Penderfyniadau gormesol

  • Gall penderfyniad fod yn afresymol os yw’n rhy ormesol neu annheg. Gall hyn fod oherwydd bod penderfyniad yn rhoi gofyniad diangen o feichus ar y sawl sy’n cael ei effeithio neu’n ei roi mewn caledi gormodol. Yn y math hwn o her, bydd y Llys yn asesu canlyniad y broses benderfynu, yn hytrach na’r broses o wneud y penderfyniad, a bydd yn ystyried pob achos yn ei gyd-destun. Mae enghreifftiau o benderfyniadau sydd wedi’u barnu’n afresymol oherwydd eu bod yn rhy ormesol yn cynnwys: 
  • penderfyniad sy’n ei gwneud hi’n ofynnol i unigolyn wneud rhywbeth na all ei wneud yn gyfreithlon (e.e. roedd gofyniad i landlordiaid lanhau eu heiddo gosod ym mis Ebrill, Mai neu Fehefin yn afresymol oherwydd gallai fod rhaid i landlordiaid dresmasu er mwyn cael mynediad i’w heiddo yn ystod y misoedd hynny) (Arlidge v Islington Corporation [1909] 2KB 127).
  • penderfyniad awdurdod lleol i ddefnyddio pŵer prynu gorfodol er ei fod eisoes yn berchen ar dir yr un mor addas neu’n gallu ei gaffael drwy ffyrdd eraill (Brown v Secretary of State for the Environment (1978) 40 P&CR 285).
  • penderfyniad sy’n gorfodi cosbau gormodol (Wheeler v Leicester City Council [1985] 1 AC 1054).
  • Yn olaf, nodir yn y cyd-destun hwn bod penderfyniadau ynghylch dyraniadau cyllid yn destun adolygiad afresymoldeb, hyd yn oed os yw adnoddau ariannol yn gyfyngedig. Fodd bynnag, byddai’n anodd iawn i hawlydd ddangos bod penderfyniad i ddyrannu adnoddau i unigolyn penodol yn afresymol (R (Bibi) v Newham LBC [2002] 1 WLR 237).

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn