Rhoi organau

Pe na bai pobl yn rhoi organau, byddai bywydau dirifedi’n cael eu colli bob blwyddyn. Mae’r erthygl hon yn cychwyn trwy drafod yn fyr ai ni yw perchnogion ein rhannau corff ein hunain ac yn mynd ymlaen i sôn am y sefyllfaoedd gwarthus a gafwyd yn Ysbyty Brenhinol Bryste ac Ysbyty Plant Alder Hey lle cadwyd organau heb ganiatâd ac y cyflwynwyd yr Human Tissue Act 2004 o’r herwydd. Gan barhau i ystyried caniatâd, mae’r erthygl yn trafod rhoi organau hefyd, a’r drefn gyfredol yng Nghymru a Lloegr o optio i mewn i roi organau cyn mynd ymlaen i ystyried y “caniatâd tybiedig” neu “gydsyniad tybiedig” a ddaw i rym yng Nghymru ar 1 Rhagfyr 2015. Yna, trafodir dulliau eraill o roi organau.

Ai chi sydd berchen eich corff?

1. Yn hanesyddol, ni ystyrid corff rhywun yn eiddo ac felly nid oedd yn rhywbeth y gellid ei ddwyn oni bai bod rhyw “waith a medrau” yn gysylltiedig â’r sefyllfa. (Doodeward and Spence 1908 6 C.L.R. 406). Yn R. v Kelly (Anthony Noel) [1999] Q.B. 621 awgrymodd y llys y gellid ystyried organ a gesglir at ddibenion trawsblannu organau, yn eiddo at ddibenion s.4 o Theft Act 1968. Er bod Dobson v North Tyneside HA [1997] 1 W.L.R. 596 o’r farn nad oedd perchnogaeth yn gysylltiedig â chorff ac na allai’r perthynas agosaf berchnogi ei ymennydd ar ôl iddo gael ei dynnu at ddibenion awtopsi, ei drin a’i storio, gwrthododd achos Yearworth v North Bristol NHS Trust [2009] EWCA Civ 37; [2010] Q.B. 1 ymagwedd Doodeward a Spence gan ddyfarnu bod sberm yr hawlwyr yn perthyn i’r cleifion a bod yr ysbyty’n euog o esgeulustod am storio esgeulus.

Cefndir Human Tissue Act 2004

2. Ymchwiliodd Ymchwiliad Kennedy 1998 i farwolaethau nifer o fabanod a fu farw wrth gael llawdriniaeth ar y galon yn Ysbyty Brenhinol Bryste ac Ysbyty Plant Alder Hey ar ddiwedd y 1980au a’r 1990au. Cynhaliwyd ymchwiliad eang, a deallwyd bod organau plant wedi’u cadw heb ganiatâd y rhieni. Nid oedd y patholegwyr wedi gofyn am ganiatâd am nad oeddent am beri trallod pellach i’r teuluoedd a’u bwriad yn unig oedd cadw’r organau at ddibenion ymchwil neu addysg. Roedd achos A v Leeds Teaching Hospitals NHS Trust [2004] EWHC 644 (QB); [2005] Q.B. 506 yn ymwneud â hawliad rhieni am niwed seiciatrig o ganlyniad i gadw organau eu plant. Er i un hawliad lwyddo, roedd cadw organau’n fater a berthynai i gwmpas yr Human Tissue Act 1961 ac nid oedd honno’n rhoi unrhyw hawl i neb fod yn berchen ar organau.

The Human Tissue Act 2004

3. Cyflwynwyd yr Human Tissue Act 2004 i ymateb yn uniongyrchol i’r sgandal yn Ysbyty Alder Hey ac Ysbyty Brenhinol Bryste. Bwriad y Ddeddf oedd "to provide a consistent legislative framework relating to the whole body donation and the taking, storage and use of human organs and tissue" gyda chaniatâd i dynnu organau yn egwyddor sylfaenol. Yn ôl Adran 1, lle bo "appropriate consent" y person a fu farw neu’r person byw wedi’i sicrhau cyn mynd ati i dynnu’r organau, gellir caniatáu storio a defnyddio deunydd perthnasol. Diffinir "Relevant material" yn a.53 fel meinwe a deunydd sy’n cynnwys celloedd ond nid yw gametau ac embryonau wedi’u cynnwys. Bellach, mae tynnu organau heb ganiatâd y person yn drosedd (a.5(1)).

4. Mae amcan penodedig y Ddeddf yn gwrthddweud ei gwir werth. Er nad oedd bwriad iddi hyrwyddo neu annog trawsblannu organau, roedd cyflwyno deddfwriaeth wedi helpu i adnewyddu ffydd y cyhoedd yn y broses o gasglu organau. Mae’r Ddeddf yn eang yn ei darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol cael caniatâd a rhoddir cryn sylw i faterion yn ymwneud â phwy sy’n gallu darparu caniatâd, a sut mae ymdrin â chaniatâd pan fo’r person yn brin o alluedd. Hefyd, roedd y darpariaethau yn ymwneud ag anghyfreithlondeb masnacheiddio rhoi organau yn sicrhau y byddai hyder gan y cyhoedd ei bod yn fwyfwy anodd i fod yn rhan o fasnachu mewn organau dynol. Cyflwynodd y Ddeddf Godau Ymarfer helaeth ac o bosibl yn bwysicach fyth, yr Awdurdod Meinwe Dynol i helpu i reoleiddio’r ddeddf ac i gyhoeddi trwyddedau ar gyfer cadw a defnyddio deunyddiau lle bo’n briodol. Mae’r Human Tissue Act 2004 wedi llwyddo i adfer llawer o hyder y cyhoedd yn y broses o gasglu a rhoi organau ac mae ar flaen y gad yn y maes hanfodol hwn o gyfraith feddygol.

Diffinio marwolaeth

5. At ddibenion trawsblannu organau, mae’n bwysig gallu pennu’n union pryd y mae claf yn marw. Er mai’r diffiniad derbyniol o farwolaeth yn y DU yw marwolaeth coesyn yr ymennydd, yn hanesyddol mae marwolaeth wedi’i diffinio fel methiant cardiopwlmonari (pan nad oedd y galon a’r ysgyfaint yn gweithio mwyach). Serch hynny, gyda dyfodiad systemau anadlu â chymorth gellid cynnal y corff yn artiffisial ac nid oedd y diffiniad o farwolaeth mwyach yn glir. Erbyn 1954, cyflawnwyd trawsblaniad cyntaf yr aren yn llwyddiannus yn Boston, UDA a dim ond 13 blynedd yn ddiweddarach cyflawnwyd trawsblaniad cyntaf y galon yn Ne Affrica. Ym 1995, (er yn gynt yn UDA), diffiniwyd a derbyniwyd marwolaeth coesyn yr ymennydd fel "irreversible loss of the capacity for consciousness, combined with irreversible loss of the capacity to breathe". Mae’r farnwriaeth wedi derbyn diffiniad marwolaeth fel y’i nodir gan y proffesiwn meddygol (gweler Yr Arglwydd Lane CJ yn R. v Malcherek (Richard Tadeusz) [1981] 1 W.L.R. 690 yn 426) ac yn Airedale NHS Trust v Bland [1993] A.C. 789 nododd yr Arglwydd Keith: "the eyes of the medical world and of the law, a person is not clinically dead so long as the brain stem retains its function".

Rhoi organau yn y DU

6. Heb y rhodd o organau ni ellir cyflawni’r broses o drawsblannu organau. Serch hynny, mater o gyflenwad a galw ydyw; nid oes digon o organau ar gael i gwrdd â galw gan gleifion sy’n aros am drawsblaniadau. Mae mwyafrif yr organau’n dod oddi wrth gleifion a fu farw ac yn 2013/14 cafwyd y nifer uchaf erioed sef 1,320 o roddwyr organau gan yr ymadawedig. Cynyddodd rhoddwyr arennau byw i 1,146. Serch hynny, roedd 7,026 o gleifion yn parhau i fod yn aros am organau ar gyfer trawsblaniad a bu farw 456 o gleifion yn aros am drawsblaniad neu fe’u tynnwyd oddi ar y rhestr am fod eu cyflwr wedi gwaethygu i’r graddau na allent bellach gael trawsblaniad. (Source: NHSBT Summary of Donor and Transplant Activity Report 2013/14)

Rhoddwyr organau byw

7. Mae rhoddion organau byw bellach yn cael eu rheoli yn unol â statud. Mae a.1 of the Human Tissue Act 2004 yn nodi’r fframwaith ar gyfer storio a defnyddio deunydd o’r corff dynol. Mae Adran 1(1)(d) yn ei gwneud yn ofynnol cael caniatâd priodol i storio neu ddefnyddio deunydd perthnasol a all gynnwys eu trawsblannu (Sch.1 Pt 1). Ni all oedolyn analluog gydsynio i roi organau ond gall barhau i roi organ os yw’r llys o’r farn fod hynny er ei les gorau. Yn Y (Mental Patient: Bone Marrow Donation), Re [1997] Fam. 110 er nad oedd gan Y y gallu i gydsynio i roi mêr esgyrn i’w chwaer, roedd ei "buddiannau gorau" wedi eu diffinio yn helaeth. Er nad oedd cael triniaeth fewnwthiol er budd gorau Y, roedd ei buddiannau gorau yn cynnwys ffactorau emosiynol a seicolegol a rhoes y llys ganiatâd i’r weithred. Mae mêr yr esgyrn yn atgynhyrchiol, ond yn achos organ nad yw’n atgynhyrchiol, megis aren, byddai materion moesegol anodd i’w hystyried yng nghyd-destun claf nad oes ganddo’r gallu i gydsynio. Mewn achos o UDA, Strunk v Strunk 1969 445 SW 2d 145, cydsyniodd y llys i frawd dderbyn trawsblaniad aren oddi wrth glaf analluog gan ddibynnu ar ddiffiniad ehangach o fuddiannau gorau.

Rhoddwr sy’n blentyn

8. Yn ôl yr Human Tissue Authority Code of Practice A 2013, dim ond dan "extremely rare circumstances" y gellid cytuno i rodd gan blentyn a byddai’n ofynnol cael cymeradwyaeth ymlaen llaw oddi wrth lys. Dan amgylchiadau o’r fath, yr ystyriaeth bennaf fyddai buddiannau’r darpar roddwr, yn hytrach na’r darpar dderbyniwr. Serch hynny, nid yw buddiannau gorau’r rhoddwr sy’n blentyn "is not limited to medical interests, and should take account of potential emotional, psychological and social benefits and risks".

Gwerthu organau byw – y gyfraith a moeseg

9. Mae’r Human Tissue Act 2004 yn gwahardd gwerthu organau byw. Mae Adran 32 yn datgan bod person yn cyflawni trosedd os yw a) "gives or receives a reward for the supply of, or for an offer to supply, any controlled material" neu os yw’n ymwneud â masnacheiddio cyflenwad o organau byw.

10. Er bod gwerthu organau byw yn anghyfreithlon, mae’r farchnad ddu yn y fasnach organau’n ffynnu ac mae nifer o hanesion gwarthus am organau-am-arian wedi’u canfod. Nid yw Tsieina wedi gwadu casglu organau oddi wrth garcharorion ar ôl eu dienyddio er gwaethaf goblygiadau anfoesegol arferion o’r fath. Mae masnach y farchnad ddu yn fyd-eang ac mae miloedd o organau (gan gynnwys dros 7,000 o arennau) yn cael eu prynu a’u gwerthu’n anghyfreithlon bob blwyddyn yn aml dan amgylchiadau creulon a gorfodol. (World Health Organisation Bulletin). Serch hynny, mae mwy o enghreifftiau anodd eu deall, er enghraifft, Daniel Tuck, oedd yn 26 oed ar y pryd, a gafwyd yn euog am iddo gytuno i werthu ei aren am £24,000 er mwyn talu ei holl ddyledion gamblo, neu’r Wyddeles yn fwy diweddar a oedd am werthu ei haren er mwyn prynu tŷ newydd.

11. Mewn gwirionedd, mae pobl gyfoethog yn talu symiau mawr o arian er mwyn cael organ addas heb orfod aros am gyfnodau hir ar restr aros Rhoddwyr Organau neu cyn i’w hiechyd waethygu ymhellach. Pobl dlawd sy’n gwerthu eu horganau ac yn aml yn gweld hynny fel yr unig opsiwn er mwyn sicrhau budd ariannol. Mae’r broceriaid yn gwneud elw sylweddol a thrwy hynny’n ecsbloetio’r tlawd. Er mai pobl dlawd sydd gan amlaf yn gwerthu eu harennau er budd ariannol, mae enghreifftiau hefyd pan fo arennau wedi’u gwerthu er mwyn talu am ddyledion gamblo a hyd yn oed i gael digon o arian i brynu cartref. Dylai dosbarthiad yr organau sydd ar gael fod ar sail angen glinigol nid ar sail cyfoeth.

12. A yw hi’n foesegol dderbyniol i berson werthu ei aren i berson arall? O safbwynt ymarferol, bydd gwerthu arennau yn cynyddu nifer yr organau sydd ar gael ac yn gwella bywyd y derbynnydd felly os yw person am werthu ei aren ac os yw derbyniwr yn barod i’w phrynu gellid dweud bod hyn yn gam cadarnhaol tuag at fodloni gwerthoedd ymarferoldeb o greu mwy o bleser nac o boen (gweler The Principles of Morals and Legislation 1789, Jeremy Bentham; the felicific calculus). Mae yna bleser i’r derbyniwr wrth iddo dderbyn yr organ a fydd yn achub a/neu wella ansawdd ei fywyd a bydd pleser i’r  rhoddwr wrth i ansawdd ei fywyd wella trwy dderbyn yr arian am yr aren a werthodd. Mewn cyferbyniad, gall rhywun ddadlau ei fod yn trin y rhoddwr fel nwydd a bod hyn yn groes i egwyddorion deontolegol (gweler Groundwork of the Metaphysics of Morals 1785, Immanuel Kant, the Categorical Imperative) lle na ddylai neb fyth "act in such a way that you treat humanity, whether in your own person or in the person of any other, never merely as a means to an end, but always at the same time as an end". Mae’r rhoddwr yn cael ei ecsbloetio ac o’r safbwynt hwn mae gwerthu organau yn anfoesegol.

13. Serch hynny, rhaid cofio mai penderfyniad awtonomaidd y rhoddwr ei hun yw a ddylai werthu ei organau ai peidio a dylid parchu’r penderfyniad ond a yw person yn wir yn gallu darparu cydsyniad gwir a gwybodus os mai’r unig lwybr at arian yw gwerthu ei organau?

14. Mae’r farchnad ddu yn parhau yn sgil ei hanghyfreithlondeb ac mae miloedd yn dioddef bob blwyddyn o ganlyniad uniongyrchol. O ystyried ei bod yn amhosibl cael gwared â’r farchnad ddu fyd-eang, mae "An ethically defensible market in organs" gan Harris J ac Erin C yn y BMJ 2002; 325: 114-115 yn honni y gellid sefydlu marchnad foesegol gynaliadwy o rannau corff dynol. Gallai marchnad o’r fath fod ar ffurf monopsoni lle mae pris teg yn cael ei bennu er mwyn gwarchod y tlawd rhag cael eu ecsbloetio, a gallai osgoi’r sefyllfa lle mae prisiau afresymol yn cael eu talu gan y sawl sydd â’r modd mwyaf. Er bod hyn yn ymddangos yn wirioneddol anfoesegol i ddechrau, gellir dadlau bod mynd i’r afael â bodolaeth y farchnad ddu yn greadigol yn llawer gwell na’i hanwybyddu neu ei phlismona’n aneffeithiol, a gadael iddi barhau i ffynnu.

Optio i mewn neu gydsyniad datganedig

15. Ar hyn o bryd, os yw rhywun am roi organau rhaid iddo gofrestru ei fwriad trwy arwyddo’r Gofrestr Rhoddwyr Organau naill ai ar-lein neu ar ffurflen bapur draddodiadol. Ffyrdd eraill o nodi parodrwydd i roi organau ar ôl marwolaeth yw rhoi tic yn y blwch priodol ar drwydded yrru newydd y DU neu trwy gynlluniau megis Boots Advantage Card (cerdyn ffyddlondeb). Gelwir hyn yn optio i mewn neu gydsyniad datganedig gan fod rhywun yn cymryd camau cadarnhaol i roi organau ar ôl marwolaeth trwy nodi’n bendant fwriad i wneud hynny.

Rôl y perthnasau

16. Os nad yw rhywun wedi mynegi dymuniad i roi organau ar ôl marwolaeth, mae modd i berthynas gydsynio i roi organau ar ran yr ymadawedig. Os yw’r ymadawedig wedi cydsynio i roi ei organau yn ystod ei oes, mae’r Human Tissue Authority's Code of Practice, March 2013 (clause 99) yn dweud y dylid trafod y mater yn sensitif gyda pherthnasau’r ymadawedig ond ni all y perthnasau wrthdroi dymuniadau’r ymadawedig i roi organau. Mae’r Cod Ymarfer yn egluro er gwaethaf y ffaith nad oes gan y teulu hawl i wahardd, y dylid ystyried pob achos yn ôl ei deilyngdod.

17. Ar ôl marwolaeth, os nad yw rhywun wedi mynegi ei ddymuniadau yn ystod ei fywyd i roi ei organau, mae’r Awdurdod Meinwe Dynol yn caniatáu i berthynas nodi y gallai’r person hwnnw fod wedi dymuno rhoi organau hyd yn oed os nad yw wedi datgan ei fod am “optio i mewn”. Pan fo’r ymadawedig wedi cydsynio i roi ei organau, mae’r Human Tissue Authority's Code of Practice, March 2013 (clause 99) yn datgan na all y perthnasau wrthdroi dymuniadau’r rhoddwr i roi ei organau ond y dylid trafod y pwnc yn sensitif. Mae’r Cod Ymarfer yn egluro er gwaethaf y ffaith nad oes gan y teulu hawl i wahardd, y dylid ystyried pob achos yn ôl ei deilyngdod.

18. Yn nogfen strategol NHSBT, "Taking Organ Transplantation to 2020" dyddiedig Gorffennaf 2013, un o’r amcanion datganedig yw gwella niferoedd gwireddu dymuniadau rhoddwyr gan mai’r DU yw un o’r cyfraddau uchaf yn y byd Gorllewinol lle nad yw teuluoedd yn cydsynio â dymuniadau’r rhoddwr i roi ei organau. Mewn gwirionedd, mae tua 40% o deuluoedd yn gwrthod rhoi ar ôl i’w hanwyliaid farw, a dyma un o’r prif resymau pam y mae timoedd trawsblannu’n colli’r cyfle i gael organau a fyddai o bosibl yn ddefnyddiol oddi wrth yr ymadawedig. Yn 2012/13 gwrthododd 115 o deuluoedd (13%) gefnogi eu hanwyliaid a oedd yn dymuno rhoi eu horganau ar ôl marwolaeth o gymharu â 799 o deuluoedd a gefnogodd ddymuniad datganedig eu perthnasau.

19. Yn 2015, daw Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 i rym gan gyflwyno trefn o “optio allan meddal” neu system lle mai rôl y perthnasau fydd cadarnhau a oedd gan yr ymadawedig unrhyw wrthwynebiad anghofrestredig, a’i gwneud yn haws i deuluoedd gadarnhau dymuniadau’r ymadawedig yn unig yn hytrach na gwneud penderfyniadau ar ei ran. Gan fod llai o allu i deulu wrthod neu wahardd dymuniadau’r ymadawedig o ran rhoi organau, byddai ymreolaeth yr ymadawedig yn cael ei pharchu. Mae mantais hefyd i’r gweithiwr proffesiynol meddygol nad yw bellach yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb o ofyn cwestiynau gwirioneddol anodd ynghylch rhoi organau ar adeg drallodus a phersonol iawn.

Optio i mewn neu gydsyniad tybiedig

20. Nid oes cynigion ar hyn o bryd i gyflwyno cydsyniad tybiedig yn Lloegr. Serch hynny, bydd Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013, a ddaw i rym o fis Rhagfyr 2015 yn darparu y gellir “tybio” neu ragdybio bod oedolyn cymwys dros 18 oed sy’n byw yng Nghymru ers 12 mis wedi cydsynio i roi ei organau ar ôl marwolaeth.

21. Bwriad y Ddeddf yw sicrhau cynnydd 25% yn y rhoddwyr organau yng Nghymru ac er y bydd organau ar gael i’r sawl sydd mewn angen ledled y DU, hwyrach y bydd bywydau’n cael eu hachub yng Nghymru o ganlyniad i gyflwyno’r drefn optio allan. Yn 2012/13, bu farw 36 o gleifion yng Nghymru yn aros am drawsblaniad organ, ond dim ond 32% o’r bobl sy’n byw yng Nghymru oedd wedi arwyddo’r Gofrestr Rhoddwyr Organau.

22. Mae’r Ddeddf yn berthnasol i’r sawl sy’n "preswylio fel arfer" yng Nghymru a gall fod yn berthnasol i fyfyrwyr yng Nghymru a’r sawl sydd yn y lluoedd arfog a’u teuluoedd ac sydd wedi’u lleoli yng Nghymru. Os nad oes gan yr ymadawedig alluedd yn ystod ei oes, ni ellir tybio caniatâd. Serch hynny, gellir gofyn i berson sydd mewn perthynas gymwys neu i gynrychiolydd a benodwyd wneud penderfyniad ynghylch rhoi organau ar ei ran.

23. Mae cydsyniad tybiedig yn cymryd yn ganiataol bod person yn cydsynio i roi organau ar ôl ei farwolaeth ac os nad yw’n cydsynio rhaid iddo optio allan. Mae’r ymresymu ynghylch cyflwyno cydsyniad tybiedig yn seiliedig ar y ffaith y gall fod cynnydd sylweddol yn nifer yr organau a fydd ar gael gan fod arolygon yn datgelu bod llawer mwy o bobl yn fodlon rhoi organau mewn gwirionedd nag sydd wedi cofrestru. Mae cydsyniad tybiedig yn cymryd yn ganiataol bod person wedi cofrestru.

24. Mae cyflwyno cydsyniad tybiedig yn ddrud gan y byddai angen ymgyrch addysgu sylweddol ac ymwybyddiaeth gyhoeddus ar lefel uchel er mwyn sicrhau dealltwriaeth lwyr o gydsyniad tybiedig a’r hyn y mae’n ei olygu. Fodd bynnag, mae mwy o roddwyr organau’n golygu mwy o drawsblaniadau organau gan ryddhau cleifion arennau o driniaeth ddialysis ddrud a thrafferthus a’u galluogi i fynd adref i fwynhau bywyd iach a dychwelyd i’r gwaith a chyfrannu at fywyd teuluol. Gallai’r gost o hyrwyddo rhoi organau o bosibl olygu bod llawer llai o faich ar y GIG o ran gofalu am gleifion ar y rhestr aros am Organau.

25. Mae pobl yn amharod i ystyried eu marwolaeth eu hunain a thrafod opsiynau gyda’u teuluoedd. Hyd yn oed os darperir addysg ddigonol ynghylch system optio allan; hwyrach na fydd rhai yn optio allan oherwydd eu bod yn ddi-hid neu eu bod yn methu â deall y system. Rhaid i ymgyrchoedd ymwybyddiaeth sicrhau bod pawb sydd heb ddewis optio allan yn wir yn cydsynio i roi organau yn hytrach na bod yn fictim oherwydd eu hanwybodaeth neu eu difaterwch. Dylai cydsyniad fod yn gydsyniad gwybodus hefyd, ac onid yw’n wybodus nid yw’n gydsyniad gwirioneddol. Fe fydd rhai sy’n llai addysgedig ac yn llai tebygol o wirioneddol werthfawrogi pwysigrwydd optio allan, a bydd eu horganau’n cael eu tynnu ar ôl eu marwolaeth a hynny’n debygol o ddigwydd yn erbyn eu gwir ewyllys. Felly, gellid dadlau, y byddai hyn yn debyg i drin yr ymadawedig fel adnodd cyhoeddus.

26. A yw cydsyniad tybiedig yn cynyddu niferoedd rhoddwyr organau? Mae ystadegau a gyflwynwyd gan Sefydliad Trawsblannu Cenedlaethol, Cyngor Ewrop yn awgrymu bod gan wledydd sy’n gweithredu system cydsyniad tybiedig (trefn "optio allan") hefyd nifer uwch o roddwyr; er enghraifft, mae gan Sbaen system optio allan ac yn 2003, roedd ganddyn nhw 33.8 o roddwyr organau i bob miliwn o boblogaeth. Mae’r ystadegau hyn wedi parhau’n gyson uchel, a chodi i 34.4 i bob miliwn o drigolion cyn syrthio i 32 i bob miliwn yn 2010. Fodd bynnag, y rheswm pam y mae ystadegau rhoddwyr Sbaen yn parhau’n uchel yn bennaf yw nid yn unig oherwydd eu system optio allan ond hefyd eu hisadeiledd trawsblannu organau. Mae gan wledydd eraill sydd hefyd wedi mabwysiadu cydsyniad tybiedig, megis Awstria, Gwlad Belg, y Ffindir ac o leiaf pum gwlad Ewropeaidd arall gyfraddau rhoi organau sy’n amlwg yn uwch.

27. Er hynny, mae gan Sweden a fabwysiadodd gydsyniad tybiedig ym 1996 un o’r cyfraddau rhoi organau isaf yn Ewrop, a mabwysiadodd Brasil gydsyniad tybiedig ym 1997 ond oherwydd amheuon y llywodraeth a phryderon ynghylch dwyn cyrff, dilëwyd y polisi y flwyddyn ganlynol. Ym 1992, yn Ffrainc bu farw dyn ifanc mewn damwain ffordd, a thynnwyd ei gornbilennau. Fodd bynnag, roedd ei rieni wedi cydsynio’n unig i roi organau penodedig ac roedd y cyhoeddusrwydd negyddol yn y wasg wedi niweidio delwedd cydsyniad tybiedig a’r ymddiriedaeth yn y system.

Cymhellion i roi organau

28. Ystyrir rhoi organau yn weithred allgarol, yn weithred haelionus hynod garedig ac felly, gellir dadlau na fyddai’n foesegol dderbyniol gwobrwyo’r rhoddwr yn ariannol am ei weithred drugarog a charedig.

29. I’r diben hwn, argymhellodd yr adroddiad o Gyngor Nuffield ar Fiofoeseg (Human Bodies: Donation for Medicine and Research 2011) gynllun peilot i ganfod a fyddai talu am gostau angladdol yn cynyddu cyfraddau rhoi organau. Nid ystyrir hyn yn gymhelliant ariannol fel y cyfryw a dim ond ar ôl i’r person fod wedi rhoi ei gydsyniad eisoes i roi ei organau ar ôl marwolaeth y byddai’r taliad yn cael ei wneud. Felly ystyrir y taliad fel math o ddiolchgarwch, nid yw’n gyfystyr â thaliad ac ni ellid honni ei fod yn groes i egwyddorion deontolegol ac yn trin pobl yn unig fel ffordd o gyrraedd y  nod. Fodd bynnag, mae’n destun dadl a ellid sicrhau cydbwysedd rhwng talu rhywun am roi organ ar ôl ei farwolaeth (ei wobrwyo’n ariannol) a chreu cymhelliant ariannol i roi.

30. Gallai cymhellion eraill gynnwys manteision o ran treth  neu roi lle uwch ar restr aros am organau i’w trawsblannu i bobl sy’n rhoi cydsyniad tybiedig. Mae’r cysyniad hwn eisoes wedi’i gyflwyno mewn gwledydd fel Singapore ac Israel. Yn Israel, dim ond 4% o’r boblogaeth sy’n cario cerdyn Rhoi Organau yn ôl Canolfan Gendlaethol Trawsblaniadau Israel. Yn 2008 pasiwyd yr Israeli Organ Transplant Law 2008 a daeth i rym yn 2012. Mae’r Ddeddf yn rhoi breintiau uwch i’r sawl sy’n rhoi nag i’r gweddill. Unwaith mae person wedi cytuno i ddod yn rhoddwr, rhoddir blaenoriaeth iddyn nhw ac i’w perthnasau cyntaf uwchlaw’r rhai sydd heb gytuno i fod yn rhoddwyr organau. Er ei fod eisoes wedi gweld cynnydd yn niferoedd rhoddwyr organau, beirniadwyd y cynllun am annog 'gaming': hynny yw, lle mae cardiau rhoi yn cael eu harwyddo i sicrhau blaenoriaeth heb unrhyw fwriad i roi. Mae un o’r cymhellion yn creu anhawster arall: Os yw arwyddo i fod yn rhoddwr yn ddeniadol am ei fod o bosibl yn rhoi blaenoriaeth uwch i’r rhoddwr a’i berthnasau cyntaf, bydd hyn yn anfantais os yw darpar roddwr yn dod o deulu llai a fyddai wedyn yn gweld y cynllun cymell yn llai deniadol.

31. Yn 2013 cyhoeddodd Awdurdod Trawsblannu a Gwaed y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn y DU ddogfen strategol o’r enw "Taking Organ Transplantation to 2020". Un o’r ystyriaethau mwyaf radical oedd a ddylid archwilio opsiynau yn ymwneud ag a ddylai’r sawl sydd ar y Gofrestr Rhoddwyr Organau gael blaenoriaeth uwch pe bai arnynt angen organ na’r sawl sydd heb gofrestru. Rhaid aros i weld a oes awydd ar lunwyr polisïau cyhoeddus gychwyn trafodaethau fel hyn.

Dewis gorfodol

32. Dull llai poblogaidd arall o ddenu rhoddwyr organau yw trwy gyflwyno dewis gorfodol lle byddai disgwyl i bob person benderfynu beth fydd yn digwydd i’w horganau ar ôl eu marwolaeth. Gellid gwneud hyn trwy gyfrwng ffurflenni treth neu trwy system budd-daliadau’r wladwriaeth.

33. Tynnu organau o’r ymadawedig yn orfodol: Dull mwy eithafol, ond un a fyddai’n sicrhau cyflenwad digonol o organau pe bai organau’n cael eu tynnu’n awtomatig o’r ymadawedig. Yn ôl (Law and regulation of retained organs: the ethical issues L.S. 2002, 22(4), 527-549), gan nad oes unrhyw les i ni o’n horganau ar ôl ein marwolaeth, ni fyddai tynnu ein horganau yn ein niweidio, dylid eu tynnu hyd yn oed heb ein cydsyniad datganedig. Er y byddai cryn fantais o ran yr organau a fyddai ar gael i’w rhoi, ni fyddai hyn yn parchu safbwyntiau crefyddol neu ddiwylliannol a dymuniadau datganedig yr ymadawedig.

Addysg ac ymgyrchoedd

34. Un dull o greu mwy o ymwybyddiaeth o roi organau o bosibl fyddai cyflwyno’r mater yn bwnc gorfodol fel rhan o Addysg Bersonol a Chymdeithasol y Cwricwlwm Cenedlaethol mewn ysgolion. Dyma ffordd effeithiol o gyflwyno’r pwnc i oedolion ifanc ac i’r mater gael ei drafod gan y teulu yn hytrach na bod yn rhywbeth nad oes neb yn dymuno ei drafod. Mae ymgyrchoedd yn ddull amgen ac effeithiol o godi ymwybyddiaeth o’r angen am roddwyr organau. Yn sgil ymgyrch gan rwydwaith teledu ITV "From the Heart" a ddarlledwyd ym mis Chwefror 2013 a fu’n dilyn hanes Will Pope, a dderbyniodd galon, llwyddwyd i gael 48,000 o bobl mewn un diwrnod i addo rhoi eu horganau ar ôl eu marwolaeth er mwyn helpu eraill gan droi difaterwch yn weithgarwch.

Senotrawsblaniad

35. Senotrawsblaniad yw pan fo organ neu feinwe anifail yn cael ei drawsblannu i mewn i gorff dynol. Yn 2006, diffiniodd yr Adran Iechyd senotrawsblaniad fel:
  "any procedure that involves the transplantation, implantation, or infusion into a human recipient of either live tissues or organs retrieved from animals, or, human body fluids, cells, tissue or organs that have undergone ex vivo contact with live non-human animal cells tissues or organs."

36. Os yw’n gyfreithlon, yn foesegol dderbyniol ac yn feddygol lwyddiannus, gallai senotrawsblaniad ar amrantiad ddiwallu’r prinder organau sydd ar gael i’w trawsblannu trwy ddefnyddio organau moch. Nid oes unrhyw senotrawsblaniadau wedi’u gwneud yn y DU hyd yn hyn ond ym 1984 trosglwyddwyd calon babŵn i "Baby Fae" yn UDA a llwyddodd i oroesi am 20 diwrnod ar ôl y trawsblaniad. Yn y 1990au, gwelwyd datblygiadau pellach ac mae materion yn ymwneud ag atalyddion imiwnedd wedi gwella. Pe bai modd esblygu senotrawsblaniadau ymhellach, gallai ddiwallu’r prinder organau. Ar y llaw arall, efallai y bydd ystyriaethau moesegol eraill hefyd gan gynnwys y perygl o drosglwyddo firysau anifeiliaid i ddynoliaeth, hawliau anifeiliaid a gwrthwynebiadau crefyddol.

Mwy o erthyglau ynghylch Gwasanaethau iechyd

Gweld mwy o erthyglau yn Gwasanaethau iechyd