Cyfraith achos ar gymhwysedd deddfwriaethol

Statws Deddfau’r deddfwrfeydd datganoledig

AXA General Insurance Ltd and others v Lord Advocate and others (Scotland) [2011] UKSC 46

Penderfyniad

Mewn egwyddor mae Deddf gan Senedd yr Alban yn amodol ar adolygiad barnwrol, ond ni all gael ei hadolygu ar sail afresymoldeb, anrhesymoldeb a mympwyoldeb.

Mae'r Damages (Asbestos-related Conditions) (Scotland) Act 2009 (DACS 2009) yn gydnaws ag Erthygl 1 o Brotocol 1af y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (A1P1), ac o fewn cymhwysedd Senedd yr Alban.

Cefndir

Cwmnïau yswiriant oedd yr apelyddion a oedd wedi gwarantu polisïau yswiriant atebolrwydd cyflogwyr. Roeddynt yn herio cyfreithlondeb DACS 2009, a oedd yn nodi bod placiau plewrol asymptomatig, tewhau plewrol, ac asbestosis yn gyfystyr â, ac y dylid eu trin fel petaent yn gyfystyr erioed â niwed cyfreithadwy y gellid adennill iawndal drwy hawliad anaf personol. Byddai’r Ddeddf yn golygu bod yr apelyddion yn agored i atebolrwydd oedd yn werth miliynau o bunnoedd. Dadleuodd yr apelyddion, oherwydd nad oes symptomau i blaciau plewrol ayb ac nad ydynt yn arwydd o ddechrau unrhyw glefyd sy’n gysylltiedig ag asbestos bod:

(1) y Ddeddf yn anghydnaws â’u hawliau A1P1 ac felly y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol Senedd yr Alban yn rhinwedd adran 29(2)(d) o’r Scotland Act 1998;

(2)  y Ddeddf yn gyfystyr â defnyddio pŵer deddfwriaethol Senedd yr Alban mewn modd afresymol a mympwyol, ac felly roedd yn ddigon afresymol i warantu ymyrraeth y Llys o dan egwyddorion adolygiad barnwrol cyfraith gwlad.

Agwedd y Goruchaf Lys

Mater (1) – cydnawsedd ag A1P1

Ystyriodd y Llys bod yr apelyddion yn 'ddioddefwyr' (victims) ac felly’n gallu herio cydnawsedd y Ddeddf ag A1P1, gan ei bod yn amlwg bod Senedd yr Alban wedi ystyried, a bwriadu, y byddent yn ysgwyddo baich hawliadau yn y dyfodol.

Felly, roedd yr A1P1 yn berthnasol, oherwydd y byddai’r arian y byddai’n rhaid iddynt ei dalu yn “feddiant” (possession). Ond roedd o fewn ffiniau gwerthfawrogiad y ddeddfwrfa genedlaethol i benderfynu, ar y sail bod placiau plewrol yn fai ar y cyflogwr yn gyffredinol ac yn achosi cryn bryder, bod y Ddeddf yn angenrheidiol er budd y cyhoedd.

Nid oedd y ddeddf yn gyfystyr ag ymyrraeth anghymesur ag A1P1. Yn y lle cyntaf, roedd yn cael ei gyfyngu i hawliadau a oedd yn newydd, neu nad oedd wedi’u pennu eto; ac roedd yn cadw’r holl amddiffynfeydd eraill heblaw am y cwestiwn unigol o a oedd y placiau yn gyfreithadwy. Yn ail, roedd yr apelyddion wedi derbyn risg, wrth gytuno ar bolisïau hirdymor y byddent yn atebol o danynt, y gallai amgylchiadau annisgwyl ddigwydd a fyddai’n cynyddu’r baich atebolrwydd. Byddai’n rhaid i’r yswirwyr dderbyn y da a’r drwg fel ei gilydd.

I gloi, er gwaethaf ei heffeithiau ôl-weithredol, roedd y Ddeddf yn sicrhau cydbwysedd rhesymol rhwng hawliau yswirwyr o dan A1P1 a budd y cyhoedd wrth ddigolledu pobl sy’n dioddef placiau plewrol. Felly, roedd yn gydnaws ag A1P1, ac o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd yr Alban.

Mater (2) – adolygu barnwrol

Mewn egwyddor, mae Deddfau Senedd yr Alban yn amodol ar adolygiad barnwrol, gan nad oes unrhyw beth yn y Scotland Act 1998 sy’n eithrio’r posibilrwydd. Ond mae’r rhesymau y gellir adolygu Deddf o’u herwydd yn gyfyngedig, ac nid ydynt yn cynnwys afresymoldeb ac anrhesymoldeb, oherwydd:

 “Law-making by a democratically elected legislature is the paradigm of a political activity, and the reasonableness of the resultant decisions is inevitably a matter of political judgment… it would not be constitutionally appropriate for the courts to review such decisions on the ground of irrationality. Such review would fail to recognise that courts and legislatures each have their own particular role to play in our constitution, and that each must be careful to respect the sphere of action of the other.”

Fodd bynnag, byddai’r Llys yn barod i adolygu deddfwriaeth a oedd yn diddymu hawliau sylfaenol neu’n groes i drefn y gyfraith. Gan gyfeirio at gydsyniad yr Arglwydd Hailsham o “unbennaeth etholedig” (elective dictatorship), dywedodd Yr Arglwydd Hope:

 “It is not entirely unthinkable that a government which has that power may seek to use it to abolish judicial review or to diminish the role of the courts in protecting the interests of the individual. Whether this is likely to happen is not the point. It is enough that it might conceivably do so. The rule of law requires that the judges must retain the power to insist that legislation of that extreme kind is not law which the courts will recognise.”

Gan nad oedd unrhyw awgrym bod Senedd yr Alban wedi gweithredu yn y dull hwn, a bod adolygu ar sail anrhesymoldeb wedi’i ddiystyru, methodd yr her cyfraith gwlad.

Sylw

Roedd yr achos yn codi, fel y dywedodd yr Arglwydd Hope:

“…a matter of very great constitutional importance. It goes to the root of the relationship between the democratically elected legislatures and the judiciary.” 

Ymddangosodd Cwnsler Cyffredinol Cymru ar ran y Prif Weinidog, gan ymyrryd i wrthod y ddadl y gellid diddymu Deddfau’r deddfwrfeydd datganoledig, gan gynnwys Cynulliad Cenedlaethol Cymru, am fod yn afresymol, anrhesymol neu’n fympwyol mewn modd sy’n wahanol i Ddeddf Senedd Steffan.

Er na wnaeth y Goruchaf Lys ymdrin yn benodol â sefyllfa’r Cynulliad Cenedlaethol, ymresymodd yr Arglwydd Hope:

“The dominant characteristic of the Scottish Parliament is its firm rooting in the traditions of a universal democracy. It draws its strength from the electorate. While the judges, who are not elected, are best placed to protect the rights of the individual, including those who are ignored or despised by the majority, the elected members of a legislature of this kind are best placed to judge what is in the country's best interests as a whole. A sovereign Parliament is, according to the traditional view, immune from judicial scrutiny because it is protected by the principle of sovereignty. But it shares with the devolved legislatures, which are not sovereign, the advantages that flow from the depth and width of the experience of its elected members and the mandate that has been given to them by the electorate. This suggests that the judges should intervene, if at all, only in the most exceptional circumstances. As Lord Bingham of Cornhill said in R (Countryside Alliance) v Attorney General [2008] AC 719 , para 45, the democratic process is liable to be subverted if, on a question of political or moral judgment, opponents of ân Act achieve through the courts what they could not achieve through Parliament.”

Ymddengys bod yr ymresymiad hwn yn ymestyn, drwy oblygiad, i’r Cynulliad Cenedlaethol.

Ymddengys mai effaith y penderfyniad yw y bydd Deddf y Cynulliad Cenedlaethol yn amodol ar adolygiad barnwrol ond ar y seiliau ei bod naill ai:

(a) y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad (gan gynnwys y seiliau ei bod yn anghydnaws â chyfraith yr UE, neu â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol); neu

(b) ei bod yn diddymu hawliau cyfraith gwlad sylfaenol, neu’n groes i drefn y gyfraith.

Adran 1

Imperial Tobacco Ltd v Lord Advocate [2012] UKSC 61

Penderfyniad

Roedd Adrannau 1 a 9 o’r Tobacco and Primary Medical Services (Scotland) Act 2010 (TPMS 2010) o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd yr Alban. Nid oeddynt yn ymwneud â 'the sale and supply of goods to consumers' na 'product safety', sy’n cael eu cadw (h.y. heb eu datganoli) o dan y Scotland Act 1998 (SA 1998).

Nid oedd adrannau 1 a 9 y Ddeddf ychwaith y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol ar y sail eu bod, drwy greu troseddau newydd y gellid ond eu cyflawni wrth werthu a chyflenwi nwyddau i ddefnyddwyr, yn addasu rheolau cyfraith droseddol yr Alban yn y modd y mae'n gymwys i faterion a gadwyd yn ôl.

Cefndir

Mae Adran 1 TPMS 2010 yn gwahardd arddangos cynhyrchion tybaco mewn man lle mae cynhyrchion tybaco ar werth.

Mae Adran 9 TPMS 2010 yn gwahardd gwerthu cynhyrchion tybaco mewn peiriannau gwerthu.

Roedd yr apelyddion, Imperial Tobacco, yn dadlau bod y darpariaethau hynny y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol Senedd yr Alban, ar y seiliau eu bod:

  • yn ymwneud â 'regulation of…the sale and supply of goods and services to consumers', mater a gadwyd yn ôl yn rhinwedd paragraff C7(a), Rhan 2 o Atodlen 5 i SA 1998;
  • yn ymwneud â 'product standards, safety and liability', mater a gadwyd yn ôl yn rhinwedd paragraff C8, Rhan 2 o Atodlen 5 i SA 1998; a/neu
  • yn groes i baragraff 2, Rhan 1 o Atodlen 4 i SA 1998, mae adrannau 1 a 9 o TPMS 2010 yn addasu rheolau cyfraith droseddol yr Alban sy’n ymwneud â materion a gadwyd yn ôl, drwy greu troseddau newydd y gellir ond eu cyflawni wrth werthu a chyflenwi nwyddau i ddefnyddwyr.

Darpariaethau allweddol y Scotland Act 1998

Mae Adran 29(2)(b) o SA 1998 yn golygu bod darpariaeth y tu allan i gymhwysedd os yw’n 'ymwneud â materion a gadwyd yn ôl' (relates to reserved matters).

Bydd y cwestiwn, yn rhinwedd adran 29(3) o SA 1998, yn cael ei bennu:

“by reference to the purpose of the provision, having regard (among other things) to its effect in all the circumstances.”

Mae paragraff 2(1) o Atodlen 4 i SA 1998 yn atal Senedd yr Alban rhag addasu, neu gyflwyno’r pŵer drwy is-ddeddfwriaeth i addasu'r gyfraith ar faterion a gadwyd yn ôl. Mae’n rhaid darllen y rheol honno gyda pharagraff 2(3), sy’n nodi bod is-baragraff (1) yn gymwys i reol cyfraith breifat yr Alban neu gyfraith droseddol yr Alban i’r graddau bod y rheol dan sylw yn ymwneud yn arbennig â mater a gadwyd yn ôl yn unig.

Dull y Goruchaf Lys

Mater 1 – yw’r darpariaethau’n berthnasol i werthu a chyflenwi nwyddau i ddefnyddwyr?

Credai’r Arglwydd Hope bod yn rhaid ystyried 'regulation of…the sale and supply of goods' yng nghyd-destun pennawd 'consumer protection' lle’r oedd yn ymddangos yn Atodlen 5 i SA 1998.

Er yn cydnabod bod y mater o ddiogelu defnyddwyr wedi’i 'ddiffinio’n wael' (ill-defined) , roedd y Llys yn ystyried y dehongliad o 'the sale and supply of goods to consumers' yng nghyd-destun yr hyn y mae’n ei ystyried fel thema gyffredin y pynciau a gedwir i Senedd y DU, sef

 “…that matters in which the United Kingdom as a whole has an interest should continue to be the responsibility of the United Kingdom Parliament at Westminster. They include matters which are affected by its treaty obligations and matters that are designed to ensure that there is a single market within the United Kingdom for the free movement of goods and services.”

Roedd y Llys o’r farn bod cyfraith diogelu defnyddwyr yn ymwneud i bob diben ag ymyrryd i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb o ran pŵer bargeinio rhwng cyflenwyr a defnyddwyr, ac mai’r geiriau allweddol yn y fformwleiddiad hwn oedd 'rheoleiddio' (regulation), 'diogelu' (protection) a 'defnyddwyr' (consumer). Roedd y gair 'diogelu' (protection) yn gwyro oddi wrth ddadl yr apelydd mai’r mater a gadwyd yn ôl yw rheoleiddio, mewn unrhyw ffordd ac at unrhyw ddiben, gwerthu a chyflenwi nwyddau i ddefnyddwyr.

Yn y cyd-destun hwn, nod adran 1 o TPMS 2010 oedd dileu neu beidio ag annog gwerthu tybaco, nid rheoleiddio y modd o werthu er mwyn diogelu’r defnyddwyr rhag arferion annheg. Ni effeithiwyd ar delerau ac amodau unrhyw werthiannau a ddigwyddodd. Nid oedd adran 9 o TPMS 2010 ychwaith yn rheoleiddio unrhyw beth o’r fath gan, drwy wahardd peiriannau gwerthu tybaco, na fyddai unrhyw werthiannau o beiriannau o’r fath i’w rheoleiddio.

Felly, nid oedd adran 1 nac adran 9 o TPMS 2010 yn ymwneud â’r mater a gadwyd yn ôl.

Mater 2 – a yw’r darpariaethau’n berthnasol i ddiogelwch cynnyrch?

Penderfynodd y Llys bod adrannau 1 a 9 o TPMS 2010 wedi’u llunio i hyrwyddo iechyd y cyhoedd, yn hytrach na gwahardd cyflenwi cynhyrchion tybaco yn gyffredinol, nac i unrhyw ddosbarth penodol o bobl. Nid oedd gan eu dibenion unrhyw beth i wneud â’r safonau diogelwch y dylid cydymffurfio â nhw wrth gynhyrchu a gwerthu cynhyrchion tybaco lle maent ar gael i’w prynu. Yn unol â hynny, nid oedd adrannau 1 a 9 yn berthnasol i’r mater a gadwyd yn ôl.

Mater 3 – a wnaeth y darpariaethau addasu cyfraith droseddol yr Alban mewn perthynas â materion a gadwyd yn ôl?

Ni wnaeth adrannau 1 a 9 ddiwygio neu effeithio fel arall ar droseddau troseddol cyfredol yn ymwneud â diogelwch cynhyrchion tybaco, na’r wybodaeth a ddarperir mewn perthynas â’r cynhyrchion hynny, lle’r oeddynt ar gael i’w prynu o hyd. Felly, nid oeddynt yn addasu cyfraith droseddol yr Alban mewn perthynas â’r materion a gadwyd yn ôl, fel y’u dehonglwyd yng nghyd-destun materion (1) a (2).

Felly, roedd y darpariaethau o fewn cymhwysedd Senedd yr Alban.

Sylw

Nododd yr Arglwydd Hope dair egwyddor y dylid eu dilyn wrth bennu a yw darpariaeth mewn Deddf gan Senedd yr Alban - a, drwy oblygiad, Deddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru - y tu allan i gymhwysedd y sefydliad.

Mae’n rhaid penderfynu ar y mater o gymhwysedd yn unol â’r rheolau penodol sydd yn y Ddeddf datganoli. Nid lle’r Llysoedd yw penderfynu a fyddai’n well i ddeddfwriaeth ar fater penodol gael ei gwneud gan y ddeddfwrfa ddatganoledig, neu yn San Steffan. Drwy wneud hynny, mae’n rhaid i’r Llys gofio bod diben datganoledig i ddarpariaeth o bosibl, ond y gall fod y tu allan i gymhwysedd o hyd gan ei bod yn torri un o’r rheolau. 
Mae’n rhaid dehongli’r rheolau hynny yn yr un ffordd â rheolau mewn unrhyw statud arall yn y DU. Y ffordd orau o sicrhau bod cynllun datganoli cydlynol, sefydlog ac ymarferol yn cael ei gyflawni yw mabwysiadu dull o ddehongli sy'n gyson a rhagweladwy, h.y. drwy lunio’r ddeddfwriaeth yn unol ag ystyr arferol y geiriau a ddefnyddiwyd.

Ni ellir ystyried y disgrifiad o Ddeddf ddatganoli fel statud cyfansoddiadol, ynddo’i hun, fel canllaw ar ei dehongliad. Ond, lle mae angen gydag union ystyr y geiriau a ddefnyddir yn y Ddeddf, mae’n briodol ystyried diben y Ddeddf, sef galluogi'r ddeddfwrfa ddatganoledig i ddeddfu’n effeithiol mewn perthynas â’r materion hynny y bwriadwyd eu datganoli, tra’n sicrhau bod mesurau diogelu digonol ar gyfer y materion hynny y bwriadwyd eu cadw yn ôl.

Roedd yr Arglwydd Hope yn ystyried nad oedd y ffaith bod adran 29 o SA 1998 yn darparu mecanwaith ar gyfer pennu a yw darpariaeth mewn Deddf gan Senedd yr Alban y tu allan yn hytrach na’r tu mewn i gymhwysedd yn creu rhagdybiaeth o blaid cymhwysedd, ond yn dangos bod SA 1998:

 “…was intended, within carefully defined limits, to be a generous settlement of legislative authority.”

O ystyried y gwahaniaethau rhwng y model cadw pwerau datganoli yn yr Alban a’r model rhoi pwerau yng Nghymru, nid yw’n glir i ba raddau y mae’r datganiad hwn yn berthnasol i’r Government of Wales Act 2006.

Dywedodd yr Arglwydd Hope pe bai darpariaeth yn cael ei herio ar sail ei bod yn ymwneud â mater a gadwyd yn ôl, bod angen nodi ei diben, a gall yr arwydd cliriaf o hynny fod mewn adroddiad a arweiniodd at y ddeddfwriaeth, neu mewn adroddiad gan un o bwyllgorau’r ddeddfwrfa. Efallai y bydd yn glir hefyd o gyd-destun y ddarpariaeth.  Ymddengys bod hyn yn awgrymu y bydd adroddiadau o’r fath yn berthnasol ac yn dystiolaeth dderbyniadwy mewn achosion lle mae anghydfod am gymhwysedd deddfwriaethol.

Mae dehongliad yr Arglwydd Hope o 'relates to' fel 'something more than a loose or consequential connection'  yn berthnasol i’r prawf dan adran 108(4)(a) o’r Government of Wales Act 2006 ar gyfer pennu a yw’n ymddangos bod darpariaeth o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol.

Adran 2

Attorney General v National Assembly for Wales Commission [2012] UKSC 53

Penderfyniad

O ran cyfeiriad a wnaed gan y Twrnai Cyffredinol o dan adran 112 o'r Government of Wales Act 2006 (GOWA 2006), penderfynodd y Goruchaf Lys yn unfrydol bod dileu swyddogaethau cadarnhau’r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas ag is-ddeddfau dan adrannau 6 a 9 Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) ('y Bil') o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cefndir

Dyma’r Bil cyntaf i gael ei basio gan y Cynulliad Cenedlaethol ers i Ran 4 o GOWA 2006 ddod i rym. Ei ddiben oedd symleiddio gweithdrefnau ar gyfer gwneud a gorfodi is-ddeddfau awdurdod lleol yng Nghymru. Byddai adran 6 y Bil yn dileu’r angen i Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol gadarnhau is-ddeddfau a wneir o dan ddeddfiadau penodol a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 1 y Bil ('y deddfiadau rhestredig'). Byddai adran 9 y Bil yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru amrywio’r rhestr o ddeddfiadau rhestredig.

Roedd darpariaeth yn adran 236(11) o'r Local Government Act 1972 (LGA 1972), lle'r oedd darpariaeth statudol yn rhoi pŵer i awdurdod lleol wneud is-ddeddf, neu’n ddistaw o ran hunaniaeth awdurdod neu berson cadarnhau, bod rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol gadarnhau’r is-ddeddf er mwyn iddi ddod i rym. Roedd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adran honno yn cael eu hymarfer ochr yn ochr â’r Cynulliad Cenedlaethol, yn rhinwedd y National Assembly for Wales (Transfer of Functions) Order 1999.

Er bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn barod i gydsynio i ddileu’r swyddogaeth gadarnhau mewn perthynas â’r deddfiadau rhestredig, ac ar y sail honno i gytuno i gynnwys adran 6 y Bil, nid oedd yn barod i gydsynio i gynnwys adran 9. Pasiodd y Cynulliad Cenedlaethol y Bil gydag adrannau 6 a 9 yn eu ffurf wreiddiol. Cyfeiriodd y Twrnai Cyffredinol y cwestiwn yn ymwneud ag a oedd adrannau 6 a 9 y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol at y Goruchaf Lys.

GOWA 2006: Darpariaethau allweddol

O dan adran 108(6) a pharagraff 1, Rhan 2 o Atodlen 7 i GOWA 2006, mae darpariaeth mewn Deddf gan y Cynulliad Cenedlaethol y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol os yw’n dileu neu’n addasu, neu’n rhoi pwerau drwy is-ddeddfwriaeth i ddileu neu addasu, unrhyw swyddogaeth cyn-gychwyn Gweinidog o’r Goron.

Mae paragraff 6(1) o Rhan 3 o Atodlen 7 i GOWA 2006 yn darparu eithriad i’r rheol hon lle mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio i’r ddarpariaeth, neu os yw’r ddarpariaeth yn gysylltiedig â, neu’n ôl-ddilynol i unrhyw ddarpariaeth arall sydd wedi’i chynnwys yn Neddf y Cynulliad ('yr eithriad').

Dull y Goruchaf Lys

Cyn dechrau, gwahaniaethodd y Llys rhwng swyddogaeth 'gydredol' (concurrent) a swyddogaeth 'ar y cyd' (joint), gan benderfynu y gellid ymarfer y swyddogaeth gadarnhau dan adran 236(11)  o LGA 1972 gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu Weinidogion Cymru mewn unrhyw achos penodol (h.y. cydredol).

Ceisiodd y Bil sicrhau nad yr Ysgrifennydd Gwladol (ynghyd â Gweinidogion Cymru) oedd yn gyfrifol am y swyddogaeth honno. Felly, y mater canolog oedd a ellid dweud bod adrannau 6 a 9 o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol ar y sail, yn unol â’r eithriad, eu bod yn 'gysylltiedig â, neu’n ôl-ddilynol i' (incidental to, or consequential on) unrhyw ddarpariaeth arall sydd wedi’i chynnwys yn y Bil.

Aeth yr Arglwydd Neuberger i’r afael â’r mater hwn ar y sail:

“The answer to the question whether a particular provision in an enactment is ‘incidental to, or consequential on’ another provision, obviously turns on the facts of the particular case. The answer may to some extent be a question of fact and degree, and it should turn on substance rather than form, although, of course, in any well drafted Bill, the substance will be reflected in the form, at least in relation to that sort of question”.

Yn yr achos hwn, credai’r Arglwydd Neuberger y byddai’r gwaith o resymoli a moderneiddio diben y Bil yn cael ei danseilio pe bai swyddogaeth gadarnhau’r Ysgrifennydd Gwladol yn cael ei chadw. Swyddogaeth ddiofyn oedd swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol dan adran 236(11) y LGA mewn gwirionedd, ac felly nid oedd yn swyddogaeth 'bwysig'. Ar y sail, ers i'r National Assembly for Wales (Transfer of Functions) Order 1999 ddod i rym, mai Gweinidogion Cymru, yn hytrach na’r Ysgrifennydd Gwladol, a oedd wedi ymarfer y swyddogaeth honno erioed mewn perthynas â’r deddfiadau rhestredig, byddai’n:

“….it would be positively perverse if the Secretary of State should retain the confirmatory function when the Welsh Ministers have disclaimed their confirmatory function.”

Credai’r Arglwydd Neuberger ei bod yn bwysig hefyd i ddod i gasgliad a oedd yn rhoi effaith wirioneddol i’r eithriad; ac y byddai’n anodd meddwl am amgylchiadau lle nad fyddai’n berthnasol i adran 6 y Bil.

Gan droi at adran 9 y Bil, roedd yn rhaid dehongli’r pŵer disgresiwn eang, yr oedd yn ymddangos ei fod yn ei roi i Weinidogion Cymru i ychwanegu at y rhestr o ddeddfiadau rhestredig, mor gul â’r gofyn er mwyn iddo fod o fewn cymhwysedd, yn unol ag adran 154(2) o GOWA 2006. Felly, roedd y graddau y gellid defnyddio’r pŵer hwnnw i ddileu swyddogaeth gadarnhau yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas ag is-ddeddfau a wnaed dan ddeddfiadau eraill yn cael ei gyfyngu i achosion sydd o fewn yr eithriad hwnnw; ac, ar y sail honno, roedd adran 9 hefyd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol.

Roedd yr Arglwydd Hope yn cyd-weld â’r Arglwydd Neuberger, gan ddweud bod yr eithriad 'cysylltiedig... neu ôl-ddilynol' ('incidental…or consequential') yn cyfeirio at ymarfer deongliadol o gymharu:

“If the removal has an end and purpose of its own, that will be one thing. It will be outside competence. If its purpose or effect is merely subsidiary to something else in the Act, and its consequence when it is put into effect is can be seen to be minor or unimportant in the context of the Act as a whole, that will be another. It can then be regarded as merely incidental to, or consequential on, the purpose that the Bill seeks to achieve.”

Ychwanegodd yr Arglwydd Hope yr arsylwadau cyffredinol canlynol am ddull y Llys o ymdrin â materion am gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol:

“…the task of the United Kingdom Parliament in relation to Wales was to define the legislative competence of the Assembly, while itself continuing as the sovereign legislature of the United Kingdom. It had to define, necessarily in fairly general and abstract terms, permitted or prohibited areas of legislative activity. The aim was to achieve a constitutional settlement, the terms of which the 2006 Act was designed to set out. Reference was made in the course of argument in the present case to the fact that the 2006 Act was a constitutional enactment…I do not think that this description, in itself, can be taken to be a guide to its interpretation. The rules to which the court must apply in order to give effect to it are those laid down by the statute, and the statute must be interpreted like any other statute. But the purpose of the Act has informed the statutory language, and it is proper to have regard to it if help is needed as to what the words mean.”

Ar bwynt gweithdrefnol, dywedodd y Llys pan fo’r Twrnai Cyffredinol yn cyfeirio Bil y Cynulliad Cenedlaethol i’r Goruchaf Lys, dylid cyflwyno’r cyfeiriad i Gwnsler Cyffredinol Cymru, sydd â budd yn y trafodion, yn hytrach nag i’r Cynulliad Cenedlaethol, nad yw’n 'swyddog perthnasol' ('Relevant officer') o fewn rheol 3(2) y Supreme Court Rules 2009 (SI 2009/1602) a Practice Direction 10.

Sylw

Cyfeiriodd yr Arglwydd Hope at yr achos fel 'digwyddiad pwysig yng nghyfraith Cymru', gan mai’r Bil oedd y cyntaf i’w basio gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Dyma gyfeiriad cyntaf y Twrnai Cyffredinol i gael ei ystyried gan y Goruchaf Lys, ac fel y dywedodd y Farwnes Hale, yr achos cyntaf o 'adolygu cwbl gyfansoddiadol'   lle mae wedi bod yn ofynnol i’r Llys benderfynu ar ddilysrwydd Deddf deddfwrfa ddatganoledig yn haniaethol.

Adran 3

Parthed Bil Sector Amaethyddol (Cymru) [2014] UKSC 43

Penderfyniad

O ran cyfeiriad a wnaed gan y Twrnai Cyffredinol dan adran 112(1) o'r Government of Wales Act 2006 (GOWA 2006), penderfynodd y Goruchaf Lys yn unfrydol bod Bil Sector Amaethyddol (Cymru) (y Bil) o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

O dan adranau 108(4) a (7) o GOWA 2006, mae gan y Cynulliad Cenedlaethol gymhwysedd deddfwriaethol os yw’r Bil yn ymwneud yn deg ac yn realistig ag un neu fwy o’r pynciau a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 7 i GOWA 2006, ac nad yw o fewn un o’r eithriadau. Nid oes gwahaniaeth a allai mewn egwyddor gael ei ddosbarthu fel ymwneud â phwnc nad yw wedi’i restru yn Rhan 1 o Atodlen 7 i GOWA 2006. Nid yw GOWA 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarpariaeth gael ei nodweddu’n unig fel un sy’n ymwneud â phwnc datganoledig.

Cefndir

Pasiwyd y Bil gan y Cynulliad Cenedlaethol ar 17 Gorffennaf 2013, yn bennaf i sefydlu cynllun ar gyfer rheoleiddio cyflogau yn y sector amaethyddol yng Nghymru.

Cyn 2013, roedd yr Agricultural Wages Act 1948 wedi darparu cynllun ar gyfer rheoleiddio cyflogau amaethyddol yng Nghymru a Lloegr gan y Bwrdd Cyflogau Amaethyddol. Diddymwyd y Bwrdd gan adran 72 o’r Enterprise and Regulatory Reform Act 2013. Ceisiodd y Cynulliad Cenedlaethol gadw’r cynllun ar gyfer rheoleiddio cyflogau amaethyddol yng Nghymru, drwy greu Panel Cynghori Amaethyddol drwy’r Bil.

Heriodd y Twrnai Cyffredinol gyfreithlondeb y Bil, gan ddadlau bod gwir ddiben y darpariaethau yn y Bil mewn perthynas â rheoleiddio cyflogau amaethyddol yn ymwneud â chyflogaeth, nad oedd yn bwnc datganoledig a restrwyd yn Rhan 1 o Atodlen 7 i GOWA 2006; ac felly roedd y Bil y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol.

GOWA 2006: darpariaethau allweddol

O dan adran 108(4) o GOWA 2006, mae darpariaeth mewn Deddf gan y Cynulliad Cenedlaethol o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol os yw’n:

“(a) it relates to one or more of the subjects listed under any of the headings in Part 1 of Schedule 7 and does not fall within any of the exceptions specified in that Part of that Schedule (whether or not under that heading or any of those headings), and

(b) it neither applies otherwise than in relation to Wales nor confers, imposes, modifies or removes (or gives power to confer, modify or remove) functions exercisable otherwise than in relation to Wales.”

Mae adran 108(7) yn nodi:

“For the purposes of this section the question whether a provision of an Act of the Assembly relates to one or more of the subjects listed in Part 1 of Schedule 7 (or falls within any of the exceptions specified in that Part of that Schedule) is to be determined by reference to the purpose of the provision, having regard (among other things) to its effect in all the circumstances.”

Mae’r pynciau a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 7 yr oedd y Cynulliad Cenedlaethol yn dibynnu arnynt ar gyfer ei gymhwysedd deddfwriaethol yn cynnwys:

  • Amaethyddiaeth
  • Garddwriaeth
  • Coedwigaeth
  • Pysgodfeydd a physgota
  • Iechyd a lles anifeiliaid
  • Iechyd planhigion
  • Amrywiadau a hadau planhigion
  • Datblygu gwledig.

Dull y Goruchaf Lys

Nodir penderfyniad y Llys mewn datganiad o farn gan yr Arglwydd Reed a’r Arglwydd Thomas ar y cyd (ac roedd yr Arglwydd Neuberger, y Foneddiges Hale a’r Arglwydd Kerr yn cytuno â’r farn honno).

Ailddatganodd y Llys yr egwyddorion yr oedd wedi’u nodi yn achos y Local Government (Byelaws) (Wales) Bill o ran y dull y byddai’n ei fabwysiadu i ddehongli y GOWA 2006 yn iawn, h.y.:

“i) The question whether a provision is outside the competence of the Assembly must be determined according to the particular rules that s.108 of, and Sch 7 to, [GOWA 2006] have laid down…

ii) The description of [GOWA] as an Act of great constitutional significance cannot be taken, in itself, to be a guide to its interpretation. The statute must be interpreted in the same way as any other statute…

iii) When enacting [GOWA] Parliament had to define, necessarily in fairly general and abstract terms, permitted or prohibited areas of legislative activity. The aim was to achieve a constitutional settlement. It is proper to have regard to that purpose if help is needed as to what the words mean…”

Yn yr achos penodol hwn, y mater cyntaf i’w bennu oedd ystyr 'Amaethyddiaeth’ fel y’i nodir ym mharagraff 1 o Atodlen 7 y GOWA 2006. Ar y pwynt hwnnw, penderfynodd y Llys:

“This is not…a case in which the court has to turn to a dictionary in order to find out the meaning of an unfamiliar word. The problem is to decide what Parliament meant by the subject of “Agriculture” in this specific context: in particular, in the context of other subjects listed in the schedule. Each is intended to designate a subject-matter which is the object of legislative activity. In this context, it is clear to us that agriculture cannot be intended to refer solely to the cultivation of the soil or the rearing of livestock, but should be understood in a broader sense as designating the industry or economic activity of agriculture in all its aspects, including the business or other constituent elements of that industry, as it is to that broader subject matter that legislative activity is directed.”

Ar y pwynt hwnnw, nododd y Llys bod y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol a oedd wedi cynnwys Mater 1.1. ym maes 'Agriculture, fisheries, forestry and rural development' yn Atodlen 5 i GOWA 2006, gan alluogi i’r Cynulliad Cenedlaethol wneud Mesurau ar farchnata a darparu gwasanaethau gan y diwydiant cig coch yng Nghymru, yn ymddangos fel ei fod wedi’i seilio ar ddealltwriaeth eang debyg o’r term 'amaethyddiaeth' ('agriculture').

Aeth y Llys ymlaen i ystyried a yw’r Bil yn 'ymwneud ag' ('relates to') amaethyddiaeth. Credai fod adran 108(7) o GOWA 2006 yn:

“As the section requires the purpose of the provision to be examined it is necessary to look not merely at what can be discerned from an objective consideration of the effect of its terms. The clearest indication of its purpose may be found in a report that gave rise to the legislation, or in the report of an Assembly committee; or its purpose may be clear from its context…”

"It was clear to the Court from the Welsh Government’s consultation process  that led to the Bill that the Bill’s purpose was to regulate agricultural wages and other terms and conditions of agricultural employment so that the agricultural industry in Wales would be supported and protected. The Court found that the legal and practical effects of the Bill were consistent with that purpose, and that 'the Bill is aptly classified as relating to agriculture." 

Wrth ystyried a yw’r Bil yn ymwneud â phynciau eraill hefyd, derbyniodd y Llys gyflwyniadau’r Twrnai Cyffredinol y gallai’r Bil mewn egwyddor gael ei nodweddu fel petae’n ymwneud â 'chyflogaeth' a 'chysylltiadau diwydiannol', ac nid yw’r naill na’r llall wedi’u rhestru yn Rhan 1 o Atodlen 7 i GOWA 2006 fel pwnc y mae gan y Cynulliad Cenedlaethol gymhwysedd deddfwriaethol ar ei gyfer.

Fodd bynnag, nododd y Llys nad yw 'cyflogaeth' na 'chysylltiadau diwydiannol' yn cael eu nodi yn unrhyw ran o’r GOWA 2006 fel eithriad cyffredinol i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol. Roedd y ffaith bod elfennau penodol o gyflogaeth a chysylltiadau diwydiannol, fel cynlluniau pensiwn personol neu alwedigaethol (gan gynnwys cynlluniau sy’n gwneud darpariaethau ar gyfer colli swydd neu gyflogaeth) yn cael eu nodi fel eithriadau yn awgrymu i’r Llys nad oedd bwriad i greu cyfyngiad mwy cyffredinol ar gymhwysedd deddfwriaethol.

Gan gydnabod y gall bod mwy nag un ffordd o nodweddu diben ac effaith y Bil, daeth y Llys i’r casgliad:

“Provided that the Bill fairly and realistically satisfies the test set out in s108(4) and (7) and is not within an exception, it does not matter whether in principle it might also be capable of being classified as relating to a subject which is not listed in Part 1 of Schedule 7 of GOWA. The legislation does not require that a provision should only be capable of being characterised as relating to a devolved subject.”

Roedd yn dilyn felly bod y Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol oherwydd ei fod yn ymwneud ag amaethyddiaeth.

Sylw

Yn yr achos hwn, ceisiodd y Twrnai Cyffredinol ddibynnu ar ddatganiad, a wnaed gan Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru mewn trafodaeth Seneddol ar y Bil a ddaeth yn GOWA, nad diben y Bil oedd 'ehangu datganoli' ('broaden devolution'), ond ei 'ddwysau' ('deepen'). Defnyddiwyd yr un ymadrodd gan y Gweinidog yn ystod trafodaeth ar y Bil yn Nhŷ’r Arglwyddi. Ni chredai’r Llys: 'such a general and ambiguous phrase can properly be of any assistance in the interpretation of [GOWA 2006]'.

Ceisiodd y Twrnai Cyffredinol hefyd ddibynnu ar ohebiaeth rhwng Swyddfa Cymru, Llywodraeth Cymru a’r Cwnsler Seneddol ym mis Hydref a Thachwedd 2005, cyn cyflwyno’r Bil a ddaeth yn GOWA 2006 i’r Senedd.

Nododd y llys na chyfeiriwyd at yr ohebiaeth erioed yn y Senedd, ac nad oedd wedi’i datgelu i’r Senedd na’i chyhoeddi. Felly, penderfynodd y Llys:

“…it would be wholly inconsistent with the transparent and open democratic process under which Parliament enacts legislation to take into account matters that have passed in private between two departments of the Executive or between the Executive of the UK and a devolved Executive. We therefore refused in the hearing of the reference to admit correspondence.”

Adran 4

Recovery of Medical Costs for Asbestos Diseases (Wales) Bill [2015] UKSC 3

Penderfyniad

Yn dilyn cyfeiriad i’r Goruchaf Lys gan y Cwnsler Cyffredinol o dan adran 112 o’r Government of Wales Act 2006 (GOWA 2006), penderfynodd y Goruchaf Lys yn unfrydol nad oedd y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru), yn ei ffurf bresennol, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Penderfynodd mwyafrif y Llys (yr Arglwydd Neuberger, yr Arglwydd Mance a’r Arglwydd Hodge) nad oedd darpariaethau’r Bil a oedd yn ceisio gwneud y canlynol yn ymwneud â phwnc yn Atodlen 7 i GOWA 2006:

  • Ei gwneud yn ofynnol i bersonau sy’n digolledu dioddefwyr clefydau sy’n ymwneud ag asbestos ad-dalu i Lywodraeth Cymru gostau gwasanaethau’r GIG a ddarparwyd i’r dioddefwr (ar ôl y dyddiad i’r Bil ddod i rym) o ganlyniad i’r clefyd, ac
  • Estyn polisïau yswiriant digolledwyr i gynnwys atebolrwydd am ad-dalu costau’r GIG i Lywodraeth Cymru.

Yn ogystal, roedd y mwyafrif o’r farn fod y darpariaethau yn anghydnaws â hawliau digolledwyr ac yswirwyr o dan erthygl 1 o Brotocol 1 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, sef yr hawl i fwynhau eu heiddo yn heddychlon (“A1P1”).

Roedd yr Arglwydd Thomas a’r Fonesig Hale yn cytuno â’r mwyafrif bod y ddarpariaeth a oedd yn ceisio estyn polisïau yswiriant, fel y’i drafftiwyd, yn anghydnaws ag A1P1. Effaith y ddarpariaeth oedd estyn neu ddiystyru darpariaethau polisïau yswiriant sydd eisoes yn bodoli yn ôl-weithredol. Nid oedd hyn yn sicrhau cydbwysedd teg rhwng buddiannau eiddo yswirwyr a’r manteision a fyddai’n deillio o’r Bil. 

Fodd bynnag, roedd yr Arglwydd Thomas a’r Fonesig Hale o’r farn fod y gofyniad i ad-dalu costau’r GIG yn anghydnaws ag A1P1, a bod darpariaethau’r Bil yn ymwneud â phwnc yn Atodlen 7 i GOWA 2006.

Cefndir

Pasiwyd y Bil gan y Cynulliad Cenedlaethol ar 20 Tachwedd 2013.

Roedd Adran 2 o’r Bil yn ceisio ei gwneud yn ofynnol i bersonau sy’n gwneud taliadau digolledu i ddioddefwyr clefydau yn ymwneud ag asbestos (digolledwyr), neu bersonau y gwneir taliadau ar eu rhan, ad-dalu i Lywodraeth Cymru gostau gwasanaethau’r GIG a ddarparwyd i’r dioddefwr (ar ôl y dyddiad i’r Bil ddod i rym) o ganlyniad i’r clefyd.

Mewn achosion lle y byddai atebolrwydd i’r digolledwr ar gyfer y dioddefwr yn cael ei gynnwys i unrhyw raddau mewn polisi yswiriant, roedd adran 14 o’r Bil yn ceisio estyn y polisi yswiriant fel y byddai hefyd yn cynnwys atebolrwydd o dan adran 2 i ad-dalu costau’r GIG i Lywodraeth Cymru.

Byddai’r atebolrwydd am ad-dalu costau’r GIG i Lywodraeth Cymru ond yn berthnasol i daliadau digolledu a wnaed ar ôl i’r Bil ddod i rym.

Fodd bynnag, roedd y Bil yn cynnwys elfen ôl-weithredol (h.y. byddai wedi cael effaith ar bethau a wnaed cyn iddo ddod i rym). Mewn llawer o achosion, byddai’r taliad digolledu yn cael ei wneud ar gyfer clefydau a achoswyd cyn i’r Bil ddod i rym, a byddai’r polisïau yswiriant a gafodd eu hestyn gan y Bil wedi’u cytuno cyn i’r Bil ddod i rym.

Bwriad y Bil oedd sicrhau bod y rhai a oedd yn gyfrifol am glefydau yn ymwneud ag asbestos hefyd yn gyfrifol am gostau trin cleifion y GIG (ar ôl i’r Bil ddod i rym), yn hytrach na bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio i dalu am y driniaeth.

Roedd Adran 15 o’r Bil yn nodi bod yn rhaid i Weinidogion Cymru, wrth drefnu’r GIG yng Nghymru, ystyried buddioldeb sicrhau bod costau’r GIG sy’n cael eu hadennill o dan y Bil yn cael eu defnyddio ar gyfer gwaith ymchwil, triniaeth neu wasanaethau yn ymwneud â chlefydau sy’n gysylltiedig ag asbestos.  

GOWA 2006 : Darpariaethau Allweddol

O dan adran 108(4) o GOWA 2006, mae darpariaeth Deddf y Cynulliad Cenedlaethol yn perthyn i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol os yw’r canlynol yn wir:

“(a) it relates to one or more of the subjects listed under any of the headings in Part 1 of Schedule 7 and does not fall within any of the exceptions specified in that Part of that Schedule (whether or not under that heading or any of those headings), and
(b) it neither applies otherwise than in relation to Wales nor confers, imposes, modifies or removes (or gives power to confer, modify or remove) functions exercisable otherwise than in relation to Wales.”

Fodd bynnag, o dan adran 108(6)(c), hyd yn oed os yw darpariaeth yn perthyn i  adran 108 (4) (neu adran 108(5)), mae’n parhau i fod y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad os yw’n anghydnaws â’r hawliau yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

Mae adran 108(7) yn nodi’r canlynol:

“For the purposes of this section the question whether a provision of ân Act of the Assembly relates to one or more of the subjects listed in Part 1 of Schedule 7 (or falls within any of the exceptions specified in that Part of that Schedule) is to be determined by reference to the purpose of the provision, having regard (among other things) to its effect in all the circumstances.”

Ar gyfer cymhwysedd deddfwriaethol, roedd y Cynulliad Cenedlaethol yn dibynnu ar bynciau sy’n ymddangos ym mharagraff 9 o Ran 1 o Atodlen 7 GOWA 2006, o dan y pennawd “Iechyd a Gwasanaethau Iechyd’. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol yn benodol:

“Prevention, treatment and alleviation of disease, illness, injury, disability and mental disorder”, a “Organisation and funding of national health service”.

Dull gweithredu’r Goruchaf Lys

Mater 1 : A oedd y Bil yn “ymwneud â” phwnc yn Atodlen 7

Roedd mwyafrif y Goruchaf Lys yn credu mai “Trefnu a chyllido’r gwasanaeth iechyd gwladol” oedd hanfod y pwnc, ond penderfynodd nad oedd y Bil yn “ymwneud â’r” pwnc hwnnw yn ddigonol i fod o fewn y cymhwysedd deddfwriaethol.

Mae’n hysbys nad yw pwerau cyllidol cyffredinol wedi’u datganoli i Gymru, ond roedd mwyafrif y Llys yn barod i ystyried yr achos ar sail y rhagdybiaeth (heb benderfynu) bod “Trefnu a chyllido’r gwasanaeth iechyd gwladol” yn gallu cynnwys, i ryw raddau, codi cyllid ar gyfer y GIG, er enghraifft drwy godi tâl am wasanaethau.

Fodd bynnag, byddai’n rhaid i daliadau o’r fath fod â mwy o gysylltiad uniongyrchol â’r gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu, a’i gyllido. Ni allai diben ac effaith codi arian, a all neu a fydd yn cael ei ddefnyddio i dalu rhan o gostau GIG Cymru, gael eu hystyried yn gysylltiad digon agos. “Ni all trefnu a chyllido’r gwasanaeth iechyd gwladol ganiatáu i’r Cynulliad godi arian yn gyffredinol.”

Byddai’r taliadau y darparwyd ar eu cyfer gan y Bil yn cael eu gorfodi ar ddigolledwyr ac yswirwyr yn hytrach na chleifion, ac nid oes ganddynt unrhyw gysylltiad uniongyrchol neu gysylltiad agos â darparu gwasanaethau GIG Cymru. Roedd y Bil yn ceisio gorfodi’r hyn sydd, mewn gwirionedd, yn ddyletswyddau camweddus neu statudol newydd ar drydydd partïon i dalu am driniaeth y GIG.

Roedd yr Arglwydd Thomas a’r Fonesig Hale o’r farn fod y pwnc “Trefnu a chyllido’r gwasanaeth iechyd gwladol” yn golygu codi arian ar gyfer GIG Cymru drwy, er enghraifft, godi tâl am y gwasanaethau y mae’n eu darparu.

Felly, byddai codi tâl ar ddioddefwyr clefydau sy’n gysylltiedig ag asbestos ar gyfer gwasanaethau’r GIG wedi bod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Ar sail egwyddorion cyffredinol, byddai dioddefwyr wedi gallu adennill y costau hynny wedyn gan ddigolledwyr fel iawndal. Byddai hynny wedi cyflawni amcan y Bil, sef sicrhau mai’r rhai sy’n gyfrifol am achosi clefydau yn ymwneud ag asbestos sy’n talu am y gost o drin cleifion, yn hytrach na chyllid cyhoeddus. Felly, wrth geisio adennill costau’r GIG yn uniongyrchol o ddigolledwyr (yn hytrach na chodi tâl ar ddioddefwyr a fyddai wedyn yn adennill y taliadau fel iawndal), nid oedd y Bil yn gwneud dim byd mwy na darparu dull mwy effeithiol o adennill costau gofal meddygol gan y rhai a oedd wedi achosi clefydau yn ymwneud ag asbestos. Roedd gwneud hynny o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.

Mater 2: Cydnawsedd â Siarter Hawliau Dynol Ewrop (ECHR)

Cytunodd y Llys ar yr egwyddorion cyffredinol y dylid eu defnyddio wrth benderfynu a weithredwyd yn groes i A1P1. Rhaid i unrhyw ymyrraeth â’ch gallu i fwynhau eich eiddo’n heddychlon sicrhau cydbwysedd teg rhwng gofynion y cyhoedd neu les cyffredinol y gymuned a’r gwaith o ddiogelu hawliau sylfaenol yr unigolyn. Yn achos deddfwriaeth sy’n cael effaith ôl-weithredol ar fuddiannau eiddo, fel y byddai’r Bil hwn yn ei chael, byddai angen “cyfiawnhad arbennig” cyn y byddai’r Llys yn derbyn bod cydbwysedd teg wedi’i sicrhau. 

Penderfynodd mwyafrif y Goruchaf Lys y byddai’r Bil yn ymyrryd â hawliau digolledwyr ac yswirwyr o dan A1P1. Byddai’r ddau yn cael eu heffeithio a gallent golli eu heiddo gan y byddai’r Bil yn newid eu rhwymedigaethau cyfreithiol ac yn gosod mwy o feichiau ariannol arnynt, yn sgil digwyddiadau a pholisïau a luniwyd amser maith yn ôl.

Ni dderbyniodd mwyafrif y Llys fod cyfiawnhad arbennig yn bodoli ar gyfer y Bil. Yn ôl yr Arglwydd Mance:

“65. Although the Bill would either save the Welsh Ministers money or add to their resources, it is not shown that it would achieve a directly applicable or compelling social or economic interest comparable with those involved in these previous cases. Section 15 of the Bill contains the specific enjoinder that the Ministers should have regard to the “desirability” of equivalent sums being made available for “research into, treatment of or other services relating to asbestos-related diseases”, but it is not shown that any such sums so expended would add to existing sums already being spent in these areas, or resolve any exceptional social or economic problem. It is common knowledge that the funding of the National Health Service is under increasing strain throughout the United Kingdom, and it may be so even more in Wales than elsewhere, but that is a different level of general problem to any shown on the authorities to be relevant in the present context.”

Ystyriodd yr Arglwydd Thomas a’r Foneddiges Hale fod ymyrraeth y Bil â hawliau digolledwyr o dan A1P1 yn sicrhau cydbwysedd teg rhwng yr hawliau hynny a diben economaidd a chymdeithasol y gwaith o ariannu gwasanaethau GIG Cymru ar gyfer dioddefwyr asbestos.

Yn ôl yr Arglwydd Thomas, byddai cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad wedi caniatáu i’r Bil godi tâl am wasanaethau’r GIG i ddioddefwyr a oedd yn cael eu trin am glefydau cysylltiedig ag asbestos. Os felly, byddai dioddefwyr wedi gallu adennill y taliadau hynny gan eu digolledwyr, a byddai yswirwyr fel arfer wedi bod yn atebol o dan ffurf arferol y polisi i indemnio digolledwyr am daliadau’r GIG a ad-dalwyd i’r dioddefwyr. Ni fyddai wedi bod angen i’r ddeddfwriaeth wella unrhyw bolisi yswiriant gan y byddai wedi gorfod indemnio digolledwyr ar sail ei delerau presennol.

Byddai’r taliadau mewn perthynas â niwed cydnabyddedig a achoswyd gan glefyd cysylltiedig ag asbestos lle roedd atebolrwydd o dan y gyfraith bresennol – sef triniaeth a gofal meddygol.

Nid oedd gan y rhai a oedd yn gyfrifol am glefydau cysylltiedig ag asbestos, na’u hyswirwyr, unrhyw ddisgwyliad cyfreithlon yn arwain at hawl gyfreithiol y byddai triniaeth feddygol i ddioddefwyr bob amser yn cael ei darparu am ddim gan y Wladwriaeth. Mae gan y ddeddfwrfa'r hawl i newid y polisi ar godi tâl a thynnu triniaeth am ddim yn ôl.

Ym marn yr Arglwydd Thomas, wrth geisio adennill costau’r GIG yn uniongyrchol o ddigolledwyr, nid oedd y Bil yn gwneud mwy na darparu dulliau mwy effeithiol o adennill y costau meddygol y byddai digolledwyr wedi bod yn atebol amdanynt fel rhan o’r dull arferol o fesur iawndal.

Roedd y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu mai’r rhai a oedd yn gyfrifol am glefydau cysylltiedig ag asbestos, yn hytrach nag arian cyhoeddus, ddylai dalu’r gost o drin y dioddefwyr. Y Cynulliad Cenedlaethol fyddai’n gwneud y dewis a’r penderfyniadau ynglŷn ag asesu lles cyhoeddus cyffredinol codi taliadau o’r fath, a’r dulliau a ddefnyddir.

Yn ôl yr Arglwydd Thomas, nid oedd baich gormodol ar ddigolledwyr o ganlyniad i’r dulliau a ddewiswyd gan y Cynulliad i roi atebolrwydd uniongyrchol arnynt. Ar ôl pwyso a mesur y colledion i fuddiannau eiddo digolledwyr, a’r lles cyhoeddus a’r manteision sy’n deillio o’r Bil, penderfynodd fod cydbwysedd teg wedi’i sicrhau a bod y “cyfiawnhad arbennig” angenrheidiol wedi’i sefydlu. 

Mewn perthynas ag yswirwyr, os oedd y Bil wedi bwriadu codi tâl ar ddioddefwyr, ac y byddent wedi gallu adennill y taliadau hynny gan ddigolledwyr a fyddai, yn eu tro, wedi cael eu hindemnio gan eu hyswirwyr ar sail telerau presennol eu polisïau yn y ffordd arferol, roedd yr Arglwydd Thomas o’r farn y byddai cydbwysedd teg wedi’i sicrhau rhwng buddiannau eiddo yswirwyr a’r manteision sy’n deillio o’r Bil.

Fodd bynnag, roedd adran 14 yn estyn polisïau yswiriant y tu hwnt i’r yswiriant y byddent wedi gorfod ei ddarparu i ddigolledwyr pe bai’r Bil wedi codi tâl ar ddioddefwyr. Roedd yn y bôn wedi estyn polisïau yn ôl-weithredol i gwmpasu holl gostau’r GIG a fyddai’n cael eu hawlio o dan y Bil, beth bynnag fo darpariaethau’r polisi, fel terfynau’r polisi. Nid oedd yr Arglwydd Thomas o’r farn bod unrhyw gyfiawnhad dros ddarpariaeth o’r fath; felly, nid oedd yn gydnaws ag A1P1.

Sylwadau

Cafwyd rhywfaint o drafodaeth yn yr achos ynglŷn â rolau’r llysoedd a’r deddfwrfeydd mewn perthynas â phenderfynu ar gydnawsedd ag A1P1. 

Fel y nodwyd uchod, cytunodd y Goruchaf Lys y dylai unrhyw ymyrraeth â’ch gallu i fwynhau eich eiddo’n heddychlon sicrhau cydbwysedd teg rhwng gofynion y cyhoedd neu les cyffredinol y gymuned a’r gwaith o ddiogelu hawliau sylfaenol yr unigolyn.

Cytunodd y Llys yn unfrydol y dylid parchu penderfyniad y ddeddfwrfa ynglŷn â’r hyn oedd er lles y cyhoedd neu er lles cyffredinol, ond cyfrifoldeb y Llys fyddai pwyso a mesur manteision y ddeddfwriaeth, o ran y nod yr oedd yn ei hyrwyddo, yn erbyn yr “anfanteision i fuddiannau eraill”.

Cytunodd y Llys hefyd y dylid rhoi pwys ar benderfyniad y Cynulliad i basio’r Bil, ond roedd yr Arglwydd Mance a’r Arglwydd Thomas yn anghytuno ynglŷn â faint o bwys y dylid ei roi iddo.

Wrth gyhoeddi penderfyniad y mwyafrif, cwestiynodd yr Arglwydd Mance a oedd y Cynulliad Cenedlaethol wedi rhoi ystyriaeth lawn i oblygiadau ôl-weithredol y Bil, gan ei bod hi’n ymddangos bod y Bil yn cael ei ystyried fel estyniad yn unig, mewn perthynas ag egwyddor a dderbyniwyd gan yr UK Parliament in the Health and Social Care (Community Health and Standards) Act 2003. Roedd yr Arglwydd Mance o’r farn bod yna wahaniaeth gwirioneddol a sylweddol rhwng nod ac effaith y Ddeddf honno a’r Bil.

Yn ôl yr Arglwydd Mance, pe bai’r Bil wedi cael ei gyflwyno i’r Cynulliad Cenedlaethol a’i basio ganddo ar sail cydweddiad neu gynsail nad oedd yn berthnasol, ni ellid bod wedi cael yr un cymorth gan benderfyniad y ddeddfwrfa ag y gellid ei gael fel arall.

Fodd bynnag, dywedodd yr Arglwydd Mance y byddai wedi dod i’r un casgliad mewn perthynas â chydbwysedd teg y buddiannau eiddo a’r buddiannau cyffredinol hyd yn oed pe bai cefndir y Bil wedi cynnwys cyflwyniad a gwerthfawrogiad llawn o’i oblygiadau gan y rhai sy’n gyfrifol am hyrwyddo a phasio’r ddeddfwriaeth.

Dywedodd yr Arglwydd Thomas y byddai’n rhoi “pwys mawr” ar benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol, yn enwedig lle gwnaed dyfarniad ar faterion o bolisi cymdeithasol ac economaidd.

Roedd yr Arglwydd Mance wedi crybwyll yn sydyn y cwestiwn a oedd yn codi ynghylch a ddylid gwahaniaethu rhwng deddfwriaeth sylfaenol Senedd y DU a phenderfyniadau deddfwriaethol eraill pan oedd Llys yn rhoi pwys ar ddewis deddfwriaethol at ddibenion cynnal ymarfer cytbwys. Y rheswm am hyn oedd bod Erthygl 9 o’r Bill of Rights 1688 yn nodi na ddylid uchelgyhuddo na chwestiynau trafodion y Senedd mewn unrhyw Lys na man arall y tu allan i’r Senedd. Fodd bynnag, roedd yr Arglwydd Mance o’r farn nad oedd angen ystyried y cwestiwn hwn at ddibenion yr achos.

Dywedodd yr Arglwydd Thomas y byddai’n anodd iddo wahaniaethu yn rhesymegol rhwng Senedd y DU a’r deddfwrfeydd datganoledig mewn perthynas â’r pwys i’w roi ar y penderfyniadau yr oeddent wedi’u gwneud. Dywedodd na allai weld mewn egwyddor pam y dylid rhoi mwy o statws i Senedd y DU, sy’n gwneud dewisiadau deddfwriaethol ar gyfer Lloegr ar faterion megis cyllid y GIG, nag y rhoddir i’r deddfwrfeydd datganoledig sy’n gwneud dewisiadau ar gyfer Cymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. 
    

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn