Beth yw athrawiaeth ‘disgwyliad dilys’?

Athrawiaeth disgwyliad dilys yw un o reolaethau’r Llys dros arfer pwerau penderfynwr. Yr egwyddor gyffredinol yw y bydd y Llys yn ymyrryd i atal penderfynwr rhag gwneud penderfyniad penodol (neu’n dileu penderfyniad y mae eisoes wedi’i wneud) lle byddai gweithredoedd neu anweithredoedd blaenorol y penderfynwr yn ei gwneud hi’n annheg i’r penderfyniad aros mewn grym (R (on the application of Bhatt Murphy) v The Independent Assessor [2008] EWCA Civ 755 ym mhara 50).

Mae dau gategori eang o ddisgwyliad dilys:

  • disgwyliad dilys gweithdrefnol.  Mae hwn yn codi pam mae’r penderfynwr yn gwneud addewid datganedig i wneud pethau penodol yn ystod y broses benderfynu (e.e. addewid i ymgynghori) neu lle mae’r penderfynwr wedi gwneud y pethau hynny’n gyson yn y gorffennol (gweler, yng nghyd‑destun disgwyliadau dilys gweithdrefnol Council of Civil Service Unions v Minister for the Civil Service [1985] AC 374 HL 401, ac R v Inland Revenue Commissioners, ex p Unilever Plc [1996] STC 681 CA ar gyfer disgwyliad dilys sylweddol). Bydd y Llys yn barnu bod disgwyliad dilys gweithdrefnol lle mae’r arfer wedi ennill ei blwyf i’r fath raddau fel y byddai’n annheg neu’n anghyson â gweinyddu da i ganiatáu i’r awdurdod cyhoeddus gefnu ar yr arfer hwnnw.
  • disgwyliad dilys sylweddol. Mae’n codi lle mae’r penderfynwr wedi addo cadw polisi cyfredol mewn grym, neu wneud rhywbeth penodol, ar gyfer parti neu grŵp penodol, ac y byddai’r parti neu’r  grŵp  dan sylw yn cael ei effeithio’n sylweddol gan benderfyniad i dorri’r addewid hwnnw (e.e. penderfyniad i dorri addewid a wnaed i breswylydd cartref gofal y gall aros yno am weddill ei fywyd).

Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y dyfernir disgwyliad dilys sylweddol (R (Bhatt Murphy) v Independent Assessor [2008] EWCA Civ 755, para 41) - lle byddai caniatáu i’r awdurdod cyhoeddus dorri ei air mor annheg nes ei fod yn gyfystyr â chamarfer pŵer. Mae hwn yn drothwy uchel i hawlwyr ei fodloni (R (Godfrey) v Southwark LBC [2012] EWCA Civ 500, para 51) ac ni ddyfernir disgwyliad dilys sylweddol heblaw lle bo’r addewid yn un taer ac iddo ffocws, wedi’i gyfeirio at unigolyn neu grŵp penodol, ac yn glir, yn ddiamwys a heb amodau perthnasol. Fel rheol, rhaid bod y sawl y gwnaed yr addewid iddo wedi cymryd camau ar sail yr addewid hwnnw, a bod hynny wedi ei roi mewn gwaeth sefyllfa na phe bai heb gymryd y camau hynny (R (Bibi) v Newham London Borough Council [2001] EWCA Civ 607 para 29 a 30).

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn