Rhestr termau mewn perthynas â deddfwriaeth

Adran

Uned sylfaenol Deddf, wedi ei rhannu'n is-adrannau, yna'n baragraffau ac yna'n is-baragraffau. Mewn termau Seneddol cyfeirir at uned sylfaenol Bil fel 'cymal', a phan ddaw'r Bil hwnnw'n Ddeddf bydd 'cymalau' yn troi'n 'adrannau'; nid yw hyn yn wir gyda Deddfau Cynulliad gan mai adran yw uned sylfaenol Bil, ac nid yw'r term 'cymal' yn cael ei ddefnyddio.

Adran Harri'r Wythfed

Darpariaethau mewn Deddf yw'r rhain sy'n galluogi diwygio deddfwriaeth sylfaenol gan ddefnyddio is-ddeddfwriaeth. Maent weithiau yn galluogi i'r Ddeddf sy'n cynnwys y darpariaethau gael ei diwygio gan is-ddeddfwriaeth. 

Yn ei adroddiad cyntaf ym 1992-93 cafwyd y diffiniad hwn o gymal Harri'r Wythfed gan Bwyllgor Dethol Tŷ'r Arglwyddi ar Graffu Pwerau Datganoledig: darpariaeth mewn Bil sy'n galluogi diwygio neu ddiddymu deddfwriaeth sylfaenol gan is-ddeddfwriaeth, gyda chraffu Seneddol pellach neu hebddo. [HL 57 1992-93, para 10]. Daw’r enw hwn ar y cymalau o'r Statute of Proclamations 1539, a roddodd y grym i'r Brenin Harri'r Wythfed i ddeddfu drwy broclamasiwn.

Aelod Cyfrifol

Fel arfer yr AC sydd wedi cyflwyno'r Bil i'r Cynulliad ac sy'n mynd â'r Bil ar hyd ei daith drwy'r Cynulliad. Gall yr Aelod Cyfrifol am y Bil newid unrhyw bryd rhwng cyflwyno'r Bil a’i basio.

Aelodau Cynulliad (ACau)

Y 60 cynrychiolydd etholedig sy'n ffurfio'r Cynulliad.

Aelodau'r Meinciau Cefn

Term (a etifeddwyd o iaith a ddefnyddir yn y Senedd) i ddisgrifio'r ACau hynny sydd ddim yn Weinidog nac yn Llefarydd ar ran eu plaid.

Asesiad Effaith Rheoleiddiol 

Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn ddadansoddiad o effaith debygol opsiynau ar gyfer rhoi newid polisi ar waith. Rhaid cynhyrchu hwn ar gyfer unrhyw gynnig ar gyfer deddfwriaeth sy'n cael effaith ar fusnesau, y sector cyhoeddus, elusennau neu'r sector gwirfoddol.

Atodlen 

Yn gyffredinol, mae atodlenni i Fil (neu Ddeddf) yn cynnwys darpariaethau manwl sy'n ymhelaethu ar gynnig cyffredinol sydd i’w weld mewn adran neu adrannau, neu fanylion newidiadau bach sydd angen eu gwneud i Ddeddfau eraill o ganlyniad i ddarpariaethau'r Bil neu’r Ddeddf, ac maent i’w gweld ar ddiwedd y Bil neu’r Ddeddf.

Bil

Cynnig ar gyfer deddfwriaeth sy'n cael ei gyflwyno'n ffurfiol i'r Cynulliad (neu'r Senedd). Rhaid iddo gael ei basio gan y Cynulliad cyn iddo dderbyn Cydsyniad Brenhinol a dod yn Ddeddf y Cynulliad. Mae Biliau Cyhoeddus yn newid y gyfraith gyffredinol, a Biliau Preifat yn effeithio ar fuddiannau preifat. Mae Biliau Aelodau'n ffurf ar Fil Cyhoeddus.

Bil Aelod

Bil Cyhoeddus sy'n cael ei gyflwyno gan Aelod Cynulliad (nid gan Weinidog).

Bil Comisiwn

Bil Cyhoeddus a gyflwynir gan Aelod o Gomisiwn y Cynulliad.

Bil Cyhoeddus

Mae Biliau Cyhoeddus yn newid y gyfraith gyffredinol. Mae ganddynt effaith gyffredinol ac maent yn ymwneud â pholisi cyhoeddus. Pan fydd Bil Cynulliad wedi cwblhau ei daith drwy'r Cynulliad ac wedi cael y Cydsyniad Brenhinol mae'n dod yn Ddeddf Cynulliad.

Bil Drafft

Bil sydd ar gael ar gyfer ymgynghori; nid yw wedi cael ei gyflwyno'n ffurfiol i'r Cynulliad. Nid yw'r term hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer Bil sydd wedi cael ei gyflwyno i'r Cynulliad ond heb ei basio.

Bil Preifat

Bil fyddai'n cael effaith leol neu bersonol yn unig, yn hytrach nag effaith gyffredinol. Mae Biliau o'r fath yn cael eu hyrwyddo gan unigolion neu sefydliadau sy'n ceisio cael pwerau penodol, lleol yn aml, (er enghraifft, Buckinghamshire County Council (Filming on Highways) Bill).  Mae'r Biliau hyn yn cynnwys darpariaethau sy'n benodol gymwys i ran o'r gymuned yn unig yn hytrach nag i'r gymuned gyfan. Mae darpariaethau arbennig yn rheoli Biliau Preifat er mwyn gwarchod hawliau unigolion a grwpiau y mae eu buddiannau'n cael eu heffeithio'n uniongyrchol. Yn y Cynulliad mae'r weithdrefn hon i'w gweld yn y Rheol Sefydlog 26A.

Bil Pwyllgor

Bil cyhoeddus a gyflwynir gan Bwyllgor Cynulliad (nid aelod o'r Llywodraeth).

Biliau Anllywodraethol

Mae'r term cyffredinol hwn yn cyfeirio at Filiau Aelodau, Biliau Comisiwn, Biliau Pwyllgor a Biliau Preifat.

Breinlythyrau

Caiff breinlythyrau eu cyhoeddi dan bwerau uchelfreiniol pennaeth y wladwriaeth ("uchelfraint frenhinol"). Maent yn cynnwys ffurf brin, os arwyddocaol, o ddeddfwriaeth heb gydsyniad y Senedd. Mewn perthynas â Biliau sy'n cael eu pasio gan y Cynulliad, caiff breinlythyrau eu defnyddio i roi Cydsyniad Brenhinol (gweler hefyd y Sêl Gymreig).

Busnes y Cynulliad

Y term torfol a ddefnyddir i ddisgrifio'r gwaith sy'n cael ei wneud gan ACau drwy Gyfarfodydd Llawn a Chyfarfodydd Pwyllgor.

Camau ystyriaethau'r Cynulliad

Mae Bil yn mynd drwy nifer o gamau Cynulliad cyn dod yn gyfraith:

Cam 1 – Ystyriaeth i egwyddorion cyffredinol: Fel arfer bydd y Cam hwn yn cynnwys ystyried egwyddorion cyffredinol Bil gan Bwyllgor (neu Bwyllgorau), gyda chytundeb ar yr egwyddorion cyffredinol gan y Cynulliad yn dilyn. Bydd y Pwyllgor yn canolbwyntio ar brif bwrpas(au) y Bil, yn hytrach nag edrych ar y manylion (sy'n fater i Gamau diweddarach). Gall y Pwyllgor hefyd wahodd sylwadau gan bartïon â diddordeb, a gallant gymryd tystiolaeth ysgrifenedig a llafar i lywio ei waith.

Cam 2 – Ystyriaeth fanwl gan Bwyllgor: Mae hyn yn golygu ystyriaeth fanwl o Fil gan Bwyllgor, ynghyd ag unrhyw welliannau sy'n cael eu cynnig gan Aelodau Cynulliad.

Cam 3 – Ystyriaeth fanwl gan y Cynulliad: Mae hyn yn golygu ystyriaeth fanwl o Fil gan y Cynulliad, ynghyd ag unrhyw welliannau sy'n cael eu cynnig gan Aelodau Cynulliad a’u dewis gan y Llywydd.  

Cyfnod Adrodd: Bydd rhai Biliau angen ystyriaeth fanwl bellach o'r Bil gan y Cynulliad, a dyma'r Cyfnod Adrodd. Bydd yn dilyn cwblhau Cam 3 a bydd yn ystyried unrhyw welliannau sy’n cael eu cynnig gan Aelodau Cynulliad a’u dewis gan y Llywydd.

Cam 4 - Cam Terfynol: Dyma Gam olaf y broses sef pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Bil.

Cofnod y Trafodion

Cofnod swyddogol o'r Cyfarfodydd Llawn sy'n cynnwys pob datganiad, pob araith a phob ymyrraeth gan ACau a manylion unrhyw bleidlais sy'n cael ei chynnal. Mae Cofnod y Trafodion yn cael ei gyhoeddi o fewn 24 awr i ddiwedd y cyfarfod.

Comisiwn y Cynulliad

Yr enw ar gorff corfforaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw Comisiwn y Cynulliad. Mae'r Comisiwn yn cynnwys y Llywydd a phedwar Aelod arall sy'n cael eu henwebu gan y prif bleidiau gwleidyddol. Mae staff y Comisiwn yn cael eu cyflogi gan y Comisiwn dan arweiniad y Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad.

Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol

Mae’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn gytundeb rhyngwladol sy'n rhoi amddiffyniad arbennig i hawliau sylfaenol sifil a gwleidyddol. Mae'r Human Rights Act 1998 yn ymgorffori’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yng nghyfraith y DU.

Consesiwn (iynau)

Diwygiadau sy'n cael eu cyflwyno, neu gamau eraill sy'n cael eu cymryd, mewn ymateb i bwyntiau a godwyd yn ystod taith Bil er mwyn hwyluso trin a thrafod.

Craffu cyn y broses ddeddfu

Ystyried deddfwriaeth ddrafft gan Bwyllgor Seneddol neu Bwyllgor Cynulliad cyn y broses ddeddfwriaethol ffurfiol.

Cydsyniad Dug Cernyw

Cytundeb gan Ddug Cernyw y gall y Cynulliad fynd ati i ystyried deddfwriaeth fyddai'n effeithio ar ei fuddiannau (gweler hefyd Cydsyniad y Frenhines).

Cydsyniad y Frenhines a Chydsyniad Tywysog Cymru

Cytundeb gan y Frenhines y gall y Cynulliad fynd ati i ystyried deddfwriaeth fyddai'n effeithio ar yr uchelfraint, y refeniwiau etifeddol, eiddo personol neu fuddiannau'r goron, neu fuddiannau Dugiaethau Caerhirfryn neu Gernyw. Yn achos Dugaeth Cernyw, rhaid cael Cydsyniad Tywysog Cymru.

Cyfansoddiad

Cyfres o gyfreithiau, rheolau, egwyddorion a gweithdrefnau yw cyfansoddiad sy'n pennu sut y bydd gwladwriaeth yn cael ei rheoli ac sy'n diffinio'r berthynas rhwng canghennau’r Llywodraeth a rhwng y Llywodraeth a'r unigolyn. Mae gan y rhan fwyaf o wledydd gyfansoddiad wedi ei ysgrifennu mewn un ddogfen, ond dywedir fod gan y DU "gyfansoddiad anysgrifenedig". Mewn gwirionedd, mae cyfansoddiad y DU i'w weld mewn amryw o ffynonellau yn cynnwys Deddfau Seneddol, cyfraith achos ac arferion a chynsail. 

Cronfa Gyfunol Cymru  

Mae arian cyhoeddus yn cael ei dalu i'r gronfa hon, yr arian sy'n cael ei ddyranu i Gymru gan Lywodraeth y DU, drwy Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a hefyd arian sy'n cael ei dderbyn o ffynonellau eraill.

Cwmpas 

Cwmpas pwnc Bil (nid yw gwelliannau y tu hwnt i'r cwmpas yn dderbyniadwy).

Cwnsler Cyffredinol

Mae adran 59 o'r Government of Wales Act 2006 yn darparu ar gyfer penodi Cwnsler Cyffredinol i Lywodraeth Cymru fydd yn gweithredu fel ei brif ymgynghorydd cyfreithiol a'i gynrychiolydd yn y llysoedd. Swyddog Cyfraith Llywodraeth Cymru yw'r Cwnsler Cyffredinol. Nid yw'r Cwnsler Cyffredinol yn un o Weinidog Cymru ond mae'n aelod o Lywodraeth Cymru. Does dim rhaid i'r Cwnsler Cyffredinol fod yn AC;  nid yw'r Cwnsler Cyffredinol presennol yn AC.

Cychwyn

Deddfwriaeth yn dod i rym. Heb ddarpariaeth cychwyn, bydd y Ddeddf yn dod i rym o ddechrau’r diwrnod y cafodd y Cydsyniad Brenhinol ei roi (am hanner nos).

Cydsyniad Brenhinol 

Cytundeb y Frenhines i wneud Bil yn Ddeddf Cynulliad neu'n Ddeddf Seneddol yw Cydsyniad Brenhinol. Gall y Frenhines roi Cydsyniad Brenhinol wyneb yn wyneb ond nid yw hyn wedi digwydd ers 1854; Caiff Cydsyniad Brenhinol ei rhoi wrth i’r Frenhines lofnodi Breinlythyrau dan y Sêl Gymreig mewn perthynas â Deddfau'r Cynulliad.

Cyfarfod Llawn 

Dyma'r term a ddefnyddir pan fydd pob un o'r 60 AC yn cyfarfod yn y Siambr (prif siambr y Senedd) i gynnal busnes. Mae Cyfarfodydd Llawn presennol yn cael eu cynnal ar brynhawn Mawrth a Mercher.

Cyflwyniad

Cyflwyno Bil i'r Cynulliad; caiff y Bil ei osod yn y Swyddfa Gyflwyno ac ar ôl hynny bydd y Bil yn cychwyn ei daith drwy'r Cynulliad.

Cyflwyno

Gosod yn ffurfiol gerbron y Cynulliad, megis 'cyflwyno gwelliant'.

Cyflwyno cynnig i ddiddymu

Cyflwyno cynnig i ddiddymu offeryn statudol yn amodol ar y weithdrefn datrysiad negyddol (gweler 'gweithdrefn negyddol').

Cyfrin Gyngor

Cyfarfod rhwng y Frenhines ac aelodau o'i Chyfrin Gyngor sy'n aelodau o'r Llywodraeth

Cymal

Gweler 'adran' isod.

Cymhwysedd deddfwriaethol

Y term a ddefnyddir i ddisgrifio cwmpas pŵer y Cynulliad i ddeddfu. Yn dilyn pleidlais 'ie' yn y refferendwm ym mis Mawrth 2011, mae cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad i basio Deddfau i’w weld yn adrannau 108 a 109 a'r 20 Pwnc sydd i'w gweld yn Atodlen 7 i'r Government of Wales Act 2006.

Cyngor pleidleisio

Yng nghyd-destun Biliau'r Cynulliad, cyngor sy'n cael ei ddarparu gan swyddogion ar sut mae disgwyl i Aelodau'r Llywodraeth bleidleisio mewn perthynas â gwelliannau (Llywodraethol ac Anllywodraethol) a chynigion.

Cynigion Cymhwysedd Deddfwriaethol (CCDau)

Cynnig yw hwn lle gall y Cynulliad roi neu wrthod rhoi caniatâd i Senedd y DU ddeddfu drwy Ddeddf Seneddol mewn meysydd sydd wedi eu datganoli.

Cynnig  

Cynnig sy'n cael ei wneud at bwrpas cael penderfyniad gan y Cynulliad.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynulliad)

Cymdeithas anghorfforedig o 60 AC - deddfwrfa ar wahân a sefydlwyd dan y Government of Wales Act 2006, gyda swyddogaeth seneddol/deddfwriaethol a chraffu.

Darpariaeth machlud

Darpariaeth mewn Bil sy'n rhoi 'dyddiad dod i ben' iddo unwaith y bydd wedi ei basio yn gyfraith. Caiff 'adrannau machlud' (neu gymalau) eu cynnwys mewn deddfwriaeth lle'r ystyrir y dylai'r Cynulliad gael y cyfle i benderfynu ar ei rinweddau eto yn dilyn cyfnod penodedig.

Datganiadau 

Yn y Cynulliad mae datganiadau'n digwydd ar ôl Cwestiynau Llafar ac fel arfer maent yn ymwneud â materion polisi neu gamau llywodraethu a gallant gael eu gwneud gan Weinidog. Gall Gweinidogion wneud Datganiadau Ysgrifenedig hefyd.

Mae Datganiad Busnes yn cyhoeddi busnes llywodraethu’r Cynulliad yn y dyfodol ac yn digwydd ar ddydd Mawrth fel arfer.

Datganiad deddfwriaethol

Datganiad sy'n cael ei wneud gan y Prif Weinidog mewn Cyfarfod Llawn yn egluro manylion rhaglen ddeddfwriaethol arfaethedig y Llywodraeth. Caiff ei draddodi ym mis Gorffennaf fel arfer ac mae'n rhestru'r Biliau y mae'r Llywodraeth yn bwriadu eu cyflwyno, er nad yw'n rhwymo.

Datrysiad Ariannol

Cynnig i awdurdodi gwariant Llywodraeth mewn perthynas â Bil; pan gaiff y cynnig ei gymeradwyo mae'n troi'n benderfyniad.

Deddfau'r Cynulliad Cenedlaethol

Cyfreithiau sy'n cael eu gwneud gan y Cynlliad dan Ran 4 y Government of Wales Act 2006.

Deddfau Seneddol

Deddfau sy'n cael eu gwneud gan Senedd y DU yw Deddfau Seneddol. Caiff cynigion ar gyfer cyfreithiau newydd (Biliau) eu trafod gan Dŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi. Os yw dau Dŷ’r Senedd yn pleidleisio dros y cynigion yna mae'r Bil yn barod i ddod yn Ddeddf.  Dim ond ar ôl derbyn Cydsyniad Brenhinol gan y Frenhines y gellir ei alw'n Ddeddf. Cyfeirir atynt weithiau fel Statudau.

Deddfwriaeth ddirprwyedig

Gweler 'is-ddeddfwriaeth'.

Deddfwriaeth sylfaenol 

Mewn perthynas â Chymru, yn y rhan fwyaf o achosion, Deddf Cynulliad neu Ddeddf Seneddol.

Deddfwrfa

Corff deddfu lle mae cyfreithiau newydd yn cael eu dadlau a'u cytuno; mae hefyd yn craffu ar benderfyniadau'r Llywodraeth ac yn dal y Llywodraeth i gyfrif. Yng Nghymru, y Cynulliad yw'r ddeddfwrfa.

Dirprwy Weinidogion Cymru

Mae Dirprwy Weinidogion Cymru'n cael eu penodi gan y Prif Weinidog o blith yr ACau. Maent yn ffurfio rhan o Lywodraeth Cymru, ond nid ydynt wedi eu cynnwys yn y diffiniad o Weinidogion Cymru sydd yn y Government of Wales Act 2006. Ni ellir cael mwy na chyfanswm o 12 o Weinidogion Cymru (nad yw'n cynnwys y Prif Weinidog yma) a Dirprwy Weinidogion Cymru ar unrhyw adeg.

Diwrnod gwaith  

At ddibenion y Rheolau Sefydlog mae diwrnod gwaith yn golygu unrhyw ddiwrnod oni bai ei fod yn:

  • Ddydd Sadwrn neu ddydd Sul;
  • Noswyl Nadolig, Dydd Nadolig, Dydd Iau Cablyd neu Ddydd Gwener y Groglith;
  • diwrnod sy'n ŵyl banc yng Nghymru dan y Banking and Financial Dealings Act 1971;
  • diwrnod sy'n cael ei bennu ar gyfer diolchgarwch neu alaru cyhoeddus.

Dogfennau a osodwyd

Mae'r rhain yn cynnwys y rhan fwyaf o ddogfennau sy'n ymwneud â busnes y Cynulliad megis adroddiadau Pwyllgorau'r Cynulliad, papurau Llywodraeth Cymru neu ddogfennau gan sefydliadau allanol y mae gofyn iddynt adrodd i'r Cynulliad. 'Gosod' neu 'Gyflwyno' yw'r drefn ffurfiol ar gyfer cyflwyno dogfennau i Swyddfa Gyflwyno'r Cynulliad i'w hystyried.

Eithriadau (i gymhwysedd deddfwriaethol)

Meysydd polisi sydd wedi eu rhestru o dan yr 20 Pwnc sydd yn Atodlen 7 i'r Government of Wales Act 2006 na all y Cynulliad ddeddfu amdanynt.

Adran 1

G i Ll

Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol (GCDau)

Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor sydd, os caiff ei gymeradwyo gan y Cynulliad, Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi yn newid cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Yn dilyn pleidlais 'ie' yn y refferendwm ym mis Mawrth 2011, gall Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol gael eu gwneud dan adran 109 o'r Government of Wales Act 2006 a diwygio Atodlen 7.

Goruchafiaeth seneddol

Athrawiaeth cyfraith gyfansoddiadol y DU sef mai Senedd y Deyrnas Unedig yw'r corff deddfu sofran. Mae hyn yn golygu ei fod goruwch pob sefydliad Llywodraethol arall a gall ddiwygio neu ddiddymu unrhyw ddeddfwriaeth a basiwyd gan seneddau blaenorol gyda mwyafrif.

Government of Wales Act 2006

Mae'r Ddeddf hon a basiwyd gan Senedd y DU yn disodli'r Government of Wales Act 1998 a greodd y Cynulliad. Gwahanodd ganghennau gweithredol a deddfwriaethol y corff corfforaethol blaenorol; rhoddodd bwerau deddfwriaethol uwch i'r Cynulliad a gwnaeth newidiadau i'r system etholiadol ar gyfer etholiadau'r Cynulliad.

Grwpio

Grwpio gwelliannau cysylltiedig ar gyfer dadlau; yng Ngham 2, Cadeirydd y Pwyllgor cyfrifol sy'n cytuno ar y grwpiau; yng Ngham 3 (a'r Cyfnod Adrodd os caiff ei ddefnyddio), y Llywydd sy'n penderfynu ar y grwpiau.

Gweithrediaeth

Term sy'n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio Llywodraeth a gwahaniaethu rhyngddi a’r ddeddfwrfa. Mae'n ffurfio polisi ac yn cyflwyno a gweithredu deddfwriaeth. Yng Nghymru, Llywodraeth Cymru yw'r Weithrediaeth.

Grwpiau Hollbleidiol

Grwpiau traws bleidiol o ACau sy'n rhannu diddordeb penodol mewn pwnc neu wlad ac sy'n cynnal cyfarfodydd sy'n berthnasol i'w diddordeb cyffredin.

Gweinidog Arweiniol

Yr aelod o'r Llywodraeth sydd â'r prif gyfrifoldeb polisi dros Fil Llywodraeth, neu gyda chyfrifoldeb dros y portffolio polisi sy'n cael ei effeithio gan Fil Anllywodraethol (ee Bil Aelod).

Gweinidog y Goron 

Gweinidogion y Goron yw'r enw a roddir ar ASau ac Arglwyddi sy'n cael eu penodi gan y Prif Weinidog i Lywodraeth y DU.

Gweithdrefn Gadarnhaol

Mae dilyn y 'weithdrefn gadarnhaol' yn cyfeirio at offerynnau statudol y mae'n rhaid iddynt gael eu cymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru er mwyn dod yn gyfraith. Ar y llaw arall, mae'r 'weithdrefn negyddol' yn cyfeirio at offerynnau statudol sy'n dod yn gyfraith yn awtomatig oni bai bod gwrthwynebiad gan y Cynulliad.

Gweithdrefn negyddol

Mae gweithdrefn negyddol yn cyfeirio at weithdrefn y gall offeryn statudol fynd drwyddi. Bydd offeryn statudol sy’n mynd drwy'r weithdrefn hon yn dod yn gyfraith yn awtomatig oni bai bod gwrthwynebiad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. I'r gwrthwyneb, mae 'gweithdrefn gadarnhaol' yn cyfeirio at weithdrefn lle mae'n rhaid i offeryn statudol gael ei gymeradwyo gan y Cynulliad i ddod yn gyfraith.

Gwelliannau (i Fil)

Newidiadau sy'n cael eu hawgrymu i destun Bil ac yn cael eu cynnig gan ACau (yn cynnwys rhai sy'n Weinidogion Cymru). Gall newidiadau gael eu hawgrymu ar Gam 1 a Cham 2 proses ddeddfwriaethol y Cynulliad, lle mae ACau'n pleidleisio ar eu derbyn ai peidio.

Gwelliannau (i Gynigion)

Newidiadau sy'n cael eu hawgrymu i destun cynnig sy'n cael ei drafod mewn Cyfarfod Llawn. Oni bai bod Rheolau Sefydlog yn dweud yn wahanol, gall ACau gynnig newidiadau i unrhyw gynnig.

Is-ddeddfwriaeth  

Fe'i gelwir hefyd yn ddeddfwriaeth ddirprwyedig hefyd; deddfwriaeth sy'n cael ei gwneud gan Weinidog, neu ambell waith gan gorff cyhoeddus, dan bwerau a roddwyd iddynt tan Ddeddfau Seneddol, Mesurau'r Cynulliad a Deddfau'r Cynulliad er mwyn gweithredu a gweinyddu gofynion deddfwriaeth sylfaenol.  Gall gwahanol fathau o is-ddeddfwriaeth gael eu galw'n orchmynion, rheolau, rheoliadau, cynlluniau neu godau, gan ddibynnu ar beth mae'r 'rhiant-ddeddf' yn eu galw.

Llywodraeth Cymru 

Corff gyda chyfrifoldebau Llywodraeth/gweithredol a sefydlwyd dan y Government of Wales Act 2006 i ddatblygu polisïau ac i wneud penderfyniadau. Aelodau Llywodraeth Cymru yw:

  • Y Prif Weinidog
  • Gweinidogion Cymru
  • Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru
  • Dirprwy Weinidogion Cymru

Mae staff Llywodraeth Cymru’n aelodau o'r Gwasanaeth Sifil Cartref.

Adran 2

M i Rh

Maniffesto

Datganiad cyhoeddus o syniadau a pholisïau plaid wleidyddol yw maniffesto. Caiff ei gyhoeddi yn ystod ymgyrch cyn etholiad fel arfer ac mae'n cynnwys disgrifiad o'r hyn y byddai'r blaid yn ei wneud pe byddai'n ennill yr etholiad ac yn ffurfio Llywodraeth.

Materion a gadwyd yn ôl 

Gweler 'Materion datganoledig a rhai a gadwyd yn ôl'

Materion datganoledig a rhai a gadwyd yn ôl

Mae'r termau hyn yn disgrifio'r dosbarthiad pwerau rhwng Llywodraeth y DU a'r sefydliadau llywodraeth datganoledig yn y DU, megis Senedd yr Alban, y Cynulliadau yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Llundain Fwyaf ac Awdurdodau Lleol.
 
Materion datganoledig yw'r penderfyniadau polisi hynny y gellir eu cymryd gan y gweinyddiaethau datganoledig. Materion a gadwyd yn ôl yw'r penderfyniadau polisi hynny sy'n effeithio ar Gymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a rhanbarthau Lloegr sy'n dal i gael eu gwneud gan Senedd y DU yn San Steffan.

Memorandwm Esboniadol

Mae Memorandwm Esboniadol i Fil Cynulliad yn esbonio, ymysg pethau eraill, pwrpas ac effaith arfaethedig y Bil.  Mae'r gofynion ar gyfer Memoranda Esboniadol i Filiau i'w gweld yn Rheol Sefydlog 26.6. Ar gyfer Biliau Llywodraeth bydd y Memorandwm Esboniadol hefyd yn cynnwys Asesiad Effaith Rheoleiddiol a'r Nodiadau Esboniadol ar gyfer y Bil.

Mesur Cynulliad

Mae Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (yn anffurfiol, Mesur Cynulliad) yn ddeddfwriaeth sylfaenol sydd mewn categori is na Deddf Seneddol.

Cafodd Mesurau eu gwneud yn y Trydydd Cynulliad, pe byddai'r cymhwysedd deddfwriaethol i basio'r Mesur wedi cael ei drosglwyddo i'r Cynulliad mewn Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol oedd yn diwygion Atodlen 5 y Government of Wales Act 2006.

Yn dilyn refferendwm a gynhaliwyd yn 2011, enillodd y Cynulliad bwerau i wneud deddfwriaeth sylfaenol (Deddfau'r Cynulliad) ac nid yw'r Cynulliad bellach yn gallu pasio Mesurau. Mae mesurau sy'n bodoli eisoes yn parhau’n ddilys oni bai eu bod yn cael eu diddymu gan y Cynulliad a gallant gael eu diwygion gan Ddeddfau'r Cynulliad.

Nodiadau Esboniadol

Dogfen sy'n crynhoi ac yn esbonio'n ddiduedd adrannau'r Bil, ac sy'n rhoi gwybodaeth arall sy'n angenrheidiol i esbonio effaith y Bil, ar gyfer y rheiny heb hyfforddiant gyfreithiol neu wybodaeth arbenigol ynghylch y materion sy'n cael eu trafod yn y Bil. Caiff Nodiadau Esboniadol eu gosod ochr yn ochr â phob Bil Llywodraeth wrth ei gyflwyno, a chânt eu diwygio yn ôl yr angen yn dilyn pob Cam diwygio. Caiff y nodiadau eu diwygio wedyn i adlewyrchu'r Bil fel y'i pasiwyd a'u cyhoeddi gan yr Archifau Cenedlaethol pan fydd y Bil yn derbyn Cydsyniad Brenhinol.

Offeryn Cadarnhaol

Is-ddeddfwriaeth y mae'n rhaid i’r Cynulliad i'w gymeradwyo'n benodol o dan y rhiant-ddeddf cyn iddo allu dod i rym (drwy'r 'weithdrefn gadarnhaol').

Offeryn negyddol

Is-ddeddfwriaeth all gael ei gwneud a dod i rym, dan y rhiant-ddeddf, oni bai bod y Cynulliad yn penderfynu fel arall ('y weithdrefn negyddol').

Offeryn Statudol  

Mae Offerynnau Statudol yn ffurf ar ddeddfwriaeth sy'n caniatáu bod darpariaethau Deddf y Cynulliad neu Ddeddf Seneddol yn dod i rym neu'n cael ei newid, neu bod darpariaethau manylach yn cael eu gwneud dan y Ddeddf heb i'r Cynulliad neu'r Senedd orfod pasio Deddf newydd. Cyfeirir atynt hefyd fel is-ddeddfwriaeth neu ddeddfwriaeth ddirprwyedig.

Pleidlais Aelodau am Fil Aelod

O bryd i'w gilydd gall y Llywydd gynnal pleidlais i benderfynu ar enw AC, nad yw'n aelod o Lywodraeth Cymru, sy'n dymuno cyflwyno Bil Aelod.

Pleidlais fwrw

Pleidlais fwrw yw'r bleidlais sy'n penderfynu ar fater lle mae gan y ddwy ochr yn union yr un faint o bleidleisiau. Yn y Cynulliad y Llywydd (neu'r Dirprwy Lywydd) sydd â'r bleidlais fwrw mewn Cyfarfod Llawn, a chan y Cadeirydd mewn pwyllgorau. Y confensiwn yw mai cynnal y status quo yw pwrpas y bleidlais fwrw, oni bai bod cyfle arall i drafod y pwnc cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol.

Prif Chwip

Mae gan bob plaid wleidyddol brif chwip. ACau yw'r chwipiaid sy'n cael eu penodi gan bob plaid i gynnal disgyblaeth y blaid. Rhan o'u rôl yw annog aelodau eu plaid i bleidleisio yn y modd y byddai eu plaid yn dymuno mewn pleidlais bwysig. Mae chwipiaid hefyd yn rheoli'r system baru.

Prif Weinidog

AC a benodir gan y Frenhines i fod yn Brif Weinidog, yn dilyn cael ei enwebu gan y Cynulliad. Y Prif Weinidog yw pennaeth Llywodraeth Cymru, a bydd wedyn yn penodi gweddill Gweinidogion Cymru gyda chymeradwyaeth y Frenhines.

Pwyllgorau

Mae pwyllgorau'n craffu ar ddeddfwriaeth sy'n cael ei chyflwyno yn y Cynulliad ac yn craffu ar bolisïau Llywodraeth Cymru.

Pwyllgor y Cynulliad Cyfan

Dyma pryd mae deddfwriaeth yn cael ei hystyried yn fanwl ar Gam 2 trafodion gan yr holl ACau yn hytrach na dim ond y rhai a etholwyd ar Bwyllgor.

Pynciau

Yr 20 maes sydd wedi’u cynnwys yn Atodlen 7 i'r Government of Wales Act 2006 sy'n egluro cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.

Rheolwyr Busnes

Term torfol ar gyfer cynrychiolwyr o bob un o'r pleidiau gwleidyddol yn y Cynulliad sy'n aelodau o'r Pwyllgor Busnes.

Rheolau Sefydlog

Y rheolau ysgrifenedig sy'n rheoli sut mae'r Cynulliad yn cynnal ei fusnes. Ymysg pethau eraill, maent yn rheoleiddio'r modd y mae Aelodau'n ymddwyn, sut mae Biliau'n cael eu prosesu a sut mae dadleuon yn cael eu trefnu.

Rhestr wedi'i gosod mewn trefn

Rhestr o welliannau sydd wedi eu cynnig ar gyfer Bil ac wedi eu gosod yn y drefn y byddant yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor neu'r Cyfarfod Llawn.

Adran 3

S i Y

Sêl Gymreig 

Caiff y sêl ei defnyddio gan y Prif Weinidog i selio (ac felly dwyn i rym) breinlythyrau wedi eu llofnodi gan y Frenhines yn rhoi Cydsyniad Brenhinol i Filiau a basiwyd gan y Cynulliad, er mwyn i'r rhain ddod yn Ddeddfau'r Cynulliad. Dan adran 116(2) o'r Government of Wales Act 2006, mae'r Prif Weinidog yn cael ei wneud yn Geidwad y Sêl Gymreig.

Swyddfa Gyflwyno 

Mae'r Swyddfa Gyflwyno (o fewn Comisiwn y Cynulliad) yn darparu cyngor ac yn cyflafareddu ar dderbynioldeb a thrafod cwestiynau a chynigion; mae'n cyhoeddi Cofrestr Buddiannau'r Aelodau; mae'n rhoi arweiniad ar gofrestru a datgan buddiannau; ac mae'n darparu cefnogaeth i'r Comisiynydd Safonau.

Swyddfa'r Cwnsleriaid Deddfwriaethol 

Grŵp o gyfreithwyr y Llywodraeth sy'n arbenigwyr mewn drafftio deddfwriaeth; maen nhw'n drafftio holl Filiau'r Llywodraeth.

System dwy siambr

System dwy siambr yw system seneddol lle mae dwy Siambr ddeddfwriaethol. Mae Senedd y DU yn un ddwy siambr gan fod Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi yn cymryd rhan yn y broses o wneud cyfreithiau newydd. System un siambr sydd yng Nghymru gan mai dim ond un siambr sydd i'r Cynulliad.

Teitl byr

Y teitl a ddefnyddir ar gyfer y Bil yn ystod ei daith drwy'r Cynulliad; er enghraifft, 'Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)'. 

Teitl hir

Y testun ar gychwyn Bil sy'n cychwyn gyda’r geiriau 'Deddf i ...' ac yna'n rhestru ei bwrpas. Rhaid i gynnwys y Bil gael ei nodi yn y teitl hir.

Trafodion y Cynulliad

Unrhyw drafodion o eiddo'r Cynulliad (hy Cyfarfodydd Llawn, Pwyllgorau neu Is-bwyllgorau).

Un o Weinidogion Cymru 

Aelod Cynulliad a benodwyd yn Weinidog Cymru gan y Prif Weinidog, gyda chymeradwyaeth y Frenhines sy’n rhan o Lywodraeth Cymru.

Y Pwyllgor Busnes

Mae'r Pwyllgor Busnes yn gyfrifol am drefniadaeth Busnes y Cynulliad. Ei rôl yw hwyluso trefniadaeth effeithiol ar gyfer trafodion y Cynulliad.

Y Swyddfa Ddeddfwriaeth

Mae'r Swyddfa Ddeddfwriaeth (o fewn Comisiwn y Cynulliad) yn cefnogi taith deddfwriaeth drwy'r Cynulliad. Mae'r Swyddfa'n darparu cefnogaeth ysgrifenyddol i bwyllgorau'r Cynulliad a chyngor trefniadol i gadeiryddion pwyllgorau, Aelodau ac i'r Llywydd. Mae hefyd yn cefnogi datblygiad cynigion deddfwriaethol gan Aelodau unigol.

Ysgrifennydd Gwladol Cymru  

Aelod o Lywodraeth y DU (gyda sedd yn y Cabinet ar hyn o bryd). Caiff ei rôl ei ddiffinio fel gweithredu i sicrhau bod buddiannau Cymru'n cael eu hystyried yn llawn gan Lywodraeth y DU wrth wneud penderfyniadau fydd yn cael effaith yng Nghymru; i gynrychioli Llywodraeth y DU yng Nghymru ac i fod yn gyfrifol am sicrhau llwybr deddfwriaeth Cymru'n unig drwy'r Senedd. Gall yr Ysgrifennydd Gwladol fynychu trafodion y Cynulliad a siarad ynddynt ond ni chaiff bleidleisio ac nid yw'n Aelod o'r Cynulliad.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn