Deall deddfwriaeth

Mae'r rhan hon o'r wefan yn darparu canllaw i ddarllen deddfwriaeth, yn enwedig ar gyfer pobl sy'n anghyfarwydd â'r ffordd y mae deddfwriaeth yn cael ei gosod allan a’r math o iaith a ddefnyddir.

Mae rhywfaint o wybodaeth gyffredinol ar ddeddfwriaeth i'w gweld isod. Er mwyn eich helpu i ddeall ystyr deddfwriaeth, mae awgrymiadau ar gyfer defnyddio deddfwriaeth yn rhoi deuddeg awgrym i sicrhau eich bod yn cyfeirio at y ddeddfwriaeth gywir ac yn ei dehongli'n gywir. Er mwyn eich helpu i ffeindio'ch ffordd o gwmpas Deddf, gweler Cynllun Deddf i ddysgu mwy am sut mae Deddf yn cael ei gosod allan a'r manylion pwysig i gadw llygad arnynt. Mae gwybodaeth ynglyn â rhai o'r geiriau ac ymadroddion sy'n cael eu defnyddio mewn deddfwriaeth i'w gweld yma.

Beth yw deddfwriaeth?

Deddf yw deddfwriaeth sydd wedi cael ei gwneud (neu 'ddeddfu') gan ddeddfwrfa neu wedi'i gwneud gan berson sydd wedi ei awdurdodi gan ddeddfwrfa i wneud deddfau. Corff o bobl yw deddfwrfa, fel arfer wedi eu hethol, sydd wedi ei rymuso i wneud, i newid neu i ddiddymu deddfau gwlad neu wladwriaeth.

Mae dwy ddeddfwrfa sy'n pasio deddfau sy’n berthnasol i Gymru - Senedd y DU a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gall deddfwriaeth fod â sawl pwrpas gwahanol, megis:

  • gwahardd neu gyfyngu ar rywbeth,
  • ei gwneud yn ofynnol i rywbeth gael ei wneud,
  • awdurdodi rhywbeth,
  • rheoleiddio rhywbeth,
  • sefydlu corff cyhoeddus neu raglen llywodraeth,
  • codi trethi,
  • creu trosedd.

Cyfeirir yn aml at ddeddfwriaeth fel 'statudau', 'cyfraith statud' neu 'Ddeddfau'. Defnyddir 'Llyfr Statud' weithiau i ddisgrifio'r holl ddeddfwriaeth sy'n weithredol (neu 'mewn grym'). Ond llyfr dychmygol yw hwn, fodd bynnag, gan nad oes un llyfr yn bodoli sy'n cynnwys holl ddeddfwriaeth y DU neu Gymru. Serch hynny, mae holl ddeddfwriaeth y DU a Chymru wedi'i chyhoeddi ar wefan legislation.gov.uk.

Gwahanol fathau o ddeddfwriaeth

Mae gwahaniaeth rhwng deddfwriaeth 'sylfaenol' ac is-ddeddfwriaeth. Mae gan is-ddeddfwriaeth statws is na darn arall o ddeddfwriaeth 'sylfaenol' os yw wedi ei awdurdodi i'w wneud gan y ddeddfwriaeth sylfaenol honno. Mae is-ddeddfwriaeth yn cael ei alw'n ddeddfwriaeth 'eilaidd' neu'n ddeddfwriaeth 'ddirpwyedig' hefyd ('dirprwyedig' gan y bydd y ddeddfwrfa wedi awdurdodi rhywun arall, fel arfer Gweinidog y Llywodraeth, i wneud y ddeddfwriaeth).

Mae'r ddeddfwriaeth sylfaenol sy'n berthnasol i Gymru'n cynnwys Deddfau Senedd y DU, Deddfau'r Cynulliad Cenedlaethol a Mesurau'r Cynulliad Cenedlaethol. ('Mesur' y Cynulliad Cenedlaethol oedd y ffurf ar ddeddfwriaeth sylfaenol a basiwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol rhwng Mai 2007 a Mai 2011.)

Yn aml bydd Deddfwriaeth sylfaenol yn gosod allan egwyddorion craidd y gyfraith dan sylw ac yn darparu ar gyfer is-ddeddfwriaeth i ymdrin â rheolau mwy manwl. Rhaid darllen y ddeddfwriaeth sylfaenol a'r is-ddeddfwriaeth gyda'i gilydd wedyn er mwyn deall y darlun llawn.

Bydd y ddeddfwriaeth sylfaenol yn nodi pwy all wneud yr is-ddeddfwriaeth, a pha bethau y bydd yr is-ddeddfwriaeth yn darparu ar eu cyfer. Mewn perthynas â Chymru caiff y grym i wneud is-ddeddfwriaeth naill ai ei roi i Weinidogion Cymru neu i'r Ysgrifennydd Gwladol, gan ddibynnu ar y pwnc. Rhaid i'r person sy'n gwneud yr is-ddeddfwriaeth beidio â mynd y tu hwnt i'r grym (y cyfeirir ato'n aml fel y 'grym galluogi') a roddwyd iddynt yn y ddeddfwriaeth sylfaenol neu bydd yr is-ddeddfwriaeth y byddant yn ei gwneud yn annilys.

Yn gyffredinol, caiff is-ddeddfwriaeth ei gwneud gan Reoliadau, Gorchmynion neu Reolau wedi eu gosod allan mewn 'offeryn statudol' (ac o ganlyniad, cyfeirir at is-ddeddfwriaeth weithiau fel 'offerynnau statudol'). Rheoliadau yw'r math mwyaf cyffredin o is-ddeddfwriaeth ond label yn unig yw'r enw, ac mae gan Orchmynion a Rheolau yr un statws cyfreithiol.

Y berthynas rhwng deddfwriaeth a'r gyfraith gyffredin

Yn ogystal â deddfwriaeth, mae cyfres arall o gyfreithiau yn y DU, sef y 'gyfraith gyffredin'. Y gyfraith gyffredin yw'r gyfraith sy'n cael ei gwneud gan y llysoedd pan fyddant yn penderfynu ar achosion llys. Weithiau caiff ei galw'n 'gyfraith achos'.

Mae deddfwriaeth a'r gyfraith gyffredin yn bodoli ochr yn ochr ond bydd deddfwriaeth yn cael y flaenoriaeth dros gyfraith gyffredin os oes gwrthdaro rhyngddynt. Er hynny, mae'r gyfraith gyffredin yn gallu ac yn effeithio ar ddeddfwriaeth, ac mae deddfwriaeth yn gallu ac yn effeithio ar y gyfraith gyffredin. Un o'r ffyrdd lle mae hyn yn digwydd yw lle mae deddfwriaeth yn cyfeirio at gysyniad sydd wedi cael ei sefydlu neu ei ddiffinio gan gyfraith achos yn hytrach na cheisio'i ddiffinio eto yn y ddeddfwriaeth.

Mwy o erthyglau ynghylch Deall deddfwriaeth

Gweld mwy o erthyglau yn Deall deddfwriaeth