Sut mae’r Llys yn penderfynu a all penderfynwr ddirprwyo ei bŵer penderfynu?

Man cychwyn unrhyw ystyriaeth ynghylch a ellir dirprwyo pŵer penderfynu yw geiriad a diben deddfwriaeth berthnasol. Gall fod yn amlwg o’r geiriad neu’r diben mai bwriad y corff deddfwriaethol oedd y gallai pŵer penodol a roddir i awdurdod cyhoeddus gael ei ddirprwyo i un arall. Enghraifft o gyd-destun awdurdod lleol yw adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, sy’n darparu, yn gyffredinol, ac yn amodol ar unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb yn Neddf 1972 neu unrhyw Ddeddf diweddarach, y gall awdurdod lleol drefnu i’w swyddogaethau gael eu cyflawni gan un o bwyllgorau, is-bwyllgorau neu swyddogion yr awdurdod.

Wrth ystyried diben y ddeddfwriaeth, bydd y Llys yn rhoi sylw penodol i natur y pŵer a roddwyd i’r penderfynwr:

Pwerau barnwrol – Lle mae’r pŵer yn bŵer o fath barnwrol, sy’n golygu bod y penderfynwr yn penderfynu ynghylch hawliau unigolyn (e.e. gwahardd rhywun o broffesiwn arbennig), yn absenoldeb geiriad datganedig i’r gwrthwyneb, mae’n annhebygol y bydd y Llys yn ystyried y pŵer yn ddirprwyadwy.

Pwerau deddfwriaethol – Mae yna ragdybiaeth gref na all pŵer a roddir i unigolyn i wneud deddfwriaeth (e.e. is-ddeddfau, rheoliadau) gael ei ddirprwyo.

Pwerau gweinyddol – Mae’n fwy tebygol y bydd y Llys yn ystyried bod pŵer gweinyddol yn fwy dirprwyadwy na pŵer barnwrol neu ddeddfwriaethol, ond bydd barn y Llys yn dibynnu ar ffactorau megis a yw’r awdurdod cyhoeddus sy’n dirprwyo wedi cadw rheolaeth gyffredinol neu oruchwyliol dros y penderfyniad, graddau unrhyw reolaeth o’r fath, a phwysigrwydd y penderfyniad ar gyfer yr unigolyn dan sylw.

Bydd y Llys yn ystyried hyd a lled y pwerau yr honnir iddynt gael eu dirprwyo hefyd. Yn gyffredinol, po fwyaf eang y pwerau y mae’r awdurdod lleol am eu dirprwyo, lleiaf tebygol y bydd y dirprwyo’n cael ei farnu’n ddilys. Ar y llaw arall, os yw’r dirprwyo’n ymwneud â phŵer cymharol gul a hunangynhwysol, mae’n fwy tebygol o gael ei farnu’n un dilys.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn