Cyfraith Ewrop a Chymru

Mae'r dudalen hon yn adlewyrchu safle Cymru tra bod y DU yn Aelod Wladwriaeth o'r UE. 

Mae cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi’i gyfyngu’n benodol gan adran 108(2)(e) o Government of Wales Act 2006 (GOWA 2006) i ddarpariaethau sy’n gydnaws â chyfraith yr UE. Mewn geiriau eraill, ni chaiff unrhyw un o ddarpariaethau Deddf y Cynulliad dorri cyfraith yr UE.

Yn yr un modd, mae adran 80(8) o GOWA 2006 yn dweud na all Gweinidogion Cymru arfer eu swyddogaethau (gan gynnwys y swyddogaeth o wneud is-ddeddfwriaeth) i’r graddau y byddai hynny’n anghymesur â chyfraith yr UE.

Mae hynny’n golygu bod yn rhaid dehongli pwerau Gweinidogion Cymru yn wyneb unrhyw gyfreithiau perthnasol yr UE. Er enghraifft, mae gan Weinidogion Cymru bŵer dan adran 1 o’r Welsh Development Agency Act 1975 i ddarparu grantiau i fusnesau yng Nghymru.  Does dim cyfyngiadau ar y pŵer yn y Ddeddf ei hun, ond yn rhinwedd erthyglau 107 a 108 o’r Treaty on the Functioning of the European Union (darpariaethau’r cytuniad ar gymorth Gwladwriaethol), mae gallu Gweinidogion Cymru i arfer y pŵer hwn wedi’i gyfyngu i dalu grantiau dan amgylchiadau penodol ac ar delerau penodol yn unig.

Mae gan Weinidogion Cymru’r rôl hefyd o drosi Cyfarwyddebau’r UE, a bydd hyn yn parhau tra bod y DU yn parhau i fod yn Aelod Wladwriaeth. Yn rhinwedd adran 80 o GOWA 2006, Gweinidogion Cymru sy’n gyfrifol yn gyffredinol am drosi (h.y. gweithredu) Cyfarwyddebau’r UE a wnaed mewn meysydd lle mae’r cymhwysedd deddfwriaethol wedi’i ddatganoli i’r Cynulliad Cenedlaethol neu lle mae pwerau y tu allan i’r cymhwysedd hwnnw wedi’i drosi iddynt. Caiff Cyfarwyddebau’r UE eu gweithredu trwy is-ddeddfwriaeth.  Gall y pŵer i wneud y cyfryw ddeddfwriaeth gael ei gynnwys yn naill ai’r Ddeddf Seneddol benodol neu’r Cynulliad Cenedlaethol, neu eu cyflwyno yn rhinwedd adran 2(2) o’r European Communities Act 1972 (ar gyfer y meysydd hynny a ‘ddynodwyd’ i Weinidogion Cymru weithredu cyfraith yr UE trwy Orchymyn y Cyngor, neu lle mae Gweinidog y Goron wedi ei 'ddynodi' mewn maes sy'n syrthio o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad (adran 58B GOWA 2006)).

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn monitro’r modd mae Aelod Wladwriaethau yn gweithredu cyfraith yr UE, ac fe allai’r Comisiwn fynd â llywodraethau cenedlaethol i Lys Cyfiawnder Ewrop os byddant yn methu neu’n torri eu rhwymedigaethau gweithredu. Gall canfyddiad o’r fath yn Llys Cyfiawnder Ewrop arwain at ddirwyo’r Aelod Wladwriaeth.  Os bydd Llywodraeth y DU yn talu dirwy oherwydd methiant Gweinidogion Cymru i weithredu rhwymedigaethau’r UE, gall adennill yr arian hwnnw o bloc grant Cymru.

Wrth drosi Cyfarwyddebau’r DU i gyfraith Cymru, mae Gweinidogion Cymru yn gweithio o fewn canllawiau Llywodraeth y DU yn “Transposition guidance: how to implement European Directives into UK law effectively” a’r “Concordat on Co-ordination of European Union Policy Issues” fel y nodwyd yn Rhan 2 Adran B o’r ’Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng y DU a'r llywodraethau datganoledig.

Fel deddfwrfa sy’n gweithredu o fewn Aelod Wladwriaeth, mae gan y Cynulliad Cenedlaethol rôl o ddylanwadu’n anuniongyrchol ar sefyllfa Llywodraeth y DU a chraffu ar flaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r UE. Mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi gwneud hyn yn flaenorol trwy gynnal ymchwiliadau pwyllgor ar flaenoriaethau strategol allweddol yng nghamau cynnar proses llunio polisïau’r UE, cyn i’r Comisiwn Ewropeaidd gyhoeddi ei gynigion deddfwriaethol.

Gall Aelodau Cynulliad ofyn cwestiynau i Weinidog perthnasol Cymru unrhyw bryd yn ystod proses ddeddfwriaethol yr UE am effaith cynnig deddfwriaethol yr UE ar Gymru a’r paratoadau sy’n digwydd o fewn adrannau llywodraeth Cymru cyn y daw’r ddeddf i rym.

Mae gan y Cynulliad Cenedlaethol rôl gyffredinol hefyd o hyrwyddo buddiannau Cymru ymhlith sefydliadau’r UE.  Mae hyn yn cynnwys siarad yn uniongyrchol â’r Comisiwn Ewropeaidd, Senedd Ewrop (yn enwedig pedwar ASE Cymru), cynrychiolwyr o Gymru ar ddau gorff ymgynghorol yr UE – Pwyllgor y Rhanbarthau (sy’n cynnwys gwleidyddion lleol a rhanbarthol) a’r Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol (arbenigwyr sy’n cynrychioli buddiannau sectoraidd) – a thrwy gymryd rhan yn rhwydweithiau ffurfiol ac anffurfiol yr UE.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn