Cyfraith etholiadol

Mae peth o'r cynnwys ar y tudalennau hyn yn cael ei adolygu a byddant yn cael eu diweddaru cyn bo hir.

Yn y Deyrnas Unedig, etholiadau yw'r broses o ddewis aelod o gorff neu bersonau cynrychioliadol.

Yn y Deyrnas Unedig, yn dibynnu ar ble rydych yn byw, efallai y gallwch bleidleisio mewn etholiadau ar gyfer Tŷ'r Cyffredin (a elwir yn etholiadau seneddol), llywodraeth leol, Senedd Ewrop, Senedd yr Alban, Cynulliad Gogledd Iwerddon, Senedd Cymru, ar gyfer Comisiynydd Heddlu a Throseddu ac ar gyfer meiri lleol.

Yn achlysurol, cynhelir refferenda cenedlaethol a lleol er mwyn gofyn cwestiwn neu gyfres o gwestiynau i'r etholwyr yn uniongyrchol.

Mae'r tudalennau canlynol yn canolbwyntio ar etholiadau datganoledig Cymru (h.y. etholiadau llywodraeth leol ac etholiadau Senedd Cymru).

 

 

Cyhoeddwyd gyntaf
11 Mawrth 2021
Diweddarwyd diwethaf
05 Hydref 2021