The future

Sefydlwyd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (cyfeirir ato yn aml fel 'Comisiwn Silk', ar ôl ei gadeirydd, Paul Silk KCB) o ganlyniad i ymrwymiad a wnaed yng Nghytundeb Clymblaid Llywodraeth y DU.

Lansiwyd y Comisiwn ar 11 Hydref 2011 gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a’r tair gwrthblaid yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Gofynnwyd iddo ystyried sut y gellid newid cwmpas datganoli er mwyn gwasanaethu pobl Cymru yn well.

Aelodau

Penodwyd Paul Silk yn gadeirydd y Comisiwn gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Penodwyd dau aelod nad ydynt yn perthyn i bleidiau gwleidyddol (a phenodwyd trydydd aelod yn ddiweddarach). Yn ogystal, enwebodd pob un o’r pleidiau gwleidyddol yn y Cynulliad Cenedlaethol aelod i wasanaethu ar y Comisiwn.

Cylch gwaith y Comisiwn

Rhannwyd cylch gwaith y Comisiwn yn ddwy ran. Ei gylch gorchwyl ar gyfer Rhan I oedd:

Adolygu’r achos dros ddatganoli pwerau ariannol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac argymell pecyn o bwerau a fyddai’n gwella atebolrwydd ariannol y Cynulliad, sy’n gyson ag amcanion ariannol y Deyrnas Unedig ac sy’n debygol o dderbyn cefnogaeth eang.

Ei gylch gorchwyl ar gyfer Rhan II oedd:

Adolygu pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng ngoleuni profiad ac argymell diwygiadau i’r trefniadau cyfansoddiadol presennol a fyddai’n galluogi Senedd y Deyrnas Unedig a Chynulliad Cenedlaethol Cymru i wasanaethu pobl Cymru yn well.

Rhan 1: Grymuso a Chyfrifoldeb: Pwerau Ariannol i Gryfhau Cymru

Ym mis Tachwedd 2011, gofynnodd y Comisiwn i grwpiau buddiant allweddol, cyrff cynrychioladol ac unigolion am dystiolaeth yn ymwneud â Rhan I o’i gylch gwaith. Daeth 78 o gyflwyniadau ysgrifenedig i law, yn ogystal â thystiolaeth lafar.

Cyhoeddodd y Comisiwn ei adroddiad Rhan I, ‘Grymuso a Chyfrifoldeb: Pwerau Ariannol i Gryfhau Cymru’ ym mis Tachwedd 2012. Roedd yn cynnwys 33 o argymhellion. 

Roedd yr argymhellion yn ymwneud â’r trefniadau ariannu ar gyfer Llywodraeth Cymru a datganoli trethi penodol. Un o argymhellion y Comisiwn oedd y dylid cyflwyno Mesur Cymru newydd er mwyn datganoli pwerau trethu a benthyca.

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei hymateb i Ran I ym mis Tachwedd 2013. O ganlyniad, mae nifer o argymhellion y Comisiwn wedi’u gweithredu fel rhan o Ddeddf Cymru 2014. Yn benodol, bydd trethi yn ymwneud â thrafodiadau tir a thirlenwi yn cael eu datganoli i’r Cynulliad Cenedlaethol, ac yn amodol ar refferendwm, bydd gan y Cynulliad Cenedlaethol bwerau i osod cyfraddau treth incwm yng Nghymru os yw’n dymuno.

Rhan II: Grymuso a Chyfrifoldeb: Pwerau Deddfwriaethol i Gryfhau Cymru

Ar ôl cyhoeddi ei adroddiad cyntaf, gofynnodd y Comisiwn am dystiolaeth yn ymwneud â Rhan II o’i gylch gwaith, sef adolygiad o bwerau anariannol a phwerau ehangach Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ym mis Tachwedd 2012.

Cyhoeddodd y Comisiwn ei adroddiad Rhan II, ‘Grymuso a Chyfrifoldeb: Pwerau Deddfwriaethol i Gryfhau Cymru’ ym mis Mawrth 2014. Roedd yn cynnwys 61 o argymhellion. Yn ogystal â nifer o argymhellion ar bynciau penodol ar gyfer diwygiadau yn y dyfodol, argymhellwyd disodli model rhoi pwerau presennol setliad datganoli Cymru gyda model cadw pwerau.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hymateb i’r adroddiad hwn, ‘Datganoli, Democratiaeth a Chyflawni: pwerau i wireddu ein dyheadau ar gyfer Cymru’ ar 1 Gorffennaf 2014. Roedd y ddogfen hon yn cyflwyno’r achos o blaid pwerau ehangach ar sail y model cadw pwerau.

Cytundeb Dydd Gŵyl Dewi

Yn ‘Pwerau at bwrpas: Tuag at setliad datganoli sy’n para i Gymru’ (cytundeb Dydd Gŵyl Dewi, fel y gelwir) mae Llywodraeth glymblaid y DU yn nodi cyfres o gynigion mewn ymateb i ail adroddiad y Comisiwn. Mae’r cynigion yn cynnwys mabwysiadu model o ddatganoli sy’n seiliedig ar bwerau a gadwyd yn ôl yng Nghymru, datganoli mwy o bwerau i Gymru, ac ymrwymiad sy'n ymwneud â chynnal Cyllid Cymru uwchben lefel penodol (dull ariannu gwaelodol).

Cyhoeddodd y pleidiau gwleidyddol eu cynlluniau mewn perthynas ag ail adroddiad a dyfodol datganoli yng Nghymru yn eu maniffestos cyn etholiad cyffredinol y DU ym mis Mai 2015.

 

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn