Sut mae pŵer yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru

Mae'r ffordd y mae pŵer wedi cael ei rannu o fewn y DU (yn cynnwys o ganlyniad i ddatganoli) ac aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd yn golygu bod pobl Cymru'n cael eu llywodraethu mewn amrywiaeth o ffyrdd a'u bod yn ddarostyngedig i gyfreithiau o wahanol ffynonellau. Mae'r cwestiwn ynghylch pa gorff sy'n llywodraethu mater penodol, a pha gyfreithiau sy'n berthnasol, yn dibynnu ar y pwnc. Yn ogystal â Senedd y DU, mae gan yr Undeb Ewropeaidd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru y pŵer i wneud deddfau hefyd. Yn yr un modd mae pwerau amrywiol wedi cael eu rhoi i Weinidogion Senedd y DU (Ysgrifenyddion Gwladol) ac i Weinidogion Cymru. (Mae rhagor o wybodaeth am gymhwysedd deddfwriaethol yr UE i'w gweld yma, ac mae gwybodaeth am gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol i'w gweld yma.)

Pwy sydd â’r pŵer yng Nghymru

Mae'r pŵer i ddeddfu mewn perthynas â Chymru'n cael ei rannu rhwng yr Undeb Ewropeaidd, Senedd y DU a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn ymarferol, fodd bynnag, ar y cyfan mae cyfreithiau'r Undeb Ewropeaidd yn gymwys ar draws pob Aelod Wladwriaeth yn Ewrop, ac ers 2007 (a chymhwysedd deddfwriaethol uwch y Cynulliad Cenedlaethol) mae'n anarferol i Senedd y DU basio cyfreithiau sy'n ymwneud â Chymru'n unig (yn hytrach bydd cyfreithiau’r Senedd yn gymwys i Gymru a Lloegr, Prydain Fawr neu'r DU i gyd fel arfer). Mae'r Cynulliad Cenedlaethol, ar y llaw arall, fel arfer yn pasio deddfau sy'n ymwneud â Chymru'n unig.

Caiff pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth ei ddatganoli fel mater o drefn (gan Senedd y DU neu'r Cynulliad Cenedlaethol) i Weinidogion y DU (Ysgrifenyddion Gwladol) neu i Weinidogion Cymru gan ddibynnu a yw'n ymwneud â phwnc sydd wedi'i ddatganoli. Unwaith eto, ar y cyfan bydd Ysgrifenyddion Gwladol yn gwneud is-ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i Loegr yn unig, Cymru a Lloegr, Prydain Fawr neu'r DU i gyd (ar faterion sydd heb eu datganoli); tra bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud is-ddeddfwriaeth mewn perthynas â Chymru'n unig.

Mae pŵer gweinyddol (neu weithredol) yng Nghymru mewn sawl lle gwahanol, gan ddibynnu ar y maes pwnc, yn cynnwys:
  • Gweinidogion Cymru;
  • Ysgrifenyddion Gwladol Llywodraeth y DU;
  • awdurdodau lleol;
  • cyrff cyhoeddus niferus eraill, e.e. Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi'n ymarfer pwerau barnwrol dros awdurdodaeth gyfunol Cymru a Lloegr. (Mae rhagor o wybodaeth am rannu pŵer yn bwerau deddfwriaethol, pwerau gweithredol a phwerau barnwrol i'w gweld yma.)

Sut mae deddfau'n cael eu gwneud i Gymru

Mae’r ffynonellau cyfraith sy'n gymwys yng Nghymru fel a ganlyn:

  • Cyfreithiau'r Undeb Ewropeaidd - mae'r rhain yn cael blaenoriaeth dros unrhyw gyfreithiau DU sy’n anghyson. Rhaid i ddeddfau'r UE fod mewn meysydd sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol yr UE, a gallant fod yn berthnasol i faterion sydd naill ai wedi eu datganoli neu heb eu datganoli ar lefel y DU.
  • Deddfwriaeth sylfaenol wedi'i gwneud gan Senedd y DU - er mwyn effeithio ar Gymru, rhaid i Ddeddf Seneddol 'ymestyn' i Gymru (h.y. rhaid i Gymru fod o fewn cymhwysedd tiriogaethol y Ddeddf) a rhaid i'w darpariaethau fod yn berthnasol i Gymru. Gall Deddf Seneddol weithredu'n wahanol yng Nghymru o gymharu â rhannau eraill y DU (h.y. gall gynnwys darpariaethau sy'n benodol i Gymru). Gall Deddfau Seneddol ymwneud â materion a gadwyd neu rai sydd wedi eu datganoli, er na fyddant yn ymwneud â materion datganoledig oni bai bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi rhoi cydsyniad. Gall Deddfau Seneddol gael eu pasio mewn meysydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol yr UE (ar wahân i'r meysydd hynny lle mae gan yr UE gymhwysedd llwyr-gyfyngedig), ond ni chânt wrthdaro gyda chyfraith yr UE.
  • Deddfwriaeth sylfaenol sy'n cael ei gwneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru - rhaid i Ddeddfau'r Cynulliad (a ffurf flaenorol Deddfwriaeth sylfaenol yng Nghymru, Mesurau'r Cynulliad) fod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol er mwyn bod yn gyfreithiau dilys. Mewn geiriau eraill, rhaid i Ddeddfau'r Cynulliad ymwneud â materion nad ydynt wedi eu cadw yn unig.
  • Is-ddeddfwriaeth wedi’i gwneud dan Ddeddf Seneddol - gall y ddeddfwriaeth gael ei gwneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol, neu mewn perthynas â Chymru, gan Weinidogion Cymru.
  • Is-ddeddfwriaeth wedi'i gwneud dan Ddeddf y Cynulliad neu Fesur y Cynulliad - mae'r ddeddfwriaeth yn cael ei gwneud gan Weinidogion Cymru ac yn ymwneud bob amser â materion nad ydynt wedi eu cadw.
  • 'Cyfraith feddal' - mae'r categori hwn yn cynnwys canllawiau wedi eu hysgrifennu gan sefydliadau'r UE megis y Comisiwn Ewropeaidd, ac arweiniad a Chod Ymarfer wedi'i ysgrifennu gan adrannau'r llywodraeth, Gweinidogion Cymru a chyrff cyhoeddus y DU neu Gymru - nid yw'n rhwymo mewn cyfraith, ond bydd ganddi rywfaint o effaith cyfreithiol.
  • Is-ddeddfau - mae gan awdurdodau lleol, ac mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig awdurdodau cyhoeddus eraill, bwerau i wneud rheolau sy'n ymwneud â materion lleol ar amrywiaeth o bynciau o barlyrau tatŵio i reoli llifogydd. Gweler Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 am ragor o wybodaeth am bwerau cynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol a chynghorau cymunedol yng Nghymru i wneud is-ddeddfau.

'Cyfraith Cymru'

Nid yw hi'n dechnegol gywir i gyfeirio at 'gyfraith Cymru' gan fod Cymru'n rhannu awdurdodaeth gyfreithiol (hynny yw, system gyfreithiol) gyda Lloegr, felly dim ond un corff cyfreithiol ffurfiol sy'n berthnasol i Gymru a Lloegr. 'Cyfreithiau Cymru a Lloegr' yw'r enw cywir ar y corff cyfreithiol hwn (ac felly nid yw hi'n gywir chwaith i gyfeirio’n ffurfiol at 'Gyfraith Lloegr'). Fodd bynnag, yn sgil datganoli mae'r gyfraith sy'n gymwys yng Nghymru yn dargyfeirio fwyfwy oddi wrth y gyfraith sy'n gymwys yn Lloegr ac mae'n ddefnyddiol cyfeirio at gorff o 'gyfraith Cymru' fel label. Mae Deddf Cymru 2017 yn cydnabod hyn ac wedi gosod adran A2 newydd yn y GOWA sy'n nodi"The law that applies in Wales includes a body of Welsh law made by the Assembly and the Welsh Ministers". Aiff ymlaen i nodi ei fod yn “recognise the ability of the Assembly and the Welsh Ministers to make law forming part of the law of England and Wales”. Cred Llywodraeth Cymru, fodd bynnag, fod yr awdurdodaeth gyfreithiol a rennir yn anomaledd cyfansoddiadol, ac o ganlyniad, sefydlodd 'Y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru' i ystyried y mater hwn – yn ogystal ag effeithiolrwydd y system gyfiawnder ehangach yng Nghymru – mewn manylder. 

Serch y posibilrwydd o ddiwygio cyfansoddiadol pellach, nod y wefan hon yw eich helpu i ddeall 'cyfraith Cymru'.  At y dibenion hyn, mae hyn yn golygu pob cyfraith sy'n gymwys i'r materion yn berthynas a hynny y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a cymhwysedd deddfwriaethol neu yn berthnasol i beth gall Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth ar eu cyfer drwy is-ddeddfwriaeth. Felly gall 'cyfraith Cymru' ar bwnc gael ei gwneud gan y Cynulliad Cenedlaethol, neu gan Weinidogion Cymru, ond gall hefyd gynnwys cyfreithiau sydd wedi eu gwneud gan Senedd y DU, neu gan Ysgrifennydd Gwladol, hyd yn oed lle y gall gael ei gwneud yn awr gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu Weinidogion Cymru.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn