Beth all ac na all y Llys ei wneud

Bydd y Llys yn rhoi rhywfaint o hyblygrwydd i benderfynwyr ac ni fydd yn ystyried a yw penderfyniad yn gwbl gywir neu’n benderfyniad y byddai’r Llys ei hun wedi’i wneud o reidrwydd. Lle mae corff deddfwriaethol sydd wedi’i ethol yn ddemocrataidd wedi rhoi disgresiwn i benderfynwr penodol (h.y. awdurdod cyhoeddus), bydd y Llys yn ystyried bod y disgresiwn yn eiddo i’r penderfynwyr o hyd. Nid lle’r Llys yw arfer y disgresiwn yn lle hynny. Ni fydd y Llys yn ail-wneud penderfyniad yr awdurdod cyhoeddus ar sail y ffeithiau, ond mewn achosion priodol (e.e. rhai sy’n ymwneud â hawliau unigolyn neu reolaeth y gyfraith) bydd yn edrych yn ofalus iawn ar y ffordd mae’r ffeithiau wedi’u sefydlu a rhesymeg y casgliadau a wneir ar sail y ffeithiau hynny.

Trwy roi’r hyblygrwydd hwn i benderfynwyr – a bydd graddau’r hyblygrwydd yn amrywio o un achos i’r llall – mae’r Llys wedi cydnabod ei bod hi’n hollol bosibl i wahanol bobl resymol, o gael yr un set o ffeithiau, ddod i gasgliadau gwahanol heb fod yn afresymol. Mae hyn yn golygu nad yw pob achos o arfer crebwyll yn anghywir yn afresymol. O’r herwydd gall penderfyniadau cyfreithlon o fewn disgresiwn y penderfynwr (h.y. o fewn yr ystod o ymatebion rhesymol), ond bydd lled yr ystod honno’n dibynnu ar gyd-destun y penderfyniad.

Os yw’r Llys yn barnu bod y penderfyniad yn afresymol, gall ddewis dileu’r penderfyniad, heb adael un arall yn ei le. Gall y penderfynwr (neu yn aml mae’n rhaid iddo) ailystyried y penderfyniad, gan ystyried unrhyw ganllawiau a roddir gan y Llys a chymhwyso egwyddorion mwy rhesymol. Gellid disgwyl na fydd y penderfynwr yn ail-wneud y penderfyniad afresymol gwreiddiol.


 

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn