Barnwriaeth

Yn  gyffredinol, mae’r uwch farnwriaeth yn eistedd yn y llysoedd uwch (yr Uchel Lys, y Llys Apêl a’r Goruchaf Lys) a’r holl farnwyr eraill yn eistedd yn y llysoedd is (Llys yr Ynadon, Llys Sirol a Llys y Goron).

Cyflwynodd y Constitutional Reform Act 2005 newidiadau pwysig i’r dull o redeg barnwriaeth. Er bod y farnwriaeth wedi bod yn annibynnol (o lywodraeth a’r ddeddfwriaeth) erioed, roedd y Ddeddf yn gosod yr annibyniaeth honno ar delerau statudol er mwyn sicrhau bod barnwyr yn parhau’n rhydd o ddylanwad gwleidyddol. Sefydlwyd Comisiwn Penodiadau Barnwrol dan y ddeddf honno, ymhlith eraill. Dyma gomisiwn annibynnol sy’n dewis a dethol ymgeiswyr ar gyfer swydd barnwr mewn llysoedd a thribiwnlysoedd yng Nghymru a Lloegr. Mae’n gyfrifol am sicrhau bod ymgeiswyr yn cael eu dewis ar sail teilyngdod, trwy gystadleuaeth deg ac agored, ac o blith y casgliad ehangaf posibl o  ymgeiswyr cymwys.

Arweiniodd y Constitutional Reform Act 2005 at ddiwygio swyddfa’r Arglwydd Ganghellor a sefydlu’r Arglwydd Brif Ustus fel pennaeth barnwriaeth Cymru a Lloegr.  Sefydlwyd y Goruchaf Lys hefyd. Tŷ’r Arglwyddi oedd y llys apêl uchaf cyn hynny, sydd hefyd yn rhan o’r ddeddfwriaeth. Mae symud y swyddogaeth apeliadol hon i Oruchaf Lys annibynnol wedi sicrhau bod y ddeddfwriaeth a’r farnwriaeth yn wirioneddol ar wahân (fel sy’n ofynnol gan athrawiaeth gwahaniad pwerau.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn