Cyrff cyhoeddus datganoledig

Dyma rai o'r prif gyrff cyhoeddus y mae gan Senedd Cymru gymhwysedd deddfwriaethol ac mae gan Weinidogion Cymru swyddogaethau drostynt. Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (GoWA 2006) yn cyfeirio at gyrff o’r fath fel “devolved Welsh Authorities” (adran 157A), y mae llawer ohonynt wedi eu rhestru yn Atodlen 9A i GoWA 2006. Mae tribiwnlysoedd datganoledig hefyd yn dod o dan y diffiniad o “devolved Welsh Authorities” ond caiff y rhain eu trin o dan bennawd ar wahân isod. 

Cyngor Celfyddydau Cymru 

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn hyrwyddo a datblygu’r celfyddydau yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru’n darparu grant blynyddol i’r Cyngor er mwyn rhoi cyfle i bobl Cymru brofi a chymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol.

Yn ogystal â chefnogi a datblygu gweithgareddau celfyddydol o’r radd flaenaf, mae gweithgareddau eraill Cyngor y Celfyddydau’n cynnwys:

  • dosbarthu cyllid y Loteri i’r celfyddydau yng Nghymru
  • darparu cyngor am y celfyddydau
  • codi proffil y celfyddydau yng Nghymru
  • cynhyrchu mwy o arian ar gyfer yr economi celfyddydol
  • datblygu cyfleoedd rhyngwladol ym myd y celfyddydau
  • hyrwyddo perfformiadau ar raddfa fach mewn cymunedau lleol

Archwilydd Cyffredinol Cymru 

Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru. Mae rôl yr Archwilydd Cyffredinol yn cynnwys archwilio sut mae cyrff cyhoeddus yn rheoli ac yn gwario arian cyhoeddus, ac yn sicrhau gwerth am arian wrth gyflawni gwasanaethau cyhoeddus. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen Archwilio cyhoeddus.

Comisiynydd Plant Cymru 

Prif rôl Comisiynydd Plant Cymru yw diogelu a hyrwyddo hawliau a lles plant a phobl ifanc yng Nghymru. Sefydlwyd y Comisiynydd Plant dan Ran V o’r Deddf Safonau Gofal 2000, a ddiwygiwyd gan Ddeddf Comisiynydd Plant Cymru 2001.

Estyn 

Estyn yw swyddfa Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Mae’n gorff y Goron a sefydlwyd o dan Deddf Addysg (Ysgolion) 1992. Mae Estyn yn annibynnol ar Senedd Cymru ond yn derbyn ei gyllid gan Lywodraeth Cymru o dan adran 104 o’r Deddf Llywodraeth Cymru 1998. Mae Estyn yn arolygu ansawdd a safonau darparwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Mae’n arolygu:

  • ysgolion a lleoliadau meithrin a gynhelir gan, neu sy’n cael arian gan awdurdodau lleol;
  • ysgolion cynradd;
  • ysgolion uwchradd;
  • ysgolion arbennig;
  • unedau cyfeirio disgyblion;
  • ysgolion annibynnol;
  • addysg bellach;
  • colegau arbenigol annibynnol;
  • dysgu oedolion yn y gymuned;
  • gwasanaethau addysg awdurdodau lleol ar gyfer plant a phobl ifanc;
  • addysg a hyfforddiant athrawon;
  • Cymraeg i oedolion;
  • dysgu yn y gwaith; a
  • dysgu yn y sector cyfiawnder.

Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

Rôl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yw bod yn warchodwr cenedlaethau’r dyfodol. Mae hyn yn golygu helpu cyrff cyhoeddus a’r rhai sy’n llunio polisi yng Nghymru i feddwl am yr effaith hirdymor y mae eu penderfyniadau yn ei chael. Sefydlwyd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru gan adran 17 o Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru 

Nod Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yw datblygu a chynnal addysg uwch o fri ryngwladol yng Nghymru er lles unigolion, y gymdeithas a’r economi. Ei nod yw defnyddio adnoddau gan Lywodraeth Cymru ac eraill i sicrhau dysgu ac ymchwil addysg uwch o’r radd flaenaf, a gwneud y mwyaf o gyfraniad addysg uwch i ddiwylliant, cymdeithas ac economi Cymru a sicrhau hyfforddiant achrededig o’r safon uchaf i athrawon.

Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru  

Rôl y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol yw adolygu’r holl ardaloedd llywodraeth leol yng Nghymru, a’r trefniadau etholaethol ar gyfer y prif ardaloedd, a chyflwyno’r cynigion hynny i Lywodraeth Cymru fel y bernir sy’n ddymunol er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Amgueddfa Cymru 

Mae Amgueddfa Cymru'n gyfrifol am gadw, cyflwyno a hyrwyddo diwylliant Cymru. Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru (CNLC) yw Amgueddfa Cymru, ac mae CyMAL: Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru yn gyfrifol am y polisi a'r gwaith beunyddiol sy'n ymwneud â'r Amgueddfa. Cafodd Amgueddfa Cymru ei sefydlu drwy Siarter Frenhinol yn 1907 ac mae ganddi saith safle:

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
  • Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
  • Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis
  • Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon
  • Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Sir Gaerfyrddin
  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion
  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe

Cyfoeth Naturiol Cymru 

Cafodd Cyfoeth Naturiol Cymru (neu ‘CNC’) ei greu yn 2013 i gyfuno’r gwaith o reoli adnoddau naturiol ac amgylchedd Cymru, gan ddisodli Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru. Ei ddiben yw sicrhau bod adnoddau naturiol Cymru’n cael eu cynnal, eu gwella a’u defnyddio’n gynaliadwy, nawr ac yn y dyfodol. Mae ei gylch gwaith yn cynnwys cyfrifoldeb am dros 40 o gyfundrefnau rheoleiddio gwahanol mewn meysydd fel diwydiant, gwastraff, trwyddedu morol ac adnoddau dŵr.

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn sicrhau bod buddiannau pobl 60 oed a throsodd yng Nghymru yn cael eu diogelu a’u hyrwyddo, ac mae’n gyfrwng gwybodaeth, eirioli a chymorth i’r bobl hyn hynny a’u cynrychiolwyr. Mae rôl a phwerau statudol y Comisiynydd wedi’u nodi yn Neddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 a Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2007.

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 

Sefydlwyd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (ac mae’n parhau drwy rinwedd Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019. Mae’r Ombwdsmon yn ymchwilio i  achosion honedig neu o dan amheuaeth o gamweinyddu a methiant gwasanaethau gan gyrff sydd wedi’u rhestru yn Atodlen 3 i’r Ddeddf yn ogystal â chyrff sy’n darparu gofal cymdeithasol a lliniarol. Mae’r cyrff rhestredig yn cynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu.

Cymwysterau Cymru  

Mae Cymwysterau Cymru yn rheoleiddio cymwysterau, ar wahân i raddau, yng Nghymru. Cafodd ei sefydlu ym mis Awst 2015 drwy Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015.

Mae’r holl gymwysterau a gynigir gan gorff dyfarnu cydnabyddedig yn cael eu rheoleiddio – oni bai eu bod wedi cael eu heithrio rhag eu rheoleiddio, neu oherwydd bod cydnabyddiaeth neu fath o gymhwyster wedi cael ei ildio gan gorff dyfarnu. Mae’r corff yn categoreiddio cymwysterau fel rhai ‘cymeradwy’, ‘dynodedig’ neu ‘arall a reoleiddiwyd’.

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru 

Mae’r Comisiwn yn ymchwilio i amgylchedd hanesyddol Cymru ac yn ceisio sicrhau bod treftadaeth archaeolegol, adeiledig a morwrol gyfoethog Cymru yn cael ei chofnodi’n awdurdodol a’i deall i’r dim. Mae’n gyfrifol am gadw Cofnodion Henebion Cenedlaethol Cymru a darparu mynediad ar-lein i’r cofnodion drwy’r gronfa ddata ar-lein, ‘Coflein’.

Gofal Cymdeithasol Cymru 

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn rheoleiddio’r gweithlu sy’n darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’n bodoli er mwyn hyrwyddo safonau ymddygiad ac ymarfer uchel ymhlith gweithwyr gofal cymdeithasol a safonau uchel o ran eu hyfforddiant.
Mae ei dair swyddogaeth graidd fel a ganlyn: 

  • rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol drwy osod codau ymddygiad ac ymarfer ar gyfer cyflogeion a chyflogwyr, a thrwy gofrestru ymarferwyr unigol; 
  • rheoleiddio’r hyfforddiant gwaith cymdeithasol wrth gymhwyso ac ar ôl cymhwyso; a 
  • symud yr agenda datblygu’r gweithlu yn ei blaen. 

Chwaraeon Cymru 

Sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo chwaraeon a ffyrdd heini o fyw yw Chwaraeon Cymru. Mae’n gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru. Ei weledigaeth yw 'uno cenedl sy’n caru’r campau, lle mae pob plentyn yn gwirioni ar chwaraeon am oes a Chymru’n genedl o bencampwyr'. Mae hefyd yn gyfrifol am ddosbarthu cronfeydd y Loteri i chwaraeon elite a llawr gwlad yng Nghymru.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru 

Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn casglu a gwarchod deunyddiau sy’n ymwneud â Chymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’n rhan bwysig o fywyd diwylliannol ac addysgol Cymru.

Cafodd y Llyfrgell ei sefydlu trwy Siarter Frenhinol ym 1907. Ei phrif swyddogaethau yw:

  • casglu a gwarchod cofnod deallusol Cymru, mewn sawl cyfrwng gwahanol yn ogystal â chasgliad helaeth o ddeunydd print a gyhoeddwyd yn bennaf drwy ei statws fel llyfrgell ‘hawlfraint’ adneuo cyfreithiol
  • rhoi mynediad i amrywiaeth eang o bobl i’r ddysg a’r wybodaeth hon.

Swyddfa Archwilio Cymru 

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gorff corfforaethol a sefydlwyd gan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.  

Nod y swyddfa hon yw sicrhau bod pobl Cymru yn gwybod a yw arian cyhoeddus yn cael ei reoli’n ddoeth a bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn deall sut i wella canlyniadau.

Ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru, mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gwneud fel a ganlyn:

  • Archwilio cyfrifon ariannol cyrff cyhoeddus
  • Adrodd am sut mae gwasanaethau yn cael eu cyflenwi
  • Asesu a oes gwerth am arian yn cael ei sicrhau
  • Gwirio sut mae sefydliadau yn cynllunio ac yn cyflawni gwelliannau

Comisiynydd y Gymraeg 

Crëwyd swyddfa Comisiynydd y Gymraeg gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i gymryd lle Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Trosglwyddwyd rhai o ddyletswyddau’r Bwrdd Iaith i ofal y Comisiynydd a’r gweddill i Weinidogion Cymru.

Mae swyddogaethau’r Comisiynydd yn cynnwys:

  • hybu defnyddio’r Gymraeg;
  • hwyluso defnyddio’r Gymraeg;
  • gweithio tuag at sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg drwy osod dyletswydd ar rai sefydliadau i gydymffurfio â safonau’n ymwneud â’r Gymraeg;
  • cynnal ymholiadau i faterion sy’n ymwneud â swyddogaethau’r Gymraeg;
  • ymchwilio i ymyrraeth â rhyddid yr unigolyn i ddefnyddio’r Gymraeg.