A yw faint o adnoddau sydd gan awdurdod cyhoeddus at ei ddefnydd yn ffactor perthnasol y gellir ei ystyried?

O dan rai amgylchiadau, bydd dyletswydd statudol ar awdurdodau cyhoeddus i ddarparu gwasanaethau penodol. Lle mae’r ddyletswydd honno’n benodol a manwl, mae’n annhebygol y bydd awdurdod cyhoeddus yn gallu ystyried cost y gwasanaeth a’r adnoddau sydd ar gael iddo fel ystyriaeth berthnasol. Yn achos R (on the application of G) v Barnet London Borough Council and Others [2003] UKHL 57,  barnodd Tŷ'r Arglwyddi os oes gan awdurdod cyhoeddus ddyletswydd benodol a manwl i ddarparu gwasanaeth arbennig, mae’r ddyletswydd yn debygol o gael ei dehongli fel gofyniad diamod, lle mae materion cost ac adnoddau’n amherthnasol.

O dan amgylchiadau eraill, bydd awdurdodau cyhoeddus yn dewis darparu gwasanaethau wrth arfer disgresiwn statudol. Yr enw cyffredin am y  rhain, mewn cyd-destunau anghyfreithiol, yw gwasanaethau anstatudol. Mewn achosion o’r fath, mae natur gyfyngedig neu derfynedig adnoddau awdurdodau cyhoeddus yn ystyriaeth berthnasol; mae’n rhywbeth y mae awdurdodau cyhoeddus yn gallu neu’n gorfod ei ystyried wrth benderfynu a yw am ddarparu gwasanaeth penodol. Er enghraifft, yn achos R (Health and Safety Executive) v Wolverhampton City Council [2012] UKSC 34,  barnodd y Goruchaf Lys fod yr awdurdod lleol wedi gweithredu’n gyfreithlon wrth ystyried goblygiadau ariannol penderfyniad arbennig mewn cyfarfod cynllunio. Yn ei feirniadaeth, dywedodd yr Arglwydd Carnwarth:

“As custodian of public funds, the authority not only may, but generally must, have regard to the cost to the public of its actions, at least to the extent of considering in any case whether the cost is proportionate to the aim to be achieved, and taking account of any more economic ways of achieving the same objective.”

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn