A oes gan benderfynwyr hawl i gael polisïau ynghylch sut mae gwneud penderfyniadau neu ymdrin â cheisiadau?

Lle mae deddfwriaeth yn rhoi pŵer i awdurdodau cyhoeddus wneud penderfyniadau megis penderfynu ar geisiadau am drwyddedau, mae’n debygol o gael llawer iawn o geisiadau. Er mwyn sicrhau cysondeb, sicrwydd a gweinyddiaeth effeithlon, caniateir (neu gwneir hi’n ofynnol dan rai amgylchiadau) i awdurdodau lleol ddatblygu polisïau sy’n nodi sut yr ymdrinnir  â cheisiadau. Gall y polisïau, er enghraifft, nodi pa ffactorau y dylid eu hystyried wrth benderfynu ar geisiadau neu’r gofynion gweithdrefnol y mae’n rhaid eu bodloni cyn ystyried y ceisiadau. Fel hyn, mae modd ymdrin â cheisiadau mewn ffordd safonol, gan gymhwyso’r un meini prawf a rhoi’r un pwys i’r un ffactorau ym mhob achos. Rhaid i’r polisïau eu hunain fod yn gyfreithlon (e.e. rhaid eu bod yn rhesymol, a rhaid iddynt gydymffurfio â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol).

Nid yw’r rheol yn erbyn llesteirio disgresiwn yn atal mabwysiadu polisïau o’r fath. Yn hytrach, y nod yw sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus yn caniatáu, mewn achosion priodol, eithriadau i’r rheolau cyffredinol sydd wedi’u nodi yn y polisïau. Mae hyn yn arbennig o berthnasol mewn achosion yn ymwneud â hawliau dynol a chydraddoldeb. Mewn geiriau eraill, ni ddylai awdurdod cyhoeddus gymhwyso’i bolisi’n rhy gaeth a rhaid iddo roi cyfle i’r ymgeisydd gyflwyno sylwadau ynghylch pam y dylid gwyro oddi wrth y polisi yn yr achos penodol dan sylw. Rhaid i’r awdurdod cyhoeddus gadw meddwl agored a dylai ystyried pob achos ar sail ei rinweddau ei hun.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn