Skip to main content

Llinellau amser ar gyfer etholiad

Mae peth o'r cynnwys ar y tudalennau hyn yn cael ei adolygu a byddant yn cael eu diweddaru cyn bo hir.

Etholiadau llywodraeth leol

Mae Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru a Lloegr) 2006 yn pennu'r llinellau amser ar gyfer etholiadau sirol a bwrdeistref sirol. Mae Rheol 1 yn amlinellu'r canlynol:

Trafodion

Amser

Cyhoeddi hysbysiad o etholiad

Heb fod yn hwyrach ma'r pumed diwrnod ar hugain cyn diwrnod yr etholiad

Cyflwyno papurau enwebu

Heb fod yn hwyrach na phedwar o'r gloch yn y prynhawn ar y pedwerydd diwrnod ar bymtheg cyn diwrnod yr etholiad 

Cyhoeddi datganiad o ran y personau a enwebwyd

Heb fod yn hwyrach na phedwar o'r gloch yn y prynhawn ar y deunawfed diwrnod cyn diwrnod yr etholiad

Cyflwyno hysbysiadau ynghylch tynnu ymgeisyddiaeth yn ôl

Heb fod yn hwyrach na phedwar o'r gloch yn y prynhawn ar y pedwerydd diwrnod cyn diwrnod ar bymtheg cyn diwrnod yr etholiad 

Hysbysiad o bleidlais

Heb fod yn hwyrach na'r chweched diwrnod cyn diwrnod yr etholiad 

Pleidleisio

Rhwng saith o'r gloch yn y bore a deg o'r gloch yn y nos ar ddiwrnod yr etholiad 

Mae Rheol 1 o Reolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) (Cymru a Lloegr) 2006 yn pennu'r un amserlen ar gyfer etholiadau cynghorau tref a chymuned.

Bydd y llinell amser uchod yn berthnasol ar gyfer etholiadau llywodraeth leol cyffredin ac isetholiadau.

Etholiadau Senedd Cymru

Mae Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 yn pennu'r llinellau amser ar gyfer etholiadau Senedd Cymru. Mae Rheol 1 (yn Atodlen 5) yn amlinellu'r canlynol:

Trafodion

 Amser

Cynhoeddi hysbysiad o etholiad

Heb fod yn hwyrach na'r pumed diwrnod ar hugain cyn diwrnod yr etholiad

Cyflwyno papurau enwebu

Rhwng deg o'r gloch yn y bore a phedwar o'r gloch yn y prynhawn ar unrhyw ddiwrnod yn dilyn dyddiad cyhoeddi hysbysiad o etholiad ond heb fod yn hwyrach na'r pedwerydd diwrnod ar bymtheg cyn diwrnod yr etholiad 

Cyhoeddi datganiad o ran y personau a enwebwyd

Heb fod yn hwyrach na phedwar o'r gloch yn y prynhawn ar y deunawfed diwrnod cyn diwrnod yr etholiad

Cyflwyno hysbysiadau ynghylch tynnu ymgeisyddiaeth yn ôl

Heb fod yn hwyrach na phedwar o'r gloch yn y prynhawn ar y pedwerydd diwrnod ar bymtheg cyn diwrnod yr etholiad 

Hysbysiad o bleidlais

Gyda chyhoeddi datganiad o ran y personau a enwebwyd (Rheol 32

Pleidleisio

Rhwng saith o'r gloch yn y bore a deg o'r gloch yn y nos ar ddiwrnod yr etholiad

Dylid nodi mai'r rhain yw'r amserlenni gofynnol. Gall hysbysiad o bleidlais gael ei gyhoeddi yn gynt o lawer. Gall y gwaith paratoi ar gyfer etholiad ddigwydd yn gynt o lawer na'r uchod hefyd er enghraifft os oes angen argraffu papurau pleidleisio neu os oes angen dewis ymgeiswyr ar gyfer pleidiau gwleidyddol.

 

Cyhoeddwyd gyntaf
18 Mawrth 2021
Diweddarwyd diwethaf
17 Mehefin 2021