A oes unrhyw seiliau statudol ar gyfer adolygiad barnwrol?

Mae gan y Llys y pŵer i roi rhyddhad rhag gweithred, penderfyniad neu anwaith os oes un neu ragor o’r seiliau cyfraith gyffredin ar gyfer adolygiad yn berthnasol.

Fodd bynnag, yn ogystal â’r seiliau cyfraith gyffredin ar gyfer adolygiad, mae deddfwriaeth benodol yn cynnwys seiliau ychwanegol ar gyfer herio penderfyniadau neu weithredoedd awdurdod cyhoeddus; seiliau ‘statudol’ ar gyfer adolygiad yw’r rhain. Er enghraifft, mae adran 112 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn galluogi’r Goruchaf Lys i ystyried a yw Bil sydd wedi’i basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn pŵer y Cynulliad (h.y. ystyried cyfreithlondeb y Bil ar seiliau penodol) ac mae Atodlen 9 i’r un Ddeddf yn caniatáu i’r llysoedd ystyried, ymhlith pethau eraill, a yw penderfyniadau neu weithredoedd Gweinidogion Cymru o fewn eu pwerau (h.y. ystyried cyfreithlondeb gweithred neu benderfyniad).

Enghraifft arall o sail statudol ar gyfer adolygiad, a’r mwyaf perthnasol at ddibenion y canllawiau hyn, yw honno sydd wedi’i chynnwys yn Neddf Hawliau Dynol 1998.  Dywed Adran 6 o’r Ddeddf honno ei bod hi’n anghyfreithlon i ‘awdurdod cyhoeddus’ weithredu mewn modd sy’n anghydnaws ag un o hawliau’r Confensiwn, ac mae adran 7 yn nodi y gall rhywun sydd wedi dioddef penderfyniad neu weithred anghyfreithlon ddwyn her adolygiad barnwrol yn y llysoedd.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn