Cartrefi symudol preswyl – breuddwyd ynteu hunllef?

Darparwyd yr erthygl hon gan gyfrannwr i'r wefan.  Unrhyw farn a fynegir yw barn yr unigolion eu hunain ac nid Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Cafodd yr erthygl yma ei baratoi gan Jessica Hayward, Capital Law.

 

I lawer o bobl, mae meddwl am dreulio blynyddoedd eu hymddeoliad mewn cartref symudol moethus neu brynu'r cartref gwyliau teuluol perffaith ger traeth tywodlyd yng Nghymru yn freuddwyd berffaith. Ond mae yna rai problemau y mae angen i berchnogion cartrefi symudol fod yn ymwybodol ohonynt, fel nad yw eu breuddwyd yn troi'n hunllef.

Er y gall ddewis cartref teithiol mewn lleoliad prydferth yn lle adeilad brics ar ystâd dai fod yn opsiwn delfrydol i rai (ac yn rhatach o bosib), nid yw llawer o berchnogion cartrefi symudol yn sylweddoli nad y cartref teithiol yn unig y mae'n rhaid iddyn nhw dalu amdano. Fwy na thebyg y bydd perchnogion safleoedd yn codi “ffioedd llain” am y tir y mae'r cartref symudol arno ac mae hawl ganddynt i wneud hynny, ond gall y gost ychwanegol hon fod yn syndod i rai.

Mae'r ffaith nad yw perchnogion cartrefi symudol yn berchen ar y tir y mae eu cartref arno'n peri risg. Yn y bôn, nid oes ganddynt unrhyw hawliau i'r tir hwn, felly petai'r tir yn cael ei werthu, gallent golli eu “llain” a gorfod symud ymlaen. Gall hyn beri anhawster a straen i rai perchnogion cartrefi symudol.

Mae’n hysbys bod rhai perchnogion safleoedd hefyd wedi manteisio ar y ffaith nad yw perchnogion cartrefi symudol yn berchen ar y tir y mae eu cartref arno. Unwaith eto, mae hyn yn peri i rai perchnogion adael. 

Diolch byth, nid yw'r holl beth yn negyddol! Daeth Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (y “Ddeddf”) i rym ar 1 Hydref 2014 ac mae wedi diwygio'r gyfraith sy'n ymwneud â chartrefi symudol preswyl yng Nghymru. Mae'r Ddeddf yn rhoi llawer mwy o warchodaeth i berchnogion cartrefi symudol, gan gynnwys gwella amodau'r safleoedd.

Mae Rhan  1 o'r Ddeddf yn darparu trosolwg defnyddiol ac yn nodi pa safleoedd cartrefi symudol sy'n ddarostyngedig i’r Ddeddf. Mae'n cynnwys safleoedd wedi'u 'rheoleiddio' a safleoedd 'gwarchodedig'.

Safleoedd wedi'u rheoleiddio yw safleoedd sydd ag o leiaf un cartref symudol, at ddiben fod yn gartref, arnynt, ond nid ydynt yn safleoedd gwyliau ac nid ydynt yn dod o   fewn cwmpas Atodlen 1 i’r Ddeddf.  Mae safleoedd gwarchodedig yn cynnwys safleoedd wedi'u rheoleiddio, a'r safleoedd hynny a fyddai'n safleoedd wedi'u rheoleiddio pe na byddai'r awdurdod lleol yn berchen arnynt. Mae modd gweld y mathau o safleoedd nad ydynt wedi'u rheoleiddio yn Atodlen 1 i’r Ddeddf.

Mae Rhan 2 o’r Ddeddf yn trin trwyddedu safleoedd sydd wedi'u rheoleiddio (heb gynnwys safleoedd y mae'r awdurdod lleol yn berchen arnynt) oherwydd bod yn rhaid i berchennog safle feddu ar drwydded safle er mwyn defnyddio'r tir fel safle wedi'i reoleiddio. Mae modd cyflwyno cais am drwydded i'r awdurdod lleol ac mae'n rhaid iddo gynnwys manylion y tir a hunaniaeth yr ymgeisydd yn unol ag Atodlen 6 i’r Ddeddf. Mae'n rhaid nodi'r rheolwr hefyd pan nad yr ymgeisydd yw’r rheolwr. Weithiau, mae angen talu ffi i'r awdurdod lleol ynghyd â'r cais. Mae hyn yn diogelu perchnogion cartrefi symudol drwy lywodraethu pwy sy'n gallu cynnal y safleoedd hyn. 

Yn olaf, nid oes caniatâd gan berchennog safle i ddefnyddio tir, neu ganiatáu i unrhyw ran o'r tir gael ei defnyddio, fel safle preswyl oni bai fod yr awdurdod lleol yn fodlon bod naill ai perchennog y safle, neu'r rheolwr, yn “berson addas a phriodol” i reoli'r safle. 

Os, yn ystod cyfnod y drwydded, y mae perchennog y safle, neu'r rheolwr, yn torri'r gofyniad hwn, gall yr awdurdod lleol gyflwyno cais i'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl am orchymyn sy'n diddymu trwydded y safle. Gallai perchennog y safle fod yn euog hefyd o drosedd y mae modd rhoi dirwy ddiderfyn ar ei chyfer gan lys. 

Wrth benderfynu a yw perchennog safle, neu reolwr, yn bodloni'r prawf hwn, mae'n rhaid i'r awdurdod lleol asesu a oes tystiolaeth i ddangos bod yr unigolyn wedi cyflawni unrhyw drosedd sy'n cynnwys twyll neu anonestrwydd arall, trais, arfau tanio neu gyffuriau neu unrhyw drosedd a restrir yn Atodlen 3 i Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003,  wedi arfer gwahaniaethu, aflonyddwch neu  erledigaeth anghyfreithlon sy'n mynd yn groes i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 mewn cysylltiad â chynnal unrhyw fusnes, a thorri unrhyw ddeddf sy'n ymwneud â thai (gan gynnwys cartrefi symudol) neu landlord a thenant.    

Mae'n rhaid i'r awdurdod lleol hysbysu’r unigolyn am y rhesymau dros y  penderfyniad a'r hawl i apelio lle bo'r cais wedi'i wrthod. Y cyfnod apelio i'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl yw 28 niwrnod o'r hysbysiad. Mae hyn yn helpu i atal perchnogion safleoedd rhag cymryd mantais o berchnogion cartrefi symudol. 

Nawr, beth benderfynwch chi – cartref symudol ar lan y môr neu gynllun gwahanol?

Cyhoeddwyd gyntaf
27 Ionawr 2022
Diweddarwyd diwethaf
01 Tachwedd 2022