Athrawiaeth effaith uniongyrchol

Mae’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd yn cynnwys trefn sy’n caniatáu i’r Comisiwn Ewropeaidd ddwyn achosion cyfreithiol yn erbyn Aelod Wladwriaethau nad ydynt yn cyflawni eu rhwymedigaethau o dan y Cytuniad (gweler erthygl 258 y TFEU) a hefyd yn caniatáu i un Aelod Wladwriaeth gymryd camau yn erbyn Aelod Wladwriaeth arall (erthygl 259). Yn yr un modd, gall Aelod Wladwriaethau a sefydliadau’r UE ddwyn achos cyfreithiol yn erbyn sefydliadau’r UE am weithred anghyfiawn neu fethiant anghyfiawn i weithredu. Hefyd, mae Aelod Wladwriaethau a phersonau naturiol neu gyfreithiol yn gallu herio penderfyniadau unigol a gweithredoedd gweinyddol yn Llys Cyfiawnder Ewrop.

Yn ymarferol, mae Llys Cyfiawnder Ewrop yn dibynnu’n helaeth ar lysoedd cenedlaethol yr Aelod Wladwriaethau er mwyn helpu i ymdrin â llwyth gwaith enfawr achosion cyfraith yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r Comisiwn am lysoedd cenedlaethol ymgymryd â llawer mwy o’r gwaith hwn. Fodd bynnag, dim ond os oes hawl gan bartïon yn yr achos dan sylw i fynnu hawliau’n uniongyrchol (neu godi amddiffyniad) yn seiliedig ar gyfraith yr UE y bydd gan lys cenedlaethol gyfle i ddyfarnu ar gwestiynau’n ymwneud â chyfraith yr UE.

Mae cyfraith yr UE yn cynnwys egwyddor bwysig sef athrawiaeth effaith uniongyrchol. Mae’r athrawiaeth hon yn caniatáu i unigolion a phersonau cyfreithiol eraill (megis cwmnïau) orfodi eu hawliau’n uniongyrchol dan gyfraith yr UE, yn hytrach na chaniatáu i Aelod Wladwriaethau yn unig wneud hynny. Dywedir bod darpariaeth yn cynnwys effaith uniongyrchol lorweddol os gall unigolyn ei orfodi’n uniongyrchol yn erbyn dinesydd arall yr UE.

Nid yw’r athrawiaeth effaith uniongyrchol yn berthnasol i holl gyfreithiau’r UE. Yn gyffredinol, mae ond yn berthnasol i’r darpariaethau hynny sy’n mynegi’n ddigon clir a manwl y byddai’n bosibl i lys cenedlaethol eu cymhwyso a’u gorfodi o blaid person penodol. Yn gyffredinol mae gan ddarpariaethau cytuniad a darpariaethau Rheoliadau’r UE effaith uniongyrchol fel sydd gan rai o Benderfyniadau’r UE yn gyffredinol (yn gyffredinol penderfyniadau’r Comisiwn Ewropeaidd). Gall darpariaethau Cyfarwyddebau’r UE gael effaith uniongyrchol fertigol (ond nid effaith uniongyrchol lorweddol), ond dim ond yn yr amgylchiadau cyfyngedig lle nad yw’r Aelod Wladwriaeth dan sylw wedi rhoi’r Gyfarwyddeb ar waith mewn cyfraith genedlaethol erbyn y dyddiad cau ar gyfer gweithredu. Lle bo’r UE wedi ymrwymo i gytundeb rhyngwladol â gwladwriaethau eraill, gall darpariaethau’r cytundebau hynny, mewn rhai amgylchiadau, gael effaith uniongyrchol. Yn olaf, weithiau mae hawl gan unigolyn i apelio at egwyddorion cyffredinol cyfraith yr UE, fel egwyddorion cymesuredd a pheidio â gwahaniaethu, mewn achosion gerbron llys cenedlaethol er mwyn herio dilysrwydd gweithred sefydliad yr Undeb Ewropeaidd.

Lle bo effaith uniongyrchol, a lle nad yw cyfraith yr UE yn gyson â’r gyfraith ddomestig ar yr un pwnc, mae hyn yn codi cwestiwn o ran pa gyfraith sydd drechaf (gweler yma).

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn