Wales Act 2014

Mae'r Wales Act 2014 (WA 2014) yn garreg filltir yng nghyd-destun datganoli yng Nghymru. Am y tro cyntaf, mae’r pŵer i basio deddfwriaeth sylfaenol ar gyfer cyflwyno trethi yn cael ei ddatganoli i Gymru. Mae’r Ddeddf hefyd yn ymestyn pwerau benthyg Llywodraeth Cymru. Mae’r ddau ddatblygiad yma’n gweithredu argymhellion Rhan 1 Adroddiad y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (Comisiwn Silk). Mae WA 2014 yn cynnwys ychydig o ddarpariaethau amrywiol eraill, a amlinellir isod.

Trethi datganoledig newydd

Mae WA 2014 yn diwygio Atodlen 7 i'r Government of Wales Act 2006 i ychwanegu ‘trethi datganoledig’ fel pwnc y gall y Cynulliad Cenedlaethol basio deddfau arno. Bydd dwy dreth yn cael eu datganoli i ddechrau, treth ar drafodion tir yng Nghymru a threth ar waredu safleoedd tirlenwi yng Nghymru. Y bwriad yw y bydd y trethi DU cyfwerth, treth dir y dreth stamp a’r dreth dirlenwi, yn cael eu dirymu yng Nghymru. Disgwylir i hyn ddigwydd ym mis Ebrill 2018. Mae hyn yn golygu y bydd angen i’r Cynulliad Cenedlaethol ddeddfu i ddod â’r trethi datganoledig newydd i rym erbyn hynny er mwyn osgoi diffyg mewn refeniw. Mae hyn yn bwysig gan y bydd y taliad grant bloc i Gymru gan y DU yn gostwng i adlewyrchu’r ffaith bod Cymru’n gallu cynhyrchu ei refeniw ei hun o’r trethi datganoledig newydd. 

Mae WA 2014 yn datgan y gall Senedd y DU ganiatáu i ragor o drethi gael eu datganoli yn y dyfodol.

Y gallu i bennu cyfraddau treth incwm ar gyfer Cymru yn dilyn refferendwm

Mae WA 2014 yn rhoi’r pŵer i’r Cynulliad Cenedlaethol bennu cyfraddau treth incwm ar gyfer trethdalwyr Cymru. Nid yw’r pŵer hwn yn golygu creu treth incwm newydd i Gymru. Mae’n ymwneud â newid cyfraddau talu treth incwm y DU i drethdalwyr Cymru. Pe bai Cymru’n cael pleidlais ie mewn refferendwm (gweler isod), byddai’r Cynulliad Cenedlaethol yn gallu lleihau cyfraddau sylfaenol, uchaf ac ychwanegol treth incwm i drethdalwyr Cymru hyd at 10%, neu eu cynyddu heb derfyn.

Ni ddaw’r pŵer i bennu cyfraddau treth incwm ar gyfer Cymru i rym oni chymeradwyir hynny mewn refferendwm o bobl Cymru. Dim ond y Prif Weinidog neu Weinidog yn Llywodraeth Cymru all gynnig refferendwm, ac mae’n rhaid i o leiaf ddau draean o Aelodau’r Cynulliad gytuno ar y cynnig.

Dim ond am un flwyddyn dreth y byddai cyfraddau treth incwm Cymru yn weithredol, sy’n golygu y byddai’r Cynulliad Cenedlaethol yn gorfod pasio cynnig newydd ar gyfer pob blwyddyn dreth lle mae’n dymuno amrywio cyfraddau treth incwm yng Nghymru. Dim ond y Prif Weinidog neu Weinidog yn Llywodraeth Cymru a fyddai’n gallu cyflwyno cynnig i bennu cyfraddau treth incwm ar gyfer Cymru. Os na fyddai’r cynnig yn cael ei basio ar gyfer blwyddyn dreth benodol, byddai cyfraddau treth incwm eang arferol y DU yn dod i rym.

Mae rheolau manwl wedi’u hychwanegu at y Government of Wales Act 2006 er mwyn penderfynu a yw un unigolyn yn ‘drethdalwr Cymru’ a fyddai’n talu cyfraddau treth incwm Cymru.

Pwerau benthyg Gweinidogion Cymru

Mae WA 2014 yn cynnwys darpariaethau, o’u gweithredu, a fydd yn ymestyn pwerau benthyg Gweinidogion Cymru. I ddechrau, ceir pŵer newydd i fenthyg arian ar gyfer gwariant cyfredol, lle bo angen hyn yn sgil diffyg mewn derbyniadau o drethi datganoledig neu yn sgil cyfradd treth incwm Cymru o gymharu â’r derbyniadau a oedd wedi eu rhagweld.

Yn ail, ceir pŵer newydd i fenthyg hyd at £500 miliwn i ariannu gwariant cyfalaf, ond dim ond gyda chaniatâd y Trysorlys. Gall yr Ysgrifennydd Gwladol gynyddu’r terfyn hwn o bryd i’w gilydd.

Darpariaethau amrywiol

Mae WA 2014 yn gwneud y canlynol hefyd:

  • Mae’n cynyddu hyd tymor y Cynulliad Cenedlaethol (h.y. yr amser rhwng etholiadau cyffredinol Aelodau’r Cynulliad) o bedair blynedd i bump.
  • Mae’n dileu’r cyfyngiad ar unigolyn i sefyll fel aelod etholaeth ac aelod rhanbarthol.
  • Mae’n ailenwi Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ‘Llywodraeth Cymru’.
  • Mae’n ychwanegu darpariaeth i’r Local Government and Housing Act 1989 i alluogi’r Trysorlys i osod terfynau ar y swm cyfanredol o ddyledion tai y gall awdurdodau tai lleol yng Nghymru sy’n cadw Cyfrif Refeniw Tai fynd iddo.
  • Mae’n cynnwys darpariaethau newydd ynghylch gwaith Comisiwn y Gyfraith yng Nghymru. Yn benodol, mae’n datgan mai cyfrifoldeb Comisiwn y Gyfraith yw darparu cyngor a chymorth i Weinidogion Cymru. Mae yna rwymedigaeth newydd ar Weinidogion Cymru i adrodd sut mae argymhellion Comisiwn y Gyfraith wedi’u rhoi ar waith yng Nghymru hefyd. Mae rhagor o wybodaeth am waith Comisiwn y Gyfraith yng Nghymru yma.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn