Beth yw’r prawf afresymoldeb?

Gall penderfyniad awdurdod cyhoeddus gael ei herio ar sail afresymoldeb.  Y prawf a ddefnyddir gan y Llys amlaf heddiw i bennu a yw penderfyniad yn rhesymol yw a yw’r penderfyniad “o fewn yr ystod o ymatebion rhesymol” y gallai’r penderfynwr fod wedi’u gwneud yn yr amgylchiadau. Fodd bynnag, nid oes prawf unigol safonol a fydd yn cael ei ddefnyddio ym mhob achos i bennu pa mor rhesymol yw penderfyniad. Yn hytrach, bydd y prawf i’w ddefnyddio a pha mor ddwys neu fanwl y bydd y Llys yn adolygu rhesymoldeb penderfyniad yn amrywio yn ôl y pwnc dan sylw a difrifoldeb yr hyn sydd yn y fantol.

Ymhlith yr achosion a allai fod yn destun adolygiad dwysedd isel mai rhai sy’n ymwneud â chrebwyll gwleidyddol, e.e. materion polisi economaidd cenedlaethol. Mae hyn yn golygu y gallai’r trothwy ar gyfer dangos afresymoldeb fod yn uchel iawn (e.e. lle mae’n rhaid dangos bod penderfyniad yn fympwyol neu’n wrthnysig, heb gyfiawnhad rhesymol amlwg, heb unrhyw gyfiawnhad credadwy, neu lle mae gwall rhesymu sy’n golygu nad oes rhesymeg i’r penderfyniad).

Fodd bynnag, mae penderfyniadau’n ymwneud â hawliau neu egwyddorion cyfansoddiadol unigolyn (e.e. hawliau sy’n cael eu diogelu gan y gyfraith – rhyddid, hygyrchedd y gyfraith, sicrwydd y gyfraith, atebolrwydd, mynediad at gyfiawnder) yn destun craffu mwy dwys neu fanwl fel rheol. Yn yr achosion hyn, defnyddir trothwy is o afresymoldeb, a gall y Llys ofyn am dystiolaeth sylweddol nad yw’r penderfyniad yn mynd ymhellach nag sydd angen i gyflawni amcan  y penderfyniad, a bod yr amcan yn ddigon pwysig. Mae hyn yn debyg iawn i’r ystyriaethau sy’n cael eu cymhwyso gan y Llys o dan y prawf cymesuredd.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn