Rhyddid i lefaru a rhyddid academaidd

Yn hanesyddol, gellir dweud bod y cydsyniad o ryddid academaidd yn deillio o’r safbwynt bod prifysgolion ac academyddion yn gweithredu fel ‘cydwybod a beirniad cymdeithas’, gyda dyletswydd i godi llais fel bo’r angen yn erbyn gwleidyddion y dydd. Felly, bydd safbwyntiau academyddion a myfyrwyr yn gwrthdaro â chonfensiwn neu safbwyntiau cyffredin neu weithred wleidyddol o dro i dro.

Ar y cyfan, mae sefydliadau addysg uwch Cymru yn rhydd i lunio a chyflwyno eu rhaglenni ymchwil ac astudio, a phenderfynu pa lefelau astudio ac asesu y dylai myfyrwyr eu cwblhau er mwyn ennill gradd.

Gallwn rannu rhyddid academaidd yn ddau gategori cyffredinol. Cyfeirir at allu sefydliad i benderfynu pa gyrsiau i’w haddysgu i bwy, a sut a gan bwy y byddant yn cael eu haddysgu, fel rhyddid academaidd sefydliadol (institutional). Cyfeirir at ddiogelu rhyddid mynegiant o ran ymchwil y proffesiwn academaidd fel rhyddid academaidd cyfadrannol (faculty). 

Yn y DU, mae’r diogelu uniongyrchol sydd i ryddid academaidd o dan y gyfraith yn weddol gyfyngedig. Mae darpariaethau statudol amrywiol yn crybwyll rhyddid i lefaru (rhyddid academaidd cyfadrannol) a rhyddid academaidd sefydliadol ond nid oes yr un ohonynt yn cynnwys datganiad penodol am beth yw ystyr naill ai rhyddid dosbarth neu academaidd.

Mae’r darpariaethau canlynol yn berthnasol:

Education (No. 2) Act 1986

Mae Adran 43 o’r Education (No. 2) Act 1986 (rhyddid mynegiant mewn prifysgolion, colegau polytechnig a cholegau) yn gosod rhwymedigaeth ar unigolion a chyrff unigolion sy’n ymwneud â llywodraethu (ymhlith eraill) unrhyw sefydliad o fewn y sector addysg bellach i:

“…take such steps as are reasonably practicable to ensure that academic freedom of speech within the law is secured for members, students and employees of the establishment and for visiting speakers….”

Mae’n ofynnol i gyrff llywodraethu’r cyfryw sefydliadau gyflwyno a chadw cod ymarfer cyfredol sy’n cyflwyno’r gweithdrefnau y dylai aelodau, myfyrwyr a gweithwyr cyflogedig eu dilyn mewn cysylltiad â threfnu cyfarfodydd a gweithgareddau eraill ar y safle, ac ymddygiad pobl mewn cysylltiad â’r cyfryw gyfarfodydd a gweithgareddau. Mae gan sefydliadau bob hawl i wrthod mynediad i aelodau’r cyhoedd glywed siaradwr, ond ar y cyfan, gellir trin adran 43 fel cydnabyddiaeth statudol glir o gyfrifoldeb prifysgolion i hyrwyddo’r rhyddid i lefaru.

Education Reform Act 1988

Cafodd corff newydd o’r enw Comisiynwyr y Prifysgolion (University Commissioners) ei sefydlu dan adran 202 o’r Education Reform Act 1988 (ERA 1988). Roedd adrannau 203 a 204 o ERA 1988 yn gofyn i Gomisiynwyr y Prifysgolion gysoni statudau sefydliadau addysg uwch a grëwyd dan Siarter Frenhinol cyn 1992 (yn hytrach na’r prifysgolion statudol a grëwyd ym 1992 - gweler yr adran ar Sefydliadau Addysg Uwch) mewn perthynas â diswyddo aelodau o staff academaidd a galluogi Comisiynwyr y Prifysgolion i ddiwygio statudau’r prifysgolion hynny lle bo’n briodol. Mae adran 202(2)(a) yn darparu, wrth arfer eu swyddogaethau:

“…the Commissioners shall have regard to the need – to ensure that academic staff have freedom within the law to question and test received wisdom, and to put forward new ideas and controversial or unpopular opinions, without placing themselves in jeopardy of losing their jobs or privileges they may have at their institutions…”.

Bu Comisiynwyr y Prifysgolion yn arfer eu swyddogaethau am gyfnod cyfyngedig. Roedd Paragraff 3 o Atodlen 11 i'r Education Reform Act 1988 yn trefnu y byddai dyletswyddau a phwerau Comisiynwyr y Prifysgolion yn dod i ben ar ddiwedd cyfnod o 3 blynedd o’r diwrnod y daeth adran 202 i rym (29 Gorffennaf 1988). Cafodd y cyfnod 3 blynedd hwnnw ei estyn i 8 mlynedd trwy orchymyn dan baragraffau 3 o Atodlen 11 i’r Education Reform Act 1988.

Further and Higher Education Act 1992

Mae adran 68 o’r Further and Higher Education Act 1992 yn ymwneud â rhyddid academaidd sefydliadol. Dan adran 68(1), gall Gweinidogion Cymru roi grantiau i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). Gall Gweinidogion Cymru atodi amodau a thelerau i’r grantiau a ddarperir i CCAUC dan yr adran honno, yn amodol ar gyfyngiadau a gyflwynwyd yn adranau 68(2) a (3). Efallai na fydd amodau o’r fath yn berthnasol i sefydliadau unigol ac na fyddant yn berthnasol ar gyfer cyrsiau neu raglenni ymchwil penodol neu feini prawf ar gyfer penodi staff academaidd a derbyn myfyrwyr.

Felly, tra bod Gweinidogion Cymru’n gallu dibynnu ar eu pwerau i atodi amodau a thelerau i’r cyllid grant a ddarparant i CCAUC er mwyn hyrwyddo datblygiadau polisi cyffredinol mewn addysg uwch, ni all amodau Gweinidogion Cymru fod yn sefydliad-benodol neu gyfeirio at gyrsiau astudio neu ymchwil penodol. Mewn geiriau eraill, ni all amodau’r cyllid fod yn gysylltiedig â rhyddid academaidd sefydliadol.

Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015

Mae adran 48 o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 yn gosod rhwymedigaeth ar CCAUC wrth arfer eu swyddogaethau, i roi ystyriaeth i bwysigrwydd gwarchod rhyddid academaidd, gan gynnwys y rhyddid i sefydliadau allu:

(a) pennu cynnwys cyrsiau penodol a'r modd y maent yn cael eu dysgu,

(b) pennu'r meini prawf ar gyfer derbyn myfyrwyr a rhoi’r meini prawf ar waith mewn achosion penodol

(c) phennu'r meini prawf ar gyfer dethol a phenodi staff academaidd a rhoi’r meini prawf ar waith mewn achosion penodol.

Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Cynlluniau wedi eu Cymeradwyo) (Cymru) 2011 (OS 2011/884)

Cafodd y darpariaethau sy’n berthnasol i ryddid academaidd y Rheoliadau 2011 hyn eu gwneud gan Weinidogion Cymru dan adran 34(4) o’r Higher Education Act 2004 (HEA 2004), sy’n darparu, wrth benderfynu ai cymeradwyo cynllun arfaethedig i godi ffioedd dysgu, bod rhaid i CCAUC arfer ei swyddogaethau yn unol â’r rheoliadau hynny.

Mae Rheoliad 6 o'r Reoliadau hyn yn darparu (ymhlith pethau eraill) wrth wneud unrhyw benderfyniad sy’n ymwneud â chymeradwyo cynllun, y dylai CCAUC (a ddynodwyd yn ‘awdurdod perthnasol’ mewn perthynas â Chymru dan Ran 3 o HEA 2004 a Rheoliadau Deddf Addysg Uwch 2004 (Awdurdod Perthnasol) (Dynodi) (Cymru) 2011 (OS 2011/658) -

“…must have regard to…the desirability of protecting academic freedom and in particular the freedom of institutions to determine-
(i) the contents of particular courses and the manner in which they are taught, supervised or assessed;
(ii) the criteria for the admission of students and to apply those criteria in particular cases…”.

Adran 1

Erthyglau llywodraethu corfforaethau addysg uwch

Mae adran 125 o’r Education Reform Act 1988 yn ei gwneud hi’n ofynnol i unrhyw sefydliad a reolir gan gorfforaeth addysg uwch (corfforaeth statudol a sefydlwyd dan Ran 2 o’r Ddeddf) gael ei redeg yn unol ag erthyglau llywodraethu a wnaed gan y gorfforaeth gyda sêl bendith y Cyfrin Gyngor.

Ymhlith pethau eraill, mae’r erthyglau llywodraethu yn pennu dosbarthiad swyddogaethau rhwng bwrdd y llywodraethwyr, y pennaeth a’r bwrdd academaidd ac yn rheoleiddio cyfansoddiad a swyddogaethau pwyllgorau. Gall erthyglau hefyd wneud darpariaeth sy’n caniatáu i fwrdd y llywodraethwyr wneud rheolau neu is-ddeddfau ar gyfer llywodraethu ac ymddygiad sefydliad o ran ymddygiad myfyrwyr a staff neu’r naill neu’r llall. Mae erthyglau wedi’u cymeradwyo gan y Cyfrin Gyngor ac sydd mewn grym ar hyn o bryd yn darparu ar gyfer rhyddid academaidd cyfadrannol.

Mae erthyglau llywodraethu corfforaethau addysg uwch yng Nghymru (Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Glyndŵr) yn ei gwneud hi’n ofynnol i fwrdd y llywodraethwyr lunio rheolau ar ymddygiad staff (ar ôl ymgynghori â’r staff). Mae’r erthyglau hefyd yn darparu, wrth wneud rheolau o’r fath, bod y llywodraethwyr yn:

“...have regard to the need to ensure that academic staff of the University are to have freedom within the law to question and test received wisdom, and to put forward new ideas and controversial or unpopular opinions, without placing themselves in jeopardy of losing their jobs or any privileges they may have at the University…”.

Adran 2

Y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, erthygl 10

Nid yw’r hawl i ryddid mynegiant a ganiateir gan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol wedi’i gyfyngu i ryddid i lefaru, ac mae’n cynnwys rhyddid i wneud gwaith ymchwil a’r rhyddid i argraffu.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn