Cyfraith etholiadol

Etholiadau

Yn y Deyrnas Unedig, etholiadau yw'r broses o ddewis aelod o gorff neu bersonau cynrychioliadol.

Yn y Deyrnas Unedig, yn dibynnu ar ble rydych yn byw, efallai y gallwch bleidleisio mewn etholiadau ar gyfer Tŷ'r Cyffredin (a elwir yn etholiadau seneddol), llywodraeth leol, Senedd Ewrop, Senedd yr Alban, Cynulliad Gogledd Iwerddon, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar gyfer Comisiynydd Heddlu a Throseddu ac ar gyfer meiri lleol.

Refferenda

Yn achlysurol, cynhelir refferenda cenedlaethol a lleol er mwyn gofyn cwestiwn neu gyfres o gwestiynau i'r etholwyr yn uniongyrchol.

Yr hyn a gwmpesir gan y tudalennau hyn

Mae'r tudalennau canlynol yn canolbwyntio ar etholiadau datganoledig Cymru (h.y. etholiadau llywodraeth leol ac etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru).

Y fframwaith deddfwriaethol

Mae nifer o elfennau i gyfraith etholiadol. Er enghraifft, mae rheolau ynglŷn â phwy all bleidleisio (a elwir yn etholfraint) a phwy all sefyll mewn etholiadau; rheolau sy'n ymwneud â chynnal etholiadau megis sut y mae ymgyrchoedd yn cael eu trefnu, eu hariannu a'u cynnal gan ymgeiswyr a'u cefnogwyr; rheolau sy'n ymwneud â chwestiynu etholiadau, troseddau etholiadol a chanlyniadau a chosbau'r rhain.
Mae'r gyfraith gyfredol sy'n llywodraethu'r rhain yn rhychwantu nifer o statudau a gellir dod o hyd iddynt mewn deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth er mai'r brif ddeddf yn y maes hwn yw Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.  

Gall etholiadau penodol gael eu cyfuno ag etholiadau neu refferenda eraill drwy ddefnyddio'r darpariaethau a'r rheolau statudol mewn modd addasedig (a amlinellir yn gyffredinol mewn is-ddeddfwriaeth) at y diben penodol.

Personau sydd ynghlwm ag etholiad  

Mae nifer o reolau'n cyfrannu at gynnal etholiad neu refferendwm megis swyddogion canlyniadau a swyddogion cofrestru etholiadol. Yn ogystal, mae'r Comisiwn Etholiadol yn gorff annibynnol sy'n rheoleiddio etholiadau yn y DU, hyrwyddo ymwybyddiaeth pleidleiswyr ac yn meithrin hyder yn y broses etholiadol.

Diwygiadau yn y dyfodol

Yn 2016, cyhoeddodd Comisiwn y Gyfraith Cymru a Lloegr, Comisiwn y Gyfraith yr Alban a Chomisiwn y Gyfraith Gogledd Iwerddon adolygiad interim yn seiliedig ar y Gyfraith Etholiadol.  Daethpwyd i'r casgliad bod y maes hwn o'r gyfraith wedi dod yn fwyfwy cymhleth a darniog a bod y mwyafrif o'r gyfraith â'i gwreiddiau yn iaith ac arferion y 19eg ganrif ac awgrymwyd gwneud diwygiadau iddi.
Yn gynharach eleni, cyflwynodd Swyddog Llywyddu Cynulliad Cenedlaethol Cymru Fil Senedd ac Etholiadau (Cymru)  i'r Cynulliad, a phe bai'r bil yn cael ei basio gan y Cynulliad, byddai diwygiadau penodol yn cael eu cyflwyno i drefniadau etholiadol y Cynulliad Cenedlaethol.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn