A yw llys yn craffu’n fwy dwys ar benderfyniad o dan y prawf cymesuredd nag y mae o dan y prawf rhesymoldeb?

Mae’r gwahaniaeth rhwng y seiliau cymesuredd a rhesymoldeb ar gyfer cynnal adolygiad wedi bod yn destun cryn drafod. Mewn sawl modd, bydd ystyriaethau’r Llys yn debyg iawn o dan y naill brawf a’r llall. Er enghraifft, ym mhob achos, bydd yn ystyried a oes cysylltiad rhesymol rhwng y penderfyniad a’r amcan sydd mewn golwg. Mae enghreifftiau hefyd o’r Llys yn ystyried o dan y ddau brawf a ellid bod wedi cyflawni amcan y penderfyniad mewn ffordd oedd yn ymyrryd llai.

Y prif wahaniaeth rhwng y profion cymesuredd a rhesymoldeb yw bod mwy o strwythur i’r prawf cymesuredd – bydd y Llys yn defnyddio’r prawf pedwar cam a nodir uchod bob amser. Ar y llaw arall, bydd ganddo fwy o ddisgresiwn wrth ystyried a yw penderfyniad yn afresymol. Fodd bynnag, pwysleisiodd y Goruchaf Lys yn Pham nad yw’r ffaith bod mwy o strwythur i’r prawf cymesuredd yn golygu o reidrwydd y bydd y craffu yn fwy dwys. Caiff y profion cymesuredd a rhesymoldeb eu cymhwyso’n hyblyg. Mae hyn yn golygu bod y profion cymesuredd a rhesymoldeb yn cael eu cymhwyso’n hyblyg. Mae hyn yn golygu bod dwysedd y craffu a’r pwys a roddir ar safbwynt y penderfynwr yn amrywio yn dibynnu ar gyd-destun ac amgylchiadau pob achos. Felly, ni fydd y Llys yn craffu’n fwy llym wrth gymhwyso’r prawf cymesuredd o reidrwydd; bydd dwysedd yr adolygiad yn dibynnu bob amser ar gyd-destun ac amgylchiadau’r achos.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn