Gwasanaethau Cyfreithiol

Adran Gwasanaethau Cyfreithiol Llywodraeth Cymru yw’r adran gyfreithiol sector cyhoeddus fwyaf yng Nghymru, sy’n cael ei harwain gan y Cyfarwyddwr Jeff Godfrey.

Mae dros 100 o gyfreithwyr a staff cymorth yn rhoi cyngor cyfreithiol a gwasanaethau drafftio deddfwriaethol i Weinidogion Cymru ar draws holl bortffolios y Cabinet. Eu nod yw darparu cyngor cadarn, effeithiol, annibynnol sy’n rhydd o ymyrraeth wleidyddol.

Mae gan yr adran 14 o dimoedd sydd i bob pwrpas yn adlewyrchu portffolios Gweinidogol gwahanol yn y meysydd pwnc canlynol:

  • Cyfansoddiad
  • Iechyd a Diogelwch Bwyd
  • Gofal Cymdeithasol
  • Llywodraeth Leol
  • Gwasanaethau Cyfreithiol Masnachol
  • Trafnidiaeth
  • Cynllunio
  • Economi
  • Materion Gwledig
  • Amgylchedd
  • Addysg (Ysgolion) a’r Gymraeg
  • Addysg (Addysg Bellach ac Uwch)
  • Diwylliant a Chwaraeon
  • Cymunedau, Tai ac Adfywio

Mae prif gyfrifoldebau’r Adran Gwasanaethau Cyfreithiol fel a ganlyn:

  • Darparu cyngor cyfreithiol i Weinidogion, Cyfarwyddwyr Cyffredinol ledled Llywodraeth Cymru a swyddogion yn eu hadrannau;
  • Drafftio is-ddeddfwriaeth a darparu cyfarwyddiadau cyfreithiol i Swyddfa’r Cwnsler Deddfwriaethol (SCD) er mwyn drafftio Biliau Llywodraeth Cymru’n unol â rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru;
  • Cydweithio’n agos â Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau y cyflawnir polisi Llywodraeth Cymru mewn Biliau Seneddol;
  • Cyflawni neu oruchwylio ymgyfreitha Llywodraeth Cymru;
  • Darparu gwasanaethau cyfreithiol masnachol;
  • Rheoli contractau ar gyfer darparu gwasanaethau cyfreithiol allanol lle na ellir gwneud hynny’n fewnol.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn