Pryd y mae gofyn i benderfynwr roi rhesymau am ei benderfyniad?

Dylai penderfynwr roi gwybod i bartïon â diddordeb beth yw ei benderfyniad bob amser. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau sicrwydd cyfreithiol; ym mhob achos rhaid i unigolyn gael y cyfle i wybod beth y mae gofyn iddo ei wneud, yn enwedig os oes cosbau am fethu â chydymffurfio â’r gofynion hynny.

Gall fod gofyniad cyfreithiol i roi rhesymau am y penderfyniad hefyd. Gall y ddyletswydd i roi rhesymau fod wedi’i datgan mewn deddfwriaeth. Fel arall, gall y Llys ddod i’r casgliad bod dyletswydd i roi rhesymau (e.e. os oes gan yr awdurdod cyhoeddus dan sylw bolisi i roi rhesymau am ei benderfyniadau ym mhob achos, sydd felly’n rhoi ‘disgwyliad dilys’ i bartïon â diddordeb y bydd rhesymau’n cael eu rhoi.

Mae’r Llys yn fwyaf tebygol o ddod i’r casgliad bod dyletswydd ar yr awdurdod cyhoeddus i roi rhesymau lle byddai’n annheg i’r awdurdod cyhoeddus beidio â gwneud hynny, er enghraifft:

  • os oes angen rhesymau i alluogi parti â buddiant i apelio yn erbyn penderfyniad;
  • os yw’r penderfyniad yn effeithio ar ryddid neu hawliau dynol rhywun;
  • os yw’r penderfyniad yn anghyffredin mewn rhyw ffordd (e.e. yn groes i arfer sefydledig);
  • os yw’r penderfyniad yn ymddangos yn groes i’r dystiolaeth.

Mae’r Llys yn llai tebygol o ddod i’r casgliad bod dyletswydd i roi rhesymau lle byddai’n anodd iawn i’r penderfynwr wneud hynny (e.e. lle mae’r penderfyniad yn gwbl seiliedig ar arfer crebwyll, er enghraifft, lle mae’n rhaid i’r penderfynwr arfer ei grebwyll i ddewis pa ymgeisydd ddylai gael cyllid grant - gweler R (on the application of the Asha Foundation) v The Millennium Commission [2003] EWCA Civ 88).

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn