Sut mae pŵer yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru

Mae'r ffordd y mae pŵer wedi cael ei rannu o fewn y DU (yn cynnwys o ganlyniad i ddatganoli) ac aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd yn golygu bod pobl Cymru'n cael eu llywodraethu mewn amrywiaeth o ffyrdd a'u bod yn ddarostyngedig i gyfreithiau o wahanol ffynonellau. Mae'r cwestiwn ynghylch pa gorff sy'n llywodraethu mater penodol, a pha gyfreithiau sy'n berthnasol, yn dibynnu ar y pwnc. Yn ogystal â Senedd y DU, mae gan yr Undeb Ewropeaidd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru y pŵer i wneud deddfau hefyd. Yn yr un modd mae pwerau amrywiol wedi cael eu rhoi i Weinidogion Senedd y DU (Ysgrifenyddion Gwladol) ac i Weinidogion Cymru. (Mae rhagor o wybodaeth am gymhwysedd deddfwriaethol yr UE i'w gweld yma, ac mae gwybodaeth am gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol i'w gweld yma.)

Pwy sydd â’r pŵer yng Nghymru

Mae'r pŵer i ddeddfu mewn perthynas â Chymru'n cael ei rannu rhwng yr Undeb Ewropeaidd, Senedd y DU a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn ymarferol, fodd bynnag, ar y cyfan mae cyfreithiau'r Undeb Ewropeaidd yn gymwys ar draws pob Aelod Wladwriaeth yn Ewrop, ac ers 2007 (a chymhwysedd deddfwriaethol uwch y Cynulliad Cenedlaethol) mae'n anarferol i Senedd y DU basio cyfreithiau sy'n ymwneud â Chymru'n unig (yn hytrach bydd cyfreithiau’r Senedd yn gymwys i Gymru a Lloegr, Prydain Fawr neu'r DU i gyd fel arfer). Mae'r Cynulliad Cenedlaethol, ar y llaw arall, yn pasio deddfau sy'n ymwneud â Chymru'n unig.

Caiff pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth ei ddatganoli fel mater o drefn (gan Senedd y DU neu'r Cynulliad Cenedlaethol) i Weinidogion y DU (Ysgrifenyddion Gwladol) neu i Weinidogion Cymru gan ddibynnu a yw'n ymwneud â phwnc sydd wedi'i ddatganoli. Unwaith eto, ar y cyfan bydd Ysgrifenyddion Gwladol yn gwneud is-ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i Gymru a Lloegr, Prydain Fawr neu'r DU i gyd (ar faterion sydd heb eu datganoli); tra bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud is-ddeddfwriaeth mewn perthynas â Chymru'n unig.

Mae pŵer gweinyddol (neu weithredol) yng Nghymru mewn sawl lle gwahanol, gan ddibynnu ar y maes pwnc, yn cynnwys:

  • Gweinidogion Cymru;
  • Ysgrifenyddion Gwladol Llywodraeth y DU;
  • awdurdodau lleol;
  • cyrff cyhoeddus niferus eraill, e.e. Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi'n ymarfer pwerau barnwrol dros awdurdodaeth gyfunol Cymru a Lloegr. (Mae rhagor o wybodaeth am rannu pŵer yn bwerau deddfwriaethol, pwerau gweithredol a phwerau barnwrol i'w gweld yma.)

Sut mae deddfau'n cael eu gwneud i Gymru

Mae’r ffynonellau cyfraith sy'n gymwys yng Nghymru fel a ganlyn:

  • Cyfreithiau'r Undeb Ewropeaidd - mae'r rhain yn cael blaenoriaeth dros unrhyw gyfreithiau DU sy’n anghyson. Rhaid i ddeddfau'r UE fod mewn meysydd sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol yr UE, a gallant fod yn berthnasol i feysydd pwnc sydd naill ai wedi eu datganoli neu heb eu datganoli ar lefel y DU.
  • Deddfwriaeth sylfaenol wedi'i gwneud gan Senedd y DU - er mwyn effeithio ar Gymru, rhaid i Ddeddf Seneddol 'ymestyn' i Gymru (h.y. rhaid i Gymru fod o fewn cymhwysedd tiriogaethol y Ddeddf) a rhaid i'w darpariaethau fod yn berthnasol i Gymru. Gall Deddf Seneddol weithredu'n wahanol yng Nghymru o gymharu â rhannau eraill y DU (h.y. gall gynnwys darpariaethau sy'n benodol i Gymru). Gall Deddfau Seneddol ymwneud â meysydd pwnc datganoledig neu rai sydd heb eu datganoli, er na fyddant yn ymwneud â materion datganoledig oni bai bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi rhoi cydsyniad. Gall Deddfau Seneddol gael eu pasio mewn meysydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol yr UE (ar wahân i'r meysydd hynny lle mae gan yr UE gymhwysedd llwyr-gyfyngedig), ond ni chânt wrthdaro gyda chyfraith yr UE.
  • Deddfwriaeth sylfaenol sy'n cael ei gwneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru - rhaid i Ddeddfau'r Cynulliad (a ffurf flaenorol Deddfwriaeth sylfaenol yng Nghymru, Mesurau'r Cynulliad) fod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol er mwyn bod yn gyfreithiau dilys. Mewn geiriau eraill, rhaid i Ddeddfau'r Cynulliad ymwneud â meysydd pwnc datganoledig yn unig.
  • Is-ddeddfwriaeth wedi’i gwneud dan Ddeddf Seneddol - gall y ddeddfwriaeth gael ei gwneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol, neu mewn perthynas â Chymru, gan Weinidogion Cymru.
  • Is-ddeddfwriaeth wedi'i gwneud dan Ddeddf y Cynulliad neu Fesur y Cynulliad - mae'r ddeddfwriaeth yn cael ei gwneud gan Weinidogion Cymru ac yn ymwneud bob amser â maes pwnc sydd wedi'i ddatganoli.
  • 'Cyfraith feddal' - mae'r categori hwn yn cynnwys canllawiau wedi eu hysgrifennu gan sefydliadau'r UE megis y Comisiwn Ewropeaidd, ac arweiniad a Chod Ymarfer wedi'i ysgrifennu gan adrannau'r llywodraeth, Gweinidogion Cymru a chyrff cyhoeddus y DU neu Gymru - nid yw'n rhwymo mewn cyfraith, ond bydd ganddi rywfaint o effaith cyfreithiol.
  • Is-ddeddfau - mae gan awdurdodau lleol, ac mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig awdurdodau cyhoeddus eraill, bwerau i wneud rheolau sy'n ymwneud â materion lleol ar amrywiaeth o bynciau o barlyrau tatŵio i reoli llifogydd. Gweler Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 am ragor o wybodaeth am bwerau cynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol a chynghorau cymunedol yng Nghymru i wneud is-ddeddfau.

'Cyfraith Cymru'

Nid yw hi'n dechnegol gywir i gyfeirio at 'gyfraith Cymru' gan fod Cymru'n rhannu awdurdodaeth gyfreithiol (hynny yw, system gyfreithiol) gyda Lloegr. 'Cyfreithiau Cymru a Lloegr' yw'r enw cywir ar ddeddfau awdurdodaeth Cymru a Lloegr (ac felly nid yw hi'n gywir chwaith felly i gyfeirio at 'Gyfraith Loegr'). Fodd bynnag, yn sgil datganoli mae'r gyfraith sy'n gymwys yng Nghymru yn dargyfeirio mwy a mwy oddi wrth y gyfraith sy'n gymwys yn Lloegr ac mae'n ddefnyddiol cyfeirio at gorff o 'gyfraith Cymru' fel label.

Nod y wefan hon yw eich helpu i ddeall 'cyfraith Cymru' ac i'r diben hwnnw mae hyn yn golygu pob cyfraith sy'n gymwys yn y meysydd pwnc hynny y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cael cymhwysedd deddfwriaethol amdanynt neu y gall Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth ar eu cyfer drwy is-ddeddfwriaeth. Felly gall 'cyfraith Cymru' ar bwnc gael ei gwneud gan y Cynulliad Cenedlaethol, neu gan Weinidogion Cymru, ond gall hefyd gynnwys cyfreithiau sydd wedi eu gwneud gan Senedd y DU, neu gan Ysgrifennydd Gwladol, hyd yn oed lle y gall gael ei gwneud yn awr gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu Weinidogion Cymru.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn