Sut mae cyfreithiau'n cael eu creu ar gyfer Cymru

Mae cyfreithiau Cymru’n cael eu gwneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Senedd y DU, Gweinidogion Cymru a’r DU, a rhai cyrff eraill (er enghraifft, gall awdurdodau lleol wneud deddfau lleol a elwir yn is-ddeddfau).

Mae cyfreithiau a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol a Gweinidogion Cymru yn cael eu gwneud yn benodol ar gyfer Cymru. Gall cyfreithiau a wneir gan Senedd y DU neu Weinidogion y DU fod yn berthnasol i'r DU yn gyfan, neu i rai rhannau o'r DU (er enghraifft, i Gymru a Lloegr, neu i Loegr yn unig). O ganlyniad i bwerau cynyddol y Cynulliad Cenedlaethol, mae bellach yn anghyffredin i Senedd y Deyrnas Unedig basio Deddf sy'n ymwneud yn benodol â Chymru, oni bai ei bod yn Ddeddf ynghylch llywodraethu Cymru, fel y Wales Act 2014.

Fodd bynnag, mae llawer o Ddeddfau (neu rannau o Ddeddfau) Seneddol sy’n bodoli eisoes, yn enwedig rhai a wnaed rhwng 1999 (pan grëwyd y Cynulliad Cenedlaethol) a 2006 (pan ddechreuodd y Cynulliad Cenedlaethol gael cymhwysedd i basio deddfau o'r fath) yn ymwneud yn benodol â Chymru. O ganlyniad, yn aml nid yw’n hawdd dod o hyd i gyfraith sy'n ymwneud â Chymru (ceir mwy o wybodaeth ar gael gafael ar y ddeddfwriaeth yma).

Mae cyfreithiau Ewropeaidd sy’n berthnasol i'r Undeb Ewropeaidd gyfan hefyd yn berthnasol, wrth gwrs, i Gymru.

Mae Senedd y DU wedi datganoli ei phwerau deddfu mewn nifer o feysydd i'r Cynulliad Cenedlaethol, gyda rhai eithriadau a chyfyngiadau. Mae'r meysydd hyn, a'r eithriadau a’r cyfyngiadau, wedi eu nodi yn Atodlen 7 i'r Government of Wales Act  2006. Mae Senedd y DU yn cadw'r pŵer i basio Deddfau ar y pynciau y mae wedi eu datganoli i'r Cynulliad Cenedlaethol. Fodd bynnag, yn unol â chonfensiwn, ni fydd Llywodraeth y DU gan amlaf yn gofyn i’r Senedd wneud hyn oni bai bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi cytuno.

Gelwir cyfreithiau’r Cynulliad Cenedlaethol yn Ddeddfau'r Cynulliad ac mae ganddynt yr un statws â Deddfau Senedd y DU, sy'n ddeddfwriaeth sylfaenol.

Mae deddfau a wneir gan Weinidogion a chyrff eraill yn cael eu gwneud gan ddefnyddio pwerau a ddirprwywyd iddynt gan Ddeddfau Cynulliad neu Ddeddfau’r DU. Maent yn cael eu galw'n is-ddeddfwriaeth.

Mae Deddfau'r Cynulliad yn dechrau eu bywyd fel Biliau'r Cynulliad. Mae Biliau yn gynigion ar gyfer Deddfau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn eu hystyried ac yn  penderfynu p'un ai i’w ‘pasio’ neu beidio, neu mewn geiriau eraill eu gwneud yn gyfraith.

Adran 1

Proses Bil y Cynulliad

Mae'r rhan fwyaf o Filiau'r Cynulliad yn cael eu cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, gall Aelodau'r Cynulliad nad ydynt yn aelodau o Lywodraeth Cymru hefyd gael y cyfle i gyflwyno Bil. Gall Pwyllgorau’r Cynulliad a Chomisiwn y Cynulliad (y corff sy'n gyfrifol am weithrediad ymarferol y Cynulliad) hefyd gyflwyno Biliau os ydynt yn berthnasol i'w rôl. Dan amgylchiadau cyfyngedig gellir hefyd gyflwyno Biliau Preifat – sef Biliau sy'n newid y gyfraith fel y mae'n gymwys i unigolion neu sefydliadau penodol yn unig (yn hytrach na'r cyhoedd yn gyffredinol).

Rhaid i Filiau fod o fewn pwerau deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol (a elwir hefyd yn "gymhwysedd deddfwriaethol" y Cynulliad) fel y nodir yn y Government of Wales Act 2006.  Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i Fil fod yn ymwneud â phwnc datganoledig a bodloni gofynion eraill yn y Government of Wales Act 2006, gan gynnwys cydymffurfio â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a Chyfraith yr Undeb Ewropeaidd, fel mae’r rhain yn briodol i Gymru.

Mae Biliau'r Cynulliad yn pasio drwy sawl cam o gael eu hystyried a’u trafod yn y Cynulliad Cenedlaethol cyn iddynt gael eu pasio. Mae Pwyllgorau'r Cynulliad yn ystyried Biliau, a chymryd tystiolaeth oddi wrth y Gweinidog perthnasol yn Llywodraeth Cymru ac eraill y tu allan i'r llywodraeth sydd â diddordeb ym mhwnc y Bil.

Gall y Gweinidog ac Aelodau'r Cynulliad nad ydynt yn aelodau o’r llywodraeth gynnig diwygiadau i'r Bil ar sawl pwynt yn ystod y broses ddeddfwriaethol.

Y Cynulliad Cenedlaethol yn eistedd yn ei gyfanrwydd (a elwir hefyd yn 'gyfarfod llawn') sy’n gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch a ddylid pasio Bil.  Gan amlaf, rhaid i Fil gael ei basio yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Nid yw Bil sydd wedi cael ei basio gan y Cynulliad Cenedlaethol yn dod yn Ddeddf Cynulliad (ac felly nid yw’n dod yn gyfraith) hyd nes y bydd wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol gan Ei Mawrhydi.

Wedi i'r Cynulliad Cenedlaethol basio Bil, gall y Twrnai Cyffredinol (prif gynghorwyr cyfreithiol y DU) neu'r Cwnsler Cyffredinol (prif gynghorwyr cyfreithiol Llywodraeth Cymru) gyfeirio'r Bil at Oruchaf Lys y Deyrnas Unedig os ydynt o'r farn y gall y Bil fod y tu allan i gymhwysedd deddfu’r Cynulliad Cenedlaethol.

Os nad yw'r Twrnai Cyffredinol a'r Cwnsler Cyffredinol yn cyfeirio'r Bil at y Goruchaf Lys gellir ei gyflwyno ar gyfer Cydsyniad Brenhinol ac yna bydd yn dod yn gyfraith.

Mwy o erthyglau ynghylch Sut mae cyfreithiau'n cael eu creu ar gyfer Cymru

Gweld mwy o erthyglau yn Sut mae cyfreithiau'n cael eu creu ar gyfer Cymru