wales Act 2014 yn ddiweddar wedi ehangu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol ar rai materion trethu. Mae’r pynciau a restrir yn Atodlen 7 yn darparu’r strwythur pynciau eang ar y wybodaeth am gyfreithiau Cymru a nodir ar y wefan hon. Y pynciau hynny yw:

  • Amaethyddiaeth, pysgodfeydd, coedwigaeth a datblygiad gwledig
  • Henebion ac adeiladau hanesyddol
  • Diwylliant
  • Trethi datganoledig
  • Datblygiad economaidd
  • Addysg a hyfforddiant
  • Yr amgylchedd
  • Tân a gwasanaethau achub a hyrwyddo diogelwch tân
  • Bwyd
  • Iechyd a gwasanaethau iechyd
  • Priffyrdd a thrafnidiaeth
  • Tai
  • Llywodraeth leol
  • Gweinyddiaeth cyhoeddus
  • Cynulliad Cenedlaethol Cymru
  • Lles cymdeithasol
  • Chwaraeon a hamdden
  • Twristiaeth
  • Cynllunio gwlad a thref
  • Dŵr a amddiffyn rhag llifogydd
  • Yr Iaith Gymraeg 

Er bod athrawiaeth sofraniaeth seneddol yn dweud y gall Senedd Prydain hefyd deddfu ar y pynciau hynny, trwy gonfensiwn (y cyfeirir ato’n aml fel ‘Confensiwn Sewel’) ni fydd yn gwneud hynny fel arfer heb gytundeb y Cynulliad Cenedlaethol. Yn yr un modd, er y gall Senedd Prydain ddiddymu'r Cynulliad Ceneldaethol yn llwyr mewn theori, mae'n annhebygol iawn o ddigwydd yn ymarferol. Gellid dweud felly bod pwerau'r Senedd wedi'u cyfyngu. Mae datblygiadau diweddar yn yr Alban- yn arbennig y syniad o sefydlogrwydd Senedd a Llywodraeth yr Alban, egwyddor a chaiff ei efelychu mewn perthynas â Chymru – yn awgrymu ei fod yn fwy priodol i feddwl am y trefniadau cyfansoddiadol fel sofraniaeth sy'n cael ei rhannu yn hytrach na datganoli pŵer. 

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn