Meysydd sydd wedi’u datganoli

Cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol

Mae Senedd y DU wedi dirprwyo rhai o’i phwerau deddfu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae gan y Cynulliad Cenedlaethol y pŵer i basio deddfwriaeth sylfaenol mewn Deddfau’r Cynulliad sydd â statws cyfwerth â Deddfau Seneddol.

Fodd bynnag, mae pwerau deddfu’r Cynulliad Cenedlaethol yn wahanol i bwerau deddfu Senedd y DU oherwydd un rheswm pwysig. Mae Senedd y DU yn sofran, sy’n golygu bod ganddi’r pŵer i basio deddfau ar unrhyw fater o’i dewis. Nid yw’r Cynulliad Cenedlaethol yn sofran. Corff a lywodraethir gan statud ydyw, sef y Government of Wales Act 1998 cynt, a bellach  y Government of Wales Act 2006 (GOWA 2006) wedi'i diwygio gan y Wales Act 2014 a'r Wales Act 2017.  Mae hyn yn golygu mai dim ond y pwerau deddfu a roddwyd iddo gan GOWA 2006 sydd ganddo.

Mae’r holl feysydd y mae gan y Cynulliad Cenedlaethol y pŵer i basio deddfau yn eu cylch yn cael eu disgrifio fel y meysydd sydd o fewn ei ‘gymhwysedd deddfwriaethol’. Mae adrannau 107 a 108A o GOWA 2006, ac Atodlenni 7A a 7B iddi, yn diffinio graddfa cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol. Nid yw unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf Cynulliad sydd y tu hwnt i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol yn ddeddf ddilys. (Mewn perthynas â 22 Mesur y Cynulliad a basiwyd rhwng 2008 a 2011, caiff cymhwysedd deddfwriaethol ei llywodraethu gan adrannau 93 a 94 o GOWA 2006, ac Atodlen 5 iddi.)

Mae adran 108A(2) yn mynnu bod darpariaeth mewn Deddf gan y Cynulliad y tu hwnt i'w gymhwysedd os bydd darpariaeth yn methu un o'r profion a nodir isod. 

Dyma’r camau i benderfynu a yw darpariaeth mewn Deddf Cynulliad o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol:
Adran 1

Profion 1 i 5

Prawf 1 (adran 108A(2)(a) o GOWA 2006)

1. Ni all darpariaeth Deddf gan y Cynulliad ffurfio rhan o awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru a Lloegr.  Mewn geiriau eraill, rhaid iddi newid y gyfraith yn awdurdodaeth gyfreithiol Cymru a Lloegr yn unig.  (Peidiwch â chymysgu “rhychwantu” (“extend to”) ac “yn gymwys i” (“apply to”), sef gwahaniaeth pwysig sy'n berthnasol i brawf 2 o dan adran 108A(2)(b).)


Prawf 2 (adran 108A(2)(b) o GOWA 2006)

2. Ni all darpariaeth Deddf gan y Cynulliad fod yn gymwys ac eithrio mewn perthynas â Chymru oni bai fod y ddarpariaeth dan sylw yn ategol i ddarpariaeth arall sydd o fewn y cymhwysedd ac nad oes unrhyw effaith sy’n fwy nag sydd ei hangen i roi diben y ddarpariaeth honno ar waith, heblaw am mewn perthynas â Chymru.  Dylid nodi mai'r geiriad yn y cyfyngiad hwn yw “mewn perthynas â Chymru” (“in relation to Wales”) nid “yng Nghymru” (“in Wales”).  Felly, caiff y ddarpariaeth effaith gyfreithiol yn Lloegr cyhyd â bod rhyw fath o berthynas â Chymru.


Prawf 3 (adran 108A (2)(c) o GOWA 2006) – y prawf diben

3. Ni chaiff darpariaeth Deddf gan y Cynulliad ymwneud â mater a gedwir yn ôl.  Mae Atodlen 7A i GOWA 2006 yn rhestru'r materion a gedwir yn ôl i Senedd y DU at y dibenion hyn, a dim ond Senedd y DU a all basio deddfwriaeth sylfaenol sy'n ymwneud â'r materion hyn. Mae mater na chedwir yn ôl wedi'i ddatganoli i'r Cynulliad. 

Penderfynir a yw darpariaeth Deddf gan y Cynulliad yn ymwneud â mater a gedwir yn ôl trwy gyfeirio at ddiben y ddarpariaeth, gan ystyried (ymysg pethau eraill) ei heffaith yn yr holl amgylchiadau. Cadarnhaodd y Goruchaf Lys fod yr ymadrodd “ymwneud â” (“relates to”) yn nodi “more than a loose or consequential connection” (Martin v Most [2020] UKSC 10). Ni fydd darpariaeth sy'n cyfeirio at fater a gedwir yn ôl yn unig, neu sydd ag effaith ddamweiniol neu ganlyniadol ar fater a gedwir yn ôl, yn “ymwneud â'r” mater hwnnw a gedwir yn ôl. 


Prawf 4 (adran 108A(2)(d) o GOWA 2006)

4. Ni chaiff darpariaeth Deddf gan y Cynulliad dorri unrhyw un o'r cyfyngiadau yn Atodlen 7B i GOWA 2006. Mae'r cyfyngiadau hyn yn Atodlen 7B yn cynnwys cyfyngiadau penodol ar ddarpariaeth Deddf gan y Cynulliad sy'n addasu'r gyfraith ar faterion a gedwir yn ôl, y gyfraith breifat, y gyfraith droseddol a rhai deddfiadau penodol sydd wedi’u diogelu, gan gynnwys y GOWA ei hun. Hefyd, mae cyfyngiadau ar wneud rhai darpariaethau penodedig o ran swyddogaethau ‘awdurdodau a gedwir yn ôl’ heb gydsyniad Gweinidog priodol y DU neu heb ymgynghori ag ef. Fel arfer, y Gweinidog priodol ar gyfer y dibenion hyn fydd yr Ysgrifennydd Gwladol oni bai mai Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yw’r awdurdod dan sylw. Os felly, y Trysorlys fydd hwnnw.

5. Mae paragraffau 8–11 o Atodlen 7B yn gwahaniaethu rhwng awdurdodau cyhoeddus sy’n “awdurdodau datganoledig Cymreig” (“Devolved Welsh Authorities”) a’r rhai sy’n “awdurdodau a gedwir yn ôl” (“reserved authorities”). 

6. I grynhoi, mae awdurdod datganoledig Cymreig (a ddiffiniwyd yn adran 157A o GOWA) yn golygu: awdurdod cyhoeddus a restrir yn Atodlen 9A i GOWA 2006; awdurdod cyhoeddus y gellir ymarfer ei swyddogaethau dim ond o ran Cymru ac y maent yn swyddogaethau, yn gyfan gwbl neu yn bennaf, nad ydynt yn ymwneud â materion a gedwir yn ôl; neu gorff llywodraethu sefydliad o fewn y sector addysg uwch (o fewn diffiniad adran 91(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992) y mae ei weithgareddau’n cael eu cynnal, neu maent yn cael eu cynnal yn bennaf, yng Nghymru. 

Fel arfer, nid oes angen cydsyniad os bydd Deddf gan y Cynulliad yn rhoi, yn addasu neu'n dileu swyddogaeth awdurdod datganoledig Cymreig. 

Yn ogystal â Gweinidog y Goron neu adran Llywodraeth y DU, awdurdod a gedwir yn ôl yw unrhyw awdurdod cyhoeddus nad yw'n bodloni amodau uchod awdurdod datganoledig Cymreig.  Yn gyffredinol, bydd angen cydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol er mwyn i ddarpariaeth Deddf gan y Cynulliad wneud y canlynol: 

  • rhoi neu orfodi swyddogaeth ar awdurdod a gedwir yn ôl, neu addasu neu ddileu swyddogaethau awdurdod a gedwir yn ôl;
  • addasu cyfansoddiad awdurdod a gedwir yn ôl; neu 
  • roi, addasu neu ddileu swyddogaeth y gellir ei hymarfer yn benodol mewn perthynas ag awdurdodau a gedwir yn ôl. 
Mae paragraffau 9 a 10 yn creu eithriadau i'r rheolau cyffredinol ynghylch rhoi a dileu neu addasu swyddogaethau awdurdodau a gedwir yn ôl. Ni fydd angen cydsyniad wrth roi swyddogaethau i awdurdodau penodol a gedwir yn ôl a restrir ym mharagraff 9(2) a 10(2). Ymhlith enghreifftiau o'r awdurdodau hyn mae'r Comisiwn Etholiadol, yr Asiantaeth Safonau Bwyd a'r Awdurdod Meinweoedd Dynol.

Ymdrinnir â'r sefyllfa o ran dileu neu addasu swyddogaethau Gweinidog y Goron ar wahân ym mharagraff 11.  Y rheol gyffredinol yw y gall darpariaeth Deddf gan y Cynulliad ddileu neu addasu swyddogaethau Gweinidog y Goron heb gydsyniad ar yr amod nad yw'n perthyn i un o’r chwe chategori o swyddogaethau Gweinidog y Goron a restrir ym mharagraff 11(1)(a).  Hyd yn oed pan na fydd angen cydsyniad, eto i gyd bydd angen ymgynghori â Gweinidog priodol Llywodraeth y DU.

Mae Atodlen 7B yn gymhleth. Felly dylid ystyried yn ofalus ac yn fanwl a yw darpariaeth y Bil arfaethedig gan y Cynulliad wedi torri unrhyw un o'i chyfyngiadau. Er bod nifer o gyfyngiadau yn gyffredinol ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad mewn egwyddor o fewn Atodlen 7B, mae nifer o eithriadau i'r rheolau cyffredinol hefyd. 

Prawf 5 (adran 108A(2)(e) o GOWA 2006)

Ni chaiff darpariaeth Deddf gan y Cynulliad fod yn anghydnaws â Hawliau Confensiwn a chyfraith yr UE.  

Adran 2

Ymdrin â materion cymhwysedd deddfwriaethol

Datrys ansicrwydd yn ymwneud â chymhwysedd deddfwriaethol

Os oes ansicrwydd a yw darpariaeth mewn Deddf gan y Cynulliad (neu mewn is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan Ddeddf gan y Cynulliad neu Fesur gan y Cynulliad) o fewn cymhwysedd deddfwriaethol, mae’n bosibl y bydd modd datrys y mater drwy ddehongli’r ddarpariaeth honno mewn ffordd gul. Yn ôl adran 154 o GOWA 2006, hyd yn oed os gellid dehongli darpariaeth mewn ffordd sy’n golygu ei bod y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol, mae’n rhaid, os oes modd, ei dehongli mor gul ag sydd ei angen iddi fod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol.

Atgyfeirio Bil i’r Goruchaf Lys ar gyfer dyfarniad ar gymhwysedd deddfwriaethol

Weithiau mae’n ofynnol neu’n ddoeth gweithredu er mwyn canfod a yw Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol cyn iddo ddod i rym.

Mae gan y Cwnsler Cyffredinol (ar gyfer Cymru) a’r Twrnai Cyffredinol (ar gyfer y DU) y pŵer i atgyfeirio Bil gan y Cynulliad Cenedlaethol, neu ddarpariaeth o fewn Bil gan y Cynulliad Cenedlaethol, neu p’un a yw unrhyw un o'i ddarpariaethau'n cyfeirio at fater gwarchodedig, i’r Goruchaf Lys er mwyn cael penderfyniad ar a yw o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol (gweler adrannau 111B a 112 o GOWA). Mae’n rhaid gwneud unrhyw atgyfeiriad yn ystod y pedair wythnos ar ôl i’r Bil gael ei basio gan y Cynulliad Cenedlaethol, sef cyn iddo dderbyn Cydsyniad Brenhinol a dod yn Ddeddf Cynulliad.

Hyd yn oed os oes llawer iawn o hyder bod Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol, mae’n bosibl y bydd yn cael ei atgyfeirio i’r Goruchaf Lys naill ai at ddibenion sicrwydd neu oherwydd y rhagwelir y bydd Deddf Cynulliad sy’n deillio o’r Bil yn debygol o gael ei herio ar sail cymhwysedd deddfwriaethol pan ddaw i rym.

Mae’r pŵer i atgyfeirio i’r Goruchaf Lys eisoes wedi’i ddefnyddio ar sawl achlysur.

Mae rhagor o wybodaeth am y Biliau a atgyfeiriwyd a’r penderfyniadau a wnaed gan y Goruchaf Lys ar gael yma.

Defnyddio Gorchymyn y Cyfrin Gyngor i unioni deddfau ultra vires

Mae adran 151 o GOWA 2006 yn cynnwys mecanwaith y gellir ei ddefnyddio i unioni’r sefyllfa lle y nodir bod Deddf (neu Fesur) Cynulliad, neu unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf (neu Fesur) Cynulliad y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol, neu fod posibilrwydd o hynny. Mae modd ei defnyddio hefyd i unioni’r defnydd amhriodol o swyddogaeth a roddwyd o dan Ddeddf (neu Fesur) Cynulliad.

O dan adran 151, gall Ei Mawrhydi wneud Gorchymyn y Cyfrin Gyngor i wneud unrhyw ddarpariaeth sy’n briodol yn ei barn hi o ganlyniad i’r diffyg cymhwysedd deddfwriaethol (neu gyflawni’r swyddogaeth yn amhriodol). Yn benodol, gall Gorchymyn y Cyfrin Gyngor ddiwygio unrhyw ddeddfiad, gan gynnwys Deddf (neu Fesur) y Cynulliad dan sylw. Mewn geiriau eraill, gall Gorchymyn y Cyfrin Gyngor gael ei ddefnyddio i ddiwygio Deddf Cynulliad sydd y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol er mwyn sicrhau ei bod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol.

Codi mater datganoli ar ôl i Ddeddf Cynulliad gael ei phasio

Er mai pedair wythnos sydd ar gael i atgyfeirio Bil i’r Goruchaf Lys o dan adrannau 111B neu 112, os nad yw’r Bil wedi’i atgyfeirio ar ôl pedair wythnos, nid yw’n golygu na ellir herio’r Ddeddf Cynulliad sy’n deillio o’r Bil ar y sail ei bod y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol.

Nid yw unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf gan y Cynulliad (neu Fesur gan y Cynulliad) sydd y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol yn ddeddf ddilys (adran 108A(2) o GOWA 2006 ac adran 108(2) o GOWA 2006 o ran Deddfau gan y Cynulliad a basiwyd cyn 1 Ebrill 2018, neu adran 94(2) mewn perthynas â Mesurau gan y Cynulliad). Gall unigolyn geisio herio dilysrwydd darpariaeth mewn achosion cyfreithiol.

Mae Atodlen 9 i GOWA 2006 yn nodi’r darpariaethau ar gyfer ymdrin â ‘materion datganoli’, ac un o’r rhain yw cymhwysedd deddfwriaethol. O dan Atodlen 9, mae ‘mater datganoli’ yn golygu unrhyw un o’r canlynol:
  • a yw darpariaeth Deddf Cynulliad neu Fesur Cynulliad o fewn cymhwysedd deddfwriaethol,
  • a yw swyddogaeth yn ymarferadwy gan Weinidogion Cymru, y Prif Weinidog neu’r Cwnsler Cyffredinol,
  • a yw’r posibilrwydd o ymarfer swyddogaeth o fewn pŵer Gweinidogion Cymru, y Prif Weinidog neu’r Cwnsler Cyffredinol, gan gynnwys y cwestiwn a fyddai ymarfer y swyddogaeth honno yn cydymffurfio â chyfraith yr UE neu’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol,
  • a yw Gweinidogion Cymru, y Prif Weinidog neu’r Cwnsler Cyffredinol wedi methu cyflawni dyletswydd a orfodwyd arnynt (gan gynnwys dyletswydd o dan gyfraith yr UE),
  • a yw methiant i weithredu gan Weinidogion Cymru, y Prif Weinidog neu’r Cwnsler Cyffredinol yn golygu eu bod wedi ymddwyn yn groes i’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

Mae Atodlen 9 yn cynnwys gwybodaeth am ba lys a fydd yn penderfynu ar fater datganoli sy’n deillio o unrhyw achos cyfreithiol, ac mae’n caniatáu i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Twrnai Cyffredinol ymwneud â’r achos i’r graddau y mae’n ymwneud â’r mater datganoli. Hefyd, mae gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Twrnai Cyffredinol y pŵer o dan Atodlen 9 i atgyfeirio mater datganoli i’r Goruchaf Lys, hyd yn oed os nad yw’n destun achos cyfreithiol.

Pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol i ymyrryd

Mae adran 114 o GOWA 2006 yn rhoi’r pŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol wneud gorchymyn i atal Clerc y Cynulliad Cenedlaethol rhag cyflwyno Bil Cynulliad ar gyfer Cydsyniad Brenhinol os oes gan yr Ysgrifennydd Gwladol sail resymol i gredu y byddai unrhyw ddarpariaethau yn y Bil:

  • yn cael effaith niweidiol ar unrhyw fater sydd heb ei ddatganoli,
  • yn cael effaith niweidiol difrifol posibl ar adnoddau, cyflenwad neu ansawdd dŵr yn Lloegr,
  • yn cael effaith niweidiol ar weithredu’r gyfraith yn Lloegr,
  • yn anghydnaws ag unrhyw rwymedigaethau rhyngwladol neu fuddiannau amddiffyn neu ddiogelwch gwladol.

Mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol amser cyfyngedig i wneud gorchymyn o dan adran 114, sef o fewn 4 wythnos i’r Bil gael ei basio gan y Cynulliad Cenedlaethol fel arfer (neu, os yn berthnasol, o fewn 4 wythnos ar ôl i’r Goruchaf Lys benderfynu a yw’r Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol).

Pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol i wneud darpariaeth ganlyniadol

Mae adran 150 o GOWA 2006 yn rhoi’r pŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol wneud unrhyw ddarpariaethau sy’n briodol yn ei farn ef o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf (neu Fesur) Cynulliad, neu o unrhyw is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan Ddeddf (neu Fesur) Cynulliad neu gan Weinidogion Cymru.

Mae’r pŵer hwn yn galluogi’r Ysgrifennydd Gwladol, ymysg pethau eraill, i wneud newidiadau canlyniadol i ddeddfau eraill y DU os oes angen gwneud hynny i sicrhau eu bod yn ‘cyd-fynd’ â deddfau a wnaed yng Nghymru. Yn bwysig, ni all yr Ysgrifennydd Gwladol ddefnyddio’r pŵer hwn i wneud darpariaeth ynglŷn â materion sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd yr Alban.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn