Meysydd sydd wedi’u datganoli

Cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol

Mae Senedd y DU wedi dirprwyo rhai o’i phwerau deddfu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae gan y Cynulliad Cenedlaethol y pŵer i basio deddfwriaeth sylfaenol mewn Deddfau’r Cynulliad sydd â statws cyfwerth â Deddfau Seneddol.

Fodd bynnag, mae pwerau deddfu’r Cynulliad Cenedlaethol yn wahanol i bwerau deddfu Senedd y DU oherwydd un rheswm pwysig. Mae Senedd y DU yn sofran, sy’n golygu bod ganddi’r pŵer i basio deddfau ar unrhyw fater o’i dewis. Nid yw’r Cynulliad Cenedlaethol yn sofran. Corff a lywodraethir gan statud ydyw, sef y Government of Wales Act 1998 cynt, a’r Government of Wales Act 2006 (GOWA 2006) erbyn hyn. Mae hyn yn golygu mai dim ond y pwerau deddfu a roddwyd iddo gan GOWA 2006 sydd ganddo.

Mae’r holl feysydd y mae gan y Cynulliad Cenedlaethol y pŵer i basio deddfau yn eu cylch yn cael eu disgrifio fel y meysydd sydd o fewn ei ‘gymhwysedd deddfwriaethol’. Mae adrannau 107 a 108 o GOWA 2006, ac Atodlen 7 iddi, yn diffinio graddfa cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol. Nid yw unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf Cynulliad sydd y tu hwnt i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol yn ddeddf ddilys. (Mewn perthynas â 22 Mesur y Cynulliad a basiwyd rhwng 2008 a 2011, caiff cymhwysedd deddfwriaethol ei llywodraethu gan adrannau 93 a 94 o GOWA 2006, ac Atodlen 5 iddi.)

Dyma’r camau i benderfynu a yw darpariaeth mewn Deddf Cynulliad o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol:

Cam 1: Mae’n rhaid i’r ddarpariaeth berthyn i naill ai adran 108(4) neu adran 108(5) o GOWA 2006.

Cam 2: Ni ddylai’r ddarpariaeth dorri unrhyw un o’r cyfyngiadau yn Rhan 2 o Atodlen 7 i GOWA 2006 (mewn perthynas â’r eithriadau yn Rhan 3).

Cam 3: Ni all y ddarpariaeth estyn i unrhyw diriogaeth ac eithrio Cymru a Lloegr.

Cam 4: Ni all y ddarpariaeth fod yn anghydnaws â’r rhannau o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol y mae’r DU wedi ymrwymo iddynt.  

Cam 5: Ni all y ddarpariaeth fod yn anghydnaws â chyfraith yr UE.

Mae amlinelliad cyffredinol o’r ystyriaethau ar gyfer pob un o’r camau hyn wedi’i nodi isod. I gael gwybodaeth lawn, gweler darpariaethau perthnasol GOWA 2006.

Adran 1

Camau 1 i 5

Cam 1: Adran 108(4) neu adran 108(5)

Er mwyn bod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol, mae’n rhaid i ddarpariaeth berthyn naill ai i adran 108(4) neu 108(5).

Cymhwysedd deddfwriaethol o fewn adran 108(4)

Er mwyn perthyn i adran 108(4), mae’n rhaid i ddarpariaeth fodloni’r tri pheth canlynol:

  • Mae’n rhaid i’r ddarpariaeth ‘ymwneud ag’ un neu fwy o benawdau’r pynciau yn Rhan 1 o Atodlen 7.  Wrth benderfynu a yw darpariaeth yn ‘ymwneud â’ phwnc, mae’n rhaid ystyried diben y ddarpariaeth a’i heffaith.

Mae'r pynciau sydd wedi’u datganoli yn dod o dan y penawdau: amaethyddiaeth, coedwigaeth, anifeiliaid, planhigion a datblygu gwledig; henebion ac adeiladau hanesyddol; diwylliant; datblygu economaidd; addysg a hyfforddiant; yr amgylchedd; y gwasanaethau tân ac achub a diogelwch tân; bwyd; iechyd a gwasanaethau iechyd; priffyrdd a thrafnidiaeth; tai; llywodraeth leol; Cynulliad Cenedlaethol Cymru; gweinyddiaeth gyhoeddus; lles cymdeithasol; chwaraeon a hamdden; trethi datganoledig; twristiaeth; cynllunio gwlad a thref; dŵr ac amddiffyn rhag llifogydd; y Gymraeg.

  • Ni all y ddarpariaeth berthyn i unrhyw un o’r eithriadau a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 7. Mae’r eithriadau yn nodi meysydd yn y meysydd pwnc datganoledig cyffredinol lle mae Senedd y DU wedi cadw’r hawl unigryw i basio deddfau. Nid oes unrhyw eithriadau wedi’u rhestru ar gyfer rhai pynciau, ond mae gan eraill lawer o eithriadau.

Mae pob eithriad yn cael ei restru o dan bennawd y pwnc y mae’n ymwneud ag ef yn bennaf. Fodd bynnag, ac eithrio mewn perthynas â threthi datganoledig, mae’r holl eithriadau yn berthnasol i’r holl feysydd pwnc. Mewn perthynas â ‘threthi datganoledig’ (paragraff 16A o Ran 1), dim ond eithriadau a restrir yn benodol o dan bennawd y pwnc hwnnw sy’n cyfyngu ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â threthi datganoledig (ac nid oes unrhyw eithriadau o’r fath ar hyn o bryd).

  • Ni all y ddarpariaeth ymwneud ag unrhyw le ac eithrio Cymru. Mewn geiriau eraill, ni ddylai’r ddarpariaeth honni ei bod yn newid y gyfraith yn unrhyw le ac eithrio Cymru. Ni all y ddarpariaeth roi, gorfodi, addasu neu ddileu swyddogaethau sy’n ymarferadwy ac eithrio mewn perthynas â Chymru.

Cymhwysedd deddfwriaethol o fewn adran 108(5)

Hyd yn oed os nad yw darpariaeth o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 108(4), bydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol os yw’n bodloni unrhyw un o’r canlynol:

  • Mae’n darparu ar gyfer gorfodi darpariaeth arall mewn Deddf Cynulliad neu Fesur Cynulliad sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol o dan adran 108(4), neu ei bod yn briodol fel arall i wneud darpariaeth o’r fath yn effeithiol.
  • Mae’n atodol neu’n ganlyniadol i ddarpariaeth arall o fewn Deddf Cynulliad neu Fesur Cynulliad sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol o dan adran 108(4).

Cam 2: Cyfyngiadau yn Rhan 2 o Atodlen 7

Hyd yn oed os yw darpariaeth yn ymwneud ag un o’r meysydd pwnc datganoledig yn Rhan 1 o Atodlen 7, ni fydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol os yw’n perthyn i un o’r cyfyngiadau cyffredinol yn Rhan 2 (gweler adran 108(6)(a)). Mae’r cyfyngiadau cyffredinol yn Rhan 2 yn destun yr eithriadau yn Rhan 3. O ganlyniad, mae cyfyngiad cyffredinol yn Rhan 2 yn golygu bod darpariaeth y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol, ond mae eithriad yn Rhan 3 yn golygu bod darpariaeth o fewn cymhwysedd deddfwriaethol.

Mae’r cyfyngiadau cyffredinol yn rhy fanwl i’w nodi’n llawn yma, ond maent yn cynnwys y canlynol (nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr):

  • Cyfyngiad ar ddileu neu addasu unrhyw swyddogaeth Gweinidog y Goron (h.y. Gweinidog Llywodraeth y DU), ac ar roi unrhyw swyddogaethau newydd i Weinidog y Goron.
  • Cyfyngiad ar addasu Deddfau Seneddol penodol, gan gynnwys yr European Communities Act 1972, y Human Rights Act 1998 a’r rhan fwyaf o’r rhannau o’r Government of Wales Act 2006 (eto, nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr).

Mae’r eithriadau o Ran 2 (a nodir yn Rhan 3) hefyd yn rhy fanwl i’w nodi yn llawn yma, ond maent yn dod â’r canlynol o fewn cymhwysedd deddfwriaethol (nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr chwaith):

  • Unrhyw ddarpariaeth sy’n dileu neu’n rhoi swyddogaeth i Weinidog y Goron os yw’r Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio i’r ddarpariaeth.
  • Unrhyw ddarpariaeth sy’n dileu neu’n rhoi swyddogaeth i Weinidog y Goron os yw’r ddarpariaeth yn atodol neu’n ganlyniadol i ddarpariaeth arall yn yr un Ddeddf Cynulliad.
  • Unrhyw ddarpariaeth sydd ond yn ailddatgan y gyfraith, neu sy’n diddymu neu’n dirymu deddf ddiangen.

Cam 3: Yn estyn i Gymru a Lloegr yn unig

Er mwyn bod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol, ni all darpariaeth estyn i unrhyw diriogaeth ac eithrio Cymru a Lloegr (adran 108(6)(b)). Mewn geiriau eraill, mae’n rhaid iddi newid y gyfraith yn awdurdodaeth gyfreithiol Cymru a Lloegr yn unig. (Peidiwch â chymysgu ‘estyn i’ ac ‘ymwneud â’, gan fod yr ail yn berthnasol i sicrhau bod darpariaeth o fewn cymhwysedd deddfwriaethol o dan adran 108(4).)

Cam 4: Cydnaws â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol

Er mwyn bod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol, ni all darpariaeth fod yn anghydnaws â’r rhannau o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol y mae’r DU wedi ymrwymo iddynt (adran 108(6)(c)).  Gweler y diffiniad o ‘Hawliau’r Confensiwn’ yn adran 1 o’r Human Rights Act 1998 i gael esboniad o ba rannau o’r Confensiwn y mae’r DU wedi ymrwymo iddynt. Mae rhagor o wybodaeth am effaith y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol ar system gyfreithiol y DU ar gael yma.

Cam 5: Cydnaws â chyfraith yr UE

Er mwyn bod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol, ni all darpariaeth fod yn anghydnaws â chyfraith yr UE (adran 108(6)(c)). Mae gwybodaeth gyffredinol am ddeddfau’r UE, a sut mae ganddynt flaenoriaeth dros ddeddfau’r DU, ar gael yma.

Adran 2

Ymdrin â materion cymhwysedd deddfwriaethol

Datrys ansicrwydd yn ymwneud â chymhwysedd deddfwriaethol

Os oes ansicrwydd a yw darpariaeth mewn Deddf Cynulliad neu Fesur Cynulliad (neu mewn is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan Ddeddf Cynulliad neu Fesur Cynulliad) o fewn cymhwysedd deddfwriaethol, mae’n bosibl y bydd modd datrys y mater drwy ddehongli’r ddarpariaeth mewn ffordd gul. Yn ôl adran 154 o GOWA 2006, hyd yn oed os gellid dehongli darpariaeth mewn ffordd sy’n golygu ei bod y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol, mae’n rhaid, os oes modd, ei dehongli mor gul ag sydd ei angen iddi fod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol.

Atgyfeirio Bil i’r Goruchaf Lys ar gyfer dyfarniad ar gymhwysedd deddfwriaethol

Weithiau mae’n ofynnol neu’n ddoeth gweithredu er mwyn canfod a yw Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol cyn iddo ddod i rym.

Mae gan y Cwnsler Cyffredinol (ar gyfer Cymru) a’r Twrnai Cyffredinol (ar gyfer y DU) y pŵer i atgyfeirio Bil y Cynulliad Cenedlaethol, neu ddarpariaeth o fewn Bil y Cynulliad Cenedlaethol, i’r Goruchaf Lys er mwyn cael penderfyniad a yw o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol (gweler adran 112 o GOWA 2006). Mae’n rhaid gwneud unrhyw atgyfeiriad yn ystod y pedair wythnos ar ôl i’r Bil gael ei basio gan y Cynulliad Cenedlaethol, sef cyn iddo dderbyn Cydsyniad Brenhinol a dod yn Ddeddf Cynulliad.

Hyd yn oed os oes llawer iawn o hyder bod Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol, mae’n bosibl y bydd yn cael ei atgyfeirio i’r Goruchaf Lys naill ai at ddibenion sicrwydd neu oherwydd y rhagwelir y bydd Deddf Cynulliad sy’n deillio o’r Bil yn debygol o gael ei herio ar sail cymhwysedd deddfwriaethol pan ddaw i rym.

Mae’r pŵer i atgyfeirio i’r Goruchaf Lys eisoes wedi’i ddefnyddio ar sawl achlysur.

Mae rhagor o wybodaeth am y Biliau a atgyfeiriwyd a’r penderfyniadau a wnaed gan y Goruchaf Lys ar gael yma.

Defnyddio Gorchymyn y Cyfrin Gyngor i unioni deddfau ultra vires

Mae adran 151 o GOWA 2006 yn cynnwys mecanwaith y gellir ei ddefnyddio i unioni’r sefyllfa lle y nodir bod Deddf (neu Fesur) Cynulliad, neu unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf (neu Fesur) Cynulliad y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol, neu fod posibilrwydd o hynny. Mae modd ei defnyddio hefyd i unioni’r defnydd amhriodol o swyddogaeth a roddwyd o dan Ddeddf (neu Fesur) Cynulliad.

O dan adran 151, gall Ei Mawrhydi wneud Gorchymyn y Cyfrin Gyngor i wneud unrhyw ddarpariaeth sy’n briodol yn ei barn hi o ganlyniad i’r diffyg cymhwysedd deddfwriaethol (neu gyflawni’r swyddogaeth yn amhriodol). Yn benodol, gall Gorchymyn y Cyfrin Gyngor ddiwygio unrhyw ddeddfiad, gan gynnwys Deddf (neu Fesur) y Cynulliad dan sylw. Mewn geiriau eraill, gall Gorchymyn y Cyfrin Gyngor gael ei ddefnyddio i ddiwygio Deddf Cynulliad sydd y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol er mwyn sicrhau ei bod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol.

Codi mater datganoli ar ôl i Ddeddf Cynulliad gael ei phasio

Er mai pedair wythnos sydd ar gael i atgyfeirio Bil i’r Goruchaf Lys o dan adran 112, os nad yw’r Bil wedi’i atgyfeirio ar ôl pedair wythnos, nid yw’n golygu na ellir herio’r Ddeddf Cynulliad  sy’n deillio o’r Bil ar y sail ei bod y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol.

Nid yw unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf Cynulliad (neu Fesur Cynulliad) sydd y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol yn ddeddf ddilys (adran 108(2) o GOWA 2006, neu adran 94(2) mewn perthynas â Mesurau’r Cynulliad). Gall unigolyn geisio herio dilysrwydd darpariaeth mewn achosion cyfreithiol.

Mae Atodlen 9 i GOWA 2006 yn nodi’r darpariaethau ar gyfer ymdrin â ‘materion datganoli’, ac un o’r rhain yw cymhwysedd deddfwriaethol. O dan Atodlen 9, mae ‘mater datganoli’ yn golygu unrhyw un o’r canlynol:

  • a yw darpariaeth Deddf Cynulliad neu Fesur Cynulliad o fewn cymhwysedd deddfwriaethol,
  • a yw swyddogaeth yn ymarferadwy gan Weinidogion Cymru, y Prif Weinidog neu’r Cwnsler Cyffredinol,
  • a yw’r posibilrwydd o ymarfer swyddogaeth o fewn pŵer Gweinidogion Cymru, y Prif Weinidog neu’r Cwnsler Cyffredinol, gan gynnwys y cwestiwn a fyddai ymarfer y swyddogaeth honno yn cydymffurfio â chyfraith yr UE neu’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol,
  • a yw Gweinidogion Cymru, y Prif Weinidog neu’r Cwnsler Cyffredinol wedi methu cyflawni dyletswydd a orfodwyd arnynt (gan gynnwys dyletswydd o dan gyfraith yr UE),
  • a yw methiant i weithredu gan Weinidogion Cymru, y Prif Weinidog neu’r Cwnsler Cyffredinol yn golygu eu bod wedi ymddwyn yn groes i’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

Mae Atodlen 9 yn cynnwys gwybodaeth am ba lys a fydd yn penderfynu ar fater datganoli sy’n deillio o unrhyw achos cyfreithiol, ac mae’n caniatáu i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Twrnai Cyffredinol ymwneud â’r achos i’r graddau y mae’n ymwneud â’r mater datganoli. Hefyd, mae gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Twrnai Cyffredinol y pŵer o dan Atodlen 9 i atgyfeirio mater datganoli i’r Goruchaf Lys, hyd yn oed os nad yw’n destun achos cyfreithiol.

Pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol i ymyrryd

Mae adran 114 o GOWA 2006 yn rhoi’r pŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol wneud gorchymyn i atal Clerc y Cynulliad Cenedlaethol rhag cyflwyno Bil Cynulliad ar gyfer Cydsyniad Brenhinol os oes gan yr Ysgrifennydd Gwladol sail resymol i gredu y byddai unrhyw ddarpariaethau yn y Bil:

  • yn cael effaith niweidiol ar unrhyw fater sydd heb ei ddatganoli,
  • yn cael effaith niweidiol difrifol posibl ar adnoddau, cyflenwad neu ansawdd dŵr yn Lloegr,
  • yn cael effaith niweidiol ar weithredu’r gyfraith yn Lloegr,
  • yn anghydnaws ag unrhyw rwymedigaethau rhyngwladol neu fuddiannau amddiffyn neu ddiogelwch gwladol.

Mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol amser cyfyngedig i wneud gorchymyn o dan adran 114, sef o fewn 4 wythnos i’r Bil gael ei basio gan y Cynulliad Cenedlaethol fel arfer (neu, os yn berthnasol, o fewn 4 wythnos ar ôl i’r Goruchaf Lys benderfynu a yw’r Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol).

Pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol i wneud darpariaeth ganlyniadol

Mae adran 150 o GOWA 2006 yn rhoi’r pŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol wneud unrhyw ddarpariaethau sy’n briodol yn ei farn ef o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf (neu Fesur) Cynulliad, neu o unrhyw is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan Ddeddf (neu Fesur) Cynulliad neu gan Weinidogion Cymru.

Mae’r pŵer hwn yn galluogi’r Ysgrifennydd Gwladol, ymysg pethau eraill, i wneud newidiadau canlyniadol i ddeddfau eraill y DU os oes angen gwneud hynny i sicrhau eu bod yn ‘cyd-fynd’ â deddfau a wnaed yng Nghymru. Yn bwysig, ni all yr Ysgrifennydd Gwladol ddefnyddio’r pŵer hwn i wneud darpariaeth ynglŷn â materion sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd yr Alban.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn