Pryd gall y Llys asesu cymesuredd penderfyniad?

O dan amgylchiadau penodol, gall penderfyniad awdurdod cyhoeddus gael ei herio ar sail cymesuredd. Yn y bôn, mae hyn yn golygu os yw penderfyniad yn ymyrryd yn sylweddol â hawliau cyfreithiol pwysig unigolyn (e.e. hawl unigolyn i ddinasyddiaeth y DU), neu os yw’n berthnasol fel arall i gyfraith yr UE neu’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (‘ECHR’), yna bydd y Llys yn mynnu nad yw unrhyw ymyrraeth â hawliau unigolyn yn fwy na’r hyn sydd ei angen i gyflawni nod yr ymyrraeth.

I gychwyn, ystyriwyd mai dim ond os oedd penderfyniad awdurdod cyhoeddus yn ymwneud â chyfraith yr UE neu faterion ECHR y byddai egwyddor cymesuredd ar gael fel sail ar wahân ar gyfer adolygiad barnwrol. Fodd bynnag, yn dilyn cyfres o achosion, ac achos Pham v Secretary of State for the Home Department [2015] UKSC 19 yn arbennig, mae’n ymddangos yn debygol y bydd modd i unrhyw benderfyniad sy’n ymyrryd yn sylweddol â hawliau sylfaenol gael ei herio ar sail cymesuredd, boed yn ymwneud â chyfraith yr UE neu’r ECHR ai peidio.

Bydd asesiad llys o gymesuredd yn rhoi sylw i’r ystyriaethau canlynol:

  • a yw amcan y penderfyniad yn ddigon pwysig i gyfiawnhau cyfyngu ar hawl unigolyn;
  • a oes cysylltiad rhesymegol rhwng y penderfyniad a’r amcan (h.y. a yw’r penderfyniad yn addas);
  • a allai’r amcan fod wedi cael ei gyflawni mewn modd a fyddai’n amharu llai (h.y. a oedd y penderfyniad yn angenrheidiol);
  • a yw effaith negyddol y penderfyniad ar hawliau unigolyn yn drech na phwysigrwydd yr amcan. Os felly, bydd y penderfyniad yn anghymesur (h.y. a yw’r penderfyniad yn taro cydbwysedd teg).

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn