Addysg

Mae addysg yn cynnwys addysg ysgol (cynradd ac uwchradd), addysg bellach ac addysg uwch.  Mae addysg bellach yn canolbwyntio ar addysg a hyfforddiant galwedigaethol ar gyfer myfyrwyr 16 - 18 oed, er y gellir ei darparu i unrhyw un sydd dros oedran ysgol gorfodol. Mae addysg uwch fel arfer yn arwain at ddyfarnu gradd, ac yn cael ei darparu fel arfer mewn prifysgolion.

Mae addysg a hyfforddiant yn bennaf yn bwnc datganoledig ac mae Gweinidogion Cymru yn rheoleiddio bron pob maes addysg yng Nghymru. Ymhlith pethau eraill, maent yn rheoleiddio’r gweithlu addysg, y Cwricwlwm Cenedlaethol, y fframwaith prentisiaethau, y system gymwysterau ac arholiadau ysgol, a’r rhan fwyaf o sefydliadau addysgol.

Mae gan awdurdodau lleol amrywiaeth o gyfrifoldebau mewn perthynas ag addysg, o dan arweiniad a rheolaeth Gweinidogion Cymru. Er enghraifft, mae eu dyletswyddau’n cynnwys gwneud yn siŵr bod digon o ysgolion yn eu hardaloedd a sicrhau bod darpariaeth briodol ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (anghenion addysgol arbennig).

Cafwyd nifer o Ddeddfau a Mesurau’r Cynulliad Cenedlaethol ym meysydd addysg a hyfforddiant, ac mae datganoli wedi arwain at ymrannu rhwng y systemau addysg yng Nghymru a Lloegr. Er enghraifft, mae gan Gymru system gymorth a grantiau wahanol i fyfyrwyr, yn sgil rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru.

Pasiwyd Deddf Cymwysterau (Cymru) 2015 gan y Cynulliad Cenedlaethol. Pan caiff ei gweithredu bydd y Ddeddf yn sefydlu corff annibynnol (Cymwysterau Cymru) a fydd yn gyfrifol am reoleiddio a sicrhau ansawdd cymwysterau nad ydynt ar lefel gradd yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn bwriadu cyflwyno Bil i greu fframwaith newydd ar gyfer plant a phobl ifanc 0 - 25 oed ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

Adran 1

Fframwaith deddfwriaethol

Mae’r brif gyfraith ar addysg a hyfforddiant yn deillio o ddeddfwriaeth sylfaenol (neu 'statudau') sy’n cael eu gwneud naill ai gan Senedd y DU neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r prif statudau sy’n cynnwys darpariaethau sy’n berthnasol i Gymru wedi eu rhestru o dan 'ddeddfwriaeth allweddol'.

Mae ystyr diffiniad statudol y term 'Deddfau Addysg' yn gyfyng o safbwynt cyfraith addysg. Mae’n cynnwys y rhan fwyaf o’r Deddfau o dan 'ddeddfwriaeth allweddol', ond nid pob un ohonynt. Deddf gydgrynhoi oedd yr Education Act 1996 (EA 1996), ac mae’n nodi termau diffiniedig allweddol y cynllun deddfwriaethol ar gyfer addysg (gan gynnwys ystyr 'ysgol', 'disgybl cofrestredig', 'addysg gynradd' ac 'addysg uwchradd'). Mae adran 578 o EA 1996 yn diffinio’r 'Deddfau Addysg', yn bennaf at ddibenion cymhwyso’r termau diffiniedig hyn i Ddeddfau Addysg y gorffennol a Deddfau Addysg y dyfodol fel na fydd angen ailddatgan y diffiniadau bob tro.

Mae pob 'Deddf Addysg' ddilynol yn cynnwys darpariaeth i’r perwyl y dylid ei chynnwys yn y rhestr o Ddeddfau Addysg a nodir yn adran 578 o EA 1996 ac y dylid dehongli’r Ddeddf newydd, a EA 1996, yn un. Diben dehongli EA 1996 yw sicrhau y gallai darpariaethau o gymhwysiad cyffredinol yn EA 1996 (fel y pwerau ymyrraeth gan Weinidogion) fod yn berthnasol i bob Deddf newydd yn yr un modd ag i EA 1996.

Nid yw darpariaethau’r Deddfau canlynol i’w trin fel Deddfau Addysg; mae hyn yn wir am y School Sites Act 1841, yr Education Act 1962 a’r Learning and Skills Act 2000 yn eu crynswth, ac yn rhannol wir am yr Education and Inspections Act 2006 a’r Apprenticeships, Skills, Children and Learning Act 2009.

Yn ogystal â’r statudau yn ymwneud ag addysg a hyfforddiant, mae llawer o is-ddeddfwriaeth wedi’i gwneud o dan y Deddfau hynny (fel gorchmynion, rheoliadau, cynlluniau a chodau).

Mae llysoedd y wlad wedi cynhyrchu llawer o gyfraith achosion yn ymwneud â materion addysg, ac mae swm sylweddol o gyfreitheg Llys Hawliau Dynol Ewrop Strasbwrg wedi deillio o’r darpariaethau penodol yn ymwneud ag addysg yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Mae Erthygl 2 o’r Protocol cyntaf i’r Confensiwn yn gwarantu hawl mynediad at addysg, ac mae erthyglau’r Confensiwn ei hun yn cael effaith hefyd, yn enwedig Erthygl 14 ar wahaniaethu.

Nid oes gan yr Undeb Ewropeaidd gymhwysedd llawn o safbwynt cysoni deddfau Aelod-Wladwriaethau ym maes addysg; mae ysgolion, colegau, hyfforddiant galwedigaethol, addysg uwch ac ati yn faterion i’r Aelod-Wladwriaethau eu hunain. Fodd bynnag, mae cyfraith yr UE yn cael effaith fawr. Mae’r UE wedi deddfu ym maes cyd-gydnabod cymwysterau ac mae’n gweithredu rhaglenni ar gyfer cydweithredu rhwng Aelod-Wladwriaethau ac ar gyfer hyrwyddo amcanion craidd yr Undeb. Mae effaith uniongyrchol y pedwar rhyddid wedi bod yn amlwg hefyd, yn enwedig yr hawl i ymsefydlu a’r rhyddid i symud; er enghraifft, mae cyfraith achosion Llys Cyfiawnder Ewrop yn y maes hwn wedi’i gwneud yn ofynnol i Aelod-Wladwriaethau lunio eu systemau cymorth i fyfyrwyr i ddiogelu’r hawliau hyn o eiddo’r UE ymhellach.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn