Llinell amser hanesyddol o ddeddfau Cymru

Hywel Dda (teyrnasiad: 942-950)

  • Dywedir bod y deddfau cynhenid a oedd yn bodoli yng Nghymru wedi eu crynhoi’n ysgrifenedig yn unol â chyfarwyddyd Hywel Dda yn ystod ei deyrnasiad. Daeth yn dywysog ar ran sylweddol o Gymru a dywedir bod ail ran ei enw (Dda) yn deillio o’r ffaith bod ei gyfreithiau yn cael eu hystyried yn gyfiawn ac yn dda yn ôl safonau’r cyfnod.
  • Yn ôl y testunau sydd wedi goroesi o gyfreithiau Hywel Dda, galwodd Hywel chwech o ddynion o bob cantref yn ei deyrnas i Gynulliad yn Hendy-gwyn ar Daf.  Archwiliwyd yr hen gyfreithiau, gan gadw neu ddiwygio rhai, diddymu eraill ac mewn ambell achos cytuno ar gyflwyno deddfau newydd.
  • Roedd Blegywryd yn awdurdod pwysig ar hen gyfreithiau Cymru a bu’n gweithredu fel ysgrifennydd i'r Cynulliad yn y gwaith o lunio’r cyfreithiau.

Llywelyn Ein Llyw Olaf (teyrnasiad: 1246-1282)

  • Llywelyn oedd tywysog sofran olaf Gwynedd (gan alw ei hun yn Dywysog Cymru) cyn ei orchfygu gan Frenin Edward I. Collodd cyfreithiau Hywel Dda eu huchafiaeth ar ôl y goncwest hon.

Statud Rhuddlan 1284

"The Divine Providence, which is unerring in its own government, among the gifts of its dispensation, wherewith it hath vouchsafed to distinguish us and our realm of England, hath now of its favour, wholly and entirely transferred under our proper dominion, the land of Wales, with its inhabitants, heretofore subject unto us, in feudal right, all obstacles whatsoever ceasing; and hath annexed and united the same unto the crown of the aforesaid realm, as a member of the same body."

Y statud hwn oedd y sail gyfansoddiadol ar gyfer llywodraethu Tywysogaeth Gogledd Cymru o 1284-1536, ac yn ddiweddarach hefyd Dywysogaeth De Cymru.

Cyflwynodd system cyfraith gyffredin Lloegr i Gymru, gan ddiraddio cyfreithiau Hywel Dda.

Owain Glyn Dŵr (yn ymgyrchu: 1401-1416)

  • Cychwynnodd y rheolwr Cymreig wrthryfel ffyrnig a hirhoedlog yn erbyn teyrnasiad Lloegr dros Gymru, a fu’n aflwyddiannus yn y pen draw.

Laws in Wales Acts 1535 a 1542 (y cyfeirir atynt yn gyffredin fel y Deddfau Uno)
 
(Teitl hir: “An Acte for Laws & Justice to be ministred in Wales in like fourme as it is in this Realme”)
 
"...the dominion, principality, and country of Wales justly and righteously is and ever hath been incorporated, annexed, united, and subject to and under the imperial crown of this realm as a very member and joint of the same..." (Act for the Government of Wales, 1536)

  • Unwyd Cymru a Lloegr gan ddau statud a basiwyd yn ystod teyrnasiad Harri VIII, a adnabyddir gyda’i gilydd fel y Deddfau Uno.
  • Roedd y Deddfau hyn yn mynnu mai Saesneg oedd iaith swyddogol llywodraeth, gweinyddiaeth a'r gyfraith yng Nghymru.

Llysoedd y Sesiwn Fawr (1543 - 1830)

  • Cafodd Llysoedd y Sesiwn Fawr eu sefydlu gan y Laws in Wales Act 1542 gan roi  hunaniaeth gyfreithiol i Gymru a oedd yn unffurf am y tro cyntaf ond yn wahanol i Loegr.
  • Dyma oedd y prif lys ar gyfer ymgyfreitha sifil ac erlyn troseddau a chamymddygiad difrifol yng Nghymru rhwng 1543 a diddymiad y llys ym 1830.
  • Roedd yr hunaniaeth gyfreithiol ar wahân a oedd wedi bodoli tan 1830 o ganlyniad i’r ffaith bod Cymru’n cael ei gwasanaethu gan lysoedd ar wahân gyda gweithdrefnau gwahanol wedi diflannu gyda’r Sesiwn Fawr, sy’n esbonio’n rhannol pam eu bod wedi datblygu i gael eu gweld fel arwydd o hunaniaeth genedlaethol Gymreig.

Wales and Berwick Act 1746

  • Fe greodd y Ddeddf hon ddiffiniad statudol o Loegr a oedd yn cynnwys Lloegr, Cymru a Berwick-upon-Tweed, a arweiniodd yn rhannol at y cofnod enwog yn Encyclopaedia Britannica "For Wales see England".

Sunday Closing Act 1881

  • Roedd hi’n gwestiwn anodd p'un ai a oedd modd i’r Senedd ddeddfu ar wahân ar gyfer gwlad nad oedd ganddi unrhyw system gyfreithiol, cyfreithiau na barnweiniad ar wahân.
  • Y mater a oedd i oresgyn y sefyllfa ddiddatrys hon a chadarnhau’r posibilrwydd o ddeddfwriaeth a oedd yn benodol i Gymru oedd agor tafarndai ar y Sul.
  • Y Sunday Closing (Wales) Act 1881 oedd y darn cyntaf o ddeddfwriaeth ar wahân i Gymru ers y Gymanwlad. Dyma’r Ddeddf gyntaf ers uno Cymru a Lloegr a oedd yn benodol ar gyfer Cymru’n unig.
  • Roedd yna bwysigrwydd gwleidyddol sylweddol yn perthyn i’r Ddeddf fel cydnabyddiaeth ffurfiol o gymeriad gwahanol Cymru, gan osod cynsail ar gyfer deddfwriaeth a phenderfyniadau pellach.

Wales Intermediate Education Act 1889

  • Dyma’r ail ddarn sylweddol o ddeddfwriaeth benodol i Gymru i’w basio gan Senedd San Steffan.

Welsh Cemeteries Act 1908
 
Welsh Church Act 1914

  • Roedd y Ddeddf hon yn datgysylltu Eglwys Loegr yng Nghymru a Sir Fynwy

Welsh Courts Act 1942

  • Roedd y Ddeddf hon yn gwneud y Gymraeg yn iaith ddilys ym mhob achos cyfreithiol.

(1964 – Crëwyd swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru)

Welsh Language Act 1967

  • Roedd y Ddeddf hon, a oedd yn seiliedig ar adroddiad Hughes-Parry i statws yr iaith Gymraeg, yn rhoi’r hawl i ddefnyddio'r Gymraeg ar lafar mewn achosion llys yng Nghymru.
  • Roedd hefyd yn diddymu’r ddarpariaeth yn Rhan 3  y Wales and Berwick Act 1746 y dylai'r term "England" gynnwys Cymru.
  • Roedd y Ddeddf hon yn rhoi dilysrwydd cyfartal i’r iaith ond nid statws cyfartal.

Welsh Language Act 1993

  • Roedd y Ddeddf hon yn sefydlu’r egwyddor a ganlyn: 'in the course of public business and the administration of justice in Wales, the Welsh and English languages are to be treated on the basis of equality’.

Local Government (Wales) Act 1994

  • Y Ddeddf hon greodd strwythur llywodraeth leol bresennol Cymru o 22 ardal awdurdod unedol a diddymu’r strwythur dwy haen blaenorol gyda siroedd a dosbarthau.


Government of Wales Act 1998

Transport (Wales) Act 2006

  • Roedd y Ddeddf hon yn rhoi pwerau ychwanegol i’r Cynulliad Cenedlaethol (fel yr oedd bryd hynny) ym maes trafnidiaeth, ynghyd â'i bwerau ar y pryd, gyda’r bwriad iddo ddatblygu "a safe, integrated, sustainable, efficient, and economic transport system serving Wales".

National Health Service (Wales) Act 2006

  • Mae'r Ddeddf hon yn cyfnerthu darpariaethau sy'n ymwneud â'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.

Government of Wales Act 2006

Wales Act 2014

(Noder: Wrth gwrs, mae nifer o "ddeddfau Cymreig" eraill sy'n rhan o Ddeddfau Seneddol eraill.  Mae hon yn rhestr o Ddeddfau sy'n cynnwys darpariaeth ar gyfer Cymru’n unig.)

Mesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (2007-2011)

Deddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (2011- )

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn