Addysg uwch

Yn gyffredinol, mae’r term 'addysg uwch' yn golygu addysg sy’n arwain at ddyfarnu gradd. Mae’n gallu golygu rhywbeth ehangach na hynny, fodd bynnag, a hefyd yn cyfeirio at gyrsiau ôl-raddedig, HNDs a chymwysterau proffesiynol uwch ymhlith pethau eraill. Mae rhestr gynhwysfawr o’r mathau o gyrsiau sy’n rhan o’r term “addysg uwch” fel arfer i’w gweld yn Atodlen 6 o’r Education Reform Act 1988 (gweler Cyrsiau addysg uwch a phwerau i ddyfarnu graddau).

Mae llawer o’r gyfraith sy’n ymwneud ag addysg uwch yn berthnasol i Gymru fel yn Lloegr, ar wahân i’r ffaith mai Gweinidogion Cymru sy’n bennaf cyfrifol am lunio is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â Chymru bellach. Er hynny, mae cryn dipyn o is-ddeddfau sy’n berthnasol i Gymru’n unig. Yr enghraifft amlycaf yw’r rheoliadau cymorth i fyfyrwyr a wnaed gan Weinidogion Cymru, sy’n creu system unigryw o fenthyciadau a grantiau myfyrwyr.

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru gymhwysedd eang iawn i lunio deddfwriaeth sylfaenol mewn perthynas ag addysg uwch dan adran 108 o, ac Atodlen 7 i’r, Government of Wales Act 2006, er y dylid nodi bod Cynghorau Ymchwil wedi’u heithrio’n benodol o gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi pasio Deddf Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2014 ac wrth i ddeddfwriaethau pellach ddilyn (wedi’u pasio gan y Cynulliad Cenedlaethol yn achos Cymru a Senedd y DU yn achos Lloegr) mae’n debygol y bydd mwy o wahaniaethau nag erioed rhwng cyfraith addysg uwch Cymru a Lloegr.

Mae prifysgolion yn sefydliadau annibynnol ar y cyfan sy’n rhydd i greu a chyflwyno eu cwricwlwm fel y dymunant. Mae’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag addysg uwch, felly, wedi’i chyfyngu’n bennaf i sefydlu a llywodraethu sefydliadau addysg uwch a darparu adnoddau ariannol i sefydliadau a myfyrwyr.

Yng Nghymru, sefydliadau yn y sector addysg uwch sy’n darparu addysg uwch fel arfer. Yr enw cyffredin arnynt yw prifysgolion, er nad oes unrhyw ofyniad i ddefnyddio’r enw hwn ac yn wir rhaid derbyn caniatâd gan y Cyfrin Gyngor cyn y gall sefydliad addysgol alw’i hun yn brifysgol. Mae naw prifysgol yng Nghymru ar hyn o bryd (gan gynnwys y Brifysgol Agored yng Nghymru). Mae’r rhain yn gymysgedd o brifysgolion hŷn a sefydlwyd trwy Siarter Frenhinol a’r rhai mwy modern a sefydlwyd fel rhan o gorfforaethau addysg uwch. Mae Rhan II o’r Education Reform Act 1988 a Rhan II o’r Further and Higher Education Act 1992 yn cynnwys darpariaeth ar gyfer sefydlu a chyfansoddi sefydliadau addysg uwch.

Gall colegau addysg bellach ddarparu addysg uwch yng Nghymru hefyd, yn ogystal ag ysgolion dan amgylchiadau cyfyngedig. Er y gall nifer o sefydliadau addysgol gwahanol gynnig cyrsiau, dim ond sefydliadau sydd â chaniatâd penodol i wneud hynny all ddyfarnu graddau a dyfarniadau cydnabyddedig eraill.

Yng Nghymru, caiff sefydliadau addysg uwch eu hariannu trwy gyfuniad o gyllid Llywodraeth Cymru (a ddarperir drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru), ffioedd myfyrwyr ac incwm ar ffurf noddwyr, cyfranwyr a phartneriaid prosiect ac ati.

Rhaid i sefydliadau sy’n dymuno derbyn nawdd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) gydymffurfio â’r amodau a thelerau cysylltiedig. Mae’r amodau hyn yn cynnwys gosod terfyn ar y swm y gellir ei godi ar fyfyrwyr a gofyniad i’r sefydliad greu cynllun i ddangos sut fydd y corff llywodraethu yn hyrwyddo cyfle cyfartal ac yn denu rhagor o geisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch. Os na fydd sefydliadau’n cydymffurfio â’r amodau hyn, mae’n bosibl y byddant yn derbyn llai o gyllid neu ddim o gwbl.

Mae sefydliadau sy’n darparu addysg uwch yn gallu codi ffioedd ar fyfyrwyr. Mae croeso iddynt bennu eu ffioedd eu hunain ar y cyfan, ond fel y soniwyd yn y paragraff uchod, bydd rhaid i sefydliad sy’n derbyn cyllid gan CCAUC gydymffurfio â’r terfyn ffioedd a bennir gan Weinidogion Cymru. Mae’r terfyn ffioedd wedi’i osod yn Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Symiau) (Cymru) 2011 (OS 2011/885) a’r uchafswm ffioedd ar hyn o bryd yw £9,000 y flwyddyn. Nid yw’r terfyn hwn yn berthnasol i bob cwrs addysg uwch i bob myfyriwr, er enghraifft gall sefydliadau godi ffioedd uwch ar rai myfyrwyr tramor ac nid yw’r terfyn ffioedd yn berthnasol i gyrsiau ôl-raddedig ac eithrio cyrsiau hyfforddiant cychwynnol i athrawon.

Cafodd Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 Gydsyniad Brenhinol ar 12 Mawrth 2015. Bydd cyfnod pontio o ddwy flynedd wrth i ddarpariaethau’r Ddeddf ddod i rym. Mae’r Ddeddf yn newid fframwaith rheoleiddio addysg uwch yng Nghymru gan ganiatáu i CCAUC roi gorfodaeth ar sefydliadau i gydymffurfio â chynlluniau ffioedd a mynediad heb ddibynnu ar ariannu’r sefydliadau.

Mae’r cysylltiad rhwng cyllido a chynlluniau cymeradwy yn cael ei ddiddymu ac yn ei le, bydd y Ddeddf yn sicrhau fod gan sefydliadau addysg uwch gynlluniau wedi’u cymeradwyo ar gyfer mynediad a ffioedd er mwyn i’w cyrsiau gael eu dynodi’n gyrsiau sy’n gallu rhoi cefnogaeth i fyfyrwyr. Bydd yn rhaid i gynlluniau mynediad a  ffioedd nodi trothwy ar gyfer ffioedd y cyrsiau sy’n gymwys a rhaid iddynt ddarparu ar gyfer hybu cyfle cyfartal mewn perthynas â mynediad at addysg uwch fel y nodir yn y rheoliadau sydd wedi eu llunio gan Weinidogion Cymru.

Bydd gan CCAUC bwerau brys newydd i ymyrryd dan y Ddeddf ac ni fydd hyn yn gysylltiedig â’u rôl fel ariannwr i’r sefydliadau. Bydd y pwerau hyn yn galluogi CCAUC i roi cyfarwyddiadau i gyrff llywodraethu sefydliadau addysg uwch gydymffurfio gyda therfynau ffioedd a/neu ad-dalu ffioedd sydd wedi eu talu i’r sefydliad os yw’n fwy na’r terfyn ffi perthnasol. Hefyd bydd CCAUC yn gallu rhoi cyfarwyddiadau i gyrff llywodraethu sefydliadau addysg uwch os ydyn nhw o’r farn fod y corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio â’r gofynion ar gyfer hybu cyfle cyfartal mewn addysg uwch fel sydd wedi’i egluro yng nghynllun ffioedd a mynediad y sefydliad.

Bydd CCAUC hefyd yn gallu ymyrryd o safbwynt ansawdd yr addysg a roddir mewn sefydliadau addysg uwch (unwaith eto, bellach, ni fydd wedi ei gysylltu â’r arian mae CCAUC yn ei roi i’r sefydliadau) a bydd yn gallu rhoi canllawiau neu gyfarwyddiadau os yw’r ansawdd yn ddiffygiol.

Disgwylir i fyfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch yng Nghymru gyfrannu at gost eu haddysg trwy dalu ffioedd. Er mwyn eu helpu i dalu’r ffioedd hyn, gall myfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eu cwrs fod yn gymwys i dderbyn grantiau a budd-daliadau prawf modd gan Lywodraeth Cymru. Efallai bod myfyrwyr hefyd yn gymwys i gael grantiau neu fenthyciadau prawf modd tuag at gostau byw. Mae’r meini prawf manwl ar gyfer pwy sy’n gymwys i gael benthyciadau a grantiau gwahanol wedi’u nodi yn y rheoliadau cymorth i fyfyrwyr a wnaed gan Weinidogion Cymru dan bwerau adran 22 o’r Teaching and Higher Education Act 1998. Yn gyffredinol, bydd gwladolion y DU neu’r UE sy’n astudio ar gyfer eu cymhwyster addysg uwch cyntaf mewn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus yn y DU ac sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, yn gymwys am gymorth i dalu ffioedd eu cwrs a chyfrannu at eu costau byw. Efallai y bydd myfyrwyr sy’n astudio mewn sefydliadau a ariennir yn breifat yn gymwys i gael cymorth tuag at eu costau byw a benthyciad tuag at eu ffioedd dysgu mewn rhai amgylchiadau.

Er bod addysg uwch yn derbyn rhywfaint o arian cyhoeddus, mae’n gyfran is o’r cyllid cyffredinol o gymharu ag addysg gynradd, uwchradd neu bellach. O’r herwydd, mae addysg uwch yn gyffredinol yn fwy annibynnol ar y llywodraeth. Mae sefydliadau addysg yng Nghymru, ar y cyfan, yn rhydd i bennu eu cwricwla a’u rhaglenni astudio eu hunain. Gall Gweinidogion Cymru gyflwyno’n anuniongyrchol amodau ar unrhyw gyllid cyhoeddus y mae sefydliad yn ei dderbyn, ond mae’r mathau o amodau y gellir eu gorfodi wedi’u cyfyngu er mwyn diogelu rhyddid academaidd y sefydliadau.

Maer prif statudau sy’n cynnwys darpariaethau perthnasol i addysg uwch yng Nghymru wedi eu rhestru o dan 'ddeddfwriaeth allweddol'.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn