Penderfyniadau a gweithredoedd pwy y gellir eu herio drwy adolygiad barnwrol?

Gweithdrefn yw adolygiad barnwrol sy’n galluogi pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan benderfyniad neu weithred awdurdod cyhoeddus i wneud cais i’r Uchel Lys am ryddhad rhag y penderfyniad neu weithred dan sylw. Er mwyn rhoi rhyddhad, rhaid bod un neu ragor o’r seiliau ar gyfer adolygiad yn gymwys. Mae’r seiliau ar gyfer adolygiad, a elwir yn seiliau ar gyfer adolygiad ‘cyfraith gyffredin’, wedi cael eu datblygu dros amser gan y llysoedd, ac nid ydynt wedi’u nodi mewn deddfwriaeth.

Dim ond os yw penderfyniadau neu weithredoedd awdurdod cyhoeddus yn cael eu gwneud mewn perthynas ag arfer ‘swyddogaeth gyhoeddus’ y gellir eu herio drwy adolygiad barnwrol. Bydd y Llys yn ystyried ffactorau amrywiol wrth farnu a yw’r penderfyniad neu weithred yn ymwneud â swyddogaeth gyhoeddus, yn cynnwys ffynhonnell y pŵer sy’n cael ei arfer a natur gweithgareddau’r awdurdod cyhoeddus, yn cynnwys ei gyllid ac a yw ei benderfyniadau’n rhai sy’n rhwymo ai peidio.

Mae gan y Llys ddisgresiwn eang o ran penderfynu beth sy’n cyfrif fel penderfyniad y gellir ei adolygu. Yn gyffredinol, mae’n arfer dehongliad eang.

Yn ogystal ag adolygiad barnwrol ar seiliau cyfraith gyffredin, gall deddfwriaeth ddarparu ar gyfer seiliau penodol dros gynnal adolygiad barnwrol. Er enghraifft, mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn nodi na all ‘awdurdodau cyhoeddus’ weithredu’n anghydnaws â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, ac y gall dioddefwr gweithred anghyfreithlon gan awdurdod cyhoeddus wneud cais i’r  llysoedd am adolygiad o gyfreithlondeb gweithredoedd yr awdurdod cyhoeddus.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn