Senedd a Llywodraeth y DU yng Nghymru

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru wedi cael rôl gynyddol yn y gwaith o lywodraethu Cymru wrth i’r broses o ddatganoli esblygu. Ond mae lle pwysig iawn i Senedd y DU o hyd yn y gwaith o lywodraethu Cymru. Dim ond mewn perthynas â materion nad sydd wedi eu cadw i Senedd y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Atodlen 7A i Government of Wales Act 2006 (GOWA 2006) y gall Cynulliad Cymru basio deddfau (mae rhagor o wybodaeth am ei gymhwysedd deddfwriaethol i’w weld yma). Mae Senedd y DU yn cadw’r pŵer i ddeddfu ar unrhyw bwnc, ac mae ganddi gymhwysedd neilltuedig (yn amodol ar gyfraith yr UE) i ddeddfu ar gyfer Cymru mewn perthynas â faterion ar gadw. Mae hyn yn cynnwys meysydd pwysig fel plismona, cyfiawnder, nawdd cymdeithasol a’r rhan fwyaf o feysydd cyfraith fasnachol/busnes.aterion ar gadw

Hyd yn oed yn y meysydd datganoledig hynny (h.y. heb ei cadw), mae llawer iawn o ddeddfwriaeth y DU sy’n parhau i fod yn gymwys yng Nghymru. Er enghraifft, mae sawl Deddf Seneddol wedi’i phasio cyn datganoli, a gall Senedd y DU barhau i ddeddfu ar gyfer Cymru ar ôl datganoli (gyda chydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol).

Mae llawer o bwerau gweithredol (pŵer i orfodi’r gyfraith) mewn meysydd datganoledig a heb eu datganoli yn nwylo Gweinidogion Cymru bellach. Mae gan Weinidogion Cymru lawer o swyddogaethau o dan Ddeddfau Seneddol yn ogystal ag o dan Ddeddfau a Mesurau’r Cynulliad.

Fodd bynnag, nid yw swyddogaethau  o dan Ddeddfau Seneddol yn cael eu dirprwyo i Weinidogion Cymru bob amser. O bryd i’w gilydd, bydd y swyddogaethau hynny’n cael eu dirprwyo i’r Ysgrifennydd Gwladol (hynny yw, Gweinidog y DU).

Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Mae rôl Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cynnwys:

  • cynrychioli Llywodraeth y DU yng Nghymru
  • cynrychioli buddiannau Cymru yn San Steffan
  • goruchwylio gwaith y setliad datganoli
  • llywio deddfwriaeth benodol i Gymru drwy Senedd y DU

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn