Diogelu

Mae’r rôl hon yn cynnwys amrywiaeth eang o ddyletswyddau, gan gynnwys:

  • Mae adran 28 o Ddeddf Plant 2004 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol a chyrff eraill fel y corff heddlu lleol, byrddau iechyd lleol, Ymddiriedolaethau’r GIG, byrddau prawf a thimau troseddau ieuenctid i sicrhau bod eu swyddogaethau’n cael eu cyflawni gan ystyried yr angen i ddiogelu a hyrwyddo lles plant.
  • O dan rhan 7 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Deddf 2014) rhaid i awdurdodau lleol sefydlu Byrddau Diogelu Plant sy’n cynnwys cynrychiolwyr o awdurdodau lleol, y corff heddlu lleol, y bwrdd iechyd lleol, Ymddiriedolaeth y GIG, bwrdd prawf, y tîm troseddau ieuenctid ac eraill.

Mae adran 127 o Ddeddf 2014 yn galluogi ceisiadau i gael eu gwneud i lysoedd ynadon am orchmynion amddiffyn a chynorthwyo oedolion. Gall ceisiadau am y cyfryw orchmynion gael eu gwneud gan swyddog awdurdod lleol sydd wedi'i awdurdodi gan awdurdod lleol i gyflawni swyddogaethau o dan yr adran hon.

Diogelu Plant

Mae amddiffyn a lles plant yn fater a ddatganolwyd i Senedd Cymru. Mae cyfraith ac achosion teulu yn eithriadau o gymhwysedd y Senedd, ar wahân i:

  • cyngor lles i lysoedd, cynrychiolaeth a darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth arall i blant sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru a’u teuluoedd,
  • Swyddogion Achosion Teuluol Cymru (gweler Deddf Llywodraeth Cymru 2006 Atodlen 7 paragraff 15)

Mae rôl statudol sylfaenol diogelu lles plant yng Nghymru yn nwylo awdurdodau lleol.

Mae’r rôl hon yn cynnwys amrywiaeth eang o ddyletswyddau, gan gynnwys:

  • asesu a diwallu anghenion gofal a chymorth plant (Rhannau 3 a 4 o Ddeddf 2014) 
  • darparu llety ar gyfer plant ar sail wirfoddol naill ai lle nad oes neb â chyfrifoldeb rhiant drostynt, maent ar goll neu wedi’u gadael, neu mae’r person sydd wedi bod yn gofalu am danynt wedi’i atal rhag darparu llety neu ofal addas iddynt - adran 76 o Ddeddf 2014
  • dyletswyddau mewn perthynas â lleoli plant sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol ac adolygu’r lleoliadau hynny - Rhan 6 o Ddeddf 2014
  • dyletswyddau mewn perthynas â threfniadau maethu preifat - adran 67 o'r Ddeddf Plant 1989 a Rheoliadau Plant (Trefniadau Preifat ar gyfer Maethu) (Cymru) 2006
  • ymweld â phlant sy’n derbyn gofal a phlant a fu’n derbyn gofal (adran 98 o Ddeddf 2014)
  • darpariaeth ar gyfer rhai sy’n gadael gofal - adrannau 105 i 115 o Ddeddf 2014
  • Mae rhannau 4 a 5 y Ddeddf Plant 1989 yn nodi’r amgylchiadau lle mae’n rhaid i awdurdod lleol ymchwilio pan fydd yn amau bod plentyn yn dioddef neu’n debygol o ddioddef niwed sylweddol. Mae'r camau y gall awdurdod lleol eu cymryd i ymyrryd drwy wneud cais i Lys Teulu a’r meini prawf a ddefnyddir gan lysoedd wrth benderfynu ar geisiadau o’r fath hefyd wedi'i gynnwys - er enghraifft, ar gyfer gorchmynion amddiffyn brys, gorchmynion gofal neu orchmynion goruchwylio.

Mae Swyddogion Adolygu Annibynnol yn monitro perfformiad yr awdurdod lleol o ran eu swyddogaethau mewn perthynas ag achos plentyn - adran 25A o'r Ddeddf Plant 1989 a Rheoliadau Adolygu Achosion Plant (Cymru) 2007.

Mae gan awdurdodau lleol yng Nghymru ddyletswydd hefyd i wneud trefniadau i hyrwyddo cydweithrediad ag ystod o bartneriaid perthnasol (fel y corff heddlu lleol, y bwrdd iechyd lleol ac Ymddiriedolaeth y GIG) mewn perthynas ag amddiffyn plant rhag niwed ac esgeulustod a materion amrywiol eraill sy’n gysylltiedig â lles.

Mae adran 28 o Ddeddf Plant 2004 (Deddf 2004) yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol a chyrff eraill fel y corff heddlu lleol, byrddau iechyd lleol, Ymddiriedolaethau’r GIG, byrddau prawf a thimau troseddau ieuenctid i sicrhau bod eu swyddogaethau’n cael eu cyflawni gan ystyried yr angen i ddiogelu a hyrwyddo lles plant.

O dan rhan 7 Deddf 2014 rhaid i awdurdodau lleol sefydlu Byrddau Diogelu Plant sy’n cynnwys cynrychiolwyr o awdurdodau lleol, y corff heddlu lleol, y bwrdd iechyd lleol, Ymddiriedolaeth y GIG, bwrdd prawf, y tîm troseddau ieuenctid ac eraill. 

Mae Rhan 4 o Deddf 2004 yn rhoi swyddogaethau i Weinidogion Cymru mewn perthynas ag arfer swyddogaethau CAFCASS yng Nghymru mewn perthynas ag achosion teuluol. Mae’r swyddogaethau hyn yn cael eu cynnal gan CAFCASS Cymru - y Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd yng Nghymru ac yn cynnwys darparu Swyddogion Achosion Teuluol Cymru i helpu’r llys mewn achosion teuluol cyfraith breifat a chyhoeddus, lle mae lles plant sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru yn cael ei ystyried.

Mewn achosion teuluol gydag elfen ryngwladol, gall Rheoliad y Cyngor 2001/2003 (Brwsel II diwygiedig) fod yn berthnasol.

Lle ceir materion trawsffiniol sy’n ymwneud â diogelu lles plentyn, mae Confensiwn yr Hâg 1996 ar Awdurdodaeth, Cyfraith Gymwys, Cydnabyddiaeth, Gorfodaeth a Chydweithredu mewn perthynas â Chyfrifoldeb Rhiant a Mesurau Amddiffyn Plant ("Confensiwn 1996") yn debygol o fod yn berthnasol. Cafodd hyn ei gadarnhau gan y DU ar 1 Tachwedd 2012. Mae’n cynnwys darpariaethau amrywiol ar gyfer cydweithio ac ymdrin ag achosion trawsffiniol lle mae lles plentyn yn ystyriaeth. Gweinidogion Cymru yw’r Awdurdod Canolog ar gyfer Confensiwn 1996 yn unol â’r Rheoliadau Cyfrifoldeb Rhieni a Mesurau Diogelu Plant (Rhwymedigaethau Rhyngwladol) (Lloegr a Cymru a Gogledd Iwerddon) 2010. Efallai y bydd Confensiwn 1996 yn berthnasol ochr yn ochr â Rheoliad y Cyngor 2201/2003 (Brwsel II diwygiedig) a/neu Gonfensiwn yr Hâg ar Agweddau Sifil ar Gipio Plant yn Rhyngwladol 1980.

Plant

Deddf Plant 1989 yw’r prif ddarn o ddeddfwriaeth sy'n gwneud darpariaeth ynglŷn â diogelu a hyrwyddo lles plant.

Nid yw rhan III o'r ddeddf bellach yn gymwys yng Nghymru ac mae wedi'i ddisodli gan ddarpariaethau Ddeddf 2014, rhannau 3 a 4 yn benodol (asesu a diwallu anghenion am ofal a chymorth) a rhan 6 (plant sy'n derbyn gofal a phlant sy'n cael eu lletya).

Mae adran 47(1) o'r Ddeddf Plant 1989 yn cynnwys dyletswyddau sy'n gofyn i awdurdod lleol wneud, neu beri i'w gwneud, unrhyw ymholiadau y mae'n ystyried angenrheidiol i'w galluogi i benderfynu os dylai gymryd unrhyw gamau i ddiogelu neu hyrwyddo lles y plentyn.

Gallai camau o'r fath arwain at blentyn yn "derbyn gofal" gan awdurdod lleol, naill ai o ganlyniad i awdurdod lleol yn darparu llety ar gyfer y plentyn (yn unol ag adran 76 o Ddeddf 2014) neu yn dilyn gorchymyn gofal gan y llys (yn unol ag adran 31 o'r Ddeddf Plant 1989).


Mae'r Deddf Plant 2004 yn adeiladu ar ac yn cryfhau'r fframwaith sydd wedi'i gosod yn y Ddeddf Plant 1989 mewn nifer o ffyrdd. Ceir nifer o ddarpariaethau yn y Ddeddf Plant 2004 sy'n ymwneud yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol â chyfrifoldebau asiantaethau i ddiogelu a hyrwyddo lles plant:

  • Mae adran 25 o'r Ddeddf Plant 2004 (cydweithrediad i wella llesiant: Cymru) wedi'i diwygio gan Ddeddf 2014;
  • Mae adran 26 o'r Ddeddf Plant 2004 (cynlluniau plant a phobl ifanc: Cymru) wedi'i diddymu gan y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a'i disodli gan ddyletswydd ar fyrddau gwasanaethau cyhoeddus i baratoi a chyhoeddi asesiadau llesiant lleol a chynlluniau llesiant lleol
  • Mae adrannau 31 i 34 o'r Ddeddf Plant 2004 (Byrddau Lleol Diogelu Plant: Cymru) wedi'u diddymu a'u disodli gan y darpariaethau yn adran 134 i 140 o Ddeddf  2014 (Byrddau Diogelu).

Byrddau Diogelu

Mae Rheoliadau a wnaed o dan adran 134 o Ddeddf 2014 yn nodi'r ardaloedd yng Nghymru lle mae Byrddau Diogelu Plant a Byrddau Diogelu Oedolion i fod (“ardaloedd Byrddau Diogelu”). Bydd gan y Byrddau hyn (y cyfeirir atynt gyda'i gilydd fel “Byrddau Diogelu”) y partneriaid hynny a nodir yn adran 134(2), pob un ohonynt â diddordeb mewn diogelu plant ac oedolion.

Mae Rheoliadau Byrddau Diogelu (Cyffredinol) (Cymru) 2015 yn nodi pwy yw'r partner arweiniol ar gyfer Bwrdd Diogelu Oedolion a phwy yw'r partner arweiniol ar gyfer Bwrdd Diogelu Plant. Mae dyletswydd ar y partneriaid arweiniol i sefydlu Byrddau Diogelu yn eu hardal Bwrdd Diogelu briodol i gynnwys cynrychiolwyr o’i bartneriaid.

Mae adran 134(9) o Ddeddf 2014 yn darparu y caiff Bwrdd Diogelu gynnwys cynrychiolwyr pobl neu gyrff eraill y mae’r Bwrdd yn ystyried y dylid eu cynrychioli ac sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau neu sydd â swyddogaethau sy'n ymwneud â phlant neu oedolion yn ardal y Bwrdd Diogelu dan sylw.

Rhaid i Fwrdd Diogelu gyhoeddi cynllun blynyddol yn amlinellu ei raglen waith ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod a rhaid iddo, cyn 31 Gorffennaf bob blwyddyn, gyhoeddi adroddiad ar sut y mae wedi cyflawni ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol.

Mae adran 135(1) o Ddeddf 2014 yn nodi amcanion Bwrdd Diogelu Plant, sef amddiffyn plant yn ei ardal sy'n profi neu sydd mewn perygl o brofi camdriniaeth, esgeulustod neu niwed arall, ac atal plant yn ei ardal rhag bod mewn perygl o ddioddef camdriniaeth, esgeulustod neu niwed arall.

Mae adran 135(2) o Ddeddf 2014 yn nodi amcanion Bwrdd Diogelu Oedolion, sef amddiffyn oedolion yn ei ardal sydd ag anghenion gofal a chymorth ac sy'n dioddef, neu sydd mewn perygl o ddioddef, camdriniaeth neu esgeulustod, a hefyd er mwyn atal oedolion ag anghenion gofal a chymorth rhag bod mewn perygl o ddioddef camdriniaeth neu esgeulustod.

Mae rheoliad 3 a rheoliad 4 o Rheoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2015 (Rheoliadau Swyddogaethau a Gweithdrefnau) yn gwneud darpariaeth bellach ynglŷn â swyddogaethau Byrddau Diogelu ac mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â'r gweithdrefnau y mae'n rhaid i Fyrddau Diogelu eu mabwysiadu.

Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol bod yn rhaid i bob Bwrdd Diogelu, o leiaf unwaith y flwyddyn, roi cyfle i blant neu oedolion (fel bo'n briodol) gymryd rhan mewn digwyddiad lle cânt gyfle i gymryd rhan yng ngwaith y Bwrdd.

Mewn unrhyw achos, rhaid i Fwrdd Diogelu gynnal adolygiad ymarfer pan fydd yr amgylchiadau yn ateb y meini prawf a osodwyd yn Rheoliadau Swyddogaethau a Gweithdrefnau. Hefyd, mae'n rhaid i'r Bwrdd gynnal archwiliadau, adolygiadau achos, adolygiadau thematig ac ymchwiliadau, a sicrhau y cânt eu rheoli a'u cynorthwyo'n effeithiol a bod ganddynt ddigon o adnoddau. Mae'n ofynnol i'r Bwrdd hefyd fonitro i ba raddau y mae unrhyw argymhellion a wneir gan yr adolygiadau, archwiliadau ac ymchwiliadau hynny’n cael eu cyflawni a beth sydd wedi newid yn sgil hynny.

Gosodir y meini prawf ar gyfer adolygiadau ymarfer plant ac ymarfer oedolion yn rheoliad 4 o Rheoliadau Swyddogaethau a Gweithdrefnau.

Cyhoeddwyd canllawiau statudol mewn perthynas â Byrddau Diogelu o dan y pwerau yn Rhan 7 o Ddeddf 2014.

Gorchmynion amddiffyn a chynorthwyo oedolion

Mae adran 127 o Ddeddf 2014 yn galluogi ceisiadau i gael eu gwneud i lysoedd ynadon am orchmynion amddiffyn a chynorthwyo oedolion. Gellid ceisio gorchymyn o dan y ddarpariaeth hon mewn perthynas â pherson sy'n byw mew unrhyw eiddo o fewn ardal yr awdurdod lleol priodol. Pwrpas y cyfryw orchymyn yw galluogi swyddog awdurdodedig yr awdurdod lleol i siarad yn breifat â pherson y tybir ei fod yn oedolyn mewn perygl er mwyn pennu a yw ef neu hi’n medru gwneud penderfyniadau o’i gwirfodd, i asesu a yw'r person yn oedolyn mewn perygl ac i sefydlu a ddylai unrhyw gamau gael eu cymryd, ac os felly, pa gamau.Gall ceisiadau am y cyfryw orchmynion gael eu gwneud gan swyddog awdurdodedig sy'n unigolyn sydd wedi'i awdurdodi gan yr awdurdod lleol priodol i gyflawni swyddogaethau o dan yr adran hon.

Mae adran 127(9) o Ddeddf 2014 yn galluogi Gweinidogion Cymru mewn rheoliadau i osod cyfyngiadau ar bwy all gael ei awdurdodi o dan yr adran hon, er enghraifft, drwy wneud cymwysterau neu brofiad penodol yn ofynnol - gweler rheoliad 3 o Rheoliadau Gorchmynion Amddiffyn a Chynorthwyo Oedolion (Swyddog Awdurdodedig) (Cymru) 2015.

Pan fydd gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn mewn grym, mae gan y swyddog awdurdodedig, cwnstabl heddlu (os ystyrir ei fod yn angenrheidiol) ac unrhyw berson arall a nodir yn y gorchymyn y pŵer i fynd i mewn i'r adeilad lle y mae'r oedolyn y tybir ei fod mewn perygl yn byw, at ddibenion cyflawni’r gorchymyn. Gall y cwnstabl ddefnyddio grym rhesymol (er enghraifft, i gael mynediad at yr adeilad lle mae'r oedolyn sydd mewn perygl yn byw) os yw’r fath rym yn angenrheidiol i hwyluso cyflawni dibenion y gorchymyn.

Mae adran 127(4) o Ddeddf 2014 yn darparu y gallai Ynad Heddwch wneud gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolion dim ond os yw'n fodlon –

(a) bod gan y swyddog awdurdodedig achos rhesymol i amau bod person yn oedolyn sydd mewn perygl,
(b) ei bod yn angenrheidiol i'r swyddog awdurdodedig gael mynediad at y person er mwyn asesu’n gywir a yw'r person yn oedolyn mewn perygl ac i wneud penderfyniad yn unol   ag adran 126(2) ar ba gamau, os o gwbl, y dylid eu cymryd,
(c) bod gwneud gorchymyn yn angenrheidiol er mwyn cyflawni'r dibenion a nodir yn isadran (2), a
(d) na fyddai arfer y pŵer mynediad a roddir gan y gorchymyn yn arwain at gynyddu’r perygl o gam-drin neu esgeuluso’r person.

Cyhoeddwyd canllawiau statudol mewn perthynas â Gorchmynion Amddiffyn a Chynorthwyo Oedolion o dan bwerau Rhan 7 o Ddeddf 2014.

Dyletswyddau adrodd

Mae adran 128 o Ddeddf 2014 yn gofyn i 'bartner perthnasol' awdurdod lleol (fel y'i diffinnir yn adran 162) hysbysu'r awdurdod os ydynt yn amau bod rhywun yn ei ardal yn oedolyn mewn perygl (neu os yw'r person yn ardal awdurdod lleol arall, hysbysu’r awdurdod arall). Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol hysbysu awdurdod lleol arall (yng Nghymru neu yn Lloegr) os yw oedolyn y maent yn amau ei fod mewn perygl yn byw yn ardal yr awdurdod arall hwnnw neu’n symud i’r ardal honno.

Mae adran 130 o Ddeddf 2014 yn gofyn i 'bartner perthnasol' awdurdod lleol (tîm troseddau ieuenctid ar gyfer unrhyw ardal o fewn ardal yr awdurdod lleol neu bartner perthnasol fel y'i diffinnir yn adran 162) hysbysu'r awdurdod os ydynt yn amau bod plentyn yn ei ardal yn blentyn mewn perygl (neu os yw'r plentyn yn ardal awdurdod lleol arall, hysbysu’r awdurdod arall hwnnw).

Mae plentyn sydd mewn perygl yn un sy'n dioddef neu mewn perygl o ddioddef camdriniaeth, esgeulustod neu fathau eraill o niwed, a chanddo anghenion gofal a chymorth. Mae adran 130 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol hysbysu awdurdod lleol arall (yng Nghymru neu yn Lloegr) os bydd plentyn y maent yn amau ei fod mewn perygl yn byw yn ardal yr awdurdod arall hwnnw neu’n symud i’r ardal honno.

Dyletswyddau i ymchwilio
Gall pryderon am blentyn sydd yn dioddef neu’n debygol o ddioddef niwed sylweddol godi yn ystod y broses o ddarparu gwasanaethau i blentyn neu deulu, neu gall godi wrth i’r awdurdod lleol dderbyn gwybodaeth am blentyn sy’n byw, neu wedi ei ganfod yn ei ardal.

Os yw awdurdod lleol:

  • yn ymwybodol neu’n cael ei hysbysu bod plentyn sy’n byw, neu wedi’i ganfod, yn ei ardal yn destun gorchymyn amddiffyn brys neu’n cael ei amddiffyn gan yr heddlu, neu
  • bod ganddo achos rhesymol dros amau bod plentyn sy’n byw, neu wedi’i ganfod yn ei ardal yn dioddef, neu’n debygol o ddioddef, niwed sylweddol,

rhaid i’r awdurdod wneud y fath ymholiadau ag y mae’n eu hystyried yn angenrheidiol, neu beri iddynt gael eu gwneud, er mwyn ei alluogi i benderfynu a ddylai gymryd unrhyw gamau i ddiogelu neu hyrwyddo lles y plentyn. Gallai camau o’r fath arwain at yr awdurdod lleol yn ceisio sicrhau cytundeb lleoliad y plentyn mewn llety wedi ei drefnu gan yr awdurdod lleol (yn unol ag adran 76 o Ddeddf 2014) neu’r awdurdod lleol yn ceisio sicrhau gorchymyn gofal (o dan adran 31 o'r Ddeddf Plant 1989).

Diffinnir "niwed" yn adran 31(9) o'r Deddf Plant 1989 fel

"cam-drin neu amharu ar iechyd neu ddatblygiad, yn cynnwys, er enghraifft, amhariad a ddioddefir o weld neu glywed rhywun arall yn cael ei gam-drin".

Felly, mae niwed yn ehangach na thrais corfforol ar ei ben ei hun ac yn cynnwys cam-drin rhywiol a ffurfiau ar gamdriniaeth nad ydynt yn gorfforol. Mae unrhyw niwed a ddioddefir gan blentyn oherwydd bod rhiant yn cael ei aflonyddu neu’n cael ei ddychryn hefyd yn dod o dan y diffiniad o "niwed".

Dywed adran 126 o Ddeddf 2014 bod gan awdurdod lleol ddyletswydd i gynnal ymchwiliad os yw’n amau bod person yn “oedolyn sy’n wynebu risg”.
Mae oedolyn sy’n wynebu risg yn oedolyn sy’n cael, neu’n wynebu risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso, y mae angen gofal a chymorth arno ac nid yw’n gallu amddiffyn ei hun rhag cael, neu’r risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso o ganlyniad i’r anghenion hynny.  

Ystyr “camdriniaeth” a “cham-drin” yw camdriniaeth gorfforol, rywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol (ac mae’n cynnwys camdriniaeth sy’n digwydd mewn unrhyw leoliad, p’un ai mewn annedd breifat, mewn sefydliad neu mewn unrhyw fan arall), ac mae camdriniaeth ariannol yn cynnwys-

  • (a) bod arian neu eiddo arall person yn cael ei ddwyn;
  • (b) bod person yn cael ei dwyllo;
  • (c) bod person yn cael ei roi o dan bwysau mewn perthynas ag arian neu eiddo arall;
  • (d) bod arian neu eiddo arall person yn cael ei gamddefnyddio.

Ystyr “esgeulustod” yw methu diwallu anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol neu seicolegol person, sy’n debygol o amharu ar lesiant y person (er enghraifft, amharu ar iechyd y person, neu yn achos plentyn, amharu ar ddatblygiad y plentyn).

Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol wneud unrhyw ymholiadau y mae’n credu eu bod yn angenrheidiol i’w helpu i benderfynu a ddylid cymryd unrhyw gamau. Gallai camau gweithredu o’r fath gynnwys darparu gofal a chymorth o dan Deddf 2014 neu gymryd camau i ddiogelu’r oedolyn o dan ddeddfwriaeth arall, fel y Deddf Iechyd Meddwl 1983 neu'r Deddf Galluedd Meddyliol 2005.

Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu bod angen gweithredu, disgwylir iddo sicrhau bod cynllun gweithredu’n cael ei lunio. Mae’n rhaid i reoliadau a wneir o dan adran 54 o Ddeddf 2014 (cynlluniau gofal a chymorth) ddarparu ar gyfer canlyniadau ymholiadau’r awdurdod lleol (er enghraifft, ei benderfyniad i gymryd y cam gweithredu a gofnodir yn y cynllun gweithredu) i’w gofnodi fel rhan o gynllun gofal a chymorth yr oedolyn.

Cyhoeddwyd gyntaf
14 Mai 2021
Diweddarwyd diwethaf
23 June 2021