Geirfa

Addysg bellach
Ar y cyfan mae addysg bellach yn cael ei darparu mewn colegau i fyfyrwyr sydd dros oedran ysgol gorfodol. Mae addysg bellach yn llenwi'r bwlch rhwng addysg uwchradd (sydd fel arfer yn cael ei darparu mewn ysgolion) ac addysg uwch (sydd fel arfer yn cael ei darparu mewn prifysgolion). Mae'n cynnwys gwahanol fathau o addysg a hyfforddiant , yn cynnwys addysg a hyfforddiant  galwedigaethol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Addysg uwch
Ar y cyfan, ystyr 'addysg uwch' yw addysg sy'n arwain at ddyfarnu gradd. Gall y term fod yn ehangach na hynny, fodd bynnag, ac mae hefyd yn cynnwys cyrsiau ôl-raddedig, Diplomas Cenedlaethol Uwch a chymwysterau proffesiynol uwch. Mae rhestr fwy cynhwysfawr o'r mathau o gyrsiau sy'n cael eu cynnwys fel arfer o fewn y term 'addysg uwch' i'w gweld yn Atodlen 6 yr Education Reform Act 1988.  Mae rhagor o wybodaeth ar addysg uwch ar gael yma.  

Adolygiad barnwrol
Mae achos adolygiad barnwrol yn gais i adolygu cyfreithlondeb deddfiad, penderfyniad, gweithred neu fethiant i weithredu mewn perthynas ag ymarfer swyddogaeth gyhoeddus. Mae proses adolygiad barnwrol yn galluogi'r llysoedd i graffu ar gyfreithlondeb gweithredoedd (ac esgeulustod) cyrff cyhoeddus. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Adran Anweinidogol y Llywodraeth
Adran o lywodraeth y DU nad oes ganddi Weinidog y Goron yn bennaeth arni, ac felly had yw'n rhan o lywodraeth ganolog. Mae adrannau anweinidogol y llywodraeth yn tueddu i fod yn fwy annibynnol o ddylanwad gwleidyddol a'r Llywodraeth o'u cymharu ag adrannau Gweinidogion. Mae llawer ohonynt yn cyflawni swyddogaeth reoleiddio neu archwilio. Mae enghreifftiau'n cynnwys y Comisiwn Elusennau a Chofrestrfa Tir ei Mawrhydi.

Archwilio cyhoeddus
Archwilio cyhoeddus yw'r gwaith o oruchwylio materion ariannol cyrff cyhoeddus i sicrhau eu bod yn defnyddio cronfeydd yn briodol ac yn darparu gwerth am arian. Archwilydd Cyffredinol Cymru, gyda chefnogaeth Swyddfa Archwilio Cymru, yw archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru. Mae'r archwilydd cyffredinol yn archwilio cyfrifon cynghorau sir a bwrdeistref sirol, yr heddlu, awdurdodau tân ac achub, parciau cenedlaethol a chynghorau cymuned, yn ogystal â Llywodraeth Cymru, y cyrff a noddir ganddi, Comisiwn y Cynulliad a chyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae'r broses archwilio'n golygu archwilio sut mae'r cyrff cyhoeddus hyn yn rheoli ac yn gwario arian cyhoeddus, ac a ydynt yn cyflawni gwerth am arian wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.

Archwilydd Cyffredinol Cymru
Archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru. Mae rôl Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cynnwys archwilio sut mae cyrff cyhoeddus Cymru'n rheoli ac yn gwario arian cyhoeddus, yn cynnwys sut y maent yn cael gwerth am arian wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Gweler 'archwilio cyhoeddus'.

Athrawiaeth Ram
Yr athrawiaeth sy'n dal fod gan weinidogion y llywodraeth hawl i ymarfer unrhyw bwerau y mae gan y Goron hawl i'w hymarfer, ar wahân i lle maent yn cael eu rhwystro drwy statud. Mewn geiriau eraill, fod ganddynt holl bwerau person naturiol ac felly (yn wahanol i gorfforaeth statudol megis awdurdod lleol) nid oes angen iddynt ddangos fod ganddynt bŵer neu awdurdod statudol dros unrhyw weithred y gallant fod eisiau ei chyflawni. Cafodd yr athroniaeth ei haeru gan y cyn Brif Gwnsler Seneddol, Syr Greville Ram, ym 1945. Nid yw athrawiaeth Ram yn berthnasol i Weinidogion Cymru, sy'n derbyn eu pŵer drwy statud.

Atodlen 7
Mae Atodlen 7 i'r Government of Wales Act 2006, ynghyd ag adrannau 108 a 109 o'r Ddeddf honno, yn gosod allan hyd a lled cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol. Mae Rhan 1 Atodlen 7 yn nodi rhestr o feysydd pwnc eang y gall y Cynulliad Cenedlaethol basio deddfau ynddynt. Fodd bynnag, mae'r Senedd wedi cadw iddi ei hun yr hawl cyfyngol i wneud deddfau ar rai materion o fewn y meysydd pwnc yma, ac mae'r rhain wedi eu rhestru fel eithriadau o fewn Rhan 1. Mae rhai cyfyngiadau cyffredinol ar gymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol hefyd yn Rhan 2 Atodlen 7, ond rhaid darllen y rhain yn amodol ar yr eithriadau yn Rhan 3.

Awdurdod lleol
Cyfeiriad yw hwn at gyrff llywodraeth leol, megis cynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol. Mae gan awdurdodau lleol amrywiaeth eang o bwerau llywodraethu wedi eu dirprwyo iddynt, i'w defnyddio ar gyfer llywodraethu eu hardaloedd. Mae hyn yn cynnwys swyddogaethau i wella llesiant yn eu hardaloedd, pwerau i basio is-ddeddfau a chodi cyllid drwy ardrethi annomestig a threth y cyngor. Yn aml hwy yw'r awdurdod penodol at bwrpasau statudol penodol, yn cynnwys yr awdurdod addysg lleol a'r awdurdod cynllunio lleol.

Awdurdodau Parciau Cenedlaethol
Cafodd awdurdod parc cenedlaethol ei sefydlu ar gyfer pob parc cenedlaethol yng Nghymru ar 23 Tachwedd 1995. Y tri awdurdod parc cenedlaethol yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.  Mae gan awdurdod parc cenedlaethol amryw o swyddogaethau, pwerau a dyletswyddau yn cynnwys mynd ar drywydd dibenion cadwraeth a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol ardal a meithrin llesiant economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol o fewn y parc cenedlaethol.

Awdurdodau Tân ac Achub
Mae swyddogaethau craidd yr awdurdodau tân ac achub wedi eu gosod allan yn y Fire and Rescue Services Act 2004 ac maent yn cynnwys diffodd tanau, gwarchod bywyd ac eiddo mewn tanau, achub pobl mewn damweiniau traffig ar y ffordd a hyrwyddo diogelwch tân. Mae tri awdurdod tân ac achub yng Nghymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Comisiwn y Cynulliad
Y corff corfforaethol sy'n gyfrifol am sicrhau bod eiddo, staff a gwasanaethau'n cael eu darparu ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Aelodau Comisiwn y Cynulliad yw'r Llywydd a phedwar Aelod Cynulliad arall (o wahanol bleidiau gwleidyddol lle mae hynny'n ymarferol).

Comisiynwyr Heddlu a Throseddu
Dan y Police Reform and Social Responsibility Act 2011, mae swyddogaethau comisiynwyr heddlu a throseddu'n cynnwys: (i) sicrhau heddlu effeithiol ac effeithlon ar gyfer eu hardal; (ii) penodi Prif Gwnstabl, eu dal i gyfrif am weinyddu'r heddlu, a'u diswyddo pe byddai angen; (iii) gosod amcanion heddlu a throseddu ar gyfer eu hardal; a (iv) gosod cyllideb yr heddlu a phennu'r praesept (yr arian ar gyfer yr heddlu i'w godi drwy’r dreth gyngor). Caiff Comisiynydd Heddlu a Throseddu ei ethol ar gyfer pob ardal heddlu. Mae pedair ardal heddlu yng Nghymru, pob un â chomisiynydd heddlu a throseddu:  Dyfed Powys, Gwent, Gogledd Cymru a De Cymru.

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn sicrhau bod buddiannau pobl 60 oed a hŷn yng Nghymru yn cael eu diogelu a'u hyrwyddo, ac mae'n ffynhonnell gwybodaeth, eiriolaeth a chefnogaeth i'r bobl hŷn yma a'u cynrychiolwyr. Mae rôl a phwerau statudol y Comisiynydd wedi eu nodi yn y Commissioner for Older People (Wales) Act 2006 a Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2007.

Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
Corff corfforaethol sy’n gyfrifol am gynnal adolygiadau a gwneud cynigion am newidiadau mewn ardaloedd llywodraeth leol yng Nghymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Comisiynydd Plant Cymru
Prif nod Comisiynydd Plant Cymru yw diogelu a hyrwyddo hawliau a lles plant a phobl ifanc yng Nghymru. Cafodd y Comisiynydd Plant ei sefydlu dan Ran V y Care Standards Act 2000, a gafodd ei ddiwygio gan y Children’s Commissioner for Wales Act 2001

Comisiwn Silk
Y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru a gafodd ei gadeirio gan Syr Paul Silk. Bu'r Comisiwn yn ystyried sut y gallai rhychwant datganoli gael ei newid er mwyn gwasanaethu pobl Cymru'n well. Adroddodd y Comisiwn mewn dau gam. Yn y cam cyntaf, gwnaeth argymhellion mewn perthynas â threfniadau cyllido ar gyfer Llywodraeth Cymru a datganoli rhai trethi a chafodd rhai o'r argymhellion eu gweithredu gan y Wales Act 2014.  Nododd adroddiad cam dau argymhellion ar gyfer datganoli pwerau pellach i Gymru.

Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol 
Cytuniad rhyngwladol i warchod hawliau dynol a rhyddid sylfaenol yn Ewrop. Cadarnhaodd y Deyrnas Unedig y Confensiwn ym 1951 a chafodd ei ymgorffori'n uniongyrchol i gyfraith y DU gan yr Human Rights Act 1998. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.  

Confensiwn Sewel
Er ei bod wedi rhoi pwerau deddfu i seneddau datganoledig Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae Senedd y DU yn cadw ei sofraniaeth ac felly mae'n dal yn gallu deddfu ar unrhyw fater datganoledig ei hun. Confensiwn Sewel yw'r enw a roddir ar y protocol na fydd y Senedd fel arfer yn deddfu ar fater datganoledig heb gydsyniad y senedd ddatganoledig dan sylw. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi ei gydsyniad drwy basio cynnig cydsyniad deddfwriaethol (LCM). Mae'r confensiwn wedi ei enwi ar ôl yr Arglwydd Sewel, cyn Is-Ysgrifennydd Seneddol dros yr Alban, a draethodd ar yr egwyddor yn ystod taith y Scotland Act 1998.

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn 
Cytuniad rhyngwladol sy'n cydnabod hawliau dynol plant, sy'n cael eu diffinio fel personau hyd at 18 mlwydd oed. Mae gwledydd sy'n cadarnhau'r Confensiwn yn cael ei rwymo iddo gan gyfraith ryngwladol. Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, sy'n cynnwys aelodau o wledydd ar draws y byd, yn monitro cydymffurfiaeth. Yng Nghymru, mae gan Weinidogion Cymru ddyletswydd i barchu darpariaethau craidd Rhan 1 y Confensiwn (a rhai darpariaethau o fewn protocolau dewisol y Confensiwn) wrth ymarfer eu swyddogaethau (gweler adran 2 Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011). Mae'r mesur yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru wneud gorchymyn i gymhwyso'r Mesur i bobl ifanc (pobl sydd wedi troi'n 18 ond sydd o dan 25), er nad yw'r pŵer hwn wedi cael ei ddefnyddio hyd yn hyn.

Corff Adnoddau Naturiol Cymru
Corff a noddir gan Lywodraeth Cymru wedi ei greu gan y Natural Resources Body for Wales (Establishment) Order 2012. Fe gymerodd waith Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru  Ei bwrpas yw sicrhau bod adnoddau naturiol Cymru'n cael eu cynnal, eu gwella a'u defnyddio'n gynaliadwy yn awr ac i'r dyfodol. Mae wedi mabwysiadu'r enw 'Cyfoeth Naturiol Cymru'.

Coron
Cyfeiriad deddfol at y Frenhines sy'n teyrnasu yn ei grym sofran, lle mae ganddi'r awdurdod goruchaf. Mae'r Goron yn gysyniad pwysig yn system gyfreithiol y DU: yn hanesyddol roedd pob pŵer llywodraethol wedi'i freinio yn y Goron. Er gwaethaf sofraniaeth y Senedd, a bod yn fanwl gywir mae pwerau cyfreithiol yn dal i ddod o'r Goron. Mae gweinidogion Llywodraeth y DU yn Weinidogion y Goron, sy'n golygu eu bod yn ymarfer swyddogaethau'r Goron. Nid yw Gweinidogion Cymru yn Weinidogion y Goron, ond serch hynny maent yn ymarfer eu swyddogaethau ar ran y Goron. Gweler y cofnod ar gyfer 'uchelfraint frenhinol'.

Cronfa Gyfunol Cymru
Cyfrif banc canolog Llywodraeth y DU yw'r gronfa gyfunol. Caiff derbyniadau trethu a derbyniadau eraill y llywodraeth eu talu i mewn i'r gronfa gyfunol a'u defnyddio i ariannu gwariant cyhoeddus. Yng Nghymru, y cyfrif banc canolog cyfatebol yw cronfa gyfunol Cymru. Caiff yr holl arian a delir i Weinidogion Cymru, y Prif Weinidog neu'r Cwnsler Cyffredinol, Swyddfa Archwilio Cymru, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a Chomisiwn y Cynulliad eu talu i mewn i Gronfa Gyfunol Cymru, a'u defnyddio i ariannu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Cwestiwn Gorllewin Lothian
Y cwestiwn a gafodd ei ofyn gan Tan Dalyell, AS Gorllewin Lothian, ym 1977: "Am ba hyd fydd etholaethau yn Lloegr ac aelodau Anrhydeddus Seisnig yn goddef o leiaf 119 o Aelodau Anrhydeddus o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael effaith bwysig, ac yn aml un dyngedfennol,  ar wleidyddiaeth Prydain a hwythau heb unrhyw lais ar yr un materion yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon?"  Mae'r cwestiwn ynghylch maint cyfranogiad ASau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn Senedd y DU ar ôl datganoli yn bwnc llosg yn y ddadl heddiw ar ddyfodol datganoli yn y DU.

Cwnsler Cyffredinol
Mae'r Cwnsler Cyffredinol yn aelod o Lywodraeth Cymru, ac mae'n Swyddog y Gyfraith iddi, sy'n golygu mai ef neu hi yw prif ymgynghorydd cyfreithiol y Llywodraeth ac yn ei chynrychioli yn y llysoedd. Mae gan y Cwnsler Cyffredinol rai swyddogaethau statudol, yn cynnwys y pŵer i gyfeirio biliau'r Cynulliad Cenedlaethol i'r Goruchaf Lys am benderfyniad ynghylch cymhwysedd deddfwriaethol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Cyfraith weinyddol
Cyfraith weinyddol (y cyfeirir ati weithiau fel 'cyfraith gyhoeddus') yw'r corff o gyfraith sy'n ceisio sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn gweithredu o fewn eu pwerau ac mewn ffordd sy'n gyfreithlon, yn rhesymol ac yn deg. Mae rhagor o wybodaeth ar gyfraith weinyddol ar gael yma.  

Cyfansoddiad
Mae cyfansoddiad yn diffinio sefydliadau llywodraeth gwladwriaeth a'u pwerau. Yn y rhan fwyaf o wledydd, mae deddfau sy'n gosod allan y cyfansoddiad yn oruwch nag unrhyw fathau eraill o ddeddfau, ond yn y DU mae deddfau am y cyfansoddiad yn rhan o gyfraith arferol y wlad. Yn ogystal â deddfau, mae cyfansoddid y DU hefyd yn dibynnu i raddau helaeth ar gonfensiynau a dealltwriaeth ynghylch sut y dylai sefydliadau llywodraeth weithredu. Yn rhannol am y rheswm hwn, mae'r cyfansoddiad hefyd yn anysgrifenedig, sy'n golygu tra bod y rhan fwyaf o ddeddfau sy'n gysylltiedig â'r cyfansoddiad yn ysgrifenedig, nid oes modd eu canfod wedi eu hysgrifennu'n gyfleus gyda'i gilydd mewn un lle. Mewn perthynas â Chymru, y Government of Wales Acts 1998 a 2006 (fel y'u diwygiwyd gan y Wales Act 2014) yw cyfansoddiad datganoledig Cymru i bob pwrpas.

Cyfarwyddeb Ewropeaidd
Mae Cyfarwyddeb yr UE yn gyfraith yr Undeb Ewropeaidd y mae gofyn i Aelod Wladwriaethau ei rhoi ar waith yn eu cyfraith genedlaethol eu hunain. Fel arfer mae peth hyblygrwydd ynghylch sut y caiff y gyfraith ei rhoi ar waith. Gweler hefyd Rheoliad Ewropeaidd.

Cyfarfod Llawn
Cyfarfod llawn yw cyfarfod o holl Gynulliad Cenedlaethol Cymru, sy'n digwydd yn y siambr drafod yn y Senedd.

Cymhwysedd deddfwriaethol
Mae cymhwysedd deddfwriaethol yn diffinio a oes gan ddeddfwriaeth y pŵer i basio deddfau mewn perthynas â mater penodol. Os bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn pasio deddf sydd y tu hwnt i'w gymhwysedd deddfwriaethol, nid yw'r ddeddf honno yn ddeddf ddilys. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Cymhwysiad/effaith uniongyrchol 
Mae hyn yn disgrifio'r modd y mae rhai o gyfreithiau'r Undeb Ewropeaidd yn uniongyrchol berthnasol (neu'n cael 'effaith uniongyrchol') yn y Deyrnas Unedig, ac felly nid oes angen iddynt gael eu rhoi ar waith yn ein cyfraith ni gan ddefnyddio deddfwriaeth y DU. Mae Rheoliadau'r UE hefyd yn cael effaith uniongyrchol yn y DU, yn ogystal ag ym mhob Aelod Wladwriaeth o'r UE. Mewn gwrthgyferbyniad, nid oes gan Gyfarwyddebau'r EU ar y cyfan effaith uniongyrchol ac mae gofyn i Aelod Wladwriaethau eu gweithredu drwy basio deddfau cenedlaethol. Mae darpariaethau'r Treaty on European Union a'r Treaty on the Functioning of the European Union yn cael effaith o fewn cyfraith y DU drwy rinwedd adran 2 o'r European Communities Act 1972 (fel y'i diwygiwyd).

Cyngor cymuned
Cynghorau cymuned a thref yw lefel llawr gwlad llywodraethiant leol yng Nghymru. Mae dros 730 o gynghorau cymuned a thref yng Nghymru. Mae rhai'n cynrychioli poblogaeth o lai na 200 o bobl, eraill yn cynrychioli dros 45,000 o bobl. Eu pwrpas yw gwella ansawdd bywyd a'r amgylchedd i ddinasyddion yn eu hardaloedd. 

Cyngor Partneriaeth Cymru
Bwriad Cyngor Partneriaeth Cymru yw hyrwyddo cydweithio a chydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol. Ei brif gyfrifoldebau yw: (i) annog deialog rhwng Gweinidogion Cymru a llywodraeth leol ar faterion sy'n effeithio ar lywodraeth leol yng Nghymru, yn unol ag adrannau 72 a 73 o'r Government of Wales Act 2006; a (ii) darparu atebolrwydd gwleidyddol torfol dros weithredu i wella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd gwasanaethau cyhoeddus.

Cynnig cydsyniad deddfwriaethol
Pan fydd Senedd y DU eisiau deddfu ar fater pwnc y mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru gymhwysedd i ddeddfu arno, mae confensiwn yn gofyn ei fod yn cael cydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol cyn iddo basio'r ddeddfwriaeth dan sylw. Roddir y cydsyniad hwn gan y Cynulliad Cenedlaethol drwy gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Y senedd ddatganoledig yng Nghymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru
Cyrff cyhoeddus sy'n cael eu hariannu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru ond heb fod yn rhan o Lywodraeth Cymru. Mae ganddynt bwerau cyfreithiol a roddwyd iddynt ac maent yn mwynhau annibyniaeth weithredol i raddau amrywiol oddi wrth Lywodraeth Cymru. Mae swyddogaethau'r llywodraeth sy'n cael eu cyflawni ganddynt yn gallu bod yn weinyddol, yn rheoleiddiol, yn fasnachol, yn ymgynghorol neu gallant olygu datrys anghydfodau. Ar hyn o bryd mae naw corff a noddir gan Lywodraeth Cymru, yn cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Gofal Cymru a'r Cyngor Cyllido Addysg Uwch.

Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd (TFEU)
Y cytuniad sy'n gosod allan strwythur sefydliadol a swyddogaethol yr Undeb Ewropeaidd. Arferai gael ei alw’n Gytuniad y CE, Cytuniad Rhufain a'r Cytuniad i sefydlu'r Gymuned Ewropeaidd.

Datganoli
Y broses sy'n golygu bod y pŵer i basio deddfwriaeth (cymhwysedd deddfwriaethol) wedi cael ei roi i'r tair deddfwrfa genedlaethol yn y Deyrnas Unedig (Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon), ac mae swyddogaethau gweithredol wedi cael eu trosglwyddo oddi wrth Lywodraeth y DU i Weinidogion Cymru, Gweinidogion yr Alban a Gweinidogion yr Alban neu i Adrannau. 

Deddf Cynulliad 
Ffurf deddfwriaeth sylfaenol a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ers mis Mai 2011, pan ddaeth Rhan 4 y Government of Wales Act 2006 i rym. Mae rhagor o wybodaeth ar ddeddfwriaeth sylfaenol ar gael yma.  

Deddf Hawliau Dynol
Mae'r Human Rights Act 1998 yn ymgorffori'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol o fewn cyfraith y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn galluogi dinasyddion y DU i orfodi eu hawliau dan y Confensiwn yn uniongyrchol yn llysoedd y DU, yn hytrach na thrwy fynd â'u hachosion i Lys Hawliau Dynol Ewrop. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Deddfau Addysg
Term sy'n cwmpasu rhestr benodol o statudau sy'n ymwneud â chyfreithiau addysg. Mae'r diffiniad yn ymddangos yn adran 578 yr Education Act 1996.  Mae hyn yn caniatáu cymhwyso termau amrywiol eraill sy'n cael eu diffinio yn yr Education Act 1996 i bob Deddf Addysg o'r gorffennol ac yn y dyfodol.

Deddfau Eglwysi Cymru
Mae'r term hwn yn cyfeirio at y Welsh Church Act 1914, y Welsh Church (Temporalities) Act 1919 a'r Welsh Church (Burial Grounds) Act 1945 gyda'i gilydd. Maent yn ffurfio rhan o'r gyfraith statud sy'n berthnasol i'r Eglwys yng Nghymru ddatgysylltiedig.

Deddfwriaeth eilradd 
Gweler Is-ddeddfwriaeth.

Dirprwy Weinidogion Cymru
Caiff Dirprwy Weinidogion Cymru eu penodi o blith Aelodau'r Cynulliad gan y Prif Weinidog. Eu prif rôl yw cynorthwyo'r Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru i gyflawni eu swyddogaethau. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn galw ar gyrff cyhoeddus i ystyried yr angen i gael gwared ar wahaniaethu, i hyrwyddo cyfle cyfartal ac i feithrin perthynas dda rhwng gwahanol bobl wrth gyflawni eu gweithgareddau. Mae'r ddyletswydd hefyd yn berthnasol i unrhyw berson neu gorff arall sy'n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus. Mae'r ddyletswydd wedi ei nodi yn adran 149 yr Equality Act 2010. Mae'r cyrff cyhoeddus yng Nghymru sy'n ddarostyngedig i'r ddyletswydd wedi eu nodi yn Rhan 2 Atodlen 19 y Ddeddf. Maent yn cynnwys y Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, amryw o sefydliadau yn y sectorau iechyd ac addysg a'r rhan fwyaf o awdurdodau cyhoeddus eraill yng Nghymru.

Egwyddor Carltona 
Yr egwyddor sy'n golygu y gall gweision sifil ymarfer y rhan fwyaf o swyddogaethau ar ran gweinidogion y llywodraeth heb i'r swyddogaethau hynny gael eu dirprwyo'n benodol iddynt.  Mae'r egwyddor yn deillio o gyfraith achos ac mae'n cynnwys ymarfer swyddogaethau gan weision sifil Llywodraeth Cymru ar ran y Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol.

Fformiwla Barnett
Mecanwaith anstatudol sy'n cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth y DU i bennu faint o wariant cyhoeddus gaiff ei ddyrannu i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Os bydd arian newydd yn cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth y DU, caiff fformiwla Barnett ei ddefnyddio i gyfrifo cyfran Cymru o'r arian newydd hwnnw. Mater i Lywodraeth Cymru yw dewis sut i ddefnyddio'r arian hwnnw, yn unol â chymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol.

Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol
Offeryn sy'n cael ei ddefnyddio i roi cymhwysedd deddfwriaethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ychwanegu pwnc at Atodlen 7 (ac Atodlen 5 cyn hynny) i'r Government of Wales Act 2006.

Gorchmynion dynodi
Gorchymyn sy'n dynodi gweinidog gwladol, megis Gweinidogion Cymru, dan adran 2(2) i'r European Communities Act 1972, sy’n dirprwyo pŵer i wneud pethau penodol mewn perthynas â chyfreithiau'r UE, megis eu gweithredu o fewn cyfraith ddomestig.

Gorchmynion trosglwyddo swyddogaethau
Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor a wnaed gan Ei Mawrhydi y Frenhines er mwyn trosglwyddo swyddogaethau gweithredol. Mewn perthynas â Chymru mae hyn yn golygu trosglwyddo swyddogaethau oddi wrth Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (yn ystod cam cyntaf datganoli yng Nghymru) neu i Weinidogion Cymru, y Prif Weinidog neu'r Cwnsler Cyffredinol (yn dilyn gweithredu'r Government of Wales Act 2006).  Y prif orchymyn trosglwyddo swyddogaethau yw'r National Assembly for Wales (Transfer of Functions) Order 1999.  Cafodd y swyddogaethau a roddwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol drwy'r Gorchymyn hwnnw eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn dilyn gweithredu'r Government of Wales Act 2006.

Government of Wales Act 1998 (GOWA 1998)
Y ddeddfwriaeth a achosodd cam cyntaf llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru. Fe sefydlodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel corff gweithredol gyda phwerau i wneud deddfwriaeth eilradd mewn rhai meysydd pwnc. Cafodd y rhan fwyaf o GOWA 1998 ei dirymu ar 3 Mai 2007 a'i disodli gan y Government of Wales Act 2006.  Mae rhagor o wybodaeth am gam cyntaf Datganoli Cymru ar gael yma.  

Government of Wales Act 2006 (GOWA 2006)
Y ddeddfwriaeth a drawsffurfiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn senedd gyda phwerau deddfu sylfaenol llawn. Fe greoedd hefyd Lywodraeth Cynulliad Cymru (sydd wedi ei hailenwi'n Llywodraeth Cymru bellach) fel corff ar wahân yn gyfrifol am ymarfer pwerau gweithredol yng Nghymru, yn atebol i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Gwas sifil
Rhywun sy'n cael ei gyflogi gan adran neu asiantaeth y llywodraeth. Gall Gweinidogion Cymru benodi pobl i fod yn aelodau staff Llywodraeth Cymru fel rhan o'r Gwasanaeth Sifil Cartref. Gweinyddiaeth anwleidyddol yw staff Llywodraeth Cymru, sy'n cefnogi Gweinidogion Cymru, waeth pa blaid sydd mewn grym. Mae gweision sifil yn cael eu rheoli gan god ymddygiad llym sy'n helpu i sicrhau niwtraliaeth wleidyddol, gweinyddiaeth effeithiol, llywodraethiant da a rheolaeth dda o arian cyhoeddus.

Gweinidogion Cymru
Gweinidogion Cymru, y Prif Weinidog, Dirprwy Weinidogion Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol gyda'i gilydd sy'n ffurfio aelodaeth Llywodraeth Cymru. Caiff Gweinidogion Cymru eu penodi gan y Prif Weinidog dan adran 48 y Government of Wales Act 2006.  Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Gweinidog y Goron
Deilydd swydd weinidogaethol wedi'i benodi gan Ei Mawrhydi y Frenhines. Nid yw Gweinidogion Cymru yn Weinidogion y Goron. Yn hytrach, maent yn dal swydd statudol dan y Government of Wales Act 2006, er eu bod yn cyflawni eu swyddogaethau 'ar ran' y Goron (gweler adran 57(2) y Ddeddf).

Gweithdrefn gadarnhaol ddrafft
Yng Nghymru, mae'r weithdrefn hon yn galw am offeryn statudol wedi ei greu gan Weinidogion Cymru a'i osod o flaen y Cynulliad Cenedlaethol, a'i gymeradwyo ganddi, cyn iddi allu dod yn gyfraith.

Gweithdrefn negyddol
Mewn perthynas â Chymru, mae'r weithdrefn hon yn caniatáu i offeryn statudol sy'n cael ei greu gan Weinidogion Cymru ddod yn gyfraith, ond rhaid iddo gael ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ac mae modd i benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol ei 'ddirymu'.

Is-ddeddfwriaeth
Deddfwriaeth sy'n cael ei gwneud yn unol â phwerau a ddirprwyir gan ddeddfwriaeth sylfaenol (hynny yw, Deddf Senedd y DU neu Ddeddf Cynulliad neu Fesur Cynulliad) neu ei his-ddirprwyo gan ddarn arall o is-ddeddfwriaeth. Mae amryw o enwau'n cael eu rhoi i offerynnau o natur ddeddfwriaethol sy'n cael eu gwneud wrth ymarfer pwerau datganoledig, yn cynnwys Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor, gorchmynion, rheolaethau, rheolau, cynlluniau, cyfarwyddiadau, is-ddeddfau a gwarantau.  Mae'r rhan fwyaf o is-ddeddfwriaeth yn cael ei gwneud drwy gyfrwng offeryn statudol.

Llysoedd
Mae'r llysoedd yn rhan o Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi. Mae Cymru a Lloegr yn dod o fewn un awdurdodaeth gyfreithiol ac maent yn rhannu'r un system llysoedd a thribiwnlysoedd. Y llysoedd sy'n gyfrifol am weinyddu cyfiawnder mewn materion sifil, troseddol a gweinyddol (cyfraith gyhoeddus) yn unol â rheolaeth y gyfraith. Mae'r llysoedd hefyd yn dehongli'r gyfraith ac mae llawer o egwyddorion sylfaenol cyfraith y DU wedi codi yn sgil penderfyniadau'r llysoedd yn hytrach nag yn sgil deddfwriaeth.

Llywodraeth Cymru (Llywodraeth Cynulliad Cymru)
Llywodraeth Cymru yw llywodraeth ddatganoledig Cymru. Mae'n cynnwys Prif Weinidog Cymru, Gweinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol a staff. Yr enw blaenorol oedd 'Llywodraeth Cynulliad Cymru'; cafodd ei hailenwi'n 'Llywodraeth Cymru' yn ymarferol yn 2011 ac yn gyfreithiol yn y Wales Act 2014.

Mesur y Cynulliad
Y ffurf sy'n cael ei gymryd gan ddeddfwriaeth sylfaenol a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 2007 a Mai 2011, yn unol â Rhan 3 y Government of Wales Act 2006.  Mae rhagor o wybodaeth ar ddeddfwriaeth sylfaenol ar gael yma.  

Offeryn Statudol
Math o ddogfen sy'n cynnwys is-ddeddfwriaeth. Lle mae statud yn rhoi pŵer i'r Ysgrifennydd Gwladol neu i Weinidogion Cymru wneud, cadarnhau neu gymeradwyo is-ddeddfwriaeth, dywedir fel arfer fod y pŵer hwnnw'n cael ei ymarfer drwy offeryn statudol. Mae'r Statutory Instruments Act 1946 yn cynnwys rheolau am y weithdrefn ar gyfer gwneud offerynnau statudol.

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Cafodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (PSOW) ei sefydlu gan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (Cymru) 2005 (PSOWA 2005). Mae'r PSOW yn ymchwilio i gwynion gan aelodau'r cyhoedd ynghylch camweinyddu honedig a methiant gwasanaethau gan y cyrff sy'n cael eu rhestru yn Atodlen 3 PSOWA 2005. Mae'r rhain yn cynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol a chomisiynwyr heddlu a throseddu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Penodiadau cyhoeddus
Mae yna reolau am y broses y mae'n rhaid i Weinidogion (yn cynnwys Gweinidogion Cymru) ei dilyn wrth benodi pobl i fyrddau cyrff cyhoeddus. Mae'r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus yn rheoleiddio'r penodiadau hyn gyda'r nod o sicrhau eu bod yn cael eu gwneud ar haeddiant yn dilyn proses deg, agored a thryloyw, a heb duedd na dylanwad gwleidyddol. Nid yw'r Comisiynydd yn goruchwylio penodi Gweision Sifil (cyfrifoldeb Comisiwn y Gwasanaeth Sifil yw hyn) na phenodiadau barnwrol (cyfrifoldeb y Comisiwn Penodiadau Barnwrol yw hyn).

Prif Gyngor
At ddibenion llywodraeth leol, mae Cymru wedi ei rhannu'n 22 sir a bwrdeistrefi sirol, neu 'brif ardaloedd'. Mewn perthynas â phob 'prif ardal' mae cyngor 'sir' neu 'fwrdeistref sirol', sydd hefyd yn cael eu galw'n 'brif gynghorau'.

Prif Weinidog
Prif Weinidog Cymru yw pennaeth Llywodraeth Cymru a chaiff ei benodi gan Ei Mawrhydi y Frenhines yn dilyn ei enwebiad gan Aelodau'r Cynulliad. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Refferendwm
Pleidlais lle mae'r holl etholwyr yn cael eu gwahodd i bleidleisio ar gynnig penodol. Mae refferendwm yn nodweddiadol yn gofyn cwestiwn sydd â gwir arwyddocâd i gyfansoddiad y DU. Cafodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei sefydlu yn dilyn pleidlais ie mewn refferendwm ym 1997 i'r cwestiwn a oedd pobl Cymru am weld cynulliad i Gymru yn cael ei greu gyda phwerau datganoledig. Bu refferendwm pellach yn 2011 yn gyfrwng i ymestyn pwerau deddfu'r Cynulliad Cenedlaethol. Mae rhagor o wybodaeth ar ddatganoli Cymru ar gael yma.  

Rheoliad Ewropeaidd
Mae Rheoliad yr UE yn gyfraith yr Undeb Ewropeaidd sy'n weithredol ar unwaith ym mhob Aelod Wladwriaeth unwaith y bydd mewn grym ac felly nid oes angen ei roi ar waith o fewn cyfraith genedlaethol. Dywedir ei fod yn 'uniongyrchol effeithiol'.  Gweler hefyd Cyfarwyddeb Ewropeaidd.

Rheolau Sefydlog
Y rheolau gweithdrefnol sy'n rheoli trafodion y Cynulliad Cenedlaethol. Mae unrhyw newid yn y rheolau sefydlog yn gofyn am benderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i basio gan fwyafrif o ddwy ran o dair neu fwy. (gweler adran 31 o'r Government of Wales Act 2006).  Mae'r rheolau sefydlog yn cynnwys popeth o lwon Aelodau Cynulliad i fusnes mewn pwyllgorau a chyfarfodydd llawn i'r gweithdrefnau ar gyfer ystyried a phasio Deddfau'r Cynulliad.

Rhyddid Gwybodaeth
Mae'r deddfau ar ryddid gwybodaeth yn gosod rhwymedigaeth ar gyrff cyhoeddus, yn cynnwys Llywodraeth Cymru ac awdurdodau cyhoeddus eraill yng Nghymru, i wneud gwybodaeth benodol yn hysbys gael os bydd cais amdani. Pwrpas y deddfau hyn yw cynyddu tryloywder ac atebolrwydd mewn llywodraeth a materion cyhoeddus. Mae, o anghenraid, amryw o eithriadau rhag gorfod datgelu gwybodaeth, yn cynnwys lle mae angen gwneud hyn er budd diogelwch cenedlaethol, a lle mae'r wybodaeth yn cael ei chadw yn amodol ar rwymedigaeth cyfrinachedd. Mae'r cyfreithiau yn y maes hwn ar gael yn y Freedom of Information Act 2000, deddf sydd wedi arwain at y dywediad 'Cais Rhyddid Gwybodaeth' neu ‘FOI request’ yn Saesneg.

Siarter Frenhinol
Dogfen ffurfiol sy'n cael ei chyhoeddi gan y Frenhines/Brenin yn caniatáu hawl neu bŵer i unigolyn neu i gorff corfforaethol. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn enghraifft o gorff a sefydlwyd gan Siarter Frenhinol.

Sofraniaeth y Senedd
Sofraniaeth y senedd yw conglfaen cyfansoddiad y DU. Mae'n gwneud y Senedd yn brif awdurdod cyfreithiol y DU, yn gallu creu neu ddiweddu unrhyw ddeddf. All y llysoedd ddim goruwchreoli ei ddeddfwriaeth ac ni all unrhyw Senedd basio deddfau na all unrhyw Senedd yn y dyfodol eu newid.

Swyddogaethau'r Gymraeg
Mae gan Weinidogion Cymru'r pŵer i wneud popeth yr ystyriant yn briodol i gefnogi'r Gymraeg (gweler adran 61 y Government of Wales Act 2006).  Mae gofyn iddynt fabwysiadu strategaeth iaith Gymraeg i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg. Mae gofyn iddynt hefyd fabwysiadu cynllun iaith Gymraeg i sicrhau bod gan y Gymraeg a'r Saesneg statws cyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru (adran 78 y Ddeddf). Mae'r Gymraeg yn fater datganoledig y gall y Cynulliad Cenedlaethol ddeddfu arno. Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, ymysg pethau eraill, yn sefydlu Comisiynydd y Gymraeg sy'n gyfrifol am hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg.

Tribiwnlys
Person neu sefydliad sydd â'r awdurdod i farnu, dyfarnu neu benderfynu ar hawliau neu anghydfodau. Yn y DU, mae system y tribiwnlysoedd yn cynnwys amrywiaeth o dribiwnlysoedd mewn gwahanol feysydd pwnc, wedi eu trefnu yn Dribiwnlys Haen Gyntaf a'r Uwch Dribiwnlys  (y gall apeliadau gael eu cyfeirio ato o'r Tribiwnlys Haen Gyntaf).

Tribiwnlys Haen Gyntaf
Gweler Tribiwnlys.

Uchelfraint frenhinol
Mae gan y Goron amryw o bwerau a breintiau cynhenid cyfraith gyffredin sy'n cael eu galw, gyda'i gilydd, yn uchelfraint Frenhinol.  Mae eu bodolaeth yn ganlyniad i ddefnydd cyffredin a chydnabyddiaeth farnwrol. Mae'r uchelfraint yn cynnwys rhai pwerau gweithredol sy'n bwysig iawn i swyddogaeth y Wladwriaeth, megis ffurfio cytuniadau, cyhoeddi rhyfel a heddwch ac anfon lluoedd i sefyllfaoedd o wrthdaro milwrol. Mae nifer fach o bwerau uchelfraint yn rhai na all neb ond y Frenhines/Brenin eu hymarfer, neu drwy ei gorchymyn personol penodol ei hun, ond mae'r rhan fwyaf yn cael eu hymarfer yn anuniongyrchol gan Weinidogion yn enw'r Goron.

Ultra vires
Yng nghyd-destun y gyfraith gyhoeddus, mae'r term hwn yn disgrifio rhywbeth sy'n cael ei wneud gan gorff cyhoeddus nad yw o fewn rhychwant y pwerau a ymddiriedwyd iddo.

Uwch Dribiwnlys
Gweler Tribiwnlys.

Wales Act 2014
Mae'r Wales Act 2014 yn diwygio'r Government of Wales Act 2006, gan wneud newidiadau i'r cyfansoddiad datganoledig yng Nghymru. Ymysg pethau eraill, mae wedi ychwanegu pwerau cyfyngedig i godi trethi i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol a phan gaiff ei weithredu'n llawn bydd yn rhoi pwerau benthyg ehangach i Weinidogion Cymru.

Y Cyfrin Gyngor
Mae’r Cyfrin Gyngor yn gorff ffurfiol o gynghorwyr i’r Frenhines fel Monarch. Mae ei aelodaeth gan amlaf yn cynnwys uwch wleidyddion sydd yn (neu wedi bod) aelodau o Dy'r Cyffredin neu Dy'r Arglwyddi neu’r deddfwrfeydd datganoledig. Mae’r Prif Weinidog yn Gynghorydd Cyfrin ac ef sy’n cynghori’r Frenhines ar faterion sy'n ymwneud â Chymru.Mae cyngor ffurfiol yn cynghori’r sofran ar arfer yr Uchelfraint Frenhinol, a gyda'i gilydd (fel y Frenhines yn y Cyfrin Gyngor) maent yn cyhoeddi offerynnau gweithredol a elwir yn Orchmynion yn y Cyngor. Mae’r Cyngor yn cyhoeddi’r sofran ar gyhoeddi Siarteri Brenhinol a ddefnyddir i roi statws arbennig i'r cyrff corfforedig, a statws dinas neu fwrdeistref i awdurdodau lleol. Cyflawnir rhai swyddogaethau barnwrol hefyd gan y Frenhines yn y Cyfrin Gyngor, er yn yn ymarferol cyflawnir y gwaith o glywed a phenderfynu ar achosion yn gyfan gwbl gan Bwyllgor Barnwrol y Cyfrin Gyngor.

Y farnwriaeth
Term torfol am farnwyr, llysoedd a thribiwnlysoedd Cymru a Lloegr. Dan athrawiaeth gwahanu pwerau, nid yw'r farnwriaeth yn gwneud cyfraith statudol (cyfrifoldeb y ddeddfwrfa yw hyn) nac yn gorfodi cyfraith (cyfrifoldeb y weithrediaeth yw hyn), ond yn hytrach mae'n dehongli’r gyfraith ac yn ei chymhwyso i ffeithiau pob achos. Mae'r farnwriaeth hefyd yn gyfrifol am ddatblygu cyfraith gyffredin Cymru a Lloegr yn ogystal ag egwyddorion cyfraith weinyddol.

Y Goruchaf Lys
Y Goruchaf Lys yw'r llys uchaf yn y Deyrnas Unedig. Mae'n gwrando ar apeliadau ar bwyntiau dadleuol o'r gyfraith sydd o'r pwys cyhoeddus mwyaf, ar gyfer holl achosion sifil y Deyrnas Unedig ac mewn achosion troseddol ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae'r Goruchaf Lys hefyd yn penderfynu materion ynghylch a yw'r awdurdodau gweithredol a deddfwriaethol datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi gweithredu, neu'n bwriadu gweithredu o fewn eu pwerau neu wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ddyletswydd arall a osodwyd arnynt.

Y Llywydd
Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ethol Llywydd, a Dirprwy Lywydd o blith Aelodau'r Cynulliad. Mae rôl y Llywydd wedi'i osod allan yn rheolau sefydlog y Cynulliad Cenedlaethol. Mae swyddogaethau'r Llywydd yn cynnwys cadeirio cyfarfodydd llawn, pennu'r cwestiynau ynghylch dehongli neu gymhwyso rheolau sefydlog y Cynulliad Cenedlaethol a chynrychioli'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei ymwneud â chyrff eraill o fewn a'r tu allan i'r Deyrnas Unedig. Mae'n cyfateb i Lefarydd Tŷ'r Cyffredin.

Y model cadw pwerau
Model datganoli cyfredol yr Alban, lle mae gan Senedd yr Alban y pŵer i wneud deddfau mewn unrhyw faes oni bai bod Senedd y DU wedi cadw cymhwysedd deddfwriaethol iddi ei hun yn y maes hwnnw. Gweler hefyd 'y model rhoi pwerau'.

Y model rhoi pwerau
Y model datganoli cyfredol yng Nghymru lle mae gan y Cynulliad Cenedlaethol y pŵer i ddeddfu dim ond yn y meysydd lle mae cymhwysedd deddfwriaethol wedi cael ei roi iddynt yn benodol. Gweler hefyd 'y model cadw pwerau'.

Ysgrifennydd Gwladol
Ceir nifer o Ysgrifenyddion Gwladol: Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ac ati. Mae dyletswyddau ysgrifenyddol yn cael eu rhannu ymhlith nifer o bersonau, pob un yn gyfrifol am wahanol adran o'r llywodraeth. Fodd bynnag, dim ond un swyddfa Ysgrifennydd Gwladol sy'n bodoli, ac o dan y gyfraith mae pob Ysgrifennydd Gwladol yn gallu cyflawni dyletswyddau pob un neu unrhyw un o'r adrannau. Lle mae deddfwriaeth yn gosod swyddogaethau ar yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â mater sydd wedi ei ddatganoli mewn perthynas â Chymru, yn y rhan fwyaf o achosion mae'r swyddogaeth bellach yn nwylo Gweinidogion Cymru  (gweler y disgrifiad dan y 'gorchmynion trosglwyddo swyddogaethau' yn yr eirfa).