Sut mae llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru yn cael ei hariannu?

Mae gan lywodraeth ddatganoledig yng Nghymru bedair prif ffynhonnell o gyllid:

  • arian a ddyrennir gan Lywodraeth y DU
  • arian a godir yng Nghymru drwy gyfrwng trethi a thaliadau eraill
  • benthyciadau
  • arian oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd

Arian a ddyrennir gan Lywodraeth y DU

Mae Trysorlys Ei Mawrhydi yn rheoli lefel gyffredinol gwariant cyhoeddus yn y DU bob blwyddyn. Mae cyfran o gyfanswm yr arian a godir drwy'r DU ac a glustnodir ar gyfer gwariant cyhoeddus yn cael ei ddyrannu i Gymru a’r gyfran hon, a elwir yn 'grant bloc', yw sail cyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru.

Mae swm y grant bloc yn cael ei bennu fel rhan o Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant Llywodraeth y DU, yn unol â'r polisïau a nodir yn 'Datganiad o Bolisi Ariannu' Trysorlys EM ar gyfer y gweinyddiaethau datganoledig.

Mae addasiadau i'r grant bloc yn cael eu penderfynu gan ddefnyddio Fformiwla Barnett. Mae'r fformiwla yn cael ei defnyddio i gyfrifo faint y bydd y grant bloc yn newid yn sgil cynnydd neu ostyngiad yng nghyllideb y DU gyfan ar gyfer gwariant cyhoeddus. Mae’r fformiwla yn ystyried y boblogaeth yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr (fel arfer), ac i ba raddau y mae newidiadau i gyllideb y DU yn cael eu gwneud mewn meysydd lle mae darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn debyg i Loegr (fel arfer).

Mae'r grant bloc yn cael ei dalu yn y lle cyntaf i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, sy'n cadw’r arian sydd ei angen i redeg Swyddfa Cymru ac yn trosglwyddo'r gweddill i Lywodraeth Cymru. Mae'r arian yn cael ei roi yng Nghronfa Gyfunol Cymru (cyfrif banc Cymru yn y bôn) ac yna rhaid i Lywodraeth Cymru baratoi ei chyllideb ddrafft yn nodi sut y bydd yn defnyddio'r arian. Yna mae Pwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol a phartïon eraill sydd â diddordeb yn craffu ar y gyllideb ddrafft ac yn gwneud sylwadau arni cyn iddi gael ei therfynoli a’i chymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn y cynnig Cyllidebol blynyddol. Gellir amrywio’r Gyllideb drwy gynnig Cyllidebol atodol wedi’i gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae Llywodraeth Cymru, Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn derbyn dyraniadau o Gyllideb Cymru. Mae cyfran sylweddol o'r gyllideb yn cael ei dyrannu i'r cyrff cyhoeddus a noddir ac a gyllidir gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys awdurdodau lleol, y GIG yng Nghymru a chyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru. Dyma'r arian a ddefnyddir i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn atebol i'r Cynulliad Cenedlaethol am y modd y mae’n cymhwyso ac yn rheoli'r Gyllideb. Mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru gynhyrchu cyfrifon yn cofnodi materion ariannol Llywodraeth Cymru a thaliadau i mewn ac allan o Gronfa Gyfunol Cymru. Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn adrodd ar y cyfrifon hynny, ac mae ganddo rôl o ran gwirio bod gwariant wedi ei wneud yn unol â’r gyfraith, gan wirio os yw cyllid wedi ei neilltuo at bwrpas penodol ei fod mewn gwirionedd wedi’i ddefnyddio at y diben hwnnw.

Am ragor o wybodaeth ynghylch cyllideb Llywodraeth Cymru, gweler adrannau 117 i 145 o'r Government of Wales Act 2006.

Arian a godir yng Nghymru drwy gyfrwng trethiant

Er bod trethi yn cael eu gweinyddu'n ganolog yn gyffredinol yn y DU gan Drysorlys EM, mae’r dreth gyngor yn cael ei chodi gan awdurdodau lleol. Felly, mae derbyniadau’r dreth gyngor yn ffynhonnell bwysig o refeniw ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru a chyrff eraill yng Nghymru megis yr heddlu. Mae awdurdodau lleol yn derbyn cyllid pellach o ganlyniad i ailddosbarthu ardrethi annomestig (ardrethi busnes) sy’n cael eu casglu a'u talu i mewn i Gronfa Ardrethi Annomestig Llywodraeth Cymru.

Roedd adroddiad cyntaf y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (a elwir hefyd yn Gomisiwn Silk) yn gwneud argymhellion mewn perthynas â'r trefniadau ariannu ar gyfer Llywodraeth Cymru a datganoli trethi penodol. Rhoddwyd rhai o'r argymhellion hyn ar waith gan y Wales Act 2014. Mae'r Ddeddf wedi trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol y cymhwysedd deddfwriaethol i wneud cyfreithiau i osod treth ar drafodion tir ac ar warediadau i safleoedd tirlenwi. Ar hyn o bryd mae’r trafodion hyn yn cael eu trethu ar lefel y DU (treth dir y dreth stamp a’r dreth dirlenwi yn y drefn honno). Bwriedir datgymhwyso cyfundrefnau treth dir y dreth stamp a threth dirlenwi'r DU yng Nghymru o Ebrill 2018. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gallu defnyddio ei gymhwysedd deddfwriaethol newydd i greu trethi cyfatebol ar gyfer Cymru. Bydd swm y grant bloc i Gymru yn cael ei leihau i adlewyrchu'r ffaith y bydd Cymru wedyn yn codi rhagor o gyllid ar ei chyfer ei hun.

Mae’r Wales Act 2014 yn creu'r posibilrwydd y gall y Cynulliad Cenedlaethol amrywio cyfradd y dreth incwm a delir gan drethdalwyr Cymru hyd at 10%. Er mwyn i hyn ddigwydd, byddai angen iddo gael ei gytuno mewn refferendwm o bobl Cymru. Unwaith eto, pe bai hyn yn digwydd, byddai swm y grant bloc yn cael ei addasu yn unol â hynny.

Benthyca

Mae pwerau benthyca cyfredol Gweinidogion Cymru wedi'u nodi yn adran 121 o’r Government of Wales Act 2006. Gallant fenthyg arian gan Lywodraeth y DU er mwyn ysgwyddo’r diffyg dros dro yng Nghronfa Gyfunol Cymru neu i ddarparu balans o gyfalaf gweithio yn y gronfa honno. Mae’r uchafswm y gellir ei fenthyg wedi ei gapio ar hyn o bryd ar £500 miliwn (ond mae’r Wales Act 2014 yn caniatáu i'r Ysgrifennydd Gwladol amrywio’r cap hwn (ond heb ei ostwng yn is na £500 miliwn) yn y dyfodol).

Bydd y Wales Act 2014, pan ddaw’r darpariaethau perthnasol i rym, yn ymestyn pwerau benthyca Gweinidogion Cymru mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, bydd y mecanwaith benthyca y cyfeirir ato yn y paragraff blaenorol hefyd ar gael i wneud yn iawn am unrhyw ddiffyg dros dro o ganlyniad i amrywiadau mewn derbyniadau o drethi datganoledig newydd yng Nghymru. Yn ail, bydd pŵer newydd i fenthyg arian oddi wrth Lywodraeth y DU ar gyfer gwariant cyfalaf. Bydd cap o £500 miliwn ar gyfer y benthyca hwn, ond gall yr Ysgrifennydd Gwladol amrywio'r cap (ond heb ei ostwng yn is na £ 500 miliwn).

Mae arian y mae awdurdodau lleol yn ei fenthyg hefyd yn ffynhonnell bwysig o arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu arian i awdurdodau lleol o’r grant bloc, ond caniateir iddynt fenthyg mwy o arian, yn amodol ar unrhyw gyfyngiadau a osodir gan Lywodraeth Cymru. Rhaid i awdurdodau lleol ddilyn y rheolau ar 'fenthyca darbodus', sy'n golygu cydymffurfio â'r Cod Materion Ariannol sydd (ymhlith pethau eraill) yn mynnu bod benthyca yn fforddiadwy ac yn ddarbodus.

Cyllid o Ewrop

Un o brif amcanion yr Undeb Ewropeaidd yw cynorthwyo Aelod-wladwriaethau llai llewyrchus, ac ardaloedd llai llewyrchus o fewn Aelod-wladwriaethau, i weithio tuag at gydgyfeirio safonau byw rhwng rhanbarthau mwyaf ffyniannus a lleiaf ffyniannus yr UE.  Mae ardal sylweddol o Gymru, sy’n cwmpasu Gorllewin Cymru a Chymoedd De Cymru, yn un o’r 'parthau cydgyfeirio' sy'n elwa o swm cymharol uchel o gyllid Ewropeaidd oherwydd ei fod yn is na chyfartaledd yr UE o ran ei ffyniant.

Mae Cymru, felly, yn derbyn symiau sylweddol o arian o Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd (h.y. Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Chronfa Gymdeithasol Ewrop). Mae'r cyllid hwn yn cael ei weinyddu a'i ddosbarthu gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO). Mae WEFO yn rhan o Lywodraeth Cymru, ac mae'n cymhwyso’r cyllid yn unol â Rhaglen Weithredol y cytunwyd arni gyda'r Comisiwn Ewropeaidd. Yn y modd hwn, gwneir buddsoddiad o bron i £2 biliwn  gan yr UE i Gymru ar gyfer 2014-2020, ac fe’i defnyddir i gefnogi twf economaidd a swyddi drwy ymchwil ac arloesi, cyllid busnes, cysylltiadau technoleg gwybodaeth a thrafnidiaeth, ynni, a thrwy helpu pobl i gael gwaith a hyfforddiant.

Ceir rhagor o wybodaeth am y ffordd y mae Cronfeydd Strwythurol yr UE o fudd i Gymru ar wefan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn