Anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau

Mae Gweinidogion Cymru yn cynnig bod y gyfraith yn y maes hwn yn cael ei newid.

Mae'r darpariaethau cyfreithiol perthnasol ar ddarparu addysg i’r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn amrywio yn dibynnu ar oedran yr unigolyn dan sylw. Mae'r crynodeb hwn, felly, yn gwahaniaethu rhwng y systemau sydd mewn grym mewn perthynas â'r rhai o oedran ysgol gorfodol ac iau (fel y'u diffinnir gan adran 8 yr Education Act 1996 (EA 1996)), a'r rhai dros oedran ysgol gorfodol.

 

Adran 1

Plant o oedran ysgol gorfodol ac iau

Er bod symudiad cyffredinol tuag at y defnydd o'r term 'anghenion dysgu ychwanegol' ('ADY'), ar gyfer unigolion o oedran ysgol gorfodol ac iau, mae’r gyfraith berthnasol - y rhan fwyaf ohoni i'w chael yn Rhan IV o'r EA 1996 - yn defnyddio'r ymadrodd 'anghenion addysgol arbennig' ('AAA').

Anghenion addysgol arbennig

Bydd gan blentyn 'anghenion addysgol arbennig' at ddibenion EA1996 os mae gan y plentyn anhawster dysgu sy'n galw am wneud darpariaeth addysgol arbennig ar ei gyfer (adran 312 (1) o EA 1996).

Mae gan blentyn 'anhawster dysgu':

  • os yw'n cael mwy o anhawster wrth ddysgu na’r rhan fwyaf o blant o’r un oedran ag ef neu hi;
  • os oes ganddo anabledd sydd naill ai'n ei atal neu'n ei lesteirio ef neu hi rhag gwneud defnydd o’r math o gyfleusterau addysgol a ddarperir yn gyffredinol i blant yr un oedran ag ef neu hi mewn ysgolion o fewn ardal yr awdurdod lleol; neu
  • os yw ef\hi o dan oedran ysgol gorfodol ac yn debygol o ddod o berthyn i un o’r categorïau blaenorol neu’r ddau pan fydd o oedran ysgol gorfodol, neu a fyddai'n  debygol o berthyn iddynt oni wneir darpariaeth addysgol arbennig ar ei gyfer (adran 312 (2) o EA 1996).

Fodd bynnag, nid ddylid barnu bod gan blentyn anhawster dysgu dim ond oherwydd bod yr iaith (neu'r ffurf ar yr iaith) sy’n gyfrwng neu a fydd yn gyfrwng ar gyfer ei addysg ef neu hi yn wahanol i’r iaith (neu’r ffurf ar iaith) a siaradwyd yn ei gartref neu ei chartref ar unrhyw adeg (adran 312 (3) o EA 1996).

Yn yr un modd, nid yw plant mwy galluog a thalentog yn dod o fewn cwmpas adran 312 (2) o EA 1996 - (mae hyn wedi cael ei sefydlu gan y llysoedd wrth ddehongli'r adran - gweler achos S v Special Educational Needs Tribunal [2005] EWHC 196 (Admin)).

Mae 'darpariaeth addysgol arbennig' yn golygu:

  • mewn perthynas â phlentyn sydd wedi cyrraedd dwy oed, darpariaeth addysgol sy'n ychwanegol at, neu fel arall yn wahanol i’r ddarpariaeth addysgol a wneir yn gyffredinol i blant yr un oedran â’r plentyn mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol (ac eithrio ysgolion arbennig); ac
  • mewn perthynas â phlentyn sy’n iau na hynny, darpariaeth addysgol o unrhyw fath (adran 312 (4) o EA 1996).

 

Nodi ac asesu AAA

Rhaid i awdurdod lleol nodi'r plant hynny y mae'n gyfrifol amdanynt sydd ag AAA a gwneud darpariaeth addysgol arbennig ar gyfer eu hanawsterau dysgu (gweler adran 321 o EA 1996).

Pan fo plentyn sydd ag AAA yn cael ei nodi, rhaid i'r awdurdod lleol ddilyn y gweithdrefnau ar gyfer hysbysu rhieni (neu'r rhai sydd â gofal am neu gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn - gweler adran 576 o EA 1996) a chynnal asesiadau sydd wedi’u nodi yn adran 323 o EA 1996. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau sy'n eu galluogi i wneud darpariaeth (trwy reoliadau) ynghylch y modd y mae asesiadau’n cael eu cynnal a materion eraill (gweler Atodlen 26 i EA 1996). Mae Gweinidogion Cymru wedi arfer y pwer hwn- gweler Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymru) 2002 (OS 2002/152).

Gall rhieni plentyn hefyd ofyn i awdurdod lleol drefnu asesiad AAA o blentyn dan rhai amgylchiadau. Lle nad yw awdurdod yn penderfynu cynnal asesiad er gwaethaf y cais, mae gan rieni hawl bosibl i apelio i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru/Special Educational Needs Tribunal for Wales ('y Tribiwnlys') - gweler adran 329 o EA 1996.  Mae manylion pwerau a gweithdrefnau'r Tribiwnlys wedi’u cynnwys yn EA 1996 a rheoliadau, megis Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2012 (OS 2012/322).

 

Datganiadau a darpariaeth addysg arbennig

Pan fydd awdurdod lleol yn penderfynu sut ddarpariaeth addysgol arbennig sydd ei hangen ar blentyn, rhaid i'r awdurdod wneud a chynnal datganiad o'i anghenion addysgol arbennig (adran 324 o EA 1996). Mae’r ffurf sy’n ofynnol ar gyfer y datganiadau wedi ei bennu gan Weinidogion Cymru yn Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymru) 2002 (OS 2002/152). Mae rhagor o fanylion am y broses o wneud a chynnal datganiadau (gan gynnwys diwygiadau) wedi eu nodi yn Atodlen 27 i EA 1996.

Mae'n werth nodi, fodd bynnag, nad oes (ac nad oes angen) datganiad ffurfiol o AAA o'r fath ar y rhan fwyaf o blant sydd ag AAA. Nid oes rhaid i ac nid yw hyn yn rhagofyniad i blentyn gael cymorth ychwanegol. Mae llawer o blant sydd ag AAA yn parhau i gymryd rhan mewn addysg brif ffrwd, gyda chymorth yn aml gan raglenni a ariennir, heb fod datganiad ffurfiol ar waith.

Hyd yn oed lle mae datganiad yn cael ei wneud a'i gynnal, dywed adran 316 o EA 1996 bod yn rhaid i blentyn gael ei addysgu serch hynny mewn ysgol brif ffrwd oni bai bod hynny’n anghydnaws â dymuniadau rhiant y plentyn neu ddarpariaeth addysg effeithlon i’r plant eraill yn yr ysgol. Wedi dweud hynny, nid yw'r gofyniad hwn yn atal plentyn rhag cael ei addysgu mewn ysgol annibynnol (nad yw'n ysgol brif ffrwd, neu mewn ysgol arbennig  gymeradwy), os bydd rhywun heblaw’r awdurdod lleol yn talu am hynny (adran 316A o EA 1996).

 

Rhoi'r gorau i gynnal datganiad

Mae angen i awdurdod lleol gynnal datganiad o AAA tan nad oes mo’i angen mwyach. Pan fydd awdurdod yn penderfynu rhoi'r gorau i gynnal datganiad, rhaid iddo roi hysbysiad i riant y plentyn, a all apelio yn erbyn y penderfyniad i'r Tribiwnlys. Gall y Tribiwnlys wrthod yr apêl, neu roi gorchymyn i'r awdurdod lleol barhau i gynnal y datganiad yn ei ffurf bresennol neu gyda pha bynnag welliannau a bennir gan y Tribiwnlys.

Os bydd Tribiwnlys yn gwneud gorchymyn o'r fath, rhaid i'r awdurdod lleol dan sylw gydymffurfio ag ef cyn diwedd cyfnod penodedig - gweler adran 336A o EA 1996 a Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig (Terfynau Amser) (Cymru) 2001 (OS 2001/3982) .

Cod Ymarfer AAA ar gyfer Cymru

Mae Cod Ymarfer AAA Cymru yn cael ei bennu gan Weinidogion Cymru o dan adrannau 313 a 314 o EA 1996. Mae'r Cod hwn yn cynnwys canllawiau y mae'n rhaid i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion dalu sylw iddynt wrth arfer eu dyletswyddau statudol i ganfod ac asesu plant ag AAA a gwneud darpariaeth arbennig ar gyfer eu haddysg.

Amgylchiadau penodol

Ceir darpariaethau penodol sy'n ymwneud â phlant sy'n cael eu cadw o dan y system gyfiawnder: gweler adrannau 312A a 562-562J o EA 1996, gan nodi newidiadau a wnaed (nad ydynt i gyd mewn grym eto) gan yr Apprenticeships, Skills, Children and Learning Act 2009.

Ceir darpariaeth benodol ychwanegol hefyd ar gyfer plant sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol. Gweler, yn hyn o beth, y Children and Young Persons Act 2008.

 

Adran 2

Unigolion dros oedran ysgol gorfodol

Mae’r gyfraith sy’n berthnasol mewn perthynas â'r rhai dros oedran ysgol gorfodol sydd ag anghenion dysgu ychwanegol i’w gweld i raddau helaeth yn y Learning and Skills Act 2000 (LSA 2000).

Yn wahanol i'r sefyllfa ar gyfer unigolion o oedran ysgol gorfodol, mae'r ddyletswydd i wneud darpariaeth ar gyfer y rhai dros oedran ysgol gorfodol yn nwylo Gweinidogion Cymru’n bennaf yn hytrach nag awdurdodau lleol.

Anawsterau dysgu

At ddibenion LSA 2000, mae rhywun yn cael anhawster dysgu:

  • os oes ganddo/ganddi lawer mwy o anhawster wrth ddysgu na’r rhan fwyaf o bobl a’r un oedran ag ef neu hi, neu
  • os oes ganddo/ganddi anabledd sydd naill ai'n ei atal/hatal neu'n ei lesteirio/llesteirio rhag gwneud defnydd o’r fath gyfleusterau a ddarperir yn gyffredinol gan sefydliadau sy'n darparu addysg neu hyfforddiant ôl-16 (adran 41(5) o LSA 2000).

Fel sy'n wir ar gyfer y rhai sydd o oedran ysgol gorfodol neu’n iau, ni ddylid barnu bod gan berson anhawster dysgu dim ond oherwydd bod yr iaith (neu'r ffurf ar iaith) y mae neu y bydd ef neu hi yn cael ei addysgu ynddi yn wahanol i iaith (neu’r ffurf ar iaith) sydd wedi’i siarad yn ei gartref neu ei chartref ar unrhyw adeg (adran 41(6) o LSA 2000).

 

Asesiadau

Os yw awdurdod lleol yng Nghymru yn cynnal datganiad o AAA ar gyfer unigolyn a bod Gweinidogion Cymru yn credu y bydd yr unigolyn yn gadael yr ysgol ar ddiwedd ei flwyddyn olaf o addysg orfodol i dderbyn addysg neu hyfforddiant ôl-16 neu addysg uwch, mae yna ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i drefnu asesiad o'r unigolyn i’w gynnal ar ryw adeg yn ystod blwyddyn olaf addysg orfodol yr unigolyn (adran 140(1) a (2) o LSA 2000).

Mae gan Weinidogion Cymru hefyd ddisgresiwn i drefnu asesiad o unigolyn ar unrhyw adeg:

  • os yw’r unigolyn hwnnw yn ei flwyddyn olaf o addysg orfodol neu dros oedran ysgol gorfodol ond o dan 25;
  • os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru fod ganddo\ganddi anhawster dysgu; ac
  • os yw’n derbyn, neu ym marn Gweinidogion Cymru yn debygol o dderbyn, addysg neu hyfforddiant ôl-16 neu addysg uwch (adran 140(3) o LSA 2000).

Gan fod yn rhaid i 'asesiad' yn yr amgylchiadau hyn arwain at adroddiad ysgrifenedig o anghenion addysgol a hyfforddiant yr unigolyn a'r ddarpariaeth sydd ei hangen i'w diwallu (adran 140(4) o LSA 2000).

Unigolion 16-19 oed

Mae gan Weinidogion Cymru ddyletswydd gyffredinol i sicrhau cyfleusterau priodol ar gyfer addysg, hyfforddiant a gweithgaredd amser hamdden wedi’i threfnu ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed (adran 31(1) o LSA 2000). Rhaid i gyfleusterau o'r fath fod yn ddigonol o ran ansawdd ac yn ddigonol o ran maint i ddiwallu anghenion rhesymol unigolion (adran 31(2) o LSA 2000). Wrth wneud y ddarpariaeth hon, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i anghenion pobl ag anawsterau dysgu a'r adroddiadau ar unrhyw asesiad a wnaed o dan adran 140 o LSA 2000 (adran 41(1) o LSA 2000).

Ymhellach, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod llety preswyl ar gael ar gyfer y rhai sydd ag anawsterau dysgu lle nad oes cyfleusterau eraill sy'n ddigonol o ran maint ac yn foddhaol  o ran ansawdd (adran 41(2) o LSA 2000).

Unigolion 19-25 oed

Yn achos pobl 19-25 oed, mae dyletswydd ar Weinidogion Cymru i sicrhau cyfleusterau rhesymol ar gyfer addysg, hyfforddiant a gweithgaredd amser hamdden wedi’i threfnu (adran 32(1) o LSA 2000). Eto, wrth wneud y ddarpariaeth hon, mae'n rhaid iddynt roi sylw i anghenion pobl ag anawsterau dysgu a'r adroddiadau ar unrhyw asesiad a wnaed o dan adran 140 o LSA 2000 (adran 41(1) o LSA 2000).

Ymhellach, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod llety preswyl ar gael ar gyfer y rhai sydd ag anawsterau dysgu lle nad oes cyfleusterau rhesymol eraill (adran 41(3) o LSA 2000).

Equality Act 2010

Mae anabledd yn un o'r 'nodweddion a ddiogelir’ sydd wedi’i chynnwys yn yr Equality Act 2010, sy'n diogelu unigolion rhag gwahaniaethu ar y sail honno.

Diffinnir y term 'anabledd' gan adran 6 o'r Equality Act 2010. Mae gan unigolyn anabledd:

  • os oes ganddo nam corfforol neu feddyliol, ac
  • os yw’r nam yn cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar ei allu neu ei gallu i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.

Mae canllawiau ar oblygiadau’r Equality Act 2010 ar gyfer darparwyr addysg yng Nghymru wedi’u cyhoeddi hefyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Mae deddfwriaeth cydraddoldeb yn effeithio ar bob agwedd ar ysgolion ac addysg bellach, gan gynnwys derbyniadau, gwaharddiadau a gwasanaethau addysg, budd-daliadau a chyfleusterau.

Cynigion ar gyfer y dyfodol

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Bapur Gwyn ym mis Mai 2014 yn amlinellu cynigion i gyflwyno fframwaith deddfwriaethol newydd ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Y bwriad yn y pen draw yw y bydd hyn yn disodli’r ddeddfwriaeth bresennol ar gyfer asesu a darparu cymorth i ddysgwyr ag anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion ac anawsterau dysgu a/neu anableddau mewn addysg a hyfforddiant ôl-16.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn