Beth yw canlyniadau methu â chydymffurfio â gofyniad gweithdrefnol?

Yn y bôn, mae penderfynwr sydd wedi methu â dilyn gofynion gweithdrefnol yn gadael ei hun yn fwy agored i gael ei herio drwy adolygiad barnwrol na phenderfynwr sy’n cydymffurfio â’r holl ofynion perthnasol. Serch hynny, mae’r tebygolrwydd y bydd hawlydd yn llwyddo gyda her ar y sail bod y penderfynwr wedi methu â dilyn y weithdrefn briodol yn dibynnu ar ffeithiau pob achos, yn enwedig natur y gofyniad nas cydymffurfiwyd ag ef a chanlyniadau’r methiant hwnnw.

Wrth ystyried a ddylid dileu penderfyniad am fethu â chydymffurfio â gweithdrefn benodol, y cwestiwn allweddol y bydd y Llys yn ei ystyried yw ai diben (neu fwriad) y ddeddfwriaeth sy’n nodi’r gofyniad yw bod unrhyw benderfyniad a wneir yn groes i’r gofyniad gweithdrefnol hwnnw yn annilys.  (R v Clarke [2008] 1 WLR 338).

Ar gyfer y gofynion gweithdrefnol mwy technegol (e.e. gofyniad i gyflawni cam arbennig o fewn cyfnod penodol, neu ddefnyddio ffurflen arbennig), bydd y Llys hefyd yn ystyried materion fel:

  • a fu cydymffurfiaeth sylweddol â’r gofyniad gweithdrefnol, ac a fyddai cydymffurfiaeth sylweddol (nid cydymffurfiaeth gaeth) yn cyflawni’r gofyniad gweithdrefnol a nodir yn y ddeddfwriaeth
  • a ellir hepgor diffyg cydymffurfiaeth (h.y. bod y sawl sy’n cael ei effeithio gan y diffyg cydymffurfiaeth yn ei roi o’r neilltu)
  • os nad oes modd hepgor y diffyg cydymffurfiaeth, beth yw canlyniad diffyg cydymffurfio.  (R v Immigration Appeal Tribunal ex p Jeyeanthan [2000] 1 WLR 354).

Os yw’r Llys o’r farn y byddai torri gofyniad gweithdrefnol yn mynd yn groes i ddiben y ddeddfwriaeth sy’n nodi’r gofyniad, caiff y penderfyniad ei ddileu yn ôl pob tebyg.

Fodd bynnag, os yw’r gofyniad gweithdrefnol yn un technegol, a bod y diffyg cydymffurfiaeth yn gymharol fach (e.e. os cydymffurfir â gofyniad i gyhoeddi hysbysiad, ond y gwneir hynny ddiwrnod yn hwyr), neu os bu cydymffurfiaeth sylweddol, neu os yw’r Llys o’r farn nad yw’r diffyg cydymffurfiaeth yn mynd yn groes i ddiben y ddeddfwriaeth, ni fydd penderfyniad yn cael ei ddileu o reidrwydd.

Os yw’r gofyniad gweithdrefnol yn fwy sylweddol (e.e. gofyniad i ymgynghori â phartïon â diddordeb, neu i hysbysu partïon sy’n cael eu heffeithio am benderfyniad), mae’n fwy tebygol y bydd y Llys yn ystyried y bydd unrhyw ddiffyg cydymffurfiaeth yn mynd yn groes i ddiben y ddeddfwriaeth ac mae’r penderfyniad yn fwy tebygol o gael ei ddileu.

Er hynny, fel gyda phob sail arall ar gyfer adolygiad barnwrol, mae adran 31(2A) o Ddeddf Uwchlysoedd 1981 yn nodi bod yn rhaid i’r Llys wrthod dileu penderfyniad (neu ddyfarnu unrhyw ryddhad arall) os yw’n ymddangos yn dra thebygol na fyddai’r canlyniad ar gyfer y sawl sy’n cael ei effeithio gan y penderfyniad wedi bod yn sylweddol wahanol pe na bai’r penderfynwr wedi methu â chydymffurfio â’r gofynion gweithdrefnol dan sylw, oni bai ei fod o’r farn bod rhesymau eithriadol o ran lles y cyhoedd dros ddyfarnu’r rhwymedi.

 

 

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn