Sut mae’r penderfynwr yn penderfynu pa ystyriaethau sy’n berthnasol/amherthnasol?

Rhaid penderfynu pa ystyriaethau sy’n berthnasol/amherthnasol yng ngoleuni’r ddeddfwriaeth sy’n cael ei chymhwyso a ffeithiau’r achos.

Gall deddfwriaeth berthnasol restru materion y mae’n rhaid i’r penderfynwr eu hystyried wrth wneud penderfyniadau. Os felly, mae’r materion hynny i gyd yn ystyriaethau perthnasol. Gallai methu ag ystyried y materion hynny arwain at ddileu’r penderfyniad.

Mewn achosion eraill, gall deddfwriaeth berthnasol ddarparu rhestr anghyflawn o rai o’r materion y dylai’r penderfynwr eu hystyried. Er bod yr holl faterion  sydd wedi’u cynnwys yn y rhestr anghyflawn yn ystyriaethau perthnasol, gall ystyriaethau perthnasol eraill ddeillio o ffeithiau’r achos hefyd.

Yn olaf, mewn rhai achosion, ni fydd deddfwriaeth berthnasol yn rhestru unrhyw ffactorau y dylid eu hystyried. Mewn achosion o’r fath, dylai penderfynwr ystyried diben y pŵer sy’n cael ei arfer i bennu pa ffactorau sy’n berthnasol wrth ystyried y penderfyniad. O dan yr amgylchiadau hyn, lle nad yw deddfwriaeth yn nodi’n glir pa ffactorau y dylai penderfynwr eu hystyried, gall y Llys roi hyblygrwydd i’r penderfynwr drwy beidio â phennu rhestr gaeth o’r materion y mae o’r farn y dylai’r penderfynwr fod wedi’u hystyried.


 

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn