Cynllunio gwlad a thref

Mae’r rhan fwyaf o swyddogaethau o dan y Deddfau cynllunio wedi’u datganoli i Weinidogion Cymru.  Mae Gweinidogion Cymru yn gosod polisi ac yn darparu arweiniad i helpu cynllunio da a all gyfrannu at ddatblygu economaidd, cadwraeth natur a gwella ansawdd bywyd.

Mae gan Gymru system ‘trwy arweiniad cynllun’. Mae’n ofynnol i bob un o’r 25 awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru (y 22 awdurdod lleol a’r 3 Awdurdod Parc Cenedlaethol yw’r rhain) baratoi cynllun datblygu lleol.  Rhaid ystyried y cynllun datblygu lleol wrth benderfynu ar geisiadau am ganiatâd cynllunio ac mae’n rhaid penderfynu ar geisiadau yn unol â’r cynllun datblygu oni bai bod ystyriaethau perthnasol yn dynodi fel arall.
Mae ceisiadau cynllunio yn cael eu penderfynu yn gyffredinol gan yr awdurdod cynllunio lleol. Fodd bynnag, gall Gweinidogion Cymru ‘alw i mewn’ a phenderfynu ar gais cynllunio eu hunain dan rai amgylchiadau.  Mae gan ymgeiswyr y gwrthodwyd caniatâd cynllunio iddynt gan awdurdod cynllunio lleol hawl i apelio i Weinidogion Cymru.

Er bod gan y Cynulliad Cenedlaethol y pŵer i basio cyfreithiau sy’n ymwneud â chynllunio gwlad a thref ar gyfer Cymru, nid oes gan y Cynulliad bŵer i basio deddfau sy’n dod o fewn caniatâd datblygu o dan Planning Act 2008.

Pasiwyd Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 gan y Cynulliad Cenedlaethol ac mae’n aros am Gydsyniad Brenhinol. Os yw’n dod yn gyfraith, bydd y Ddeddf yn cryfhau’r ymagwedd ‘trwy arweiniad cynllun’ i gynllunio yng Nghymru, gyda datblygiad Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, a Chynlluniau Datblygu Strategol ar gyfer materion sy’n berthnasol ar draws ffiniau awdurdodau lleol. Bydd y Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol neu’n caniatáu i rai ceisiadau cynllunio penodol gael eu gwneud yn uniongyrchol i Weinidogion Cymru yn hytrach nag i awdurdodau cynllunio lleol. Bydd y Ddeddf hefyd yn gwneud newidiadau i reoli datblygu a gorfodi.

Mwy o erthyglau ynghylch Cynllunio gwlad a thref

Gweld mwy o erthyglau yn Cynllunio gwlad a thref