Penderfyniadau a gweithredoedd pwy y gellir eu herio?

Diffinnir adolygiad barnwrol gan Ran 54 o Reolau Trefniadaeth Sifil 1998 (OS 1998/3132) fel cais neu hawliad i’r Llys adolygu cyfreithlondeb deddfiad (h.y. deddfwriaeth) neu ‘benderfyniad, gweithred neu fethiant i weithredu mewn perthynas ag arfer swyddogaeth gyhoeddus’.

Mae hyn yn golygu mai dim ond i herio penderfyniad, gweithredoedd neu anweithiau a wneir wrth arfer ‘swyddogaeth gyhoeddus’ y gellir defnyddio adolygiad barnwrol. Wrth benderfynu a yw penderfyniad neu weithred yn gyfystyr ag arfer swyddogaeth gyhoeddus bydd y Llys yn ystyried:

  • ffynhonnell y pŵer sy’n cael ei arfer . Os yw’r pŵer sy’n cael ei arfer yn deillio o ddeddfwriaeth neu’r uchelfraint frenhinol (pwerau’r Goron nad ydynt wedi’u cynnwys mewn deddfwriaeth ac y gellir eu harfer gan lywodraeth), byddai’n cael ei ystyried yn swyddogaeth gyhoeddus gan amlaf. Ar y llaw arall, os yw’r pŵer sy’n cael ei arfer yn deillio o gytundeb preifat (e.e. contract rhwng y penderfynwr a rhywun arall) byddai’n tueddu i gael ei ystyried yn swyddogaeth breifat ac felly ni fyddai modd ei herio drwy adolygiad barnwrol.
  • natur y gwaith neu weithgaredd sy’n cael ei gyflawni gan yr awdurdod cyhoeddus dan sylw . Nid yw ffynhonnell y pŵer sy’n cael ei arfer yn pennu ynddo’i hun a yw swyddogaeth yn un gyhoeddus; bydd y Llys yn ystyried hefyd a yw’r gweithgareddau sy’n cael eu cyflawni gan yr awdurdod cyhoeddus yn rhai cyhoeddus eu natur. Bydd y Llys yn ystyried ffactorau megis a yw’r awdurdod cyhoeddus yn cael ei ariannu o bwrs y wlad ac a oes rhaid i bersonau eraill gydymffurfio â phenderfyniadau’r awdurdod cyhoeddus (a’r cosbau am beidio â gwneud hynny). Bydd y Llys yn dod i’r casgliad bod awdurdodau lleol ac adrannau’r llywodraeth yn aml yn cyflawni swyddogaethau o natur gyhoeddus. Mewn rhai achosion, bydd y swyddogaethau a gyflawnir gan gorff ‘preifat’ yn ôl pob golwg yn cael eu hystyried yn swyddogaethau cyhoeddus a allai fod yn destun adolygiad barnwrol. Er enghraifft, mae’r Llys wedi canfod bod ysgol breifat, a fyddai’n cael ei hystyried yn gorff preifat fel rheol, yn arfer swyddogaeth gyhoeddus wrth dderbyn arian gan yr Ysgrifennydd Gwladol i ddarparu addysg i fyfyrwyr penodol. Mewn perthynas â’r swyddogaethau arbennig hynny, ystyriwyd bod yr ysgol breifat yn yr un sefyllfa ag ysgol wladol; roedd y swyddogaethau yn rhai cyhoeddus ac yn rhai y gellid eu herio drwy adolygiad barnwrol.

Mae’r Llys wedi dod i’r casgliad dro ar ôl tro bod swyddogaethau rhai mathau penodol o gyrff yn swyddogaethau preifat (ac felly ni allant fod yn destun adolygiad barnwrol). Mae enghreifftiau’n cynnwys cyrff chwaraeon fel y Gymdeithas Bêl-droed a’r Jockey Club, a chyrff crefyddol fel y prif rabi neu fosg.

 

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn