Cofrestru a thrwyddedu landlordiaid ac asiantiaid

Pwy ddylai fod wedi'u cofrestru?

Mae'n rhaid i bob landlord preifat fod wedi'i gofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru mewn perthynas â phob un o'i denantiaethau domestig a fwriedir i'w gosod. Mae eiddo rhent yn cynnwys tenantiaethau byrddaliadol sicr, tenantiaethau sicr neu denantiaethau rheoleiddiedig.  Mae'n drosedd peidio bod wedi'ch cofrestru a gall landlordiaid wynebu cosbau. 

Er mwyn cofrestru, mae'n rhaid i landlord ddarparu gwybodaeth gywir a chyfredol amdanynt a'u heiddo. Mae ffi hefyd yn daladwy. 

Mae'n rhaid i landlord fod â thrwydded os yw'n ymgymryd â 'gweithgareddau gosod' neu fathau penodol o 'weithgareddau rheoli eiddo'. Fodd bynnag, nid oes angen i landlord fod â thrwydded os yw wedi penodi asiant trwyddedig neu unigolyn cyfrifol i hysbysebu, osod neu reoli'r eiddo ar ei ran, cyn belled ag nad oes gan y landlord rôl yn y gweithgareddau hynny. 

Mae'r drwydded yn ddilys am bum mlynedd. Er mwyn cadw'r drwydded, mae'n rhaid i'r landlord neu asiant gadw at ofynion y Cod Ymarfer

Pa ddeddfwriaeth sy'n berthnasol? 

Mae Rhan 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn rheoleiddio'r sector rhentu preifat drwy ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid fod wedi’u cofrestru, ac i unrhyw un sy'n gosod neu’n rheoli eiddo (naill ai’r landlord neu asiant ar ran y landlord) fod yn drwyddedig. 

Mae adran 4(1) o’r ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i landlord annedd sydd wedi’i gosod, sydd wedi'i marchnata i’w gosod neu sydd wedi'i chynnig i'w osod fod wedi’i gofrestru mewn perthynas â'r annedd, ond mae yna eithriadau i hyn a amlinellir yn adran 5. 

Mae adran 4(2) yn cadarnhau bod unrhyw landlord sy'n methu cydymffurfio â'r gofyniad yn adran 4(1) yn cyflawni trosedd ac yn agored ar euogfarn i ddirwy. Fodd bynnag, os daw gweithrediadau yn erbyn y landlord a bod gan y landlord esgus rhesymol dros beidio bod wedi'i gofrestru, bydd landlord yn gallu osgoi euogfarn.

Mae angen i landlord fod wedi'i drwyddedu o dan adran 6 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 os yw’n cynnal gweithgareddau penodol. Mae'r gweithgareddau hyn yn cynnwys 'gweithgareddau gosod', a ddiffinnir yn adran 6(2), a 'gweithgareddau rheoli eiddo', a ddiffinnir yn adran 7(2) a (3): 

Gall Gweinidogion Cymru ddiwygio’r disgrifiad o weithgareddau yn adrannau 6(2) a 7(2) a (3) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 drwy orchymyn. Mae'n drosedd (yn amodol ar yr eithriadau yn adran 8) os nad yw landlord yn dal trwydded ddilys mewn perthynas â'r gweithgareddau a ddiffinnir yn adran 6(2) a 7(2) a (3) oni bai fod y landlord yn penodi asiant trwyddedig i gynnal y gweithgareddau hyn ar ei ran. 

Mae'n rhaid i asiantiaid hefyd fod â thrwydded i gynnal mathau penodol o 'waith gosod' neu 'waith rheoli eiddo' (gweler adrannau 10 a 12 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014). Mae asiant sy'n methu cydymffurfio â'r gofyniad i fod â thrwydded ar gyfer 'gwaith gosod' a 'gwaith rheoli eiddo' yn cyflawni trosedd ac yn agored ar euogfarn i ddirwy. 

Bydd awdurdod trwyddedu neu nifer o awdurdodau trwyddedu yn gweinyddu ac yn gorfodi'r system gofrestru a thrwyddedu a bydd yn rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi cod ymarfer sy'n gosod safonau mewn perthynas â gosod a rheoli eiddo rhent a gallant roi arweiniad neu gyfarwyddiadau i'r awdurdod neu awdurdodau trwyddedu. Mae'n ofynnol bod awdurdod trwyddedu yn cynnal cofrestr ar gyfer ei ardal sy'n cynnwys gwybodaeth benodol. Mae cais ffurfiol ar gyfer cofrestru fel landlord ac ar gyfer gwneud cais am drwydded fel naill ai landlord neu asiant. Gall yr awdurdod trwyddedu ddiddymu cofrestriad unrhyw landlord a cheir mecanwaith sy’n caniatáu i landlord apelio yn erbyn y penderfyniad hwn (Tribiwnlys Eiddo Preswyl). Ar hyn o bryd, Cyngor Dinas a Sir Caerdydd yw'r awdurdod trwyddedu a ddynodwyd ar gyfer Cymru gyfan gan Weinidogion Cymru o dan adran 3 o Ddeddf 2014. 

Cyn rhoi trwydded, mae adran 19(2)(a) yn cadarnhau bod yn rhaid i'r awdurdod trwyddedu fod yn fodlon bod yr ymgeisydd yn unigolyn 'cymwys a phriodol' i'w drwyddedu. Mae adran 20 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn ymdrin â'r gofynion ar gyfer y prawf. 

Os bydd awdurdod trwyddedu yn dirymu, yn diwygio neu'n gwrthod rhoi trwydded newydd, mae gan yr ymgeisydd hawl i apelio drwy gyfeirio'r mater i'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl. 

Mae gan awdurdod trwyddedu hefyd bwerau gorfodi i roi hysbysiadau cosb benodedig neu i gyflwyno erlyniad yn erbyn landlord neu asiant o ran trosedd o dan ddarpariaethau penodol o Ddeddf 2014 mewn amgylchiadau penodol.

Os ceir achlysur lle bydd rhywun a awdurdodwyd yn ysgrifenedig at y diben gan awdurdod trwyddedu â rheswm dros gredu bod unigolyn wedi cyflawni trosedd o dan Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (yn amodol ar ddau eithriad), caiff yr unigolyn awdurdodedig, drwy hysbysiad, gynnig cyfle i'r sawl arall ryddhau ei hun rhag unrhyw atebolrwydd i euogfarn am y drosedd honno drwy dalu cosb benodedig i'r awdurdod. Pan roddir hysbysiad o'r fath i rywun mewn perthynas â throsedd:

  • ni ellir cyflwyno unrhyw achos ar gyfer y drosedd honno cyn i'r cyfnod o 21 diwrnod ar ôl dyddiad yr hysbysiad ddod i ben;  
  • ni chaniateir i'r unigolyn gael ei euogfarnu o'r drosedd os yw’n talu'r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw. 

Ymdrinnir ag euogfarn am dorri gofynion cofrestru a thrwyddedu o dan adrannau 16 (3), 23 (3), 38 (1) a (4) a 39 (1) a (2) trwy ddirwy, yn amodol ar y lefelau perthnasol ar y raddfa safonol sy'n berthnasol i'r drosedd.

Dylid nodi hefyd y gallai rhai o'r darpariaethau hyn fod yn ddarostyngedig i ddiwygiad pan gaiff Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 ei deddfu. Bydd unrhyw ddiweddariadau neu ddiwygiadau yn cael eu hystyried pan ddaw'r ddeddf i rym. 
 

Cyhoeddwyd gyntaf
02 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd diwethaf
10 Ionawr 2022