Cyd-bwyllgorau Corfforaethol – Ffordd newydd i awdurdodau lleol weithio gyda'i gilydd

Darparwyd yr erthygl hon gan gyfrannwr i'r wefan.  Unrhyw farn a fynegir yw barn yr unigolion eu hunain ac nid Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan Bethan Lloyd, Clare Hardy a Natalie Harries o Geldards LLP.

 

Mae cyflwyno pwerau yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 i awdurdodau lleol sefydlu cydbwyllgorau corfforaethol yn darparu ffordd newydd bwysig i awdurdodau lleol weithio gyda'i gilydd.  

Mae awdurdodau lleol eisoes yn gyfarwydd â defnyddio pwerau mewn deddfwriaeth arall i weithio drwy gydbwyllgorau. Mae llawer wedi gwneud hynny'n llwyddiannus ar fentrau megis trefniadau gwasanaethau a rennir a rhaglenni adfywio sy'n cynnwys cyllid gan ffynonellau allanol. Fodd bynnag, nid oedd deddfwriaeth flaenorol yn ei gwneud hi'n bosib sefydlu cydbwyllgorau â'u personoliaethau cyfreithiol eu hunain, a oedd yn cyfyngu ar y camau yr oeddent yn gallu eu cymryd i weithredu eu penderfyniadau. Er enghraifft, nid oeddent yn gallu cyflogi staff nac ymrwymo i gontractau. Petai angen cymryd camau o'r fath, byddent yn cael eu cymryd gan un o'r awdurdodau ynghlwm neu byddai endid cyfreithiol arall yn cael ei sefydlu, megis cwmni.

Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn darparu ar gyfer math gwahanol o gydbwyllgor. Mae Deddf 2021 yn rhoi'r pŵer i brif gynghorau gyflwyno cais i Weinidogion Cymru yn gofyn i reoliadau gael eu gwneud i sefydlu cydbwyllgor corfforaethol i arfer swyddogaeth yr awdurdodau lleol dan sylw.

Cyn cyflwyno cais i Weinidogion Cymru, mae'n rhaid i brif gynghorau ymgynghori â'r canlynol:

  • Pobl leol yn ardaloedd y prif gynghorau
  • Unrhyw gynghorau cymuned yn eu hardaloedd
  • Unrhyw awdurdod parc cenedlaethol yn eu hardaloedd
  • Y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer eu hardaloedd
  • Pob undeb llafur sy'n cael ei gydnabod gan unrhyw un o’r prif gynghorau 
  • Unrhyw bobl eraill y mae’r prif gynghorau yn ystyried eu bod yn briodol


Mae gofyn i Weinidogion Cymru hefyd gynnal ymgynghoriad ar ddrafft unrhyw reoliadau y maent yn cynnig eu gwneud er mwyn sefydlu cydbwyllgor corfforaethol. Mae angen cynnal ymgynghoriad â'r unigolion a enwir uchod a hefyd â'r prif gynghorau dan sylw.

Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i reoliadau cydbwyllgorau fynnu bod uwch-aelod gweithredol y prif gynghorau ar gyfer yr ardaloedd a gwmpesir gan gydbwyllgor yn aelodau o'r cydbwyllgor. Mae'n rhaid i'r rheoliadau hefyd ddarparu ar gyfer aelodaeth gan yr awdurdod parc cenedlaethol perthnasol os yw'r cydbwyllgor yn cwmpasu ardal parc cenedlaethol ac y bydd yn ymgymryd â swyddogaeth paratoi cynllun datblygu ar y cyd.

Mae darpariaethau eraill a allai gael eu cynnwys mewn rheoliadau cydbwyllgor yn cynnwys y canlynol:

  • Cyfansoddiad y cydbwyllgor, gan gynnwys cyfethol aelodau
  • Enw'r pwyllgor
  • Sefydlu is-bwyllgorau
  • Trafodion y pwyllgor ac unrhyw is-bwyllgorau
  • Pwerau'r cydbwyllgor i drefnu ar gyfer arfer swyddogaethau gan unigolyn arall, i arfer swyddogaethau unigolyn arall, ac i arfer swyddogaethau ar y cyd neu mewn cydweithrediad ag unigolyn arall
  • Pwerau'r cydbwyllgor i ddarparu staff, nwyddau, gwasanaethau neu lety i unrhyw unigolyn
  • Taliadau cydnabyddiaeth, lwfansau, treuliau, pensiynau neu iawndal am golli swydd i aelodau o'r pwyllgor neu unrhyw is-bwyllgorau 
  • Ariannu cydbwyllgor corfforaethol
  • Cyllid cydbwyllgor corfforaethol
  • Pwerau cydbwyllgor i weithredu at ddiben masnachol
  • Perfformiad a gwaith craffu cyd-bwyllgor
  • Caffael, dyrannu a gwaredu tir gan gydbwyllgor
  • Cymryd rhan mewn achosion cyfreithiol gan gydbwyllgor
  • Pwerau Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddiadau i gydbwyllgor corfforaethol ac i brif gyngor neu awdurdod parc cenedlaethol ar gyfer ardal y cydbwyllgor

Gall prif gynghorau gyflwyno cais i Weinidogion Cymru i ddiwygio neu ddiddymu rheoliadau cydbwyllgor. Mae darpariaeth yn y Ddeddf hefyd ar gyfer cynnwys darpariaethau atodol mewn rheoliadau cydbwyllgor neu mewn rheoliadau sy'n eu diwygio neu’n eu diddymu.

Bydd staff yr effeithir arnynt yn sgil sefydlu cydbwyllgorau corfforaethol yn cael eu diogelu gan ofyniad yn y Ddeddf fod yn rhaid i reoliadau sy'n ymwneud â chydbwyllgorau sy'n cynnwys darpariaeth ar gyfer trosglwyddo staff gymhwyso Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006.

Mae'n rhaid i brif gynghorau a chyd-bwyllgorau corfforaethol roi ystyriaeth i unrhyw ganllawiau a ddyrannwyd gan Weinidogion Cymru sy'n ymwneud â chyd-bwyllgorau corfforaethol.

Mae graddau'r manylion y mae'r Ddeddf yn eu cynnwys ar gyfer rheoliadau yn y dyfodol a statws corfforaethol cydbwyllgorau’n golygu y dylai fod yn bosibl i awdurdodau lleol gael cydbwyllgorau heb y cyfyngiadau ymarferol sydd wedi effeithio ar eu defnydd yn y gorffennol.

Yn ogystal ag ymateb i geisiadau gan awdurdodau lleol, mae gan Weinidogion Cymru y pŵer hefyd i greu rheoliadau i sefydlu cydbwyllgor corfforaethol hyd yn oed pan nad oes cais wedi cael ei gyflwyno, ond bydd hyn yn cael ei gyfyngu i swyddogaethau sy'n ymwneud â gwella addysg, trafnidiaeth, paratoi cynllun datblygu strategol, neu'r swyddogaeth llesiant economaidd.  Cyn gwneud rheoliadau o'r fath, mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r canlynol:

  • Y prif gynghorau yn yr ardaloedd y mae'r cyd-bwyllgor yn ymwneud â hwy
  • Pobl leol yn ardaloedd y prif gynghorau
  • Unrhyw gynghorau cymuned yn eu hardaloedd
  • Unrhyw awdurdod parc cenedlaethol yn eu hardaloedd
  • Y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer eu hardaloedd
  • Pob undeb llafur sy'n cael ei gydnabod gan unrhyw un o’r prif gynghorau 
  • Unrhyw bobl eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol

Mae Gweinidogion Cymru eisoes wedi arfer eu pwerau i greu rheoliadau i sefydlu cyd-bwyllgorau corfforaethol rhanbarthol ar gyfer Canolbarth Cymru, Gogledd Cymru, De-ddwyrain Cymru a De-orllewin Cymru. Bydd y pwyllgorau hyn yn arfer swyddogaethau sy'n ymwneud â chynllunio datblygu strategol, cynllunio trafnidiaeth ranbarthol a llesiant economaidd. Mae'r rheoliadau yn rhoi'r pŵer i'r pwyllgorau gyfethol cyfranogwyr fel aelodau o is-bwyllgorau neu i gymryd rhan yng ngweithgareddau eraill y cyd-bwyllgorau. Bydd y cyd-bwyllgorau'n gallu nodi materion y gall cyfranogwyr cyfetholedig bleidleisio arnynt. Dyma ddatblygiad diddorol a gall helpu awdurdodau lleol i osgoi'r cymhlethdodau y maent wedi'u hwynebu'n flaenorol wrth geisio cynnwys pobl o sefydliadau eraill yng ngwaith cyd-bwyllgorau a sefydlwyd dan ddeddfwriaeth arall sy'n cyfyngu pleidleisio i aelodau o'r awdurdodau lleol.

Bydd yn ddiddorol gweld a yw awdurdodau lleol yn defnyddio'u pwerau dan Ddeddf 2021 i geisio sefydlu rhagor o gydbwyllgorau corfforaethol.

Cyhoeddwyd gyntaf
01 Tachwedd 2022
Diweddarwyd diwethaf
10 Tachwedd 2022