A all Gweinidogion y Llywodraeth/Gweinidogion Cymru ddirprwyo eu pŵer i swyddogion?

Derbyniodd y Llys Apêl yn achos Carltona  (Carltona v Commissioners of Works [1943] 2 All ER 560) ym 1943 fod gweinyddiaeth y llywodraeth wedi mynd mor gymhleth a swyddogaethau gweinidogion y llywodraeth mor niferus fel na fyddai’n bosibl i weinidog roi sylw i bob penderfyniad yn bersonol. Canfu, yn ymarferol, fod dyletswyddau gweinidogion yn cael eu cyflawni gan swyddogion gan amlaf, ond yn amodol ar rai eithriadau lle’r oedd y penderfyniad mor bwysig fel bod rhaid i’r Gweinidog wneud y penderfyniad yn bersonol.

Cadarnhaodd y Llys Apêl gyfreithlondeb y system hon yn achos Carltona, ar yr amod lle’r oedd swyddogion yn gwneud penderfyniad ar ran y Gweinidog, mai penderfyniad y Gweinidog a’i gyfrifoldeb ef neu hi fyddai’r penderfyniad hwnnw o hyd. Mae hyn yn galluogi swyddogion digon profiadol i wneud penderfyniadau ar ran y Gweinidog, ac mae’n parhau felly heddiw; caiff gweinidogion ddirprwyo’u pŵer i swyddogion â chymwysterau addas, ond maent yn parhau i fod yn gyfrifol am y penderfyniadau a wneir wrth arfer y pŵer hwnnw.

Mewn perthynas â phwerau Gweinidogion Cymru yn benodol, mae adran 52(9) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn darparu hyd yn oed heb awdurdod dyfarniad y Llys Apêl yn Carltona, y caiff Gweinidogion Cymru, y Prif Weinidog neu’r Cwnsler Cyffredinol awdurdodi staff Llywodraeth Cymru i ymgymryd ag unrhyw swyddogaeth ar eu rhan. Dyma enghraifft arall o ddeddfwriaeth yn darparu’n ddatganedig ar gyfer dirprwyo pwerau.


 

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn